Media(4)-03-11 : Papur 7

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyfryngau yng Nghymru

Tystiolaeth Golwg Cyf. a Golwg Newydd Cyf.

Mae dau bapur yma – un gan Golwg Cyf. yn cryhoi rhai pwyntiau cyffredinol a phwyntiau mwy penodol am y wasg; y llall gan Golwg Newydd Cyf. yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ar-lein.

Tystiolaeth Golwg Cyf. (Dylan Iorwerth – Golygydd Gyfarwyddwr)

1.       Cefndir y cwmnïau

1.1  Fel y mae’r enwau’n awgrymu, mae Golwg Cyf. a Golwg Newydd Cyf. yn ddau gwmni sy’n cydweithio’n agos er mwyn creu a hyrwyddo deunydd newyddiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd Golwg Cyf. ei sefydlu yn 1988 i gwrdd â’r angen am gylchgrawn newyddion a materion cyfoes, gan gyflogi newyddiadurwyr proffesiynol ac anelu am safonau uchel o ran cynnwys a diwyg.

Mae cylchgrawn Golwg wedi ei gyhoeddi’n wythnosol ers hynny, gan werthu rhwng tua 2,800 a 4,000 o gopïau. O ystyried bod llawer o’r copïau’n mynd i ysgolion a sefydliadau, rydym yn amcangyfrif bod hynny’n golygu rhwng tua 9,000 a 12,000 o ddarllenwyr.

Ers yr 1990au, mae cwmni Golwg Cyf. hefyd yn cyhoeddi cylchgrawn bob deufis i ddysgwyr Cymraeg, Lingo Newydd,  a chylchgrawn misol i blant bach, WCW a’i ffrindiau, sydd hefyd yn cynnwys cyfieithiad Saesneg.

Masnachol

1.2  Elfen arall o’r busnes yw Gwasanaethau Golwg, sy’n gwneud gwaith ysgrifennu, dylunio a chyhoeddi i amrywiaeth o gwsmeriaid cyhoeddus a phreifat – o ddeunydd hysbysebu i gylchgronau, cylchlythyrau newyddion a llyfrau.

Cafodd yr adain hon ei chreu yn gynnar yn hanes y cwmni er mwyn cynhyrchu incwm i ddatblygu’r cylchgronau. Mae’n golygu mai cyfran gymharol fechan o incwm y cwmni – llai nag 20% - sydd wedi bod yn grantiau.

Y model oedd defnyddio’r sgiliau a’r adnoddau oedd gennym er mwyn creu incwm ychwanegol i gefnogi ein gwaith craidd.

Mae’r cwmni bellach yn cyflogi 14 o bobl (yn cyfateb i 11½ swydd amser llawn). Mae saith o’r rhain yn newyddiadurwyr.

Golwg360

1.3  Yn 2009, fe sefydlodd Golwg Cyf. gwmni newydd, Golwg Newydd Cyf., i gynnal gwasanaeth newyddion ar-lein, Golwg360, sy’n cael ei adnewyddu bob dydd, trwy’r dydd.

Cafodd y gwasanaeth newydd ei gynllunio i weithio ochr yn ochr â’r cylchgrawn wythnosol, yn hytrach na’i ddisodli. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn delio gyda newyddion y funud a’r cylchgrawn yn gwneud mwy o straeon ymchwil, nodwedd a dadansoddi.

2.       Cyflwr y wasg yng Nghymru

Mae’r wasg – a’r cyfryngau traddodiadol yn gyffredinol – yn wynebu sawl her fawr.

·         Mae technoleg cyfathrebu’n newid ar gyflymder syfrdanol sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r ffurfiau traddodiadol addasu, o ran cynnwys a busnes.

·         I bob pwrpas, fe fydd geiriau fel ‘y wasg’, ‘teledu’ a ‘radio’ yn mynd yn fwy a mwy diystyr, gan eu bod yn disgrifio dulliau technegol o gyflwyno cynnwys.  Yng ngweddill y papur hwn, mae termau fel ‘newyddiaduraeth brint’ yn cael eu defnyddio i sôn am newyddiaduraeth trwy eiriau ysgrifenedig, ar bob math o lwyfannau.

·         Bydd ‘dyddiol’, ‘wythnosol’ a ‘misol’ hefyd, i raddau, yn colli eu hystyr yn y cyd-destun hwn.

·         Mae cymdeithas ei hun yn newid, o ran arferion darllen, arferion diwylliannol, natur poblogaeth a masnach.

·         Mae’r argyfwng economaidd wedi creu gwasgfa sy’n arbennig o llym yn y maes.

·         I’r cyfryngau Cymraeg traddodiadol, mae yna her arbennig oherwydd y cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a’r rhai y mae’r Gymraeg yn brif iaith ddiwylliannol a chymdeithasol iddyn nhw.

·         Oherwydd y methiant i sicrhau lle'r Gymraeg mewn gwasanaethau radio lleol, masnachol, mae yna fwlch pwysig yn y ddarpariaeth.

·         Gydag S4C yn dod dan adain y BBC, mae mwy o beryg nag erioed i luosogrwydd (plwraliaeth), yn enwedig wrth i’r darlledwyr symud fwy fwy i’r maes amlgyfrwng a deunydd ar y We.

Yn gyffredinol, mae hyn wedi arwain at gau rhai papurau lleol ac at dorri’n ôl ar nifer newyddiadurwyr. Mae’r papurau ‘cenedlaethol’ yn arbennig wedi gweld cwymp mawr yn eu cylchrediad.

Er bod gwasgfa fasnachol ar gylchgrawn Golwg, yn arbennig o ran lleihad mewn hysbysebion swyddi a hysbysebion cyhoeddus, mae’r cylchrediad wedi dal ei dir.

3.       Y dyfodol

3.1  Mae’n ymddangos bod y cyfryngau newyddion i gyd yn dod at ei gilydd o ran llwyfannau technegol – offer cyfrifiadurol symudol. Tra bydd lle o hyd i gyhoeddiadau papur traddodiadol, mae angen sicrhau lle newyddiaduraeth brint yn y cyfryngau newydd. Dim ond newyddiaduraeth brint – geiriau, yn hytrach na lluniau a sain – sy’n gallu cynnig y dyfnder parhaol sy’n angenrheidiol o ran diwylliant a democratiaeth. Mae angen chwilio am ffyrdd o roi cymorth i gyhoeddiadau addasu a manteisio ar y dechnoleg newydd.

3.2  Yng Nghymru, a thrwy’r Gymraeg yn arbennig, mae peryg i’r maes newydd hwn gael ei feddiannu gan y sector cyhoeddus. Dim ond cyrff fel y BBC ac S4C sydd â’r adnoddau i allu buddsoddi yn y dechnoleg yn gyflym ac ar raddfa ddigonol. Dylai’r pŵer hwn a’r gallu i gomisiynu yn ogystal â chynhyrchu gael ei ddefnyddio i hyrwyddo mentrau annibynnol ac lluosogrwydd yn hytrach nag i feddiannu’r maes. Gallai hyn ddilyn yr un math o egwyddor ag wrth gomisiynu rhaglenni teledu gan gwmnïau annibynnol.

3.3  Mae cyfryngau newyddion yn fwy na chynnwys newyddiadurol a diwylliannol. Maen nhw hefyd yn gerbydau ar gyfer masnach. Yn draddodiadol, mae hysbysebion wedi bod yn rhan hanfodol o unrhyw bapur newydd ac, yn achos papurau lleol, yn cynnig gwasanaeth o bwys i fyd busnes eu hardaloedd trwy greu marchnad. Gyda globaleiddio, twf archfarchnadoedd, siopau cadwyn a siopa o bell ar y We, mae’r rôl hon yn bwysicach nag erioed, ond mewn peryg. Mae angen ystyried bod gan y cyfryngau yng Nghymru ran mewn datblygiad economaidd. Gallan nhw gyfrannu at ddatblygu economi gwybodaeth yng Nghymru a helpu busnesau cenedlaethol a lleol i ymateb i’r chwyldro cyfathrebu a masnach. Gallai helpu’r wasg a’r cyfryngau traddodiadol i ddatblygu eu defnydd o’r dechnoleg newydd hefyd helpu busnesau Cymru.

3.4  Un o brif amcanion Llywodraeth Cymru yw sicrhau Cymru ddwyieithog. Mae sawl llywodraeth wedi cydnabod mai hyrwyddo defnydd o’r iaith ym mhob maes yw un o’r allweddi – a hynny y tu allan i ysgolion a’r sector cyhoeddus. Mae amrywiaeth o gyfryngau, lleisiau a chynnyrch diwylliannol yn hanfodol er mwyn cyflawn i hynny. O ystyried natur newydd rhwydweithio cymdeithasol, bydd sicrhau lle’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol hefyd yn allweddol ond fydd dim modd gwneud hynny trwy un neu ddau o gyrff cyhoeddus mawr. Mae helpu’r cyfryngau Cymraeg traddodiadol i addasu i’r dechnoleg newydd a manteisio arni, a helpu i sefydlu mentrau newydd yn y maes, yn rhan o’r ymdrech i hyrwyddo’r iaith a chreu Cymru ddwyieithog.

3.5  Mae’r lleol yn bwysig iawn. Un o gryfderau a gwendidau Cymru yw ei bod yn gymuned o gymunedau. Mae effaith hynny i’w weld yn nhwf a dirywiad y wasg draddodiadol. Does gan Gymru ddim papur newydd gyda chylchrediad eang ym mhob cornel o’r wlad ac un o wendidau’r wasg Gymraeg broffesiynol oedd methiant i ddatblygu rhwydwaith o bapurau lleol. Ar y llaw arall, mae llwyddiant cymharol y papurau bro’n dangos pwysigrwydd y lleol iawn. Fel mae’n digwydd, dyma un o dermau mawr y chwyldro cyfathrebu hefyd. Mae hyn yn cynnig cyfle – mae’n ffordd y gall cyfryngau Cymreig a lleol wneud yn well na chyrff a chwmnïau Prydeinig a rhyngwladol a byddai’n cynnig llwyfan masnachu i fusnesau cysefin hefyd. Mae hyn yn golygu gweithio o’r lleol i fyny, gan gefnogi mentrau a datblygiadau newydd sy’n cynnwys y wasg a harneisio ymdrechion ym maes datblygu economaidd, datblygu cymdeithasol a datblygu ieithyddol hefyd.

3.6  Wrth i’r gwahanol gyfryngau ddod at ei gilydd, mae sôn am radio lleol neu deledu lleol yn ymddangos yn anacronistaidd. Yn hytrach na hynny, efallai y dylem feddwl am wasanaethau gwybodaeth ac adloniant lleol, aml-gyfrwng, sy’n cael eu cyflwyno trwy ddulliau digidol. Trwy gael y gwahanol gyfranwyr traddodiadol i weithio mewn partneriaeth ar y llwyfannau hyn, byddai modd sicrhau amrywiaeth o ran cynnwys a llais a chreu gwasanaethau gwerthfawr o ran cymdeithas, diwylliant, iaith a ffyniant economaidd. Yn achos y Gymraeg, bydd angen cymryd agwedd weithredol (pro-active) at hyn er mwyn sicrhau lle’r iaith mewn gwahanol gymunedau ar draws Cymru.

3.7  Mae ein pwyslais ar weithredu’n holistaidd, gan weld ffyniant y wasg yn rhan o ddatblygu economaidd, datblygu cymdeithasol a datblygu ieithyddol. Rydym hefyd yn gweld y wasg – newyddiaduraeth geiriau – yn rhan hanfodol o batrwm y cyfryngau yn y dyfodol. Ond mae angen cymorth i ymateb i’r sialensiau technegol a masnachol. Un o’r pethau mwyaf anodd i gwmni bach fel ni yw buddsoddi mewn ymchwil a datblygu technolegol. Mae hefyd yn anodd gwybod pryd i fentro ar dechnoleg sy’n addawol ond heb ei phrofi. Gallai Llywodraeth a’r sectot cyhoeddus – prifysgolion er enghraifft – fod â rôl allweddol yn hyn o beth.

 

Dylan Iorwerth

7.11.11


Cyflwyniad Golwg Newydd, gan Owain Schiavone (Prif Weithredwr)

Cefndir

Golwg Newydd yw’r cwmni sy’n rhedeg y gwasanaeth newyddion Cymraeg di-dor ar-lein, Golwg360.com.

Lansiwyd y gwasanaeth ar-lein ym mis Mai 2009, ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Ar gyfartaledd, mae Golwg360 yn cyhoeddi tua 30 o straeon bob dydd ac rydym bellach yn denu dros 5000 o ymwelwyr i’r safle’n ddyddiol. Er na allwn fod yn gwbl sicr, rydym yn credu mai Golwg360 yw’r safle Cymraeg mwyf poblogaidd ar y We erbyn hyn.

Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf mae’r gwasanaeth wedi wynebu sawl her yn ymwneud â’r cynnwys a’r dechnoleg, ond heb os yr her fwyaf yw honno i geisio rhoi sail fasnachol gadarn i’r cwmni. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae’n debyg bod hon yn broblem gyffredin i’r cyfryngau Cymreig.

Llenwi bylchau

O ran cynnwys y wefan, yr egwyddor rydym wedi’i ddilyn yw i geisio llenwi bylchau ac ychwanegu gwerth i’r cynnwys Cymraeg sy’n cael ei ddarparu gan gyfryngau eraill, ac rwy’n teimlo ein bod wedi llwyddo i wneud hyn yn effeithiol.

Cynlluniau

Wrth gynllunio i’r dyfodol rydym yn bwriadu dal parhau â’r egwyddor hon, gan gyfuno cynnwys gwreiddiol Golwg360 â bod yn borth i gynnwys Cymraeg arall ar-lein.

Un flaenoriaeth yn y cyfnod nesaf yw i gyflwyno adrannau mwy lleol i’r gwasanaeth. Wrth wneud hyn rydym yn gobeithio cyfuno newyddiaduriaeth broffesiynol gyda newyddiaduriaeth ‘dinesydd’ (h.y. straeon gan y darllenwyr) yn ogystal â bwydo gwybodaeth a newyddion perthnasol o fannau eraill ar y we.

Blaenoriaeth arall yw rhoi llwyfan i fwy o gynnwys aml-gyfrwng ar Golwg360.com. Rydym yn gobeithio gallu cynhyrchu mwy o gynnwys fideo a sain yn fewnol, ond hefyd yn awyddus i roi llwyfan i gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan bobl eraill e.e. rydym yn cydweithio ar hyn o bryd â rhaglen Sgorio i roi uchafbwyntiau gêmau pêl-droed ar y wefan.

Argraffiadau o’r cyfryngau Cymreig

Rwy’n teimlo bod rhaid i’r cyfryngau amrywiol yng Nghymru weithio’n llawer agosach er mwyn gwarchod a chryfhau’r sector. Mae adnoddau ac arian yn brin gan bawb ond mae cyfle trwy rannu arbenigedd ac adnoddau.

Mae Cymru’n dal i fod ychydig yn naïf ynglŷn a photensial technoleg newydd a chryfder y we yn arbennig. O’i ddefnyddio’n iawn, gall y we gael ei ddefnyddio i gryfhau’r cyfryngau ehangach gan gynnwys darlledu traddodiadol a’r cyfrwng print. Mewn un ffordd, roedd cyflwyno Golwg360 yn cael ei weld fel bygythiad i gylchgrawn Golwg. Ond, trwy addasu rhywfaint rydym wedi datblygu system ble mae’r ddau gyfrwng yn cydweithio’n effeithiol ac yn cryfhau’r naill a’r llall. Mae llwyddiant y model yma’r rywbeth a ellid ei gyflwyno mewn sawl rhan arall o’r cyfryngau Cymreig.

Blaenoriaethau i Gymru

Mae angen proses o addysgu cyffredinol yng Nghymru ynglŷn â chryfder y cyfryngau newydd.

Mae angen i fusnesau Cymreig angen gwneud defnydd mwy effeithiol o’r We i farchnata eu gwasanaeth – boed trwy hysbysebu ar y cyfryngau ar-lein neu trwy ddefnyddio rhwydweithiau amrywiol (e.e. rhwydweithiau cymdeithasol).

Ar lefel gymunedol, mae cyfle i ddefnyddio’r We i gryfhau cymunedau daearyddol. Er bod rhwydweithiau cymdeithasol yn dod a phobl yn nes, ac yn ei gwneud yn haws i gymdeithasu ar un llaw, gall hefyd fod yn fygythiad i weithgarwch cymunedol ar lawr gwlad wrth i bobl deimlo llai o angen i adael y tŷ er mwyn cwrdd a ffrindiau ac ati. O’i ddefnyddio’n effeithiol wrth gwrs, mae modd defnyddio’r dechnoleg i hyrwyddo’r hyn sy’n digwydd ar lefel leol a chymunedol a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Rhaid i gymunedau felly gofleidio’r we a’i ddefnyddio yn hytrach na’i ofni.

Mae dealltwriaeth y cyfryngau Cymreig o dechnoleg y We hefyd yn gymysg. Mae’r We’n agored iawn bellach ac mae’n ddigon rhwydd creu gwefannau, ond mae angen mwy na gwefan annibynnol i gyrraedd y gynulleidfa, mae hefyd angen traffig. Wrth ddweud hynny, does dim rhaid denu traffig uniongyrchol i drosglwyddo neges bob tro – mae gofod ar wefannau a rhwydweithiau poblogaidd, lle mae traffig cyson yn gallu bod yr un mor effeithiol os nad yn fwy effeithiol.

 

Owain Schiavone

7.11.11