Ymgynghoriad

Adolygiad o'r System ddeisebau Cymru y Cynulliad Cenedlaethol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Consultation findings

Diben yr ymgynghoriad

Arolwg cyhoeddus

 

Mae'r Pwyllgor Deisebau am wybod beth yw eich barn am y system ddeisebau, materion bwysig ei dylai gwmpasu, pwy ddylai fod yn gallu defnyddio’r system a pha gamau dylai’r Pwyllgor gymryd ynglun a deisebau.

 

A fyddech cystal â rhoi ychydig funudau o'ch amser i lenwi'r arolwg hwn er mwyn helpu'r Pwyllgor i ddeall eich safbwyntiau. Gallwch ddarparu cymaint neu gyn lleied o wybodaeth ag y dymunwch. Ni ddylai'r arolwg hwn gymryd mwy na phum munud i'w gwblhau, a chaiff eich ymatebion eu defnyddio at ddibenion yr holiadur hwn yn unig.

 

https://www.surveymonkey.com/r/adolygiad-o-system-ddeisebau-ccc

 

Ymgynghori â rhanddeiliaid

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi danfon dogfen ymgynghori fwy manwl i nifer o sefydliadau a deiliaid swyddi a allai fod â diddordeb yng ngwaith y Pwyllgor neu efallai wedi cynorthwyo'r Pwyllgor o'r blaen gyda deisebau unigol. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd, yr Ombwdsmon, y Comisiynydd plant, Comisiynydd pobl hŷn a'r Comisiynydd y Gymraeg yn ogystal â chynrychiolwyr eraill o gymdeithas ddinesig a hwyluswyr deisebau.

 

Byddai'r Pwyllgor hefyd yn croesawu ymatebion gan bobl neu gyrff eraill. Os hoffech chi neu eich sefydliad ymateb i'r ymgynghoriad hwn byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi'n fawr eich barn ar y system bresennol ac unrhyw newidiadau posibl. Gellir lawrlwytho'r llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor a’r ddogfen ymgynghori isod.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Deisebau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDeisebau@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565