At: Y Pwyllgor Busnes
Oddi wrth: Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes
Dyddiad: 18 Mawrth 2013
Diwygiadau i Reolau Sefydlog 26 a 26A: Y Cyfnod Ailystyried
Diben
1. Gwahoddir y Pwyllgor Busnes i ystyried cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26 a 26A ynghylch y Cyfnod Ailystyried ar gyfer Deddfau a Deddfau Preifat y Cynulliad.
Cefndir
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
2. Nodir yn Adran 111(6) o’r Ddeddf:
The standing orders must provide for an opportunity for the reconsideration of a Bill after its passing if (and only if) —
(a) the Supreme Court decides on a reference made in relation to the Bill under section 112 that the Bill or any provision of it would not be within the Assembly’s legislative competence,
(b) a reference made in relation to the Bill under section 112 is withdrawn following a request for withdrawal of the reference under section 113(2)(b), or
(c) an order is made in relation to the Bill under section 114.
Y Rheolau Sefydlog
3. Mae Rheolau Sefydlog 26.52 i 26.56 yn gwneud y ddarpariaeth berthnasol ynghylch ailystyried Bil ar ôl ei basio. Mae’r un ddarpariaeth i’w gweld yn Rheolau Sefydlog 26A.90 i 26A.95 mewn perthynas â Biliau Preifat.
4. Amlygodd adolygiad o’r gweithdrefnau hyn ar ddiwedd 2012, a gynhaliwyd oherwydd bod disgwyl y gallai fod Cyfnod Ailystyried mewn perthynas â’r Bil Is-ddeddfau, rai bylchau yn y Rheolau Sefydlog yr oedd angen mynd i’r afael â hwy.
Cynigion ar gyfer newid y drefn
5. Cynigir diwygio’r Rheolau Sefydlog perthnasol i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd. Bydd y newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod cyfres gliriach a mwy cynhwysfawr o weithdrefnau ar gyfer y Cyfnod Ailystyried.
6. Mae’r cynigion fel y’u nodir yn Atodiadau A a B wedi’u cynllunio i egluro’r hyn a ganlyn:
· bod rhaid i gynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried Bil gael ei dderbyn cyn i’r Cyfnod Ailystyried ddechrau, yn hytrach na’i fod yn cael ei drafod ar yr un diwrnod â gwelliannau i’r Bil. Nid yw hyn yn glir ar hyn o bryd;
· bod rhaid i 15 diwrnod o leiaf fynd heibio rhwng dechrau’r Cyfnod Ailystyried (sef pan fydd y Cynulliad yn derbyn y cynnig y dylai’r Bil gael ei ailystyried) a chyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried gwelliannau. Mae hyn yn cyd-fynd â’r darpariaethau ar gyfer Cyfnod 2 a Chyfnod 3;
· bod y cynnig y dylai’r Bil gael ei basio yn cael ei wneud heb rybudd, fel yn y Cyfnod Terfynol.
Cam i’w gymryd
7. Gwahoddir y Rheolwyr Busnes i ystyried y Rheolau Sefydlog drafft arfaethedig yn Atodiad B a chytuno arnynt mewn egwyddor.
Atodiad A
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad |
|
Ailystyried Biliau a Basiwyd |
|
26.52 Ar ôl i’r Bil gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo: (i) os oes cwestiwn wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o’r Ddeddf; (ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o’r Ddeddf) wedi’i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw’r naill gyfeiriad
na’r llall wedi’i benderfynu neu wedi’i waredu
fel arall. |
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26.53 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil: (i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu na fyddai’r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu
(ii) os gwneir gorchymyn mewn
perthynas â’r Bil o dan adran 114 o’r
Ddeddf. |
Cadw’r Rheol Sefydlog hon
|
26.53A Mae’r Cyfnod Ailystyried yn
dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i gynnig a wneir o
dan Reol Sefydlog 26.52 neu 26.53 gael ei dderbyn gan y
Cynulliad. |
Cynnwys Rheol Sefydlog newydd
Mae’r Rheol Sefydlog newydd hon yn addasiad o Reol Sefydlog 26.29 ar gyfer trafodion Cyfnod 3. Mae’n ei gwneud yn glir mai derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52 neu 26.53 yw’r man cychwyn ar gyfer y Cyfnod Ailystyried a chyflwyno gwelliannau. |
26.53B Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf
fynd heibio rhwng dechrau’r Cyfnod Ailystyried a dyddiad
cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod
Ailystyried. |
Cynnwys Rheol Sefydlog newydd
Mae’r Rheol Sefydlog hon yn addasiad o Reol Sefydlog 26.30 ar gyfer trafodion Cyfnod 3. Mae cyfnod o 15 diwrnod yn gymwys rhwng Cyfnodau 2 a 3 a chynigir y dylid cael yr un cyfnod yn achos y Cyfnod Ailystyried.
Yn ymarferol, mae’r cyfnod o 15 diwrnod yn peri bod o leiaf 10 diwrnod rhwng penderfyniad y Cynulliad i ailystyried Bil a’r dyddiad cau i gyflwyno gwelliannau ar gyfer y Cyfnod Ailystyried. Mae’r Aelod sy’n Gyfrifol yn rhydd i ymestyn y cyfnod hwn drwy drefnu i drafodion y Cyfnod Ailystyried gael eu cynnal ar ôl cyfnod hwy na’r cyfnod byrraf gofynnol.
|
26.54 Rhaid i’r
trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad
mewn cyfarfod llawn. |
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26.55 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi’u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy’n destun y canlynol: (i) y cyfeiriad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad rhagarweiniol; (ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu (iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o’r Ddeddf.
|
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26.56 Yn syth ar ôl cwblhau trafodion y Cyfnod Ailystyried, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.
|
Diwygio’r Rheol Sefydlog hon
Mae’r diwygiad yn peri i’r Rheol Sefydlog hon gyd-fynd â’r Rheol Sefydlog ar gyfer Cyfnod 4: y Cyfnod Terfynol, ac mae’n dileu’r angen i gynnig ffurfiol y dylai’r Bil gael ei basio gael ei gyflwyno bum diwrnod o flaen llaw. |
RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad |
|
Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd |
|
26A.90 Ar ôl i’r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo: (i) os oes cwestiwn ynglŷn â’r Bil Preifat wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o’r Ddeddf; (ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o’r Ddeddf) wedi’i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw’r naill gyfeiriad
na’r llall wedi’i benderfynu neu wedi’i waredu
fel arall. |
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26A.91 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat: (i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu na fyddai’r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu
(ii) os gwneir gorchymyn mewn
perthynas â’r Bil Preifat o dan adran 114 o’r
Ddeddf. |
Cadw’r Rheol Sefydlog hon
|
26A.91A Mae’r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar
y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i gynnig a wneir o dan Reol
Sefydlog 26A.90 neu 26A.91 gael ei dderbyn gan y Cynulliad. |
Cynnwys Rheol Sefydlog newydd
Mae’r Rheol Sefydlog newydd hon yn addasiad o Reol Sefydlog 26.29 ar gyfer trafodion Cyfnod 3. Mae’n ei gwneud yn glir mai derbyn cynnig o dan Reol Sefydlog 26.52 neu 26.53 yw’r man cychwyn ar gyfer y Cyfnod Ailystyried a chyflwyno gwelliannau. |
26A.91B Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio
rhwng dechrau’r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf
y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod
Ailystyried. |
Cynnwys Rheol Sefydlog newydd
Mae’r Rheol Sefydlog hon yn addasiad o Reol Sefydlog 26.30 ar gyfer trafodion Cyfnod 3. Mae cyfnod o 15 diwrnod yn gymwys rhwng Cyfnodau 2 a 3 a chynigir y dylid cael yr un cyfnod yn achos y Cyfnod Ailystyried.
Yn ymarferol, mae’r cyfnod o 15 diwrnod yn peri bod o leiaf 10 diwrnod rhwng penderfyniad y Cynulliad i ailystyried Bil a’r dyddiad cau i gyflwyno gwelliannau ar gyfer y Cyfnod Ailystyried. Mae’r Aelod sy’n Gyfrifol yn rhydd i ymestyn y cyfnod hwn drwy drefnu i drafodion y Cyfnod Ailystyried gael eu cynnal ar ôl cyfnod hwy na’r cyfnod byrraf gofynnol. |
26A.92 Rhaid i’r trafodion yn y
Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod
llawn. |
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26A.93 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.100, ac ym marn y Llywydd, wedi’u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy’n destun y canlynol: (i) y cyfeiriad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad rhagarweiniol; (ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu (iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o’r Ddeddf.
