Ymateb gan Lywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid o’r Enw: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.

 

Awst 2012

 

 

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyllid a’i argymhellion. Yn gyffredinol, mae’r adroddiad yn cynnig ymagwedd ystyriol at faterion benthyca a chyllid arloesol, ac mae’n gyfraniad amserol at y drafodaeth sy’n mynd rhagddi am y materion hyn.

 

Mae ariannu buddsoddi cyfalaf a seilwaith wedi dod yn arbennig o heriol i Lywodraeth Cymru mewn cyfnod pan fo cyllidebau wedi’u lleihau’n sylweddol. Mae benthyca a chyllid arloesol yn ddulliau o wneud cyllid yn gydnaws ag anghenion Cymru o ran buddsoddi cyfalaf a seilwaith, pan nad oes cyllidebau cyfalaf digonol. Mae gwaith yn parhau i geisio cael pwerau benthyca newydd ac i ddatblygu dulliau arloesol o ariannu buddsoddi cyfalaf a seilwaith.

 

Mae benthyca yn ateb nifer o ddibenion a byddai’n galluogi Llywodraeth Cymru i ymgymryd â nifer o swyddogaethau mae’n cael ei hatal rhag eu harfer ar hyn o bryd. Gall prosiectau seilwaith mawr nad ydynt yn fforddiadwy fel arall, ond a all sicrhau manteision sylweddol i Gymru yn y tymor canolig, gael eu hwyluso trwy fenthyca. Mae benthyca, yn arbennig ar y cyfraddau llog sy’n isel yn hanesyddol y mae modd eu cael ar hyn o bryd, yn gallu codi lefel y buddsoddi hwn ar gost effeithiol a chefnogi’r adferiad economaidd.

 

Ynghyd â’r sail resymegol gwbl economaidd dros fenthyca, mae diffyg swyddogaeth benthyca gan Lywodraeth Cymru’n codi materion cyfansoddiadol. Byddai’r hyblygrwydd ychwanegol a gâi ei ddarparu’n gwella gallu Llywodraeth Cymru i reoli adnoddau Cymru yn unol â blaenoriaethau Cymru. Mae diffyg swyddogaeth benthyca hefyd yn rhoi Cymru mewn sefyllfa sy’n groes i sefyllfa’r gweinyddiaethau datganoledig eraill; mae Gogledd Iwerddon eisoes yn gallu benthyca arian a bydd yr Alban yn gallu benthyca arian trwy Ddeddf yr Alban 2012. Mae’r ffaith nad yw Cymru, sy’n llywodraeth is-genedlaethol, yn gallu arfer pwerau benthyca, hefyd yn anomaledd o bersbectif rhyngwladol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio sicrhau setliad ariannu tecach, gan gynnwys pwerau benthyca, trwy drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers cyhoeddi’r adroddiad oddi wrth y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru (a adwaenir hefyd fel Adroddiad Holtham). Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys nifer o argymhellion ar ddiwygio ariannol i Gymru, gan gynnwys argymell rhoi i Gymru’r gallu i fenthyca arian.

 

Mae modelau ariannol arloesol yn cynnig dull arall o gynnal y buddsoddi cyfalaf neu seilwaith angenrheidiol gyda llai o arian cyfalaf. Mae defnyddio ymrwymiad refeniw i drosoli buddsoddi gan y sector preifat yn gallu sicrhau asedau seilwaith, na fyddai modd eu fforddio fel arall gyda’r cyllidebau cyfalaf presennol. Mae gan ymrwymiadau refeniw tymor canol i dymor hir o’r math hwn oblygiadau ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol, felly mae’n bwysig ystyried yn ofalus iawn beth yw lefel briodol yr ymrwymiad arian refeniw i ariannu buddsoddi cyfalaf neu seilwaith ar unrhyw adeg benodol.  

