At:            Y Pwyllgor Busnes

Oddi wrth:         Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes

Dyddiad:   18 Mawrth 2013

 

Diwygio Rheolau Sefydlog 29 a 30: Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

Diben

1.        Gwahoddir y Pwyllgor Busnes i ystyried cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 29 a 30 ynghylch Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae’r newidiadau arfaethedig i’w gweld yn Atodiadau A a B.

Cefndir

2.        Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad, ‘Ymchwiliad i’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU’. Roedd nifer o argymhellion y Pwyllgor yn galw am ddiwygiadau i Reolau Sefydlog y Cynulliad, ac felly roedd angen i’r Pwyllgor Busnes ymateb iddynt.

 

3.        Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfodydd ar 12 a 19 Mehefin 2012, ac roedd modd iddo ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn ei drafodaethau. Yn ei ymateb, croesawodd y Pwyllgor Busnes y cyfle yr oedd yr adroddiad yn ei roi i adolygu gweithdrefnau’r Cynulliad yn y maes hwn, ac ymatebodd yn gadarnhaol i bob argymhelliad a oedd yn galw am ddiwygio Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Yn ei ymateb, nododd y Pwyllgor hefyd:

Mae angen trafod ymhellach sut yn union y caiff yr argymhellion hynny eu gweithredu, a hynny yn y Cynulliad ac yn rhynglywodraethol, a dyna’r rheswm dros dderbyn argymhellion CLAC ‘mewn egwyddor’ yn aml. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor Busnes yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â’r newidiadau hynny sy’n ofynnol er mwyn cyflawni ein hamcan cyffredinol o sicrhau prosesau craffu cadarn yn y Cynulliad ar unrhyw ddeddfwriaeth yn y DU sy’n berthnasol.

 

4.        Ers hynny, mae swyddogion o Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ddrafftio cyfres o ddiwygiadau arfaethedig sy’n gweithredu argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

5.        Mae’r cynigion yn y papur hwn wedi’u cynllunio i roi argymhellion 5, 6 a 7 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar waith. Mae gwaith yn parhau ar ddrafftio Rheol Sefydlog newydd a fydd yn rhoi argymhelliad 11 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar waith, a bydd cynigion i’r perwyl hwn yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Busnes maes o law.

 

Newidiadau arfaethedig sy’n deillio o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac ymateb y Pwyllgor Busnes

 

Argymhelliad 5 – Rydym yn argymell y dylid dileu Rheol Sefydlog 30 a diwygio Rheol Sefydlog 29 fel bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth Senedd y DU ar unrhyw fater sy’n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu bwerau Gweinidogion Cymru.

 

6.        Roedd hwn yn argymhelliad allweddol yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ar hyn o bryd, mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 yn ofynnol os bydd un o Filiau’r DU yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu os yw’n dwyn effaith negyddol ar y cymhwysedd hwnnw. Ar y llaw arall, os bydd Bil yn gwneud darpariaeth sy’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru, neu sy’n cael effaith (nad yw’n effaith negyddol) ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, nid oes angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol; bydd y Llywodraeth yn gosod datganiad yn unig o dan Reol Sefydlog 30 sy’n hysbysu’r Cynulliad am y ddarpariaeth.

 

7.        Argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol oedd y dylai fod angen cydsyniad y Cynulliad drwy gyfrwng Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn achos unrhyw ddarpariaeth yn un o Filiau’r DU sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu sy’n effeithio arno, neu sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Byddai’r diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 29.1, ynghyd â dileu Rheol Sefydlog 30, yn rhoi’r argymhelliad hwn ar waith, y gwnaeth y Pwyllgor Busnes ei dderbyn yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Byddai’r diwygiadau arfaethedig yn peri i gwmpas gweithdrefnau’r Cynulliad gyd-fynd â rhai Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

 

8.        Yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cynigir bod cwmpas Rheol Sefydlog 29.1(ii) yn cael ei ehangu fel bod angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn achos darpariaethau sy’n addasu cymhwysedd y Cynulliad mewn unrhyw ffordd. Ar hyn o bryd, dim ond yn achos darpariaethau sy’n dwyn “effaith negyddol” y mae angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

9.        Yn y dyfodol, byddai angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hefyd yn achos darpariaethau ym Miliau’r DU sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru (Rheol Sefydlog 29.1(iii) newydd)). Ar hyn o bryd, dim ond datganiad o dan Reol Sefydlog 30 y mae’n ofynnol i’r Llywodraeth ei osod yn achos darpariaethau o’r fath, ac nid yw’n ofynnol i’r Cynulliad gydsynio drwy gyfrwng Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

10.     Gan fod hyn yn ehangu cwmpas y broses Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y tu hwnt i’r cytundeb rhynglywodraethol presennol, a nodir yn Nodyn Cyfarwyddyd Datganoli 9, mae angen i Lywodraeth Cymru gytuno â Llywodraeth y DU i ddiwygio Nodyn Cyfarwyddyd Datganoli 9 er mwyn ei gwneud yn broses effeithiol. Nododd y Pwyllgor Busnes hyn yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a chytunodd y byddai’n ystyried hyn wrth benderfynu pryd y dylid rhoi’r newid ar waith.

 

11.     Er y gellid cymryd bod argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn awgrymu y dylai fod angen cydsyniad deddfwriaethol yn achos pob mater sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad, sy’n addasu ei gymhwysedd neu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, cynigir na ddylai fod angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn achos darpariaethau sy’n “[d]darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad”.  Felly, caiff y cyfyngiad sy’n bodoli eisoes yn Rheol Sefydlog 29.1(i) ei gadw, a chaiff ei ymestyn i Reol Sefydlog 29.1(iii) newydd arfaethedig.

Argymhelliad 6: Rydym yn argymell y dylid diwygio Rheol Sefydlog 29 fel bod pob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (gan gynnwys y materion sydd wedi’u cynnwys yn Rheol Sefydlog 30 bellach), oni bai bod amgylchiadau eithriadol, yn cael ei gyfeirio at bwyllgor Cynulliad i graffu’n fanwl arno.

12.     Yn ei ymateb, cytunodd y Pwyllgor Busnes mai cyfeirio Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol at bwyllgor ddylai fod y drefn arferol, ac ymrwymodd i weithio gyda’r Llywodraeth i gytuno ar eiriad addas ar gyfer Rheol Sefydlog ddiwygiedig a fydd yn rhoi’r egwyddor hon ar waith.

 

13.     Mae’r newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 29.4 yn rhoi’r argymhelliad hwn ar waith.

Argymhelliad 7: Rydym yn argymell y dylid diwygio Rheol Sefydlog 29 fel na all Llywodraeth Cymru gyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol nes bod y pwyllgor perthnasol wedi cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

14.     Yn ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dywedodd y Llywodraeth y byddai am amodi unrhyw gyfyngiad o’r fath drwy ddatgan na fyddai’r Cynnig yn cael ei gyflwyno ‘yn arferol’ nes bod y pwyllgor wedi adrodd arno. Ar y pryd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried pa eiriad a fyddai’n rhoi’r diogelwch mwyaf priodol i sicrhau bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu’n briodol ac yn amserol.

 

15.     Yn dilyn trafodaethau â’r Llywodraeth, rydym yn cynnig na ddylid diwygio Rheol Sefydlog 29.8 ynghylch amseriad y broses o gyflwyno cynnig a’i drafod. Rydym yn awgrymu bod y ddarpariaeth bresennol, sef ‘ni chaniateir trafod’, yn ddull gwell o sicrhau bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu’n briodol ac yn amserol nag a fyddai ‘yn arferol, ni chaniateir cyflwyno’r cynnig’, ac felly rydym yn cynnig y dylid cadw’r ddarpariaeth hon.

 

16.     Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ystyried y cynnig a wnaeth y Llywodraeth yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef y dylid diwygio’r Rheolau Sefydlog i ddiddymu’r gofyniad ar Lywodraeth Cymru i osod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer pob Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a osodir.

 

17.     Mae’r diwygiad arfaethedig i Reol Sefydlog 29.6 yn diddymu’r orfodaeth ar y Llywodraeth i osod cynnig ar gyfer pob memorandwm a osodir. Y bwriad yw y byddai hyn yn caniatáu i’r Llywodraeth gyflwyno memorandwm yn gynnar yn y broses, efallai cyn iddi ffurfio barn ar fanylion y cynnig, a chyflwyno memoranda atodol/diwygiedig cyn cyflwyno cynnig, pe bai’n dymuno gwneud hynny.

 

18.     Gan nad oes rhaid bellach i’r Llywodraeth gyflwyno cynnig ar gyfer pob memorandwm, cynigir y dylid gwneud darpariaeth drwy gyfrwng Rheol Sefydlog 29.2A newydd fel y gallai unrhyw Aelod arall wneud hynny pe bai’n dymuno. Byddai angen i unrhyw Aelod sy’n dymuno gwneud hynny osod memorandwm ei hun, ond fel rheol ni fyddai’n gwneud hynny nes bod y Llywodraeth wedi gosod ei memorandwm ei hun yng nghyswllt y Bil.

 

19.     Rhagwelwn y byddai Aelodau yn defnyddio’r weithdrefn hon pe bai’r Llywodraeth, am ba reswm bynnag, wedi nodi nad oedd yn bwriadu gosod cynnig mewn perthynas â Bil penodol. Mae gweithdrefn o’r fath yn bodoli eisoes yn yr Alban, ond fe’i defnyddiwyd unwaith yn unig hyd yma, sef mewn perthynas â Bil yr Alban; yn yr achos hwnnw, nid oedd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cydsynio i’r darpariaethau yn y Bil.

 

20.     Gyda’i gilydd, byddai’r newidiadau hyn yn peri i weithdrefnau’r Cynulliad gyd-fynd â gweithdrefnau’r Alban, lle nad oes rhaid i’r Llywodraeth osod cynnig ar gyfer pob memorandwm a osodir a lle y gall Aelodau eraill wneud hynny.

 

Newidiadau arfaethedig eraill

21.     Mae dau newid arfaethedig sydd y tu allan i gwmpas adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac ymateb y Pwyllgor Busnes iddo.

 

22.     Mae’r diwygiad arfaethedig i Reol Sefydlog 29.2 yn ehangu ei chwmpas er mwyn iddi gynnwys Biliau Preifat yn Senedd y DU. Pan gyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, nid oedd gan y Cynulliad ei ddarpariaethau ei hun ar gyfer ymdrin â Biliau Preifat. Cytunodd y Cynulliad ar y darpariaethau newydd yn Rheol Sefydlog 26A yng nghyswllt Biliau Preifat ym mis Mehefin 2012.

 

23.     Mae’r ddarpariaeth arfaethedig newydd yn Rheol Sefydlog 29.3(iv) yn gweithredu argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol ar 25 Mehefin 2012[1], sef: ‘rhaid i unrhyw Femorandwm gynnwys manylion y weithdrefn Cynulliad a fyddai’n gymwys i’r holl bwerau deddfu a roddir i Weinidogion Cymru drwy gyfrwng Bil San Steffan.’

 

Cam i’w gymryd

 

24.     Gwahoddir y Rheolwyr Busnes i ystyried y Rheolau Sefydlog drafft arfaethedig yn Atodiad B a chytuno arnynt mewn egwyddor.

 


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 29 - Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

 

Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Cynulliad ar ei chyfer

 

29.1     Yn Rheol Sefydlog 29, ystyr “Bil perthnasol” yw Bil sy’n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru:

(i)         at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad); neu

(ii)       sy’n dwyn effaith negyddol ar addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu

(iii)      sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad);

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

Nodwyd yn Argymhelliad 5 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ‘y dylid dileu Rheol Sefydlog 30 a diwygio Rheol Sefydlog 29 fel bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth Senedd y DU ar unrhyw fater sy’n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu bwerau Gweinidogion Cymru’.

Derbyniodd y Llywodraeth a’r Pwyllgor Busnes yr argymhelliad hwn.

 

Mae’r diwygiadau hyn yn ychwanegu at y mathau o Filiau Perthnasol o dan Reol Sefydlog 29 er mwyn cynnwys y rhai a oedd yn Rheol Sefydlog 30 o’r blaen. Mae hyn yn golygu y dylai fod angen cydsyniad y Cynulliad yn y dyfodol drwy gyfrwng Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn achos unrhyw ddarpariaeth yn un o Filiau’r DU sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu sy’n effeithio arno, neu sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

 

Mae’r meini prawf a restrir ym mhwyntiau (i), (ii) a (iii) yn gynyddol o ran eu heffaith, a disgwylir y bydd mwyafrif y Biliau sy’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn dod o fewn maen prawf (i) beth bynnag. Felly, bydd maen prawf (iii) yn gymwys yn bennaf yn achos Biliau sy’n effeithio ar y rhai hynny o swyddogaethau Gweinidogion Cymru sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

 

Caiff cwmpas Rheol Sefydlog 29.1(ii) ei ehangu fel bod angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn achos darpariaethau sy’n addasu cymhwysedd y Cynulliad mewn unrhyw ffordd. Ar hyn o bryd, dim ond yn achos darpariaethau sy’n dwyn “effaith negyddol” y mae angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

Yn ôl Rheol Sefydlog 29.1(iii) newydd, byddai angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hefyd yn achos darpariaethau ym Miliau’r DU sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru (Rheol Sefydlog 29.1(iii) newydd). Ar hyn o bryd, dim ond datganiad o dan Reol Sefydlog 30 y mae’n ofynnol i’r Llywodraeth ei osod yn achos darpariaethau o’r fath, ac nid yw’n ofynnol i’r Cynulliad gydsynio drwy gyfrwng Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

29.2     Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad deddfwriaethol”) mewn perthynas â’r canlynol:

(i)      unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ii)     unrhyw Fil Aelod Preifat yn Senedd y DU a oedd yn Fil perthnasol pan y’i cyflwynwyd ac sy’n dal yn Fil perthnasol ar ôl y cyfnod diwygio cyntaf yn y Tŷ y’i cyflwynwyd ynddo, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl iddo gwblhau’r cyfnod hwnnw; 

(iii)    unrhyw Fil Preifat y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ivii)  unrhyw Fil a gyflwynir yn Senedd y DU sydd (neu a fyddai), yn rhinwedd gwelliannau:

(a)     a dderbynnir; neu

(b)     a gyflwynir gan un o Weinidogion y Goron neu a gyhoeddir gydag enw un o Weinidogion y Goron yn eu cefnogi,

yn y naill Dŷ neu’r llall, yn gwneud darpariaeth berthnasol am y tro cyntaf neu y tu hwnt i derfynau unrhyw gydsyniad a roddwyd o’r blaen gan y Cynulliad, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl i’r gwelliannau gael eu cyflwyno neu eu derbyn.

 

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

Ar ôl symud i Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a chyflwyno gweithdrefnau o dan Reol Sefydlog 26A sy’n galluogi’r Cynulliad i ymdrin â Biliau Preifat, rydym o’r farn ei bod yn briodol bod unrhyw Filiau Preifat a gyflwynir yn San Steffan y mae eu darpariaethau yn dod o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 29.1 yn cael eu cynnwys yn y Rheol Sefydlog hon.

Mae’r drafft yn pennu’r amserlen ar gyfer Biliau Preifat i fod yr un fath ag yn achos Biliau Llywodraeth.

 

 

29.2A               Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil perthnasol osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o’r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil hwnnw.

Rhaid i’r Llywodraeth osod memorandwm p’un a yw’n bwriadu cyflwyno cynnig neu beidio. Fodd bynnag, gall aelodau eraill osod memorandwm dim ond os ydynt yn bwriadu cyflwyno cynnig.

 

Mae’r ddarpariaeth sy’n galluogi Aelod, ac eithrio aelod o’r Llywodraeth, osod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn un newydd, a chaiff ei chyflwyno oherwydd mae’r diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 29.6 yn golygu na fydd yn ofynnol mwyach i’r Llywodraeth gyflwyno cynnig ar gyfer pob memorandwm. Byddai’n rhaid i unrhyw Aelod sydd am osod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol osod memorandwm ei hun, ond ni fyddai’n gwneud hynny fel rheol nes bod y Llywodraeth wedi gosod ei memorandwm ei hun mewn perthynas â’r Bil hwnnw.

 

 

29.3                 Rhaid i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol:

(i)         crynhoi amcanion polisi’r Bil;    

(ii)       pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol; a                                                                    

(iii)      esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil;

(iv)      os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth berthnasol sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, nodi’r weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod odani;

(v)        os gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol eisoes mewn perthynas â’r un darpariaethau yn yr un Bil, nodi sut a pham y mae’r memorandwm newydd yn wahanol i’r memorandwm blaenorol.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

 

Mae pwynt (iv) newydd wedi’i ychwanegu yn unol â’r awgrym a ganlyn a wnaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol: ‘rhaid i unrhyw Femorandwm gynnwys manylion y weithdrefn Cynulliad a fyddai’n gymwys i’r holl bwerau deddfu a roddir i Weinidogion Cymru drwy gyfrwng Bil San Steffan’. Mae’r ddarpariaeth yn ailadrodd y ddarpariaeth yn 26.6 (vii) mewn perthynas â Biliau’r Cynulliad.

 

 

 

Gan nad yw bellach yn angenrheidiol gosod cynnig yn sgîl/gyda phob memorandwm, mae lle i’r llywodraeth osod memorandwm diwygiedig pe bai ei bwriadau, neu gynnwys y Bil, yn newid cyn iddi osod cynnig. Byddai unrhyw femorandwm diwygiedig yn ddarostyngedig i’r un gweithdrefnau ag yr oedd yr un gwreiddiol yn ddarostyngedig iddynt. Ychwanegwyd is-bwynt (v) i’w gwneud yn glir, os gosodir memorandwm ‘diwygiedig’, fod yn rhaid iddo nodi’r newidiadau a wnaed ers y memorandwm gwreiddiol.

 

Yn wahanol i Reolau Sefydlog yr Alban, nid yw’r drafft yn cynnig y dylai memorandwm gynnwys cynnig drafft. Bwriad hyn yw rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Llywodraeth a pheri i femoranda gael eu gosod yn gynharach, efallai cyn i fanylion cynnig gael eu llunio.

 

Mae darpariaethau’r Rheol Sefydlog hon yn gymwys i femoranda y bydd y llywodraeth yn eu gosod o dan Reol Sefydlog 29.2 a’r rhai y bydd aelodau eraill yn eu gosod o dan Reol Sefydlog 29.2A.

 

Y gofynion lleiaf sydd wedi’u nodi yn y Rheol Sefydlog hon, ac, fel y gwnaed yn glir yn nyfarniad y Dirprwy Lywydd ar 26.06.12: ‘mae Gweinidogion yn rhydd i ddarparu mwy o wybodaeth na’r hyn sydd wedi’i nodi fel lleiafswm yn y Rheolau Sefydlog os ydynt yn dymuno, ac os ydynt yn credu y byddai’n helpu’r Cynulliad i drafod unrhyw fater penodol.’

 

 

 

29.4                 Caiff y Rhaid i’r Pwyllgor Busnes:

(i)         fel rheol gyfeirio unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried a

(ii)       sefydlu a chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno.

 

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

Mae’r diwygiad yn golygu bod yn rhaid i’r Pwyllgor Busnes fel rheol gyfeirio Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at bwyllgor. Mae’r drafft yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei ffafrio, fel yr amlinellwyd yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

29.5              Os caiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gyfeirio at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sefydlu a chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno.

 

Dileu’r Rheol Sefydlog hon

Mae darpariaethau’r Rheol Sefydlog hon bellach wedi’u cynnwys yn Rheol Sefydlog 29.4, uchod.

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

 

29.6                 Pan gaiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei osod, rhaid i’r llywodraeth Ar ôl i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 29.2A,  gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad deddfwriaethol”) y mae’n rhaid iddo ofyn sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn Bil perthnasol.

 

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

Mae’r newid hwn yn torri’r cyswllt rhwng y cynnig a’r memorandwm o ran yr amseriad, gan ddatgan yn glir y caiff y cynnig ei osod ar ôl y memorandwm, ond heb bennu dyddiadau cau yn hynny o beth.

 

Mae’r newid hefyd yn diddymu’r orfodaeth ar y llywodraeth i gyflwyno cynnig ar gyfer pob memorandwm a osodir. Y bwriad yw y byddai hyn yn caniatáu i’r Llywodraeth gyflwyno memorandwm yn gynnar yn y broses, efallai cyn iddi ffurfio barn ar fanylion y cynnig, a chyflwyno memoranda atodol/diwygiedig cyn cyflwyno cynnig, pe bai’n dymuno gwneud hynny.

 

Gan na fydd y llywodraeth o reidrwydd yn cyflwyno cynnig bob tro mwyach, gwneir darpariaeth ar gyfer sicrhau y gall unrhyw aelod gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Rhagwelwn y byddai Aelodau yn defnyddio’r weithdrefn hon pe bai’r Llywodraeth, am ba reswm bynnag, wedi nodi nad oedd yn bwriadu gosod cynnig mewn perthynas â Bil penodol.

 

 

29.7     Rhaid i gynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi’i gyflwyno gael ei ystyried gan y Cynulliad.

 

Cadw’r Rheol Sefydlog hon

29.8     Os caiff Pan gaiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i’w ystyried gan bwyllgor neu bwyllgorau yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, ni chaniateir trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig naill ai:

(i)      nes bod y pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4; neu

(ii)     nes y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i bwyllgor gyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4.

 

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon

Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol na ddylid cyflwyno’r cynnig nes bod y pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad; ymateb y Llywodraeth oedd y byddai am i hyn gael ei amodi gan ‘yn arferol’.

Dywedodd y Pwyllgor Busnes y byddai am ‘ystyried pa eiriad a fyddai’n rhoi’r diogelwch mwyaf priodol i sicrhau bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu’n briodol ac yn amserol’.

Wrth ddrafftio, rydym wedi dod i’r farn fod y ddarpariaeth bresennol yn sicrhau diogelwch gwell nag a fyddai datgan na chaiff cynnig ‘ei gyflwyno yn arferol’.

RHEOL SEFYDLOG 30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

Dileu’r pennawd

Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Hysbysu’r Cynulliad yn ei chylch

Dileu’r is-bennawd

30.1                 Yn Rheol Sefydlog 30, ystyr “Bil perthnasol” yw Bil sy’n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru (ac eithrio darpariaeth berthnasol sy’n ddarpariaeth berthnasol o fewn ystyr Rheol Sefydlog 29.1):

(i)         sy’n cael effaith sylweddol ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol; neu

(ii)       sy’n cael effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed).

 

Dileu’r Rheol Sefydlog

Mae darpariaethau’r Rheol Sefydlog hon bellach wedi’u cynnwys yn Rheol Sefydlog 29.

Datganiadau Ysgrifenedig mewn Perthynas â Biliau Perthnasol Senedd y DU

Dileu’r is-bennawd

30.2     Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â:

(i)      unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ii)     unrhyw Fil Aelod Preifat yn Senedd y DU a oedd yn Fil perthnasol pan y’i cyflwynwyd ac sy’n dal yn Fil perthnasol ar ôl y cyfnod diwygio cyntaf yn y Tŷ y’i cyflwynwyd ynddo, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl iddo gwblhau’r cyfnod hwnnw;

(iii)    unrhyw Fil a gyflwynir yn Senedd y DU sydd (neu a fyddai), yn rhinwedd gwelliannau:

(a)     a dderbynnir; neu

(b)     a gyflwynir gan un o Weinidogion y Goron neu a gyhoeddir gydag enw un o Weinidogion y Goron yn eu cefnogi,

yn y naill Dŷ neu’r llall, yn gwneud darpariaeth berthnasol, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl i’r gwelliannau gael eu cyflwyno neu eu derbyn.

Dileu’r Rheol Sefydlog

30.3                 Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig:

(i)         crynhoi amcanion polisi’r Bil;    

(ii)       pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol; a

 

(iii)      esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil.

 

Dileu’r Rheol Sefydlog

 


 


Atodiad B

 

RHEOL SEFYDLOG 29 - Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU

 

Biliau Senedd y DU sy’n Gwneud Darpariaeth y mae Angen Cydsyniad y Cynulliad ar ei chyfer

 

29.1 Yn Rheol Sefydlog 29, ystyr “Bil perthnasol” yw Bil sy’n cael ei ystyried yn Senedd y DU ac sy’n gwneud darpariaeth (“darpariaeth berthnasol”) mewn perthynas â Chymru:

(i)     at unrhyw ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu

(ii)    sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad; neu

(iii)   sy’n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad).

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

29.2 Rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad deddfwriaethol”) mewn perthynas â’r canlynol:

(i)     unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(ii)    unrhyw Fil Aelod Preifat yn Senedd y DU a oedd yn Fil perthnasol pan y’i cyflwynwyd ac sy’n dal yn Fil perthnasol ar ôl y cyfnod diwygio cyntaf yn y Tŷ y’i cyflwynwyd ynddo, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl iddo gwblhau’r cyfnod hwnnw; 

(iii)   unrhyw Fil Preifat y DU sy’n Fil perthnasol pan y’i cyflwynir i’r Tŷ cyntaf, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl ei gyflwyno;

(iv)   unrhyw Fil a gyflwynir yn Senedd y DU sydd (neu a fyddai), yn rhinwedd gwelliannau:

(a)    a dderbynnir; neu

(b)    a gyflwynir gan un o Weinidogion y Goron neu a gyhoeddir gydag enw un o Weinidogion y Goron yn eu cefnogi,

 

yn y naill Dŷ neu’r llall, yn gwneud darpariaeth berthnasol am y tro cyntaf neu y tu hwnt i derfynau unrhyw gydsyniad a roddwyd o’r blaen gan y Cynulliad, a hynny dim mwy na phythefnos fel rheol ar ôl i’r gwelliannau gael eu cyflwyno neu eu derbyn.

 

29.2A Rhaid i unrhyw aelod, ac eithrio aelod o’r llywodraeth, sy’n bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil perthnasol osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn gyntaf, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny fel rheol nes bod aelod o’r llywodraeth wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil hwnnw.

 

29.3 Rhaid i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol:

(i)     crynhoi amcanion polisi’r Bil;     

(ii)    pennu i ba raddau y mae (neu y byddai) y Bil yn gwneud darpariaeth berthnasol;

(iii)   esbonio a fernir ei bod yn briodol i’r ddarpariaeth honno gael ei gwneud ac iddi gael ei gwneud drwy gyfrwng y Bil;

(iv)   os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth berthnasol sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, nodi’r weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod odani;

(v)    os gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol eisoes mewn perthynas â’r un darpariaethau yn yr un Bil, nodi sut a pham y mae’r memorandwm newydd yn wahanol i’r memorandwm blaenorol.

 

29.4   Rhaid i’r Pwyllgor Busnes:

(i)     fel rheol gyfeirio unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol at bwyllgor neu bwyllgorau i’w ystyried a

(ii)    sefydlu a chyhoeddi amserlen i’r pwyllgor neu’r pwyllgorau ystyried y memorandwm a chyflwyno adroddiad arno.

 

29.5   [Dilëwyd drwy benderfyniad y Cynulliad]

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

 

29.6 Ar ôl i femorandwm cydsyniad deddfwriaethol gael ei osod, caiff unrhyw aelod, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 29.2A, gyflwyno cynnig (“cynnig cydsyniad deddfwriaethol”) sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno i ddarpariaeth berthnasol gael ei chynnwys mewn Bil perthnasol.

 

29.7 Rhaid i gynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi’i gyflwyno gael ei ystyried gan y Cynulliad.

 

29.8 Pan gaiff memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gyfeirio gan y Pwyllgor Busnes i’w ystyried gan bwyllgor neu bwyllgorau yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, ni chaniateir trafod cynnig cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig naill ai:

(i)     nes bod y pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4; neu

(ii)    nes y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i bwyllgor gyflwyno adroddiad arno yn unol â Rheol Sefydlog 29.4.



[1] http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=235615&ds=6/2012