Ymateb Llywodraeth Cymru

i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Fabwysiadu

 

Crynodeb Gweithredol

 

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad a’r argymhellion a gyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol ar 8 Tachwedd, yn dilyn ei Ymchwiliad i Fabwysiadu.

 

Ym mis Chwefror 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu. Dywed bod modd cyflenwi rhai gwasanaethau yn fwy effeithiol yn genedlaethol, ac roeddem eisiau arloesi gyda’r dull hwn drwy archwilio cylch gwaith a swyddogaethau Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar y cyd â rhanddeiliaid.

 

O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi pwysleisio bod angen diwygio gwasanaethau mabwysiadu yn sylweddol er mwyn cyflwyno gwelliannau i atal unrhyw oedi ac ailadrodd diangen sydd, fel y gwyddom, yn cael cymaint o effaith negyddol ar ein plant sy’n derbyn gofal. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol weithredu’n gynt, yn fwy effeithiol ac effeithlon er mwyn chwilio am gartref parhaol i’r plant na allant ddychwelyd at eu teuluoedd er eu lles nhw, er mwyn gwella’r ffordd yr hyrwyddir mabwysiadau a chynyddu’r gronfa o fabwysiadwyr.

 

Mae angen gwasanaeth â mwy o ffocws a chysondeb er mwyn mynd i’r afael â’r niferoedd isel sy’n mabwysiadu yn ogystal â natur hynod arbenigol a chymhleth y gwasanaethau mabwysiadu, a effeithir hefyd gan yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol sydd heb ei ddatganoli. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn arwain at fanteision mawr, gan greu carfan o weithwyr arbenigol a fydd yn gwella ansawdd ac effeithiolrwydd y broses asesu, a sicrhau tegwch o ran trefniadau mabwysiadu.

 

Wrth dderbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion, rwy’n falch o allu dweud bod y gwaith o weithredu llawer o’r argymhellion yn mynd rhagddo eisoes, gyda llywodraeth leol wrthi’n datblygu model gweithredol ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

I gloi, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor ar ran Llywodraeth Cymru am ei archwiliad ardderchog, sy’n crisialu ein canfyddiadau ac a fydd yn ein helpu i ganolbwyntio ar y newidiadau mawr fydd eu hangen i atal plant rhag cael eu gadael mewn gofal. Mae cynnydd pwysig yn digwydd trwy gyfraniad y Grwp Cynghori Arbenigol ar Fabwysiadu.

 

Isod, ceir ymateb manwl i’r 16 o argymhellion a’r camau gweithredu manwl a nodwyd gan y Pwyllgor.

 


 

 

Argymhelliad 1 – Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Dylid cryfhau rôl cyflenwi gwasanaeth uniongyrchol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn sylweddol o’r hyn sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn nogfen ymgynghorol Bil Gwasanaethau

Cymdeithasol (Cymru). Dylai fod gan y Gwasanaeth rôl gyflenwi ganolog a dylai gyflogi staff i weithio ar amrywiaeth o drefniadau mabwysiadu. Ni ddylai fod ‘yn eiddo i’r awdurdodau lleol’ fel y nodir yn y cynigion presennol. Dylai’r rôl arweiniol o fewn y Gwasanaeth fod yn uwch rôl annibynnol, yn adrodd i fwrdd

amlasiantaethol, ac yn atebol yn y pen draw i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Ym mis Mawrth eleni, cyflwynais gynlluniau amlinellol drafft ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), ac wrth reswm, rwy’n cytuno bod angen cryfhau’r gwaith hwnnw’n sylweddol. Yn wir, bu datblygiadau a chynnydd sylweddol ers hynny, a chyfeiriais at lawer ohonynt yn fy sesiwn dystiolaeth i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf.

 

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Pwyllgor bod angen “newid y ffordd y mae gwasanaethau‘n cael eu darparu yn sylweddol iawn”. Mae cynllunio sefydlogrwydd a gwella cyfleoedd a dewisiadau bywyd i blant a phobl ifanc yn flaenoriaeth ganolog i’r Llywodraeth hon. Mae’r trefniadau fel ag y maent ar hyn o bryd yn gyfyngedig o ran y dewis a’r cyfle sydd ar gael i lawer o blant fwynhau dyfodol sefydlog a chariadus.

 

Credwn mai’r ffordd orau o sicrhau’r agenda uchelgeisiol hon i newid pethau er lles plant, yw trwy weithio mewn partneriaeth gadarn a chydweithredu effeithiol ag awdurdodau lleol, y sector annibynnol a gwirfoddol; darparu gwasanaethau o safon yn gyson sy’n gwerthfawrogi ac yn manteisio i’r eithaf ar gydweithredu, gan adeiladu ar y profiadau cyfredol o arferion rhagorol y mae’ch adroddiad yn cyfeirio atynt. Fel yr wyf wedi datgan yn glir, rwy’n disgwyl i’m swyddogion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Asiantaethau Mabwysiadu, y sector gwirfoddol a’r holl system cyfiawnder teuluol gan gynnwys y rhai o’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd – Cymru, gydweithio i ddatblygu fframwaith gweithredu ar gyfer ein Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Byddaf yn dwyn i gyfrif unrhyw un o’r cyfranwyr allweddol hyn sy’n methu cydweithio i sefydlu ein model Cenedlaethol.

 

Fel yr amlinellais i’r Pwyllgor wrth gyflwyno tystiolaeth ym mis Gorffennaf – rwy’n cytuno y dylai uwch swyddog arwain y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gyda’r rhyddid i wneud penderfyniadau annibynnol a sicrhau bod gwelliannau parhaus a chyson yn cael eu cyflwyno ar hyd a lled Cymru. Mae’n bwysig mai’r awdurdodau lleol ddylai fod yn gyfrifol am hyn o hyd er mwyn cynnal cysylltiadau lleol pwysig, a gwybodaeth am y plentyn, sy’n elfennau hollbwysig o wasanaethau mabwysiadu. Mae’n bwysig nad ydym yn datgysylltu mabwysiadu a dewisiadau eraill sy’n sicrhau sefydlogrwydd a ddylai fod yn rhan o ystyriaethau awdurdodau lleol ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal, fel eu rhiant corfforaethol. Mae’n rhaid i’r gwasanaeth newydd fynd i’r afael â phryderon cyfredol, ond heb golli cryfderau’r system bresennol – sicrhau newididau heb greu anfantais.

 

Bydd pwerau newydd yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau mabwysiadu mewn ffordd benodol, i ddod ynghyd i greu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghysondebau cyfredol wrth ddarparu gwasanaeth.

 

Rhaid i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sicrhau darpariaeth gyson o Fôn i Fynwy, gydag atebolrwydd clir a chysylltiadau lleol fel bod asiantaethau mabwysiadu unigol yn gallu canolbwyntio ar eu meysydd arbenigol wrth gynllunio sefydlogrwydd i blant, gan gynnwys: trefniadau lleoliad; paratoi a chynnal cynllun mabwysiadu; ac adeiladu ar yr arbenigedd sy’n ofynnol gan lysoedd ar gyfer adroddiadau ac asesiadaui plant, wrth wneud cais am orchymyn lleoli/mabwysiadu.

 

Bydd y Gwasanaeth Cenedlaethol yn canolbwyntio ar y mabwysiadwr, yn darparu fframwaith ar gyfer cymeradwyo mabwysiadu, sefydlu canolfan adnoddau, yn rhoi pwyslais amlwg ar wella, yn gwella effeithiolrwydd, cysondeb ac ansawdd y broses asesu.

 

Nod ac amcan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yw sicrhau rhagoriaeth ar gyfer mabwysiadu trwy sicrhau lleoliadau teulu o’r radd flaenaf, am oes, i blant sy’n derbyn gofal y byddai mabwysiadu o’r budd pennaf iddynt.

 

Nid wyf yn diystyru argymhelliad y Pwyllgor am wasanaeth mwy annibynnol, ond byddai trefniant o’r fath yn golygu dileu gwasanaethau mabwysiadu y 22 o asiantaethau mabwysiadu awdurdod lleol yng Nghymru; a byddai’n rhaid i’r gwasanaeth newydd gofrestru fel asiantaeth fabwysiadu er ei fwyn ei hun. Er bod hyn yn bosibl, mae perygl sylweddol o gael gwasanaethau digyswllt a all fod yn niweidiol i’r lefel ddarpariaeth bresennol.

 

Gan hynny, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r hyn a ddywedais yn y dystiolaeth i’r Pwyllgor, sef gweithio gydag awdurdodau lleol, y sector annibynnol a gwirfoddol; trwy bartneriaeth a chydweithredu effeithiol a chryf ac ystyried y model gweithredol sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at ei dderbyn y flwyddyn newydd. Yna, byddaf yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am fy mhenderfyniad.

 

Yn y Flwyddyn Newydd, byddaf yn ystyried pa mor ymarferol yw’r model hwn. Os nad wyf yn gwbl fodlon y bydd y model arfaethedig yn galluogi’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i fynd i’r afael â’r anghysondebau cyfredol wrth ddarparu gwasanaethau, byddaf yn cyfarwyddo awdurdodau lleol i wneud hynny mewn ffordd wahanol, yn unol â’r pwerau newydd yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol  a Lles (Cymru).

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.


 

Argymhelliad 2 - Cynllunio sefydlogrwydd i blant

 

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda CLlLC i sefydlu partneriaeth sector gwirfoddol beilot mewn un awdurdod lleol yng Nghymru (ar batrwm y bartneriaeth rhwng Coram a Chyngor Harrow) lle mae mudiad gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdod lleol ac yn ymwneud yn gynnar â’r gwaith cynllunio gofal gyda’r nod o wella’r penderfyniadau rheoli gofal a wneir.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Rwyf wedi datgan yn glir mai’r ffordd orau o sicrhau’r agenda uchelgeisiol hon i newid pethau er lles plant, yw trwy bartneriaeth a chydweithredu effeithiol ag awdurdodau lleol, y sector annibynnol ac rwy’n croesawu cyfraniad y sector gwirfoddol i’r agenda bwysig hon. Ac er na fyddai cytundeb o’r fath rhwng awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn fater i Lywodraeth Cymru, byddai gennyf gryn ddiddordeb mewn unrhyw gasgliadau ac adroddiad dilynol.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredu Manwl: Cynllunio sefydlogrwydd i blant                                                                  

- dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fod â systemau cadarn ar waith i gynllunio sefydlogrwydd a’r rheiny’n gorfodi uwch reolwyr ac aelodau’r awdurdod lleol i graffu ar gynnydd a’i fonitro yn erbyn cynlluniau unigol.

– tra bydd y dangosydd perfformiad cyfredol ynglŷn â chynllunio sefydlogrwydd yn parhau mewn grym, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu esboniad yn amlinellu’r rhesymau am unrhyw amrywiadau yn nharged y dangosydd perfformiad pan gaiff y dangosyddion eu cyhoeddi.

 

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gosod targedau perfformio i annog gwelliant parhaus. Anogir awdurdodau lleol i wella eu perfformiad, mesur eu hunain o gymharu ag awdurdodau eraill Cymru a cheisio
cyflawni gwelliannau realistig o fewn amser penodol. Yn y modd hwn, bu gwelliannau sylweddol o ran y targed cynllunio sefydlogrwydd dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda chynllun lleoli ar waith erbyn yr ail adolygiad mewn dros 80% o achosion gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol.

Er hynny, mae lle i wella eto, yn enwedig o ran ansawdd y cynlluniau sefydlogrwydd. Roedd archwiliadau mabwysiadu a chynllunio sefydlogrwydd a gynhaliwyd rhwng 2009 a 2011 yn dangos nad yw cynllunio sefydlogrwydd o ansawdd da ar waith yn llawn ledled Cymru. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn gwerthuso perfformiad awdurdodau lleol fel rhan o adolygiad a gwerthusiad blynyddol o adroddiadau perfformiad. Mae’r adroddiadau’n cyflwyno’r meysydd cynnydd allweddol a’r meysydd ar gyfer gwella yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn honno; a gwerthusir cynllunio mabwysiadu a sefydlogrwydd yn erbyn dangosyddion perfformiad cyfredol. Mae’r adroddiadau Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2011-12, wedi’u cyhoeddi ar wefan AGGCC.

Gweithredu Manwl: Cynllunio cyfamserol                                                                                    – dylai Llywodraeth Cymru sefydlu adolygiad am gyfnod cyfyngedig, yn gweithio gyda’r rhanddeiliaid allweddol, i nodi’r rhwystrau rhag cynllunio cyfamserol ar hyn o bryd ac yn cyflwyno strategaeth i’w datrys. Dylai’r adolygiad hefyd nodi unrhyw faterion cyfreithiol y mae angen eu hegluro

Diddorol oedd darllen tystiolaeth y Pwyllgor, fel y nodwyd, rwyf wedi datgan fy mod i’n amheus o’r ffaith y gallai cynllunio o’r fath arwain at siomi’r rhai sy’n ceisio mabwysiadu, oherwydd gall llysoedd benderfynu dychwelyd y plentyn at ei rieni biolegol yn y pen draw. Fel yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, caiff plant eu symud o ofalwyr maeth i rieni sy’n mabwysiadu unwaith y penderfyna’r llysoedd y dylai’r plentyn gael ei fabwysiadu.

Bydd y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Fabwysiadu yn ystyried y mater hwn a dylai roi cyngor penodol o ran a ddylid mynd i’r afael â hyn, ac o dan ba amgylchiadau. Os yw’r dystiolaeth yn cyflwyno achos clir dros gynyddu darpariaethau yng Nghymru, byddaf yn mynd ati i gyflwyno hyn yn Niwygiadau ail gam Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru).

Gweithredu manwl: Materion ariannol

- dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda CLlLC i gynorthwyo awdurdodau lleol i  adolygu strwythur eu cyllidebau mabwysiadu a maethu a chanfod unrhyw effaith bosibl a gaiff y rhain o ran sicrhau sefydlogrwydd amserol i blant.                                           

- dylai Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda CLlLC, gomisiynu adolygiad o gostau llawn darparu gwasanaethau mabwysiadu mewn awdurdodau lleol gyda golwg ar nodi cyllidebau y byddai modd, yn y tymor canolig, eu defnyddio i ariannu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gynaliadwy.

– dylai Llywodraeth Cymru alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno tâl am fabwysiadu gan lysriant.

 

Sicrhawyd seiliau rhaglen newidiadau Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy drwy ddiogelu’r cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol a buddsoddiad o £32 miliwn a mwy dros y tair blynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol er mwyn cyflawni swyddogaethau ac ymgorffori datblygiadau o fewn yr adnoddau presennol.

Bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn elwa ar lywodraethu ariannol effeithiol, a bydd datblygu cyllidebau cyfun a chysylltiad rhwng cyllidebau yn arwain at ddulliau craffach o weithio ac arbedion tymor hir.

Nodais gam gweithredu diweddarach eich Adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o symud gwaith ynglŷn â mabwysiadu gan lysrieni ymlaen, yng

nghyd-destun creu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Bydd y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Fabwysiadu yn ystyried mabwysiadu gan lysrieni a mabwysiadu mewnwladol yng nghyd-destun datblygu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Bydd y model gweithredol sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfrannu at yr ystyriaeth hon.


 

Argymhelliad 3 - Ymholiadau cychwynnol am fabwysiadu

 

Dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau am fabwysiadu yn cynnwys bod â chyfrifoldeb am ddarparu (neu gomisiynu) llinell gymorth ar y ffôn a gwefan gyda’r nod o ddenu darpar fabwysiadwyr.

 

Ymateb: Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn sicrhau cysylltiad cyson i holl ddarpar fabwysiadwyr. Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig canolfan adnoddau, yn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfeirbwyntiau i ddarpar fabwysiadwyr. Bydd yn cynnwys ymgyrch recriwtio a chodi ymwybyddiaeth genedlaethol a datblygu pecynnau cymorth ac adnoddau safonedig i gefnogi’r broses fabwysiadu. Bydd potensial i gynnal gwefan porth cenedlaethol gyda dolenni i’r Cynghorau a’r sector gwirfoddol. Byddai’r ganolfan yn mabwysiadu swyddogaeth ddeuol fel brand ‘mabwysiadu’ i Gymru. Fel y nodwyd ynghynt, bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn darparu ffocws clir ar wella, gan sicrhau effeithlonrwydd a chysondeb, gyda’r gallu i oruchwylio datblygiadau polisi a gweithdrefnau cenedlaethol.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredoedd manwl: Ymgyrchoedd hysbysebu

– dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu ymgyrch hysbysebu genedlaethol. Dylai hynny gynnwys strategaethau penodol i dargedu mabwysiadwyr ar gyfer ‘plant anodd eu lleoli’.

– dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ddatblygu (ar y cyd â mabwysiadwyr profiadol) ystod o ddeunyddiau addas wedi’u hanelu at ddarpar fabwysiadwyr, i gefnogi ymgyrch hysbysebu genedlaethol.

Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb a roddwyd uchod wrth ymateb i argymhelliad 3.

 

 


 

Argymhelliad 4 – Asesu

 

Dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fod yn gyfrifol am asesu darpar fabwysiadwyr, gan gyflawni hyn drwy staff rhanbarthol sy’n cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth.

 

 

Ymateb: Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthi’n datblygu model gweithredol ar gyfer darparu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau cyfredol sydd dan ystyriaeth i’w cyflenwi dan fantell y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys:

 

·                                                                                 Man cyswllt rhanbarthol i ddarpar fabwysiadwyr

·                                                                                 Comisiynu/cyflawni gwaith recriwtio i ategu ymgyrchoedd cenedlaethol

 

Goblygiadau Ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 


Argymhelliad 5 – Hyfforddi a pharatoi mabwysiadwyr

 

Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ddylai fod yn gyfrifol am hyfforddi a pharatoi mabwysiadwyr, a dylai’r gwaith hwn gael ei wneud gan staff rhanbarthol sy’n cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth. Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys rhieni sydd wedi mabwysiadu, dylai’r Gwasanaeth adolygu’r trefniadau presennol ar draws Cymru i ddatblygu rhaglen gynhwysfawr sy’n adeiladu ar arferion da cyfredol.

 

 

Ymateb: Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad. Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb i argymhelliad 4.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 


 

Argymhelliad 6 – Paru

 

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Cofrestr Fabwysiadu Genedlaethol i Gymru a dylai pob darpar fabwysiadwr a phlentyn sydd â chynllun mabwysiadu gael eu rhoi ar y gofrestr ar unwaith fel eu bod ar gael i’w paru.

 

 

Ymateb: Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Rwyf eisoes wedi sicrhau cytundeb gan Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain sy’n gyfrifol am Gofrestr Mabwysiadu Cymru a Lloegr i baru darpar fabwysiadwyr a phlant ledled Cymru, ar wahân i ddulliau paru eraill.

 

Byddaf yn sicrhau y bydd unrhyw Gofrestr Fabwysiadu newydd ar gyfer Cymru yn cynnwys rhestr lawn a chynhwysfawr o blant, pobl ifanc a darpar fabwysiadwyr sy’n disgwyl cael eu paru, gan awdurdodau lleol ac asiantaethau gwirfoddol. Er mwyn osgoi unrhyw oblygiadau anfwriadol, byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn cadw cysylltiadau diffiniedig â chofrestri eraill sydd ar waith ledled y DU er mwyn sicrhau nad ydym yn lleihau’r gronfa o fabwysiadwyr i blant yng Nghymru.

 

Goblygiadau ariannol: Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredu Manwl:

- dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol weithio gyda rhanddeiliaid allweddol gyda golwg ar gynyddu’r gronfa o ddarpar fabwysiadwyr i ‘blant anodd eu lleoli’, gan ystyried sut y gellid gwella’r recriwtio ac edrych hefyd ar faterion yn ymwneud â chymorth ymarferol ychwanegol y gellid ei ddarparu

Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb i argymhelliad 1.

Gweithredu Manwl: Cymorth paratoi i blant

dylai gofalwyr maeth gael hyfforddiant gorfodol ar ‘gynorthwyo plant i symud ymlaen i gael eu mabwysiadu’. Dylai unrhyw anghenion penodol gan ofalwyr maeth am gymorth gael eu nodi pan wneir y penderfyniad i leoli’r plentyn gyda nhw ar leoliad mabwysiadol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda CLlLC i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Os mabwysiadu yw’r nod, dylai gofalwyr maeth dderbyn y cymorth a’r hyfforddiant angenrheidiol i sicrhau bod plant yn cael cefnogaeth i symud ymlaen. Mae canllawiau statudol i Ddeddf Plant 1989 yn cydnabod bod gan ofalwyr maeth gyfraniad pwysig o ran paratoi a thawelu meddyliau plant pan ddaw’r lleoliad i ben, boed hynny’n symud i leoliad newydd (gan gynnwys mabwysiadu) neu ddychwelyd adref. Fel y nododd eich Ymchwiliad, roedd “gofalwyr maeth profiadol wedi darparu cymorth amhrisiadwy i’r plentyn a’r mabwysiadwyr.” Rhaid i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sicrhau darpariaeth gyson ledled Cymru.


 

Argymhelliad  7 – Cyfranogiad plant a phobl ifanc  

 

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu trefn er mwyn i bobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu gymryd rhan yn y broses barhaus o ddatblygu a chyflenwi’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

 

Ymateb: Derbyn

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Fel y gwŷr y Pwyllgor, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng nghyfraith ddomestig Cymru y llynedd gyda Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynegi barn ar gynllunio gwasanaethau sy’n eu cefnogi nhw. Dyma pam y sicrheais ein bod yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal, gofalwyr ifanc a phlant anabl, fel rhan o ddarn waith cyfrinachol yn ystod proses ymgynghori’r Bil. Roeddynt yn cefnogi’r cynigion yn unfrydol, ac roedd plant sy’n derbyn gofal yn hynod gadarnhaol ynglŷn â’r syniad o ddatblygu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod sylwadau plant a phobl ifanc yn parhau i gael eu cynrychioli ac rwyf wedi sefydlu dulliau amrywiol i sicrhau hyn. Fel rhan o’u rôl, mae gan sefydliadau sy’n aelodau o’r Grŵp Cynghori Arbenigol ar Fabwysiadu gyfrifoldeb i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Hefyd, bydd fy swyddogion yn defnyddio’r Grŵp Cyfeirio Cenedlaethol, grŵp ymchwil ac ymgynghori a sefydlwyd i gynrychioli buddiannau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, er mwyn deall a chynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o ddatblygu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredu Manwl: Gwrando ar ‘ddymuniadau a theimladau’ plant a phobl ifanc

– dylai cylch gwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gynnwys hyrwyddo’r wybodaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc a datblygu deunyddiau hygyrch i gau unrhyw fylchau o ran yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd. Dylai fod gan y

Gwasanaeth rôl hefyd yn hyrwyddo hyfforddiant ac ymarfer da o ran gwrando ar ddymuniadau a theimladau plant yn ystod y broses fabwysiadu.

Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb a roddwyd i argymhelliad 1.

 

 


 

Argymhelliad 8 – Gwaith profiadau bywyd

 

Dylai gwaith safonol yn cofnodi profiadau bywyd gael ei gynnig i bob plentyn sy’n cael ei fabwysiadu. Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, fel mater o frys, adolygu faint o fylchau sydd yn y ddarpariaeth a sefydlu strategaeth i sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar wybodaeth safonol.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Rwy’n cytuno bod gwaith profiadau bywyd yn hollbwysig i hynt y plentyn drwy’r broses fabwysiadu, fel y nodwyd yn ein cynigion cyntaf. Mae’r fframwaith deddfwriaethol[1] eisoes wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at waith profiadau bywyd. Rhaid mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion wrth gyflenwi’r gwasanaeth pwysig hwn.

 

Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn sicrhau bod asiantaethau mabwysiadu unigol yn canolbwyntio ar ac yn datblygu eu maes arbenigedd, gan sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwaith cynllunio sefydlogrwydd o safon gan gynnwys trefniadau lleoli, paratoi a chynnal y cynllun mabwysiadu. Wrth reswm, bydd hyn yn cynnwys gwaith profiadau bywyd gan fod plant a phobl ifanc yn unigryw, ac mewn gwaith profiadau bywyd fel ym mhob maes arall, rydym yn parchu’r unigolyn ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredu Manwl: Cyswllt

- lle penderfynwyd bod cyswllt â’i deulu biolegol er budd pennaf y plentyn, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi ffyrdd o wella’r cymorth ymarferol er mwyn cynnal trefniadau o’r fath a’u monitro’n well.

Unwaith y caniateir gorchymyn gofal, mae’r ddeddfwriaeth gyfredol[2] yn mynnu bod awdurdod lleol yn hyrwyddo cyswllt, yn unol â’i ddyletswydd i’r plentyn. Rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu i’r plentyn sy’n destun gorchymyn gofal gael cyswllt rhesymol, oni bai bod gorchymyn llys yn dweud fel arall, neu os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu gwrthod unrhyw gyswllt dros dro dan amgylchiadau brys.  

Pan benderfynir cyflwyno plentyn i’w fabwysiadu, gall y llys wneud gorchymyn[3] sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl y mae’r plentyn yn byw neu’n mynd i fyw gydag ef/hi, ganiatáu i’r plentyn ymweld â, aros gyda neu gael cyswllt â’r personau a nodir yn y gorchymyn.

Bydd unrhyw drefniadau i fodloni’r gorchymyn cyswllt a bennwyd yn cael eu hysgrifennu yng nghynllun gofal y plentyn; bydd yr asiantaeth yn darparu adnoddau ariannol a ffisegol i sicrhau y cydymffurfir â’r trefniadau[4].

 

 


 

Argymhelliad 9 – Cymorth ôl-fabwysiadu

 

Dylai Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Llywodraeth y DU, ymchwilio i ddichonoldeb pennu bod yr awdurdod sy’n lleoli yn parhau’n gyfrifol am ddarparu cymorth ôl-fabwysiadu nes bydd y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed.

 

Argymhelliad 10 – Hawl i wasanaethau cymorth mabwysiadu.

 

Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r rheoliadau cyfredol i greu hawl statudol i wasanaethau cymorth mabwysiadu, nad yw wedi’i chyfyngu i hawl i asesiad o’r angen.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor. Gallaf ddeall beth mae’r Pwyllgor yn ceisio’i gyflawni ac yn hyn o beth rydym mewn cytundeb, hynny yw, bod y ffordd orau bosibl a mwyaf cyson o ddarparu gwasanaethau cymorth ôl-fabwysiadu yn hanfodol bwysig. Fel y nododd eich Ymchwiliad, nid yw pob teulu angen nac eisiau cymorth – efallai fod rhai’n dymuno cael llonydd i fyw eu bywyd newydd gyda’i gilydd a dylem barchu hynny.

 

O ran y teuluoedd hynny sydd angen cymorth, rwy’n cytuno nad yw’r anghysondebau presennol yn dderbyniol.  Credaf y bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn fwy buddiol, gan ganoli pobl â sgiliau arbenigol a fydd yn gwella effeithiolrwydd ac yn sichrau trefniadau mabwysiadu tecach.

 

Fel y dywedais yn fy sesiwn dystiolaeth ym mis Gorffennaf, rhaid i ddarpariaeth gwasanaethau cymorth mabwysiadu fod yn seiliedig ar “asesiad o anghenion”, fel sy’n digwydd gyda’r holl wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys pa wasanaethau sydd ar gael y tu hwnt i’r rhai a nodwyd mewn rheoliadau penodol; yn hytrach na “hawl” yr unigolyn i gael gwasanaeth penodol neu lefel o wasanaeth y gellid ei orfodi gan lysoedd drwy adolygiad barnwrol.

 

Gall pob teulu unigol fod yn wynebu problemau unigryw a gwahanol, ac mai asesiad o anghenion yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â hynny. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rhaid blaenoriaethu adnoddau ar sail yr anghenion hynny a nodwyd.

 

Er bod gennym agenda Gymreig unigryw ym maes gwasanaethau cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â mabwysiadu, ni fyddwn yn diystyru unrhyw beth a fydd yn gwella gwasanaethau mabwysiadu a chanlyniadau i’n plant sy’n derbyn gofal. Byddwn yn parhau i ddilyn y datblygiadau yn Lloegr â diddordeb.

 

Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) hefyd yn ystyried materion asesu a phwy sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 


 

Argymhelliad 11 – CAMHS a gwasanaeth therapiwtig

 

Dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, weithio gyda Chonffederasiwn GIG Cymru yng nghyswllt y ddarpariaeth i blant a fabwysiadir i gynnal archwiliad o’r ddarpariaeth bresennol a nodi bylchau, gan ystyried y materion a amlygwyd yn ein tystiolaeth gyda sylw penodol i fynediad at wasanaethau therapiwtig arbenigol. Dylai wedyn nodi cynllun sy’n amlinellu’r camau penodol a gaiff eu cymryd i ymdrin â’r diffygion cyfredol yn y ddarpariaeth i blant a fabwysiadir. Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru hefyd orfodi awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gydweithio. Dylid ceisio tystiolaeth bellach gan bob parti sydd â buddiant yn cynnwys teuluoedd sy’n mabwysiadu. Dylai’r cynllun amlinellu a gaiff gwasanaethau therapiwtig eu darparu drwy ddatblygu gwasanaeth arbenigol newydd neu dylai ei gwneud yn glir sut y mae modd eu darparu mewn ffordd amserol o fewn CAMHS.

 

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ailedrych yn benodol ar y cynnydd a wnaethpwyd yn rhoi’r argymhelliad hwn ar waith ymhen 12 mis. Rydym yn ymrwymo i gynnal unrhyw graffu pellach a ystyrir yn angenrheidiol gennym i adolygu cynnydd a sicrhau’r newidiadau sy’n ofynnol er darparu’r gwasanaethau pwysig hyn.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae pobl ifanc sydd wedi’i mabwysiadu a’u teuluoedd wedi defnyddio gwasanaethau CAMHS yn rheolaidd erioed. Mae gan weithwyr arbenigol CAMHS brofiad o ymdrin â phlant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu neu sy’n derbyn gofal ac mae seicotherapyddion CAMHS yn darparu therapi ar gyfer anhwylder ymlyniad. Mae gwasanaethau arbenigol CAMHS yn asesu anghenion pob plentyn ac yn ceisio sicrhau cyfle cyfartal i bawb, gan gynnwys plant mewn amgylchiadau arbennig fel rhai sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid, plant sy’n derbyn gofal a phlant wedi’u mabwysiadu, plant ag anabledd dysgu a rhai â rhieni sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae angen pecyn gofal cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd cymdeithasol a seicolegol er mwyn rhoi cymorth a thriniaeth lwyddiannus sy’n seiliedig ar dystiolaeth i blant ag anhwylder ymlyniad. Gwyddom fod gofal sy’n canolbwyntio ar drawma heb gymorth gofal cymdeithasol angenrheidiol i berson ifanc a’i ofalwr yn ansefydlogi lles emosiynol y person ifanc ymhellach, ac felly mae angen pecynnau gofal integredig gan wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r Trydydd Sector yn aml. Bydd gan wasanaethau cymorth ôl-fabwysiadu (a ddarperir gan asiantaethau mabwysiadu) gyfraniad allweddol hefyd, sef darparu cymorth unrhyw bryd ar ôl mabwysiadu a gydol plentyndod y sawl a fabwysiadwyd.

 

Mewn perthynas â’r argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn archwilio darpariaethau ar gyfer plant wedi’u mabwysiadu ac yn llunio cynllun i fynd i’r afael â diffygion sy’n cymell cydweithio. Mae Uned Cyflenwi Cymorth y GIG wrthi’n cynnal adolygiad o CAMHS ar hyn o bryd fel rhan o ofynion cydymffurfio â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Bydd adroddiad ar y casgliadau a’r argymhellion allweddol yn cael ei gyhoeddi ddechrau 2013. Bydd yr adolygiad yn ystyried, ymhlith pethau eraill, y broses rheoli atgyfeiriadau; cyfarfodydd timau amlddisgyblaeth; a chydymffurfiaeth â Chynllunio Gofal a Thriniaeth (sy’n meithrin agwedd gyfannol amlasiantaeth tuag at anghenion yr unigolyn). Mae’r Cynllun Gofal a Thriniaeth yn ystyried perthynas ag eraill yn benodol yn ogystal â’r angen am ymyriadau therapiwtig. Er nad ydynt wedi’u cyfyngu i fabwysiadu’n benodol, bydd yr holl feysydd hyn yn gwella gwasanaethau i blant wedi’u mabwysiadu. Bydd gweithredu’r Mesur yn ystod 2012 hefyd yn arwain at gyflwyno Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol o fis Hydref 2012 ymlaen – sydd ar gael i bobl o bob oed diolch i gytundebau cynllun ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. Mae dyletswydd arnom i adolygu’r Mesur ac rydym wrthi’n adolygu ein cynigion ar hyn o bryd. Rhaid adrodd amdanynt o fewn pedair blynedd i’w gweithredu.

 

Nod ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, ein Strategaeth Iechyd Meddwl newydd i bawb o bob oed yw sicrhau bod asiantaethau yn cydweithio fel bod cysylltiadau cryf rhwng y gweithluoedd gofal cymdeithasol ac iechyd a bod dealltwriaeth gyffredin o faterion iechyd meddwl sy’n cyfrannu at ymagwedd gyffredin a chyson. Mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol ac asiantaethau partner eraill sicrhau bod trefniadau cydweithio yn darparu fframwaith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl cyfannol. Hefyd, mae Grŵp Cyfeirio Arbenigol Cenedlaethol CAMHS, sy’n troi polisïau a strategaethau yn welliannau ymarferol a gweithredol wrth ddarparu gwasanaethau CAMHS, wrthi’n datblygu canllawiau i gynllunwyr gwasanaethau ar rôl gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a’r glasoed. Mae’n cynnwys canllawiau ar gyflenwi gwasanaethau i blant mewn amgylchiadau arbennig, gan gynnwys plant wedi’u mabwysiadu. Mae Byrddau Iechyd Lleol hefyd wrthi’n ystyried trefniadau cynllunio a chomisiynu newydd i CAMHS er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau ymhellach i’w grwpiau cleientiaid craidd a grwpiau eraill. Bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn cyhoeddi’r trefniadau newydd cyn bo hir, a bydd Grŵp Sicrhau Cyflawni Amlasiantaeth CAMHS yn mesur effeithiolrwydd y rhwydweithiau arfaethedig newydd hyn. Cafodd y Grŵp hwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo gwelliannau a chysondeb yn narpariaeth CAMHS.

 

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu Set Ddata Graidd Iechyd Meddwl ofynnol a fydd yn casglu data fel y gallwn fesur effaith a chanlyniadau ein Strategaeth. Bydd yn gwella ymwybyddiaeth o amrywiaeth anghenion iechyd meddwl ac yn sicrhau bod anghenion gwahanol wedi’u cynnwys wrth gynllunio gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol yn y dyfodol. Bydd yn ein galluogi i ddeall anghenion plant a phobl ifanc. Byddwn yn gofyn i’r Grŵp sy’n cael ei sefydlu i bwyso a mesur y set ddata, i ystyried a ddylid casglu data mewn perthynas ag anghenion a gofynion plant wedi’u mabwysiadu, os yw’n briodol.

 

Mae gwella mynediad i therapïau a gwasanaethau seicolegol yn cael ei benderfynu ar lefel leol, a’i flaenoriaethu yn ôl anghenion lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd a manteision therapïau seicolegol fel dewis o driniaeth, ac mae adolygu’r cyfleoedd i gael triniaeth therapi yn ymrwymiad iechyd meddwl allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu. Rydym wedi comisiynu astudiaeth o’r ddarpariaeth gyfredol ledled Cymru. Bydd yr adolygiad yn llywio ein dull o gynyddu mynediad i therapïau seicolegol, ac rydym yn disgwyl gweld y casgliadau yn fuan yn y flwyddyn newydd. Rydym hefyd wedi cyflwyno canllawiau i Fyrddau Iechyd Lleol er mwyn amlinellu’r camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd i wella mynediad. Mae’r canllawiau hyn yn cyflwyno athroniaeth y gwasanaeth a set o safonau ansawdd ar gyfer ymyriadau seicolegol.

 

Gyda’i gilydd, bydd y datblygiadau hyn yn gwella’r gwasanaethau a ddarperir gan CAMHS i blant wedi’u mabwysiadu, a byddwn yn gofyn i’r Grŵp Sichrau Cyflenwi adolygu’r mater hwn a chyflwyno adroddiadau achlysurol ar wasanaethau i blant wedi’u mabwysiadu a phlant eraill mewn amgylchiadau arbennig, fel rhan o ofynion adrodd y Strategaeth newydd.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 


 

Argymhelliad 12 – Cod Derbyn i Ysgolion

 

Dylid rhoi’r un flaenoriaeth i blant wedi’u mabwysiadu ag i blant sy’n derbyn gofal yn y Cod Derbyn i Ysgolion.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor. Dechreuodd ymgynghoriad ar y Cod Derbyn i Ysgolion diwygiedig ar 28 Medi 2011 a bydd yn para tan 4 Ionawr 2013. Mae’r cod diwygiedig wedi newid y cyfeiriad at ‘blant sy’n derbyn gofal’ i gynnwys ‘plant a arferai dderbyn gofal’ sy’n golygu bod gan blant wedi’u mabwysiadu yr un statws â phlant sy’n derbyn gofal. Os bydd y geiriad hwn yn cael ei gadw ar ôl ymgynghoriad, byddwn yn newid y rheoliadau i adlewyrchu’r newid.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 


 

Argymhelliad 13 – Cylch Gwaith Cydgysylltwyr Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal

 

Dylai Llywodraeth Cymru ehangu cylch gwaith Cydgysylltwyr Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal i gynnwys plant wedi’u mabwysiadu.

 

 

Ymateb: Gwrthod

 

Rwy’n gwrthod yr argymhelliad hwn. Wrth gyflawni’u dyletswyddau dan Ddeddf Plant 1989 a 2004, mae’n ofynnol i awdurdodau cyfrifol glustnodi ymarferydd arbenigol (Cydgysylltydd Addysg AALl) er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt Gynllun Addysg Bersonol effeithiol o safon uchel; cydlynu cynllun addysg y plentyn a mynd i’r afael ag anghenion addysg plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal yn ardal yr awdurdod lleol. Ar hyn o bryd mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 yn egluro’r cyfrifoldeb i roi cymorth i blant wedi’u mabwysiadu, sy’n berthnasol i wasananaethau cymdeithasol i blant yn ogystal ag addysg ac iechyd. Dylai’r holl sefydliadau perthnasol ymateb i anghenion gydol oes plant sydd wedi’u mabwysiadu. Dylid darparu hyfforddiant amlasiantaeth i’r holl asiantaethau sydd â chyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau i blant wedi’u mabwysiadu.

 

Mae gan deuluoedd sy’n mabwysiadu hawl parhaus i gael asesiad o’u hanghenion cymorth pryd bynnag y maent yn teimlo y byddai hynny’n ddefnyddiol. Fodd bynnag, mae angen eglurdeb ynghylch pa gymorth priodol y gall fod ei angen ar blentyn wedi’i fabwysiadu, o gymharu ag anghenion plentyn sy’n derbyn gofal nad oes ganddo’r un gefnogaeth gan rieni â phlant eraill. Er bod gofalwyr maeth yn gwneud eu gorau glas i ddarparu cefnogaeth rhieni, rhywbeth ar sail dros neu gynllun sefydlogrwydd hirdymor yw hyn. Mae’n bwysig cydnabod bod plant wedi’u mabwysiadu yn mwynhau sefydlogrwydd gyda’u rhieni mabwysiedig, ac na fyddant o bosibl am barhau i gael eu hystyried yn blant sy’n derbyn gofal. Mae hefyd yn hollbwysig normaleiddio bywyd plant wedi’u mabwysiadu fel nad ydynt yn teimlo’n wahanol i’w cyfoedion. Gall plant wedi’u mabwysiadu fanteisio ar yr un math o gymorth sy’n ychwanegol at neu’n wahanol i’r un a gyflenwir fel rhan o’r ddarpariaeth gyffredinol o wasanaethau neu gwricwlwm ysgol arferol. Er hynny, cydnbabyddir bod gan ymarferwyr a therapyddion gyfraniad allweddol i’w wneud o ran cynorthwyo plant sy’n derbyn gofal a phlant wedi’u mabwysiadu a all fod angen cymorth therapiwtig parhaus i’w helpu i ymdopi â thrawma y maent wedi’i ddioddef yn eu bywydau.

 

Goblygiadau ariannol: Dim.

 

 

Gweithredu Manwl: Addysg

- dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y newidiadau sydd yn yr arfaeth i’r fframwaith asesu a chynllunio darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig gynnwys cyfeiriad penodol at anghenion posibl plant wedi’u mabwysiadu.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu proses asesu a chynllunio integredig i blant a phobl ifanc a nodwyd fel rhai ag anghenion ychwanegol, yn lle’r fframwaith darpariaeth ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig.

Mae’r term ‘anghenion ychwanegol’ i fod i gwmpasu plant a phobl ifanc sydd angen cymorth sy’n ychwanegol at neu’n wahanol i’r un a gyflenwir fel rhan o ddarpariaeth gyffredinol o wasanaethau neu gwricwlwm ysgol arferol. Gall plant wedi’u mabwysiadu gael eu cynnwys fel grŵp o blant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol. Bydd y modd mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio ar blant wedi’u mabwysiadu, fodd bynnag, yn dibynnu ar eu haghenion unigol a aseswyd.

Y bwriad yw disodli’r datganiadau AAA gyda Chynlluniau Datblygu Unigol, gyda fformat safonol ar gyfer Cymru gyfan. Bydd y Cynllun Datblygu Unigol yn cael ei ddatblygu o ddull hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr ungolyn, trosolwg o anghenion y plentyn neu’r person ifanc a’r camau y cytunwyd arnynt i fynd i’r afael â nhw.

Un o egwyddorion allweddol y Diwygiadau yw y byddai gan blant a phobl ifanc sydd â datganiad AAA ar hyn o bryd, hawl o hyd i gael Cynllun Datblygu Unigol integredig a allai fod yn destun apêl i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Er mai fformat unigol fydd i’r cynllun, byddai’r Cynlluniau Datblygu Unigol yn ‘diogelu hawl’.  Felly, byddai angen i blentyn neu berson ifanc 0-18 oed a gafodd ddiagnosis o anghenion difrifol a/neu gymhleth, gael Cynllun Datblygu Unigol sy’n diogelu hawl. Byddai angen i Banel Cymorth amlasiantaeth asesu a chytuno ar becyn o wasanaethau i’w darparu, o blith gwasanaethau addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Rydym hefyd yn bwriadu cael gwared ar y systemau statudol presennol o derfynau amser ac apeliadau sy’n ymwneud â ‘datganiadau AAA’ a chyflwyno system symlach o ymdrin ag anghytundebau a chwynion a therfynau amser byrrach ar gyfer y prosesau Cynllun Datblygu Unigol i rai sydd â’r anghenion ychwanegol mwyaf.

Daeth yr ymgynghoriad cyn-deddfu ar gynigion i ddiwygio’r fframwaith deddfwriaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig i ben ar 19 Hydref 2012. Cafwyd ymatebion gan amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys grwpiau proffesiynol a darparwyr gwasanaethau o’r sectorau gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, y trydydd sector yn ogystal â rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc. Mae Swyddogion wrthi’n ystyried yr ymatebion hyn a’r materion a godwyd mewn tri digwyddiad ymgynghori a grwpiau ffocws teuluoedd a drefnwyd gan SNAP Cymru a mudiad Plant yng Nghymru ledled y wlad, a bydd dogfen ymateb i’r ymgynghoriad yn cael ei chyhoeddi’n gynnar yn y flwyddyn newydd.

Bydd penderfyniad y Gweinidog Addysg a Sgiliau i beidio â chynnwys diwygiadau AAA yn rhan o Fil Addysg (Cymru) 2013 yn rhoi cyfle i ni drafod goblygiadau’r cynigion yn fanylach â phartneriaid allweddol ac er mwyn cael rhagor o adborth ac ymgynghori.

- dylai hyfforddiant am anhwylderau ymlyniad ac effeithiau trawma cynnar ar blant yn y system ysgolion gael ei ymgorffori yng nghymwysterau hyfforddiant cychwynnol

athrawon, yn ogystal â bod yn rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon, cwnselwyr ysgol a staff arall mewn ysgolion.

Mae disgwyl i athrawon dan hyfforddiant fodloni gofynion Statws Athro Cymwysedig (SAC), cyfres o ddatganiadau canlyniad sy’n egluro’r hyn y dylai hyfforddeion ei wybod a’i ddeall, a beth ddylent allu ei wneud erbyn diwedd cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon neu raglen seiliedig ar gyflogaeth i ennill statws SAC. Disgwylir i bob hyfforddai ddangos hefyd ei fod yn gwybod ac yn deall y gofynion a’r hawliau a nodir yn natganiad “Cynnwys pob Dysgwr” sy’n rhan o drefn a fframwaith bob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, a’u bod yn gweithio o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r Safonau SAC yn cynnwys safonau cyffredinol y mae’n rhaid i athrawon dan hyfforddiant eu bodloni, ac maent yn gysylltiedig â gofynion statudol a chyhoeddiadau eraill fel bo’n briodol. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r holl hyfforddeion ddangos eu bod yn deall anghenion dysgu amrywiol y dysgwyr ac ymdrechu i roi’r addysg orau bosibl iddynt er mwyn gwneud y gorau o’u potensial, beth bynnag yw eu dyheadau unigol, amgylchiadau personol neu gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac ethnig. Rhaid i hyfforddeion hefyd allu dangos eu bod yn creu amgylchedd dysgu pwrpasol lle gwerthfawrogir amrywiaeth a lle mae’r dysgwyr yn teimlo’n ddiogel a hyderus.

Hefyd, rhaid i hyfforddeion ddangos proffesiynoldeb er mwyn sicrhau bod y berthynas â dysgwyr yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth rhwng y naill a’r llall, a chydnabod y bydd hyn yn hybu eu potensial dysgu i’r eithaf. Disgwyliwn i hyfforddeion ddangos tystiolaeth o’r safon hon drwy ddangos gwybodaeth am a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a meysydd penodol gan gynnwys materion sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal, a materion sy’n effeithio ar hawliau a hawliadau pob dysgwr, yn unol â’r Confensiwn a pholisiau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae’r themâu hyn yn llifo drwy’r Safonau Athrawon wrth eu Gwaith hefyd, safonau mae pob athro’n gorfod eu bodloni ar ôl cymhwyso a’u cynnal gydol eu gyrfaoedd. Cyfeirir atynt yn y safonau ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu Lefel Uwch hefyd.

Mae hyfforddiant i staff ysgol ar gyfer ymdrin â phlant sydd wedi dioddef trawma a all fod ag anawsterau ymlyniad hefyd wedi’i gynnwys fel rhan o rôl a gofynion staff dynodedig mewn ysgolion â chyfrifoldeb am blant sy’n derbyn gofal.

Disgwylir i’r holl gwnselwyr sy’n gweithio fel rhan o Strategaeth Cwnsela mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru ddilyn cod moesegol sy’n seiliedig ar egwyddorion arweiniol yn unol â’n Pecyn Cymorth Cwnsela mewn Ysgol. Mae cyfrifoldeb personol ar gwnselwyr ysgol i sicrhau eu bod yn gweithio’n foesegol ac yn gymwys, a’u bod yn bodloni’r gofynion proffesiynol ar gyfer eu rôl yn yr ysgol. Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod eu hyfforddiant cychwynnol, goruchwyliaeth parhaus, datblygiad proffesiynol parhaus a hunanreolaeth (yn yr ysgol a thu allan iddi) yn briodol er mwyn cynnig y gwasanaethau gorau posibl i bobl ifanc.

- dylai’r Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru o fis Medi 2012, gynnwys, ym mlwyddyn academaidd 2013/14, ffocws ar faterion ymlyniad fel rhan o’r addysgu craidd ynghylch anghenion dysgu ychwanegol

 

O fis Medi 2012 ymlaen, mae gan Athrawon Newydd Gymhwyso sy’n ymarfer gyfle i ddilyn cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol law yn llaw â’u cyfnod Sefydlu a’u Datblygiad Proffesiynol Cynnar.

Bydd y radd Meistr yn cwmpasu meysydd proffesiynol allweddol a nodwyd fel blaenoriaethau i athrawon newydd gymhwyso: rheoli ymddygiad, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant, ymarfer myfyriol ac ymholi gweithredol. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad, dysgu ac arweinyddiaeth plant a phobl ifanc.

- dylai Llywodraeth Cymru weithio ar y cyd â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i ddatblygu deunyddiau ysgrifenedig i rieni sy’n mabwysiadu eu rhoi i staff ysgol yng Nghymru, yn tynnu sylw at anghenion neilltuol plant wedi’u

mabwysiadu.

Bydd Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn ymgysylltu ag Adoption UK er mwyn archwilio’r syniad o ddatblygu deunyddiau ysgrifenedig y gall rhieni sy’n mabwysiadu eu rhoi i staff ysgol sy’n tynnu sylw at anghenion penodol plant wedi’u mabwysiadu.

 

 


Argymhelliad 14 – Cymorth rhianta  

 

Dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ar y cyd â darparwyr allweddol, fod yn gyfrifol am ddatblygu ystod eang o raglenni cymorth rhianta sydd: yn diwallu anghenion amrywiol teuluoedd ar draws y sbectrwm; yn canolbwyntio ar fodelau seiliedig ar dystiolaeth; ac yn hyrwyddo cyfleoedd i fabwysiadwyr gael rhan yn cynllunio a chyflwyno cynnwys.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb a roddwyd i argymhelliad 4.

 

Yn fwy eang, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi teuluoedd ac yn cydnabod bod perthynas gadarnhaol rhwng unrhyw riant a’i blentyn yn un pwysig a fydd yn helpu i lywio canlyniadau cadarnhaol i blant.

 

Darperir amrywiaeth eang o gymorth i deuluoedd o bob math drwy rai o’n rhaglenni blaenllaw gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf, Cychwyn Cadarn a’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Cynigir cymorth i rieni mewn grwpiau, neu un i un, gyda chymysgedd o gymorth ffurfiol ac anffurfiol yn dibynnu ar anghenion amrywiol teuluoedd.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu llawer o sefydliadau gwirfoddol Cymru gyfan sy’n darparu gwasanaethau sy’n cyfrannu at gyflenwi polisïau plant, pobl ifanc  a theuluoedd Llywodraeth Cymru.

 

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ystyried anghenion teuluoedd a darparu cymorth rhianta priodol. Mae’r ddarpariaeth gyfredol yn ymdrin â phob math o ofynion amrywiol a darperir cymorth wedi’i deilwra ar sail anghenion a nodwyd.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

Gweithredu Manwl:

- dylai’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gynorthwyo asiantaethau mabwysiadu a mudiadau gwirfoddol i ddatblygu grwpiau lleol cymorth gan gymheiriaid a datblygu grwpiau cenedlaethol lle nodwyd bod angen, er enghraifft i

fabwysiadwyr sengl.

Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb a roddwyd i argymhelliad 4.

Gweithredu Manwl: Tarfu ar drefniant mabwysiadu

- dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Asiantaethau Mabwysiadu yng Nghymru i adolygu’r ffordd y caiff data ei gofnodi ar hyn o bryd a dylai sefydlu mecanwaith tracio a chofnodi newydd ar gyfer y cyfraddau tarfu a theuluoedd yn chwalu yng nghyswllt plant a leolir i’w mabwysiadu o’r system gofal.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn cyflwyno’r cyfeiriad ar gyfer gweddnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn dechrau trwy ystyried plant sy’n derbyn gofal eleni, gan fod hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni wirio ein dulliau o ddatblygu’r fframwaith yn 2013-2014. Rydym wrthi’n ymgynghori ar gysyniadau lefel uchel y fframwaith er mwyn sicrhau bod hynny’n iawn cyn datblygu’r manylion dros y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu ymchwil i weld beth yw’r rhesymau am darfu ar drefniant mabwysiadu, cyn cyhoeddi adroddiad y flwyddyn nesaf. Byddwn hefyd yn cyflwyno Fframwaith Perfformiad Safonedig ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, a gyflwynir fesul cam ar draws asiantaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn i’w weld yn ddiweddarach yn fy ymateb. Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb a roddwyd i argymhelliad 16 a’r camau gweithredu manwl dilynol. 

