Ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru

Ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru

 

Enw gwreiddiol y Bil oedd y Bil Diddymu Mawr, ond cafodd ei newid i’r Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Diben y Bil oedd diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, newid cyfreithiau presennol yr UE yn gyfreithiau domestig y DU a rhoi pwerau i weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Yn ystod cyfnod cyntaf y gwaith yn hydref 2016, ceisiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol safbwyntiau cychwynnol am y goblygiadau i Gymru yn sgil dull Llywodraeth y DU o weithio gan lunio ambell gasgliad yn ei adroddiad cyntaf: Y Goblygiadau i Gymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Yng nghyd-destun Papur Gwyn Llywodraeth y DU [Saesneg yn unig] (PDF, 379KB), asesodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

 

  • a ddiogelir rôl y Cynulliad ym mhroses ddeddfwriaethol Brexit ac o ran craffu ar swyddogaethau gweithredol yn y meysydd cymhwysedd datganoledig;
  • a ddilynir egwyddorion deddfu effeithiol;
  • a oes gan bobl Cymru, rhanddeiliaid a sefydliadau ddigon o gyfle i gyfrannu at y prosesau deddfwriaethol y mae’r Bil yn eu sefydlu;
  • a yw’r Bil yn galluogi’r Cynulliad i arfer rheolaeth briodol dros y pwerau dirprwyedig a ddarperir gan y Bil; ac
  • a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigonol.

 

Casglu tystiolaeth

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn rhanddeiliaid ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Bil Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth hefyd i lywio gwaith y Pwyllgor.

 

Cafodd y Bil Ymadael â’r UE ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷr Cyffredin ar 13 Gorffennaf 2017.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru ym mis Mehefin 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Rydym yn cydnabod maint yr her sy’n ein hwynebu ac yn sefyll yn barod i chwarae ein rhan i ddarparu’r newidiadau deddfwriaethol fydd eu hangen i sicrhau bod gennym gyfreithiau ymarferol ar ôl inni adael yr UE.

 

Gobeithio y bydd Llywodraeth newydd y DU yn ystyried ein pryderon o ddifri ac yn cynyddu ei hymdrechion i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad; yn ystyried eu barn; ac yn gweithredu ar sylwadau a gaiff ei gwneud mewn meysydd y mae’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt.”

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 6 Gorffennaf 2017.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/04/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau