At:            Y Pwyllgor Busnes

Oddi wrth:         Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes

Dyddiad:   18 Mawrth 2013

Diwygiadau i Reolau Sefydlog 21 a 27: Cyflwyno Adroddiadau ar Offerynnau Statudol

Diben

1.   Gwahoddir y Pwyllgor Busnes i ystyried cynigion i ddiwygio darpariaethau Rheol Sefydlog 21 sy’n pennu’r dyddiadau cau ar gyfer gwaith y pwyllgor(au) cyfrifol o gyflwyno adroddiadau ar offerynnau statudol ac offerynnau statudol drafft sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Cynigir hefyd ddiwygiadau canlyniadol i Reol Sefydlog 27, sy’n pennu pryd y ceir trafod cynnig i gymeradwyo offerynnau o’r fath yn y Cyfarfod Llawn.

Cefndir

2.   Dyma’r hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 21.4 ar hyn o bryd:

Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

3.   Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus yn nodi gweithdrefn i’r Cynulliad ystyried Gorchmynion drafft y bydd Gweinidogion Cymru yn eu gosod o dan y Ddeddf sy’n cynnwys terfynau amser penodol i’r Cynulliad ac i’r pwyllgor cyfrifol gadw atynt wrth ystyried Gorchmynion o’r fath.

4.   Yn ei lythyr ar 21 Tachwedd 2012 ynghylch penderfyniad y Pwyllgor i ddefnyddio’r cyfnod llawn o 60 diwrnod a ddarperir gan y Ddeddf i gyflwyno adroddiad ar Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012, awgrymodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

I think there is a strong case for amending standing orders to remove anomalies that can arise as a consequence of differing procedural requirements existing between primary legislation and our standing orders.

5.   Yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried diwygio’r Rheolau Sefydlog i ymdrin â’r anghysondebau sy’n codi o weithdrefnau yn neddfwriaeth y DU neu ddeddfwriaeth Cymru sy’n effeithio ar amseriad y broses o gyflwyno adroddiad ar is-ddeddfwriaeth.

Cynigion ar gyfer newid y drefn

6.   Cynigir diwygio’r Rheolau Sefydlog perthnasol i fynd i’r afael â’r anghysondebau sydd wedi’u nodi. Mae’r diwygiadau arfaethedig wedi’u cynllunio i fod yn berthnasol nid yn unig i Orchmynion a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus, ond hefyd o dan unrhyw Ddeddfau eraill a allai bennu amserlen mewn perthynas â gwaith y Cynulliad o ystyried offerynnau statudol.

7.   Mae’r newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 21 yn pennu proses y bydd y Pwyllgor Busnes yn ei dilyn i sefydlu amserlen ar gyfer gwaith y pwyllgor(au) perthnasol o gyflwyno adroddiad ar yr offeryn statudol (drafft). Wrth sefydlu amserlen, bydd angen i’r Pwyllgor Busnes ystyried gofynion penodol y deddfiad galluogi.

8.   Mae’r newid arfaethedig i Reol Sefydlog 27 yn ei gwneud yn glir nad yw Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys i offerynnau statudol o’r fath, sy’n golygu mai darpariaethau’r deddfiad galluogi a fydd yn pennu pryd y caiff y Cynulliad gynnal dadl ar gynnig i gymeradwyo’r offeryn statudol.

Cam i’w gymryd

9.   Gwahoddir y Rheolwyr Busnes i ystyried y Rheolau Sefydlog drafft arfaethedig yn Atodiad B, a chytuno arnynt mewn egwyddor.

Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Swyddogaethau

21.4                 Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

 Dim newid

21.4A   Os bydd y deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o’r offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft, yna:

i)   ni fydd y terfyn amser yn Rheol Sefydlog 21.4 yn gymwys;

ii)  caiff y Pwyllgor Busnes sefydlu a
chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor cyfrifol neu’r pwyllgorau cyfrifol gyflwyno adroddiad arno.

Cynnwys Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog newydd hon yn rhoi’r pŵer i’r Pwyllgor Busnes bennu amserlen ar gyfer gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (y Pwyllgor MCD) o gyflwyno adroddiad ar unrhyw offeryn statudol a wneir o dan Ddeddf sy’n nodi gweithdrefn a fydd yn peri bod y terfyn amser arferol, sef 20 diwrnod, yn anaddas. 

