Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 drwy newid y diffiniad o “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn rheoliad 3(2) o'r rheoliadau hynny. Bydd gofynion y “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn newid o gwblhau cwrs hyfforddiant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gyflawni safonau penodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
Craffu technegol
Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2.
Craffu ar rinweddau
O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn canlynol:-
Daw’r offeryn hwn yn sgîl adroddiad Estyn ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru, ac yn sgîl gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru. Daeth adroddiad Estyn i’r casgliad fod y cymhwyster yn aneffeithiol a:
§ bod nifer y rheini sydd wedi ennill y cymhwyster yn fwy o lawer na nifer y swyddi prifathro/prifathrawes; ac
§ nad yw’r broses ddethol o reidrwydd yn dewis y bobl sydd fwyaf addas i fod yn brifathrawon; a
§ bod angen diwygio cynnwys y rhaglen.
Nododd y Times Educational Supplement fod undebau’r athrawon yn croesawu’r newidiadau i’r cymhwyster a’u bod ar yr un pryd yn mynegi pryder y gellid cael effaith andwyol ar nifer y prifathrawon cymwys pe na bai rhywbeth yn cael ei gyflwyno’n ddi-oed i gymryd lle’r cymhwyster. Mynegwyd pryder hefyd am gyllid ar gyfer hyfforddiant ym maes arweinyddiaeth. Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd y cyllid ar gyfer y cymhwyster yn cael ei dynnu’n ôl ac y byddai’r ymgeiswyr cyfredol yn cwblhau’r rhaglen. Dechreuwyd cynllun peilot ar y cymhwyster diwygiedig yn gynharach eleni.
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Gorffennaf 2011