Ymgynghoriad

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru waith craffu ôl-ddeddfwriaethol byr a phenodol ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwaith ar ddiwygiadau arfaethedig Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) Llywodraeth Cymru wedi datblygu'n dda. Roedd yn awyddus, felly, i ddeall pa mor dda yr oedd Deddf 2015 yn gweithio, a pha wersi y gellid eu dysgu o'r Ddeddf, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Croesawodd y Pwyllgor safbwyntiau a thystiolaeth ar y canlynol:

 

1.           A yw'r Ddeddf wedi, neu a yw'n, cyflawni ei hamcanion polisi, ac os na, pam?

2.           Pa mor dda y mae trefniadau cyffredinol y Ddeddf yn gweithio'n ymarferol, gan gynnwys unrhyw gamau y mae eich sefydliad wedi gorfodi eu cymryd dan y Ddeddf?

3.           A yw costau'r Ddeddf, neu gostau eich sefydliad eich hun ar gyfer camau a gymerwyd o dan y Ddeddf, yn unol â'r hyn y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant?

4.           A yw'r Ddeddf wedi cyflawni gwerth am arian?

5.           A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol neu negyddol yn sgil y Ddeddf?

6.           A oes unrhyw wersi i'w dysgu o'r Ddeddf a sut y mae'n gweithio'n ymarferol a allai fod yn berthnasol i'r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) arfaethedig?

7.           A oes unrhyw wersi i'w dysgu o'r modd y paratowyd y Ddeddf hon yn 2014/15 (ei llunio, ymgynghori arni, ei drafftio ac ati)?

*mae'r amcanion polisi a’r costau ar gael ym Memorandwm Esboniadol diwygiedig Llywodraeth Cymru a oedd yn cefnogi’r broses o basio'r Bil drwy'r Cynulliad Cenedlaethol.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565