 

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm dynodedig wedi cael ei sefydlu i ymchwilio i ddatrysiadau ariannol arloesol a’u rhoi ar waith, lle na ellir diwallu anghenion buddsoddi o gyllidebau cyfalaf.

 

Nodir yr ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad isod:

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gael y pwerau i fenthyca, heb effeithio’n negyddol ar grant bloc Cymru, at ddibenion cyllido gwariant cyfalaf.  

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae buddsoddiadau cyfalaf yn tueddu i gael effeithiau cyllidebol dros nifer o flynyddoedd, ac yn aml yn galw am gyfandaliadau mawr yn y cyfnodau cyntaf. Ar hyn o bryd, bernir yn aml nad oes modd fforddio prosiectau cyfalaf mawr ar y dechrau, a’u bod yn rhai nas dymunir oherwydd yr effeithiau cyllidebol sy’n para am amser sylweddol ar ôl cyfnodau adolygiadau o’r gwariant. Mae hyn yn wir hyd yn oed am brosiectau sydd â chymarebau cost a budd uchel iawn. Byddai benthyca at ddiben ariannu gwariant cyfalaf yn rhoi mwy o sicrwydd ariannol dros gyfnodau hirach o amser. Er mwyn i fanteision benthyca o’r fath gael eu gwireddu, mae’n hanfodol nad oes effaith negyddol ar grant bloc Cymru, gan y byddai hyn yn dileu’r adnoddau ychwanegol a ddarparwyd trwy fenthyca.

 

Goblygiadau ariannol – Ni fydd unrhyw effaith ar gyfanswm yr adnoddau cyfalaf gan fod benthyca’n ei gwneud yn bosibl ail-broffilio gwariant, gan gynyddu’r gwariant cyfalaf yn y blynyddoedd cynnar, ar gost refeniw dros y cyfnod benthyca. Mae’r gost refeniw hon ar ffurf ad-daliadau ar yr arian a fenthycir. Mae yna oblygiadau o ran adnoddau hefyd i Lywodraeth Cymru o redeg rhaglen fenthyca. Bydd gweinyddu’r benthyca’n galw am wybodaeth arbenigol ac adnoddau staff dynodedig. Nid yw maint y costau hyn yn sicr eto, o gofio nad oes penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â bodolaeth a ffurf y benthyca. Mae’r materion hyn sy’n ymwneud ag adnoddau gweinyddol yn berthnasol i unrhyw argymhellion ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â phwerau benthyca newydd.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylid rhoi pwerau benthyca cyfalaf ar sylfaen ddeddfwriaethol gadarn os rhoddir hwy i Lywodraeth Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i fenthyca o dan y ddeddfwriaeth bresennol, er bod rheolau Trysorlys Ei Mawrhydi yn atal y pwerau hyn rhag cael eu defnyddio’n ymarferol. Nid yw Llywodraeth Cymru eisiau i’r broses o wneud defnydd effeithiol o’r pwerau sy’n bodoli eisoes gael ei dal i fyny oherwydd bod deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno. Fodd bynnag, byddai rhoi pwerau benthyca Llywodraeth Cymru ar sylfaen ddeddfwriaethol gadarnach yn gallu sicrhau na fydd cyfyngiadau gormodol ar Lywodraeth Cymru wrth ddefnyddio’r pwerau hyn. Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn bod rhai cyfyngiadau ar fenthyca’n briodol er mwyn iddi weithredu yn unol â fframwaith sy’n galluogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni ei mandad cyllidol. 

 

Goblygiadau ariannol  – Dim.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

  1. Pe bai pwerau benthyca yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru, dylai Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Ei Mawrhydi drafod fframwaith o fesurau rheoli gyda’r hyblygrwydd mwyaf posibl i fenthyca’n effeithiol i ymateb i anghenion buddsoddi. Dylid adlewyrchu’r fframwaith a drafodir yn y Statement of Funding Policy.

 

Ymateb: Derbyn

 

  1. Er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf posibl i Lywodraeth Cymru pe bai’n derbyn pwerau benthyca, ac er mwyn parchu cyfrifoldebau cyllidol a macroeconomaidd Trysorlys Ei Mawrhydi, dylai Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Ei Mawrhydi drafod protocol er mwyn cytuno ar derfyn benthyca cenedlaethol, os yw hynny’n ofynnol yn ôl amgylchiadau economaidd.  

 

Ymateb: Derbyn

 

Er mwyn i bwerau benthyca gael eu defnyddio’n effeithiol rhaid bod yn ymatebol i anghenion buddsoddi. Fodd bynnag, mae rhai mesurau rheoli ar fenthyca’n briodol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â fframwaith sy’n galluogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni ei mandad cyllidol.  Gellid cynnwys protocol yn adlewyrchu’r anghenion hyn yn y Statement of Funding Policy.

 

Mae terfyn ar fenthyca’n un cyfyngiad sy’n gallu sicrhau bod y benthyca’n gynaliadwy. Dylai Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ystyried ar y cyd pa ffurf allai fod ar y fath derfyn. Gallai fframwaith darbodus, sy’n caniatáu i lefel y benthyca a wneir adlewyrchu gallu Llywodraeth Cymru i ddal ac ariannu dyled, fod yn fecanwaith effeithlon. Yn ymarferol, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod mai cynsail cap nominal, fel yn yr Alban, sy’n debyg o gael ei dilyn pe bai pwerau benthyca newydd yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru. Os felly, mae’n hanfodol i’r cap gael ei osod ar lefel sy’n rhoi digon o le i sefydlu rhaglen fenthyca barhaus effeithiol.

 

Goblygiadau ariannol Dim ar unwaith. Fodd bynnag, gweler y ddarpariaeth mewn ymateb i argymhelliad 1 ar gyfer effeithiau posibl yn y dyfodol.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

  1. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cael pwerau benthyca, dylid cyflwyno argymhellion ar gyfer y terfynau uchaf ar ei gofynion benthyca, gan arddangos fforddiadwyedd, cynaliadwyedd a darbodusrwydd, i’r Cynulliad o fewn y cynnig cyllidebol.  

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y dylai benthyca fod yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn ddarbodus, ac y dylai’r Cynulliad allu arfer ei swyddogaethau goruchwylio a chraffu mewn perthynas â benthyca fel mae’n gwneud gyda gweithgareddau ariannol eraill Llywodraeth Cymru trwy broses y gyllideb a mecanweithiau eraill. Fodd bynnag, ni ellir penderfynu ar y mecanwaith mwyaf priodol i gyflawni’r amcanion hyn eto, o gofio nad yw egwyddor na fframwaith benthyca gan Lywodraeth Cymru wedi cael eu sefydlu eto.  

 

Goblygiadau ariannol – Dim.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

  1. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cael pwerau benthyca, dylid trafod protocol â Thrysorlys Ei Mawrhydi er mwyn sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru yn cael ei hysbysu’n ddigon cynnar ynglŷn ag unrhyw symudiadau arfaethedig neu argymelledig i gyfraddau’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol neu’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. 

 

Ymateb: Derbyn

 

O gofio natur hirdymor buddsoddiadau cyfalaf, gall unrhyw newid i gyfraddau llog gael effeithiau hirhoedlog. At ddibenion cynllunio, achosion busnes ac yswiriant, mae’n bwysig i’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r costau fod ar gael. Dylid gwneud penderfyniadau ynglŷn â benthyca ar sail asesiadau gwerth am arian sy’n cymryd i ystyriaeth y cyfraddau llog sydd ar gael ar y pryd yn y farchnad. Gallai fod yna risg ystumio’r farchnad os cyhoeddir newid i gyfraddau ymlaen llaw, trwy amseriad penderfyniadau benthycwyr ynglŷn â buddsoddi. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cael perthynas agored a thryloyw gyda’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol a’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, gan gynnwys elfennau ariannol y berthynas megis cyfraddau llog.

 

Goblygiadau ariannol   Dim.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai unrhyw ddeddfwriaeth a fyddai’n rhoi pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i Weinidogion Trysorlys Ei Mawrhydi roi’r pŵer i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau.  

 

Ymateb: Derbyn

 

Dylai Llywodraeth Cymru allu arfer pwerau benthyca ar sail asesiadau gwerth am arian, waeth beth fo’r offeryn a ddefnyddir i fenthyca. Ar sail profiad y gorffennol, mae’n debyg mai’r Gronfa Benthyciadau Genedlaethol neu’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fydd ffynhonnell fwyaf cost effeithiol arian a fenthycir. Mae’n debyg y bydd costau sefydlog uchel i gyhoeddi bondiau. Byddai angen profiad arbenigol ac adnodd dynodedig i redeg rhaglen cyhoeddi bondiau. Fodd bynnag, gall cost gymharol gwahanol offerynnau benthyca amrywio dros amser. Er enghraifft, ym mis Hydref 2010, cododd cyfradd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i 100 pwynt sylfaen uwchben cyfradd feincnodol stociau’r llywodraeth. Ym mis Mawrth 2012, cyflwynwyd ‘cyfradd sicrwydd’, a leihaodd y gyfradd 20 pwynt sylfaen mewn amgylchiadau penodol. O gofio’r fath amrywiadau, mae’n bosibl ar ryw adeg mai cyhoeddi bondiau fydd yr offeryn dyled mwyaf cost effeithiol, ac felly ni ddylid ei ddiystyru.

 

Goblygiadau ariannol – nid yw’r adnodd arbenigol y mae ei angen i reoli rhaglen cyhoeddi bondiau ar gael ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru a byddai’n gost ychwanegol i raglen cyhoeddi bondiau.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Comisiwn Silk ystyried a yw datganoli pwerau amrywio trethi yn hanfodol cyn rhoi pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru, neu a ddylid canolbwyntio ar a yw benthyca yn fforddiadwy, yn ddarbodus ac yn gynaliadwy, waeth beth fo’r pwerau amrywio treth.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Comisiwn Silk yn ystyried datganoli pwerau cyllidol newydd i Gymru ar hyn o bryd. Barn Llywodraeth Cymru yw na ddylai datganoli trethi fod yn hanfodol cyn defnyddio pwerau benthyca. Edrychwn ymlaen at ystyried cynigion Comisiwn Silk yn y maes hwn maes o law.

 

Goblygiadau ariannol  – Dim.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau ymchwiliol gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi am y posibilrwydd o ddwyn ymlaen cyllidebau cyfalaf y dyfodol lle’n briodol, yn enwedig mewn perthynas â phrosiectau seilwaith mawr.

 

Ymateb: Derbyn

 

Fel cam cyntaf, mae dwyn ymlaen cyllidebau cyfalaf y dyfodol yn debyg i fenthyca o ran cysyniad, er y gallai’r mecanwaith fod yn wahanol. Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno y byddai mwy o hyblygrwydd wrth ddyrannu cyllidebau cyfalaf dros amser yn caniatáu i fuddsoddi gael ei wneud yn fwy cydnaws ag anghenion Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ymchwilio i amrywiaeth o ddulliau a fydd yn caniatáu gwneud anghenion buddsoddi’n gydnaws â’r gallu i ymgymryd â’r buddsoddi hwnnw.

 

Goblygiadau ariannol  – Dim. Pe bai’r cyllidebau a gâi eu dwyn ymlaen yn cael eu gwrthbwyso’n llawn gan leihad i’r cyllidebau fydd ar gael ym mlynyddoedd y dyfodol, dim ond newid i broffil cyllidebau fyddai hyn. Byddai cyfanswm y cyllid dros y cyfnod cyfan yn aros yr un peth.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru allu newid dyraniadau cyllideb ei therfyn gwariant adrannol o adnoddau i gyfalaf yn ystod y flwyddyn heb orfod cael cymeradwyaeth Trysorlys Ei Mawrhydi.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru’n credu na ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig osod cyfyngiadau gormodol ar y gallu i newid rhwng cyllidebau adnoddau a chyfalaf, ar yr amod y bydd gwariant yn aros yn gyson â mandad cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r Statement of Funding Policy o eiddo Trysorlys Ei Mawrhydi’n dweud bod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â bod yn rhydd i ddyrannu cyllidebau adnoddau a chyfalaf, hefyd yn cael newid y ddarpariaeth o derfyn gwariant adrannol adnoddau i derfyn gwariant adrannol cyfalaf. Ar hyn o bryd cyflwynir newidiadau i Drysorlys Ei Mawrhydi ynghyd â newidiadau eraill a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn i gael eu cynnwys yn yr “Amcangyfrif Atodol”. Er bod angen cymeradwyo rhai o’r newidiadau hyn, nid oes angen cymeradwyo newidiadau o refeniw i gyfalaf.

 

Goblygiadau ariannol Dim, byddai cyfanswm y gwariant yn aros yr un peth.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

  1.  Yn ei thrafodaethau gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi, dylai Llywodraeth Cymru drafod addasiadau i’r System Cyfnewid Cyllidebau, gan gynnwys cael gwared ar y cap ar lefel y tanwariant y gellir ei dwyn ymlaen, gyda golwg ar gynyddu hyblygrwydd cyllidebol.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Cytunwyd ar y System Cyfnewid Cyllidebol bresennol ym mis Gorffennaf y llynedd yn dilyn trafodaethau rhwng y Trysorlys a’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig. Mae’r cytundeb hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddwyn ymlaen adnoddau sydd heb eu gwario o un flwyddyn i’r nesaf hyd at gap y cytunwyd arno, ac yn darparu llawer mwy o hyblygrwydd na’r cynigion gwreiddiol a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2011. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ddadlau’n gryf dros i Gymru gael setliad ariannu teg, gan gynnwys mwy o hyblygrwydd i reoli ein hadnoddau’n effeithiol. Mae’n bwysicach nag erioed i ni sicrhau’r gwariant mwyaf posibl yn unol â’n blaenoriaethau, ac i’r diben hwn mae’r Cynnig Cyllidebol diwygiedig yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni reoli ein sefyllfa yn enwedig tua diwedd y flwyddyn ariannol. O gofio’r gostyngiadau parhaus mewn termau real i gyllidebau, a’r her yn sgil hynny o reoli’r pwysau ar wariant, yn y tymor byr nid yw’r cap presennol ar lefel y tanwariant y gellir ei ddwyn ymlaen yn broblem fawr gan nad yw Llywodraeth Cymru’n rhagweld y bydd tanwariant uwchben lefel y cap. Fodd bynnag, nid yw’r math hwn o reolaeth ar reoli ariannol yn briodol i Lywodraethau datganoledig.

 

 

Goblygiadau ariannol – Dim ar unwaith. Fodd bynnag, byddai’r gallu i ddwyn ymlaen y cwbl o unrhyw danwariant yn cynyddu cyfanswm y cyllid fydd ar gael i Lywodraeth Cymru dros amser, o’i chymharu â sefyllfa lle roedd cyfran o’r tanwariant yn cael ei chadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

           

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

12. O ystyried y gostyngiadau yn ei chyllidebau cyfalaf, dylai Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio modelau a gyllidir gan refeniw, gan gynnwys modelau Nad ydynt yn Dosbarthu Elw, fel ffynhonnell amgen o gyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf, yn amodol ar asesiadau cadarn o werth am arian. Dylid ystyried yr amheuon ynghylch y dull o asesu gwerth am arian Menter Cyllid Preifat traddodiadol. 

 

Ymateb: Derbyn

 

Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i nifer o fodelau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith a gyllidir gan refeniw. Mae hyn yn cynnwys modelau Nad ydynt yn Dosbarthu Elw. Rydym hefyd yn ymchwilio i’r maint gorau o’r math hwn o fuddsoddi a’r cyfuniad o fodelau i’w ddefnyddio. Eisoes mae yna enghreifftiau o gyflawniadau hyd yma. Y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, er enghraifft, sydd wedi caniatáu i awdurdodau lleol fuddsoddi mwy mewn gwella priffyrdd ac mae Cwmni Datblygu Pont Elái wedi cael ei sefydlu i gyflenwi tai fforddiadwy ychwanegol. Mae datrysiadau cyllid arloesol hefyd yn cael eu defnyddio yn y Rhaglen Gwastraff. Bydd y datrysiadau cyllid arloesol sy’n cael eu defnyddio’n sicrhau y byddir yn osgoi nodweddion annymunol trefniadau traddodiadol Menter Cyllid Preifat.

 

 

Goblygiadau ariannol – Wrth weithredu datrysiadau cyllid arloesol daw galw ar gyllidebau refeniw. Ar hyn o bryd, mae’r galw ar refeniw oddi wrth y rhaglenni hyn yn gyfran fach iawn o gyfanswm y gyllideb refeniw.   

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried canlyniadau’r adolygiad o ardrethi busnes, a’r gwersi y gellid eu dysgu o gynlluniau peilot Ariannu drwy Gynyddrannau Treth mewn mannau eraill yn y DU, ac ystyried manteision cynnal prosiectau peilot yng Nghymru.

 

Ymateb: Derbyn

 

Nid yw Ariannu drwy Gynyddrannau Treth wedi cael ei ddiystyru, ac mae’n un o’r opsiynau o blith amrywiaeth o ddatrysiadau cyllid arloesol. Mae’r opsiwn hwn ar gael i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw enghreifftiau o Ariannu drwy Gynyddrannau Treth yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, er bod yna rywfaint o botensial i ddysgu oddi wrth rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes hefyd yn argymell “bod Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd gweithredu’r Cyllid Cynyddrannau Treth yn Lloegr a’r Alban”. Ystyrir a fydd Ariannu drwy Gynyddrannau Treth yn darparu dull cadarn o ran gwerth am arian.

 

Goblygiadau ariannol – Dim. O dan raglen Ariannu drwy Gynyddrannau Treth lwyddiannus, mae’r cynnydd yn yr ardrethi busnes o’r buddsoddiad yn talu’r tâl unedol mae ei angen i ariannu’r buddsoddiad.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a oes gan ei hadrannau'r cymysgedd iawn a’r safon iawn o’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen i ddatblygu, cynllunio a defnyddio modelau ariannol arloesol a benthyca, pe bai’n cael y pwerau i wneud hynny.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd meddu ar ddigon o gapasiti a gallu mewn meysydd priodol yn hanfodol i ysgogi llwyddiant prosiectau cyllid arloesol. Bellach mae tîm dynodedig yn gwneud gwaith ar gyllid arloesol, gyda chymorth cynghorydd arbenigol allanol. Hefyd mae’r potensial datblygu a’r profiad a gafwyd o weithredu’r Rhaglen Gwastraff a mentrau cyllid arloesol eraill yn adnodd gwerthfawr.

 

 

Goblygiadau ariannol – Bydd angen sicrhau y cynyddir capasiti a gallu yn y meysydd hyn gan ddefnyddio’r adnoddau presennol.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

  1.  Gan ystyried y gwersi y gellid eu dysgu o sefydlu canolfan arbenigedd yn yr Alban, dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gan sector cyhoeddus cyfan Cymru fynediad i ffynhonnell arbenigedd ganolog sy’n ategu’r gallu a’r capasiti sy’n bodoli’n barod. Byddai’n hanfodol na fyddai costau’r trefniadau hyn yn fwy nag unrhyw fuddiannau.

