Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Graffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011

 

Gorffennaf 2012

 

 

Mae codi safonau ym maes addysg a hyfforddiant wedi bod yn flaenoriaeth i mi ers cael fy mhenodi'n Weinidog. Rwyf yn croesawu'r adroddiad hwn oherwydd y mae'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau hynny.  

 

Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Estyn ym mis Ionawr 2012 a chafodd ei drafod yn y cyfarfod llawn ar 20 Mawrth 2012. Wrth agor y drafodaeth honno, croesawais gyfraniad adroddiad Estyn i'r sylfaen dystiolaeth ar addysg a hyfforddiant. Hwn oedd yr adroddiad blynyddol cyntaf iddynt ei gyhoeddi ar sail canfyddiadau o'r arolygon a gynhaliwyd o dan y Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd, ac o’r herwydd, dylai hwn fod o gymorth i greu gwaelodlin er mwyn gallu mesur y cynnydd a wneir yn y dyfodol.

 

Hefyd, rwyf yn nodi bod y Pwyllgor yn bwriadu craffu ar yr adroddiad hwn bob blwyddyn. Rwyf yn croesawu diddordeb y Pwyllgor a chredaf y bydd hwn yn ein cynorthwyo ymhellach i dynnu sylw at ein nod o godi safonau. Yn y bôn, rydym i gyd eisiau i blant a phobl ifanc yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd.  Mae hynny'n golygu sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd cadarn i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, ac y maen nhw'n eu haeddu, i lwyddo.

 

Mae'r argymhellion a geir yn adroddiad y Pwyllgor yn cyd-fynd yn agos â chyfeiriad presennol ein polisïau. Rwyf yn falch o fedru eu derbyn. 

 

Mae gwaith eisoes ar droed i weithredu nifer o’r argymhellion. Mae fy mlaenoriaethau i wella safonau llythrennedd a rhifedd, a gwella'r cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc yn gyfarwydd iawn. Y mis diwethaf, lansiais y Rhaglen Llythrennedd Genedlaethol ac mae'n cynnwys profion darllen cenedlaethol. Ym mis Medi 2012, bydd ein Rhaglen Rhifedd Genedlaethol yn cael ei chyhoeddi. Yn ogystal, rwyf yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad. Cyflwynais y grant amddifadedd disgyblion er mwyn mynd i'r afael â thangyflawni ymysg disgyblion sy'n dioddef yn sgil amddifadedd economiadd-gymdeithasol.

 

Dengys tystiolaeth mai ymarferwyr effeithiol yw'r ffactor unigol mwyaf pwysig sy’n codi cyrhaeddiad mewn ysgolion. Rydym yn cyflwyno casgliad o fesurau hyfforddiant a datblygu ar eu cyfer ynghyd ag amrywiaeth gynhwysfawr o ganllawiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi. 

 

Dywedwyd lawer gwaith bod Cymru'n wlad fach â llawer i'w ddweud o'i phlaid.  Rwyf yn awyddus i hyrwyddo ein hiaith ac rwyf wedi cyflwyno Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymraeg Ail Iaith. Dylai hyn roi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r iaith. Yn ogystal, rwyf wedi buddsoddi mewn hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg i ymarferwyr wella eu sgiliau ieithyddol a magu hyder i ddefnyddio'r iaith. 

 

Hefyd, ceir enghreifftiau o arferion dysgu ac addysgu o safon fyd-eang yng Nghymru ond mae angen i ni wella'r modd yr ydym yn rhannu'r arferion da hynny, a’r modd yr ydym yn dysgu oddi wrthynt.  Mae'r wefan newydd, Dysgu Cymru, yn cynnwys enghreifftiau o arferion arbennig ac mae ein Uned Safonau Ysgolion yn gweithio'n agos gydag Estyn er mwyn roi rhagor o enghreifftiau yno. Rwyf yn hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth drwy rannu arferion da, drwy weithio ar y cyd a drwy ddysgu oddi wrth eraill. Rwyf yn croesawu cyfraniad y Pwyllgor i'r cydweithio hwn ac rwyf yn nodi isod fy ymatebion manwl i argymhellion unigol yr Adroddiad.

 

 

Isod, nodir ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad:

 

Argymhelliad 1

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Wrth ddatblygu asesiadau darllen blynyddol er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Cyfnodau Allweddol, dylai Llywodraeth Cymru gynnwys elfen o asesu allanol neu safoni.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn mewn egwyddor bod yn rhaid i'r profion darllen cenedlaethol newydd ddarparu data cyson a dibynadwy.  Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod marcio a safoni'n allanol yn angenrheidiol, nac ychwaith mai dyma’r modd mwyaf effeithiol o gyflawni'r amcan hwn. Caiff y Profion Darllen Cenedlaethol eu llunio i leihau'r pwysau sydd ar athrawon ac fel y bo athrawon yn gallu manteisio i’r eithaf arnynt. 

 

Bydd y prawf darllen yn cynnwys prawf sgrinio statudol cychwynnol. Yn y prawf bydd cwestiynau byr, cwestiynau caeedig a chwestiynau amlddewis. Bydd hynny'n fodd i gael gwared ar amwysedd yn y broses farcio. Bydd y sgoriau crai yn cael eu trosi'n awtomatig yn sgoriau a safonir yn ôl oedran. Mae swyddogion hefyd yn ystyried yr opsiynau ar gyfer casglu, ar hap, sampl o bapurau ar gyfer eu harchwilio. Bydd cefnogaeth ar gael ar gyfer gweinyddu a marcio, a hynny drwy ganllawiau clir a chryno.

 

Bydd y prawf sgrinio statudol cychwynnol yn cael ei ategu gan ddeunyddiau asesu ychwanegol, opsiynol fel y bo modd cynnal asesiad mwy diagnostig a ffurfiannol. Bydd hyn yn sicrhau bod y profion yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar athrawon i gefnogi dysgwyr er mwyn iddynt wneud cynnydd da.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd cyllidebau sy'n bodoli eisoes yn cwrdd â'r goblygiadau ariannol sydd ynghlwm wrth ddatblygu a chyflwyno'r profion.

 

 

Argymhelliad 2

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i ysgolion rannu gwybodaeth am lefelau rhifedd disgyblion yn effeithiol yn ystod y cyfnod pontio rhwng Cyfnodau Allweddol a sicrhau bod cefnogaeth barhaus yn cael ei darparu os oes angen.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r awdurdodau lleol a'r consortia rannu data a gwybodaeth er mwyn monitro perfformiad disgyblion a pherfformiad ysgolion yn effeithiol. Mae hyn yn berthnasol ar draws yr holl feysydd pynciau, nid ym maes rhifedd yn unig. Yn yr un modd, dylai hyn fod yn weithredol ar draws y system ysgolion yn ei chyfanrwydd, ond yn enwedig rhwng cyfnodau allweddol.

 

Eisoes, mae arferion da ledled Cymru yn cynnwys rhannu gwybodaeth yn effeithiol. Ategir hyn gan gefnogaeth yr awdurdodau lleol ar gyfer rhifedd ac ar gyfer pynciau eraill. Ymddengys bod hyn yn cael effaith bositif ar godi safonau ac felly byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl hyn o ran y trefniadau sy’n bodoli eisoes ar gyfer yr awdurdodau lleol a’r consortia o ran data, cefnogaeth a chyllid.

 

 

Argymhelliad 3

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol statudol newydd gynnwys canllawiau ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgolion ar sicrhau bod addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd, a chyfleoedd i'w hymarfer, yn cael ei ymgorffori ar draws y cwricwlwm ac ym mhob Cyfnod Allweddol, a dylai hwyluso rhannu arfer gorau o ran ymgorffori llythrennedd a rhifedd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Er mwyn sicrhau bod athrawon yn cael pob cefnogaeth i roi'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith, bydd amrywiaeth gynhwysfawr o ganllawiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi ar gael. 

 

Adnodd cynllunio'r cwricwlwm yw’r fframwaith yn anad dim sy'n cynorthwyo pob athro drwy gydol y cyfnodau allweddol i sicrhau bod llythrennedd a rhifedd yn dod yn rhan annatod o’u haddysgu wrth iddynt gyflwyno’r cwricwlwm ac sy’n eu helpu i weld bod ganddynt rôl bwysig wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd eu dysgwyr. Bydd deunyddiau hyfforddi yn cael eu datblygu i gynorthwyo'r ysgolion i ddefnyddio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i gynllunio.

 

Bydd modd i athrawon ddefnyddio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i fonitro, asesu ac adrodd ar berfformiad dysgwyr unigol. Hefyd, bydd modd adnabod dysgwyr a fyddai o bosibl yn elwa ar ymyrraeth neu ddysgwyr sy'n gweithio ar lefel y tu hwnt i'r disgwyl ar gyfer eu hoedran.

Bydd canllawiau ar gyfer arferion yr ystafell ddosbarth yn helpu athrawon i ddatblygu ymhellach addysgeg effeithiol mewn perthynas â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, er enghraifft, drwy roi syniadau ac awgrymiadau o ran gweithgareddau y gellid eu cynnal yn y dosbarth fel modd o sbarduno a datblygu'r sgiliau priodol.    

 

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi athrawon eithriadol ym maes llythrennedd a rhifedd er mwyn eu rhyddhau, yn rhannol, o'u hymrwymiadau dysgu yn rheolaidd i arddangos arferion da, i gynorthwyo Cymunedau Dysgu Proffesiynol ac i fod yn bartneriaid i athrawon ac ysgolion eraill nad ydynt yn meddu ar sgiliau arbenigol uchel y maes llythrennedd a rhifedd.  

 

Ar ben hynny, rydym yn ystyried y ffordd orau o gyflenwi rhaglen hyfforddi ar gyfer ysgolion. 

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.

 

 

Argymhelliad 4

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion i sicrhau bod digon o gyfleoedd ar gael i ddisgyblion sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'w gwersi Cymraeg ffurfiol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Gynllun Gweithredu ar gyfer Cymraeg Ail Iaith. Bydd hwnnw'n dechrau mynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.  Mae'r Cynllun Gweithredu yn cynnwys prosiectau penodol wedi'u hanelu at gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg Ail Iaith i wella eu hyder a'u sgiliau. Bydd y camau gweithredu a geir yn y cynllun hwn yn cael eu rhoi ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y consortia, yr ysgolion a sefydliadau eraill sydd wedi'u sefydlu, fel y bydd hynny'n briodol.

 

Ar ben hynny, gofynnwyd i bob awdurdod lleol ystyried y modd y mae'n pennu gwaelodlin ar gyfer perfformiad cyfredol disgyblion sy'n astudio Cymraeg Ail Iaith, gan wneud hynny i'w wneud fel rhan o'u Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.  Yn ogystal, gofynnir iddynt amlinellu'r modd y byddant yn cefnogi ysgolion i wella'r safonau hyn. Rhoddwyd adborth i bob awdurdod lleol ar eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a rhoddwyd sylw arbennig i sefyllfa Cymraeg Ail Iaith ym mhob awdurdod lleol.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau sy'n bodoli eisoes ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 5

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion er mwyn dal i ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, ac annog athrawon i fanteisio arnynt, er mwyn cynyddu hyder wrth ddefnyddio ac addysgu Cymraeg.

 

Ymateb: Derbyn

 

Fel y nodwyd yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu wedi’i gynllunio ym maes addysg cyfrwng Cymraeg sy’n darparu nifer digonol o ymarferwyr sy’n meddu ar sgiliau iaith o safon uchel yn y Gymraeg. Mae'r Cynllun Sabothol yn ganolog i gyrraedd y nod hwn ac mae'n cynnwys darparu hyfforddiant ar lefel Mynediad, Sylfaenol ac Uwch i ymarferwyr mewn lleoliadau ledled Cymru. Ar hyn o bryd, darperir rhaglen tair blynedd o gyrsiau o ganlyniad i gyllid gwerth £6 miliwn a roddir gan Lywodraeth Cymru. Y nod yw gwella sgiliau ieithyddol ymarferwyr, a datblygu'u hyder wrth ddefnyddio'r iaith yn y dosbarth ac wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

 

Yn ogystal, fel rhan o raglen o weithgareddau sydd wedi'i hariannu gan y Grant Cymraeg mewn Addysg, mae'r awdurdodau lleol, ynghyd â'r consortia, yn darparu hyfforddiant yn yr iaith a chefnogaeth i ymarferwyr. Yn 2012-13, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi dros £5.4 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sefydlu rhaglen o weithgareddau ar lefel leol a rhanbarthol, ac sy’n cael ei hariannu drwy'r Grant. Bwriad y rhain yw gwella sgiliau ymarferwyr yn y Gymraeg ynghyd â nodi ymarferwyr sy'n addas i fynychu cyrsiau Cynllun Sabothol. Disgwylir i ganlyniad y gweithgareddau hyn efelychu'r hyn a nodwyd yng Nghynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdodau lleol.

 

 

Goblygiadau Ariannol– Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau sy'n bodoli eisoes ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 6

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu a rhannu'r arferion gorau ar ymgysylltu â'r gymuned a'r rhieni, yn enwedig yng nghyswllt cefnogi dysgwyr sy'n profi tlodi neu sydd o dan anfantais, a gwerthuso'r effaith ar safonau ac ar ganlyniadau disgyblion.

 

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae lleihau'r effaith y mae tlodi'n ei chael ar gyrhaeddiad addysgol yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datgan yn glir ein bod yn disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol rannu'r arferion gorau. Er mwyn rhoi cefnogaeth iddynt yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â CLlLC ac Estyn, yn datblygu amrywiaeth ehangach o astudiaethau achos ar arferion gorau - bydd y gwaith hwn yn cael ei rannu ar borth Dysgu Cymru. 

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o'r cyllidebau sy'n bodoli eisoes ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 7

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Estyn hwyluso'r broses o rannu'r arferion gorau rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion wrth wella cyfraddau presenoldeb.

 

Ymateb:   Derbyn

 

Er mwyn tynnu sylw at yr arferion gorau sydd i'w gweld yng Nghymru ar hyn o bryd, mae swyddogion yn bwriadu cyflwyno cais i Estyn fynd ati, fel rhan o'i gylch gwaith, i nodi'r hyn y mae ysgolion yn ei wneud i wella presenoldeb.

 

 

Goblygiadau Ariannol – Dim.  Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.

 

 

Argymhelliad 8

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru, wrth ddyrannu'r grant Addysg Plant Sipsiwn a Phlant Teithwyr, ystyried anghenion penodol plant mewn gwahanol Gyfnodau Allweddol, a dylai bwysoli ei ddosbarthiad yn unol â hynny.

 

Ymateb: Derbyn

 

Gwnaed hyn eisoes. Un o'r argymhellion yn adroddiad thematig Estyn i Addysg disgyblion sy’n Sipsi Deithwyr, a gyhoeddwyd yn 2011, oedd bod angen i Lywodraeth Cymru 'ystyried ffyrdd y gellir dyrannu cyllid fel ei fod yn rhoi mwy o bwyslais ar anghenion disgyblion oedran uwchradd'. Cafodd pwysoliad newydd ar gyfer plant oedran uwchradd ei gyflwyno i'r fformiwla ariannu ar gyfer y grant yn 2011-12, cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi. Mae hyn yn golygu bod mwy o grant y pen yn cael ei roi i'r disgyblion oedran uwchradd hyn nag i ddisgyblion oedran cynradd. Gwnaed yr un peth yn ystod cylch ariannu 2012-13. Mae plant oedran uwchradd yn 39 y cant o'r 2,045 o blant yr hawlir ar eu cyfer o dan y grant hwn.

 

Goblygiadau ariannol– Dim – nid oes unrhyw newid o ran gwerth y grant (£1 filiwn yn 2012-13). Yn y modd y mae'n cael ei ddosbarthu y mae'r unig newid.

 

Argymhelliad 9

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai canllawiau Llywodraeth Cymru ar reoli perfformiad athrawon annog hunanwerthuso a gwerthuso gan gymheiriaid fel trefniadau ar gyfer datblygu gallu athrawon a gwella cysondeb safonau mewn ysgolion.

 

Ymateb: Derbyn

 

Cafodd y trefniadau hyn eu cynnwys yn y canllawiau diwygiedig ar reoli perfformiad a gyhoeddwyd ar 10 Mai.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o'r cyllidebau sy'n bodoli eisoes ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 10

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Estyn er mwyn datblygu a darparu hyfforddiant effeithiol i lywodraethwyr ysgolion, sy'n canolbwyntio ar arwain, herio, cefnogi a dadansoddi a defnyddio data.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio yn y maes hwn eisoes. Mae gan gyrff llywodraethu rôl allweddol i'w chwarae o ran gwella perfformiad, ac mae'n ddyletswydd arnynt i hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ar gyfer pob dysgwr. Mae angen cryn dipyn o wybodaeth ar lywodraethwyr er mwyn gwneud eu gwaith yn effeithiol, ac er mwyn herio a chefnogi'r pennaeth. Mae hyfforddiant yn fodd i'w cynorthwyo ac i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol yn hyn o beth. Er bod yr awdurdodau lleol yn cynnig hyfforddiant yn rhad ac am ddim i lywodraethwyr mewn amryfal feysydd, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod ansawdd, lefel a chynnwys yr hyfforddiant hwnnw, ynghyd â nifer y llywodraethwyr sy'n manteisio arno, yn amrywio ledled Cymru. Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau sy'n gwneud hyfforddiant yn orfodol ar gyfer llywodraethwyr ac sydd hefyd yn pennu cynnwys yr hyfforddiant hwnnw. Mae'r Mesur yn mynd i'r afael hefyd â'r pwyntiau a godwyd yn adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu yn 2009 ar Rôl Llywodraethwyr Ysgolion, lle'r argymhellwyd y dylid ystyried cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar gyfer llywodraethwyr.

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi dewis y pynciau ar gyfer yr hyfforddiant gorfodol a roddir i lywodraethwyr, gan ddewis ar sail yr hyn a fydd, yn eu barn hwy, yn cael yr effaith fwyaf o ran gwella safonau llywodraethu. Y pynciau dan sylw yw hyfforddiant ymsefydlu, deall data am berfformiad ysgolion, a hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion cyrff llywodraethu.

 

Bydd yr hyfforddiant ymsefydlu yn canolbwyntio ar rolau llywodraethwyr, ar hyd a lled eu cyfrifoldebau ac ar sut i fod yn llywodraethwyr effeithiol. Bydd yr hyfforddiant ar ddeall data am berfformiad ysgolion yn esbonio pa ddata am berfformiad sydd ar gael i lywodraethwyr. Bydd hefyd yn hyfforddi llywodraethwyr i ddeall ac i ddadansoddi'r data sydd ar gael iddynt, yn awgrymu'r mathau o gwestiynau y dylai llywodraethwyr fod yn eu gofyn am y data hynny, ac yn dangos sut y gellir defnyddio'r data i sicrhau gwelliannau. Bydd yr hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion cyrff llywodraethu yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, ar weithio gyda phenaethiaid ac ar gynnig cefnogaeth iddynt. Bydd yn ymdrin hefyd â'r angen i'w herio er mwyn sicrhau bod addysg o safon uchel yn cael ei darparu er mwyn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr.

 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â llywodraethwyr ac awdurdodau lleol ynghylch y cynigion i gyflwyno rheoliadau ar hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr, gan gynnwys y gofynion penodol a'r esemptiadau, a'r hyn y dylid ei gynnwys yn yr hyfforddiant gorfodol. Gan ddibynnu ar ganlyniad y broses ymgynghori, y bwriad yw y bydd y rheoliadau yn dod i rym yn ystod hydref 2012.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati hefyd i baratoi rhaglenni hyfforddiant a fydd yn seiliedig ar yr hyn y bydd yn orfodol ei gynnwys, a bydd y rhaglenni hynny ar gael yn rhad am ddim i'r awdurdodau lleol eu defnyddio wrth ddarparu'r hyfforddiant. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod hyfforddiant effeithiol yn cael ei ddarparu i lywodraethwyr ledled Cymru, a hynny mewn modd cyson a chydlynus.

 

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Mae'r costau sy'n gysylltiedig â diwygio rhaglenni hyfforddiant yn cael eu tynnu o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.

 

 

Argymhelliad 11

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Estyn weithio gyda'i gilydd er mwyn datblygu a darparu hyfforddiant i arweinwyr cabinet addysg a chadeiryddion pwyllgorau craffu ar addysg, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio data'n effeithiol a chraffu cadarn.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhelliad hwn. Dylai dulliau gweithredu fod ar gael sy'n galluogi arweinwyr cabinet addysg a chadeiryddion pwyllgorau craffu ar addysg i fynd ati'n effeithiol i werthuso ac i herio perfformiad ysgolion o fewn eu hawdurdod lleol. Dylai fod gan yr arweinwyr a'r cadeiryddion hyn hefyd y sgiliau i fedru gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn datblygu Setiau Data Craidd Cymru Gyfan ar lefel yr awdurdodau lleol, sy'n golygu y bydd dadansoddiadau parod, wedi'u safoni o berfformiad eu hysgolion ar gael ar lefel yr awdurdod lleol am y tro cyntaf erioed.  Cafodd y setiau data hyn eu datblygu ar y cyd ag Estyn. Bydd cam cyntaf y gwaith hwn yn barod erbyn mis Gorffennaf 2012. Bydd yr ail gam, lle darperir dadansoddiadau pellach, ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn trefnu bod y data ar lefel ysgolion, sy'n sail i'r Setiau Data Craidd Cymru Gyfan ar lefel ysgolion ac ar lefel awdurdodau lleol, ar gael i'r awdurdodau lleol er mwyn iddynt fedru mynd ati i'w hystyried yn fanylach.  Bydd yr adnoddau hyn yn helpu'r holl bobl hynny sy'n arwain ym maes addysg mewn awdurdod lleol i werthuso perfformiad yn well ac i dargedu strategaethau gwella.

 

Mae Estyn wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i drefnu hyfforddiant ar gyfer aelodau cabinet, ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau craffu ar addysg, ac ar gyfer pwyllgorau craffu mewn awdurdodau lleol unigol ar sut i ddefnyddio data'n effeithiol i fonitro perfformiad ysgolion, ac ar sut i graffu mewn ffordd drwyadl ar drefniadau lleol. Mae Estyn wedi trafod yr hyfforddiant hwn gyda CLlLC. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn lansio Cronfa Datblygu Gwaith Craffu sydd â'r nod o ddatblygu'r capasiti a'r gallu i graffu ar y cyd fel y bo modd mynd i'r afael yn effeithiol â mentrau megis y consortia o gyd-wasanaethau addysg sydd newydd eu sefydlu ac sy'n anelu at gynorthwyo gyda'r gwaith o wella ysgolion.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o'r cyllidebau presennol sydd gan Estyn ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 12

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Llywodraeth Cymru ac Estyn sicrhau bod y gwaith o graffu ar y consortia rhanbarthol yn ddigon cadarn, a bod trefniadau newydd yn gwella safonau a chanlyniadau disgyblion heb gyflwyno cymhlethdod diangen.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae lleihau'r effaith y mae tlodi'n ei chael ar gyrhaeddiad addysgol yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datgan yn glir ein bod yn disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol rannu'r arferion gorau. Er mwyn rhoi cefnogaeth iddynt yn hynny o beth, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â CLlLC ac Estyn, yn datblygu amrywiaeth ehangach o astudiaethau achos ar arferion gorau - bydd y gwaith hwn yn cael ei rannu ar borth Dysgu Cymru.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o'r cyllidebau sy'n bodoli eisoes ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 13

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Estyn ymgynghori ynglŷn â'r angen i arolygu pob ysgol cyn pen chwe blynedd o'i harolygiad blaenorol ac ynglŷn â'r cyfnod o rybudd sydd ei angen cyn arolygiadau, gyda'r bwriad o alluogi arolygiadau dirybudd lle bo'n briodol.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae trafodaethau wedi dechrau gydag Estyn ynghylch sut orau i ddiwygio rheoliadau er mwyn ei gwneud yn anodd i ysgolion ragweld pryd y bydd arolygiadau'n cael eu cynnal. Mae hyn yn cynnwys diwygio'r gofyniad bod yn rhaid i ysgolion gael eu harolygu bob chwe blynedd a lleihau'r cyfnod o rybudd ar gyfer arolygiadau o'r 20 diwrnod o rybudd a roddir ar hyn o bryd. 

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o'r cyllidebau sy'n bodoli eisoes ar gyfer rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 14

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

 

Dylai Estyn gynnwys, yn elfen Les ei fframwaith arolygu ac yn ei ganllawiau i'w arolygwyr, yr angen i ystyried a oes gan ysgolion bolisïau ar eu dulliau o ddiogelu rhag ystod o ffactorau amgylcheddol, gan gynnwys yr haul.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Estyn wedi cadarnhau ei fod yn ystyried sut orau i gynnwys yn ei ganllawiau arolygu yr angen i ddiogelu disgyblion rhag yr haul.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau presennol Estyn.