|
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26A.94 Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae’r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat.
|
Cadw’r Rheol Sefydlog hon |
26A.95 Yn syth ar ôl cwblhau trafodion y Cyfnod Ailystyried, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil Preifat a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.
|
Diwygio’r Rheol Sefydlog hon
Mae’r diwygiad yn peri i’r Rheol Sefydlog hon gyd-fynd â’r Rheol Sefydlog ar gyfer Cyfnod 4: y Cyfnod Terfynol, ac mae’n dileu’r angen i gynnig ffurfiol y dylai’r Bil gael ei basio gael ei gyflwyno bum diwrnod o flaen llaw.
|
Atodiad B
RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad
Ailystyried Biliau a Basiwyd
26.52 Ar ôl i’r Bil gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:
(i) os oes cwestiwn wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o’r Ddeddf;
(ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o’r Ddeddf) wedi’i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw’r naill gyfeiriad na’r llall wedi’i benderfynu neu wedi’i waredu fel arall.
26.53 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil:
(i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu na fyddai’r Bil neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu
(ii) os gwneir gorchymyn mewn perthynas â’r Bil o dan adran 114 o’r Ddeddf.
26.53A Mae’r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i gynnig a wneir o dan Reol Sefydlog 26.52 neu 26.53 gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26.53B Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau’r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried.
26.54 Rhaid i’r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.
26.55 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26.61, ac ym marn y Llywydd, wedi’u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy’n destun y canlynol:
(i) y cyfeiriad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad rhagarweiniol;
(ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu
(iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o’r Ddeddf.
26.56 Yn syth ar ôl cwblhau trafodion y Cyfnod Ailystyried, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.
RHEOL SEFYDLOG 26A – Deddfau Preifat y Cynulliad
Ailystyried Biliau Preifat a Basiwyd
26A.90 Ar ôl i’r Bil Preifat gael ei basio, caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat, neu unrhyw ddarpariaeth ynddo:
(i) os oes cwestiwn ynglŷn â’r Bil Preifat wedi’i gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o’r Ddeddf;
(ii) os oes cyfeiriad i gael dyfarniad rhagarweiniol (o fewn ystyr adran 113(1)(b) o’r Ddeddf) wedi’i wneud gan y Goruchaf Lys mewn cysylltiad â’r cyfeiriad hwnnw; a
(iii) os nad yw’r naill gyfeiriad na’r llall wedi’i benderfynu neu wedi’i waredu fel arall.
26A.91 Caiff unrhyw Aelod wneud cynnig y dylai’r Cynulliad ailystyried y Bil Preifat:
(i) os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu na fyddai’r Bil Preifat neu unrhyw ddarpariaeth ynddo o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu
(ii) os gwneir gorchymyn mewn perthynas â’r Bil Preifat o dan adran 114 o’r Ddeddf.
26A.91A Mae’r Cyfnod Ailystyried yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i gynnig a wneir o dan Reol Sefydlog 26A.90 neu 26A.91 gael ei dderbyn gan y Cynulliad.
26A.91B Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau’r Cyfnod Ailystyried a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion y Cyfnod Ailystyried.
26A.92 Rhaid i’r trafodion yn y Cyfnod Ailystyried gael eu hystyried gan y Cynulliad mewn cyfarfod llawn.
26A.93 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i Fil Preifat yn y Cyfnod Ailystyried oni bai bod y gwelliannau, yn ychwanegol at feini prawf Rheol Sefydlog 26A.100, ac ym marn y Llywydd, wedi’u bwriadu dim ond i ddatrys y mater sy’n destun y canlynol:
(i) y cyfeiriad at y Goruchaf Lys i gael dyfarniad rhagarweiniol;
(ii) penderfyniad y Goruchaf Lys; neu
(iii) y Gorchymyn o dan adran 114 o’r Ddeddf.
26A.94 Oni bai bod y Cynulliad wedi penderfynu, drwy gynnig gan y Pwyllgor Busnes, ym mha drefn y mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu, rhaid eu gwaredu yn y drefn y mae’r darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil Preifat.
26A.95 Yn syth ar ôl cwblhau trafodion y Cyfnod Ailystyried, caiff unrhyw Aelod gynnig heb hysbysiad fod y Cynulliad yn cymeradwyo Bil Preifat a ddiwygiwyd wrth gael ei ailystyried. Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o’r fath.