Gweithredu Manwl: Cymorth ariannol

- dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i’r Gweinidogion perthnasol ar lefel y DU, yn galw am adolygiad o’r systemau treth a budd-dal i sicrhau bod teuluoedd sy’n

mabwysiadu yn cael cymorth ac anogaeth ac yn benodol fod cydraddoldeb rhwng tâl mamolaeth a thâl mabwysiadu

- dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ynghylch safoni lwfansau mabwysiadu ariannol.

Cyfeiriaf y Pwyllgor at yr ymateb a roddwyd i argymhelliad 9. Dylai’r broses o ddarparu cymorth ddiwallu anghenion asesedig y teuluoedd sy’n mabwysiadu yn hytrach na darparu cymorth safonedig i bawb. Fel y nododd eich Ymchwiliad, nid yw pob teulu angen neu eisiau cymorth, a rhaid parchu preifatrwydd teuluoedd.


 

Argymhelliad 15 Materion gweithlu

 

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chyngor Gofal Cymru a CLlLC i adolygu’r ‘strategaeth gweithlu’ gwaith cymdeithasol mewn perthynas â mabwysiadu, yn benodol gan nodi bylchau yn yr wybodaeth am ddatblygiad plant a theori ymlyniad a mynd i’r afael â’r bylchau hynny. Dylai’r adolygiad edrych ar anghenion staff yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac, yr un mor bwysig, ar anghenion gweithwyr cymdeithasol mewn awdurdodau lleol sy’n gwneud gwaith asesu sefydlogrwydd a chynllunio gyda phlant. Dylai fod gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol rôl arweiniol yn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu o safbwynt materion mabwysiadu.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae’r gwaith o ddatblygu’r gweithlu eisoes wedi dechrau er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.  Mae’r Cyngor Gofal wrthi’n casglu gwybodaeth ar addysgu mewn perthynas â datblygiad plant fel rhan o’r rhaglen gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn cael ei asesu er mwyn penderfynu a oes angen canllawiau pellach ar raglenni yn y meysydd hyn, a beth ddylai’r canllawiau ei gynnwys.

 

Goblygiadau ariannol:  Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredu Manwl:

- dylai Llywodraeth Cymru a Chyngor Gofal Cymru weithio gyda phrifysgolion sy’n darparu rhaglenni gwaith cymdeithasol cymhwyso ac ôl-gymhwyso i nodi ac, os oes

angen, i fynd i’r afael â bylchau ym maes mabwysiadu yn cynnwys datblygiad plant a theori ymlyniad, y gyfraith, polisi ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth

Mae’r Cyngor Gofal yn gweithredu Fframwaith Dysgu ac Addysg Proffesiynol Parhaus (DAPP) ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Y nod yw mynd i’r afael ag anghenion gweithwyr cymdeithasol yn gyffredinol yng Nghymru yn ogystal ag anghenion penodol gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn meysydd neu wasanaethau arbenigol. Felly, bydd angen trafod sut gall y fframwaith DAPP ddiwallu anghenion gweithwyr cymdeithasol mewn Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn ogystal â gwella cymhwysedd gweithwyr cymdeithasol awdurdod lleol yn gyffredinol yn y meysydd hyn. 

 

 


 

Argymhelliad 16 – Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Dylai Gweithgor Arbenigol Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar y model ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar sail argymhellion y Pwyllgor. Dylai’r Dirprwy Weinidog ddychwelyd a briffio’r Pwyllgor ynglŷn â manylion y model, unwaith y bydd y newidiadau i’w chynigion wedi cael eu datblygu ymhellach.

 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Cyfeiriaf y pwyllgor at yr ymateb a roddwyd i argymhelliad 1. Rwy’n barod i ddychwelyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd, gan fod cryn dipyn o gynnydd wedi’i wneud ers fy sesiwn dystiolaeth ddiwethaf ym mis Gorffennaf. Rwy’n siŵr y byddai llywodraeth leol yn hoffi’r cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am eu cynigion fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu ar y Cyd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Goblygiadau ariannol

Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

 

Gweithredu Manwl:

- dylai Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar fodel rheoli ac atebolrwydd i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, wedi’i seilio ar y fframwaith a argymhellwyd gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc (fel yr amlinellwyd ym mharagraff 357 o’r

adroddiad hwn), a’i symud ymlaen.

- dylai barn rhieni sy’n mabwysiadu ddylanwadu ar ddatblygiad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod systemau ystyrlon wedi cael eu sefydlu er mwyn i fabwysiadwyr gymryd rhan yn y gwaith

parhaus o ddatblygu a chyflenwi Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

– dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o symud gwaith ynglŷn â mabwysiadu gan lysrieni ymlaen, yng nghyd-destun creu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

Gweithredu Manwl: Casglu data a monitro

- dylai fod gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol rôl benodol yn casglu, monitro a chyhoeddi ystod lawn o ddata mabwysiadu (yn cynnwys data ansoddol lle mae’n berthnasol) er mwyn dylanwadu ar gyflenwi gwasanaethau a nodi tueddiadau gan ganolbwyntio ar wella’r canlyniadau i blant

Yn y flwyddyn newydd, byddaf yn cyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Bil yn cynnwys pwerau newydd a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol (asiantaethau mabwysiadu) i ddod at ei gilydd i ffurfio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghysondebau wrth ddarparu gwasanaeth ar hyn o bryd.

I gyflawni hyn, rydym angen cyflwyno newidiadau sylweddol yn y modd y darperir gwasanaethau mabwysiadu drwy sefydlu Gwasanaeth Cenedlaethol, sydd â’r grym i ddarparu gwasanaethau ar hyd a lled Cymru.  Mae’r pwyllgor yn cydnabod ac yn derbyn mai ar lefel ranbarthol yw’r ffordd orau o gyflwyno rhai gwasanaethau. Rwy’n cefnogi’r datganiad hwn, oherwydd nid lleoliad y gwasanaeth sy’n allweddol i’r gwasanaeth, ond yn hytrach cyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer recriwtio, hyfforddi a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr. Hybu rhagoriaeth a llywio gwelliannau parhaus fydd ffocws y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Byddwn hefyd yn cyflwyno Fframwaith Perfformiad Safonedig ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu fesul tipyn ar draws asiantaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Os caiff ei weithredu’n effeithiol, bydd y Fframwaith yn creu system fwy effeithiol a thryloyw sy’n paru’r cyflenwad o ddarpar fabwysiadwyr yn fwy effeithiol ag anghenion y plant sy’n llywio’r galw am fabwysiadu. Bydd defnyddio fframwaith Cymru gyfan hefyd yn fodd o sicrhau rhagor o wybodaeth a chraffu’n fanylach ar lefel y gwasanaethau a gynigir. Bydd y fframwaith yn galluogi asiantaethau mabwysiadu i ganolbwyntio’n benodol ar y plentyn a’r mabwysiadwyr, ac y bydd modd ei gyfiawnhau wrth iddo sicrhau bod cymaint o ffocws â phosibl ar leoliad diogel ac effeithiol i’r plentyn gyda theulu cariadus a sefydlog am oes. 

 



[1] Deddf Plant 1989, Deddf Plant a Mabwysiadu 2002, Deddf Ymadael â Gofal 2002, Rheoliadau Gofal Maeth 2003 a Rheoliadau Asiantaeth Fabwysiadu 2005

[2] Adran 34 o Ddeddf Plant 1989

[3] Adran 26 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2002 – gall cais am i orchymyn gael ei wneud dan yr adran hon gael ei wneud gan y plentyn, yr asiantaeth, unrhyw riant, gwarcheidwad neu berthynas unrhyw berson mewn gwirionedd a oedd â darpariaeth o’i blaid i gael cyswllt o dan Ddeddf 1989, y daeth ei heffaith i ben unwaith yr awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli’r plentyn i’w fabwysiadu.

[4] http://cymru.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/fostercareallowances/?skip=1&lang=cy