Wrth bennu’r amserlen, bydd angen i’r Pwyllgor Busnes ganfod cydbwysedd rhwng angen y Pwyllgor MCD i graffu’n briodol ar y Gorchymyn a’r angen i ganiatáu amser i’r Llywodraeth ac Aelodau eraill weithredu unrhyw rôl sydd ganddynt yn y weithdrefn.

Er enghraifft, o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus, caniateir 30 diwrnod i gychwyn y weithdrefn gadarnhaol “ddyrchafedig”.  Er y gallai fod yn rhesymol caniatáu i’r Pwyllgor MCD gyflwyno adroddiad ar ôl cyfnod hwy nag 20 diwrnod, mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor Busnes yn penderfynu y dylai’r Pwyllgor MCD gyflwyno adroddiad ar yr agwedd honno ymhell cyn y 30ain diwrnod, fel bod modd i’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad os yw’r Llywodraeth yn cyflwyno i’r perwyl hwnnw, fel y gall wneud o dan y Ddeddf.  Ar y llaw arall, pe bai’r Pwyllgor MCD yn penderfynu na ddylai’r weithdrefn “ddyrchafedig” fod yn gymwys, byddai’n rhaid iddo fod wedi gwneud hynny mewn digon o amser i alluogi Aelod arall i gyflwyno cynnig sy’n gofyn i’r Cynulliad benderfynu y dylai’r weithdrefn hon fod yn gymwys.

Os caiff y weithdrefn gadarnhaol ddyrchafedig ei chychwyn, bydd modd wedyn i’r Pwyllgor MCD ystyried yn fwy trylwyr agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth ddrafft.

Bydd y Rheol Sefydlog newydd yn caniatáu i’r Pwyllgor Busnes benderfynu pa ddyddiadau cau sy’n briodol ym mhob achos ar gyfer gwaith y Pwyllgor MCD o gyflwyno adroddiad.

21.5                 Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 21.4, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Dim newid

RHEOL SEFYDLOG 27 – Is-ddeddfwriaeth (ac eithrio Is-ddeddfwriaeth sy’n Ddarostyngedig i Weithdrefn Cynulliad Arbennig) 

Cynnig ar gyfer Cymeradwyo (Gweithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol)

27.5     Yn achos unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft a osodir gerbron y Cynulliad nad yw, oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo drwy gynnig, yn gallu:

(i)      cael ei wneud;

(ii)     dod i rym; neu

(iii)   parhau mewn grym ar ôl y cyfnod a bennwyd yn y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr offeryn,

caiff unrhyw aelod o’r llywodraeth gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 i gymeradwyo’r offeryn neu’r offeryn drafft.

Dim newid

27.6                 Ni chaniateir gwneud gwelliannau i gynnig o dan Reol Sefydlog 27.5.

Dim newid

27.7     Ni chaniateir ystyried cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5 yn y cyfarfod llawn nes y bydd naill ai:

(i)         y pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 ac unrhyw bwyllgor arall, sydd wedi rhoi’r hysbysiad a grybwyllir yn Rheol Sefydlog 27.8, wedi cyflwyno adroddiad ar yr offeryn neu’r drafft; neu

(ii)       20 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r offeryn neu’r offeryn drafft gael ei osod,

pa un bynnag yw’r cyntaf.

Dim newid

27.7A   Os bydd y deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o’r offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft,  ni fydd Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys.

Cynnwys Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog hon yn egluro nad yw Rheol Sefydlog 27.7 yn gymwys mewn unrhyw achos lle y mae terfynau amser wedi’u pennu yn y deddfiad galluogi.

Mewn achosion o’r fath, yr amserlen yn y deddfiad a fydd yn pennu pryd y ceir trafod cynnig o dan Reol Sefydlog 27.5.

Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 21 – Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Swyddogaethau

21.4   Rhaid i bwyllgor cyfrifol gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

21.4A Os bydd y deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft gael ei osod gerbron y Cynulliad yn pennu amserlen mewn perthynas ag ystyriaeth y Cynulliad o’r offeryn statudol neu’r offeryn statudol drafft, yna:

i)   ni fydd y terfyn amser yn Rheol Sefydlog 21.4 yn gymwys;

ii)  caiff y Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor cyfrifol neu’r pwyllgorau cyfrifol gyflwyno adroddiad arno.