R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd meddygfeydd teulu yng nghefn gwlad Cymru? OAQ(4)2160(FM)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio i hyrwyddo Cymru yn ystod ymweliad Dug Caergrawnt â Tsieina? OAQ(4)2164(FM)
3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yng Nghymru? OAQ(4)2162(FM)
4. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi gorllewin Cymru? OAQ(4)2167(FM)W
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol? OAQ(4)2153(FM)
6. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi ynglŷn â datganoli mwy o rymoedd i Gymru? OAQ(4)2169(FM)W
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu ysgolion ym Mhowys? OAQ(4)2156(FM)
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwario'r cyllid a gaiff ei ddyrannu iddynt yn ddoeth? OAQ(4)2159(FM)
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU am amserlen weithredu ar gyfer y materion lle y nodwyd bod consensws yn Atodiad A y papur gorchymyn Pwerau at Bwrpas? OAQ(4)2158(FM)W
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r broblem o unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith pobl hŷn? OAQ(4)2157(FM)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hawliadau esgeulustod meddygol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)2155(FM)
12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau meddygon teulu ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2165(FM)
13. Aled Roberts (North Wales): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn ymyrraeth y cyngor iechyd cymuned wythnos ddiwethaf? OAQ(4)2166(FM)W
14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol yn Nhorfaen? OAQ(4)2163(FM)
15. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd economaidd Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)2168(FM)