 

Ymateb: Derbyn

 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n ystyried i ba raddau y dylid canoli’r swyddogaethau hyn ac, fel rhan o hynny, yn ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu’r arbenigedd perthnasol ymhellach. Mae costau a manteision posibl sefydlu canolfan arbenigedd yn ychwanegol at y capasiti sy’n bodoli eisoes yn rhan o’r ymchwiliad hwn. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y costau a’r manteision hyn.

 

Goblygiadau ariannol – Ni fyddai’r gwaith o sefydlu canolfan arbenigedd yn mynd rhagddo ond pe disgwylid i’r arbedion a’r effeithlonrwydd o’u sefydlu fod yn fwy na’r costau rhedeg. Fodd bynnag, yn benodol nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i’r gwaith o ystyried y gwersi sydd i’w dysgu o’r Alban.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell y:

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu asesiad annibynnol o ansawdd rheoli asedau ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar adolygu’r systemau sydd ar waith er mwyn sicrhau bod anghenion buddsoddi’n cael eu herio’n gadarn. Yn amodol ar ganfyddiadau asesiad o’r fath, dylai Llywodraeth Cymru ystyried y gwersi y gellid eu dysgu gan yr Alban ar rôl corff annibynnol i herio’r asesiad o anghenion buddsoddi gan gyrff cyhoeddus.

 

Ymateb: Gwrthod

 

Er bod Llywodraeth Cymru’n cytuno gyda'r Pwyllgor bod gwaith o ansawdd da wrth reoli asedau’n hanfodol, mae’n credu nad yw adolygiad annibynnol yn briodol ar hyn o bryd. Mae’r Adroddiad blynyddol ar Gyflwr yr Ystad yn rhoi asesiad o berfformiad yr ystad weinyddol yn ôl dangosyddion meincnodol allweddol ac mae’r Is-adran Eiddo yn Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol ym maes rheoli asedau strategol, gan weithredu nifer o fentrau i wella effeithlonrwydd rheoli asedau’r sector cyhoeddus ar draws Cymru. Mae Rhaglen y Strategaeth Leoli o eiddo Llywodraeth Cymru yn sicrhau arbedion eisoes wrth i waith barhau gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella cydgysylltu a chydweithredu ym maes Rheoli Asedau, sy’n cael ei arwain gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus.

 

Goblygiadau ariannol – Byddai comisiynu corff annibynnol yn creu costau. Ar hyn o bryd eir i gostau rhedeg adrannol wrth i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adnoddau i asesu a gwella’r gwaith o reoli asedau ar draws y sector cyhoeddus.

 

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwersi y gellid eu dysgu gan yr Alban ar rôl corff annibynnol i gydlynu’r gwaith o gynllunio rheolaeth asedau a gwneud penderfyniadau ar draws ffiniau amlasiantaeth.

 

Ymateb: Derbyn, gwrthod neu dderbyn mewn egwyddor

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn gweithio gyda phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus i ganfod a mynd i’r afael â themâu, materion o bwys a thueddiadau cyffredin ac i greu ymatebion iddynt. Er enghraifft, mae Protocol Trosglwyddo Tir wedi cael ei sefydlu, ynghyd â Chronfa Ddata Tir ac Eiddo’r Sector Cyhoeddus ar gyfer Cymru Gyfan. Gellir ystyried y gwersi a ddysgir o’r profiad hwn ochr yn ochr â gwybodaeth am y profiad yn yr Alban.

 

Goblygiadau ariannol – Pe bai corff annibynnol yn gwneud y gwaith hwn yn barhaus, byddai’r costau rhedeg yn cael eu dwyn ymlaen. Ar hyn o bryd, eir i Gostau Rhedeg Adrannol wrth i Lywodraeth Cymru ddefnyddio adnoddau i wella’r ffordd y cydgysylltir y gwaith o reoli asedau ar draws y sector cyhoeddus.