R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa ragamcanion y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud am fynediad Cymru at gyllid yr UE yn y dyfodol? OAQ(4)0427(FIN)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y paratoadau sydd ganddi ar waith ar gyfer pwerau newydd i godi trethu i'r Cynulliad yn sgîl Bil Cymru? OAQ(4)0413(FIN)
3. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am setliad grant bloc Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU? OAQ(4)0419(FIN)
4. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gwariant Llywodraeth Cymru ar ffioedd cyfreithiol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0414(FIN)
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd a gafodd y Gweinidog gyfarfod gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â newidiadau i'r fframwaith ystadegau gwladol? OAQ(4)0424(FIN)W
6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni cyllid Ewropeaidd yng Nghymru? OAQ(4)0426(FIN)W
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn dilyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ganolfan Cywain a nododd ddiffygion mewn rheoli grantiau? OAQ(4)0422(FIN)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Raglen Cydweithredu Cymru Iwerddon 2014-2020?OAQ(4)0421(FIN)W
9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu adnoddau ychwanegol sydd wedi codi yn sgîl cyllideb y DU? OAQ(4)0412(FIN)
10. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd Bil Cymru? OAQ(4)0418(FIN)
11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol? OAQ(4)0428(FIN)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i anghenion plant o ran cyflenwi'r portffolio Cyllid? OAQ(4)0425(FIN)
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hwb o £1m gan gronfa strwythurol yr UE ar gyfer Canolfan Forol Cymru? OAQ(4)0429(FIN)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses caffael cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0416(FIN)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb cyffredinol i'r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0420(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dâl uwch-swyddogion mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0432(LG)
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithio rhwng awdurdodau lleol? OAQ(4)0424(LG)
3. Gwyn Price (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i atal troseddau pobl ifanc yng Nghymru? OAQ(4)0428(LG)
4. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cyhoeddus gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?OAQ(4)0438(LG)
5. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y systemau cabinet mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0430(LG)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau defnydd effeithiol o gyllid grant gan awdurdodau lleol? OAQ(4)0431(LG)
7. David Rees (Aberafan): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo a chynorthwyo gweithio ar y cyd rhwng gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0429(LG)
8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod pob asiantaeth yn cymryd rhan yn y gwaith o atal cam-drin domestig? OAQ(4)0435(LG)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0439(LG)
10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth y dreth gyngor? OAQ(4)0434(LG)W
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo craffu effeithiol ar lywodraeth leol? OAQ(4)0440(LG)
12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â gweithredu darpariaethau yn Neddf Lleoliaeth 2011 sy'n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0441(LG)
13. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu awdurdodau lleol i ateb heriau ariannol presennol? OAQ(4)0436(LG)
14. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0426(LG)
15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa waith monitro y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn defnyddio dull cyson o ran darparu ei wasanaethau? OAQ(4)0433(LG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ynglŷn â 44ain Cynhadledd Flynyddol Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad a gynhaliwyd yn y Senedd? OAQ(4)0081(AC)W
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa feini prawf y mae'r Comisiwn yn eu defnyddio i benderfynu pa wefannau i'w rhwystro ar y rhwydwaith? OAQ(4)0082(AC)
3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am barcio beiciau ar ystâd y Cynulliad? OAQ(4)0083(AC)