R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr eitemau a drafodwyd yn ei gyfarfod diweddaf gyda'r undebau ffermio? OAQ(4)0304(NR)
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bysgota môr hamdden gyda rhwydi? OAQ(4)0296(NR)
3. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i adnewyddu'r gyfraith sy'n ymwneud â gwarchod bywyd gwyllt yng Nghymru? OAQ(4)0302(NR)
4. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o wneud ceisiadau ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol eleni? OAQ(4)0294(NR)W
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wahardd llusernau awyr rhag cael eu defnyddio yng Nghymru? OAQ(4)0293(NR)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i hyrwyddo'r ymgais i gynhyrchu ynni ar raddfa fach? OAQ(4)0300(NR)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella coetiroedd Cymru? OAQ(4)0307(NR)W
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid i glirio safleoedd glo brig yng Nghymru? OAQ(4)0299(NR)
9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa effaith y bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei chael ar ddefnyddio tir ar gyfer tyfu bwyd? OAQ(4)0291(NR)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella rheolaeth a lles cŵn? OAQ(4)0297(NR)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(4)0290(NR)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniad i alw cynlluniau ar gyfer East Pit i mewn? OAQ(4)0292(NR)
13. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae awdurdodau cynllunio yn defnyddio cytundebau adran 106 yng Nghymru? OAQ(4)0301(NR)
14. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwyster tir ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol? OAQ(4)0298(NR)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar adfer safleoedd cloddio glo brig? OAQ(4)0288(NR)
Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniad etholiad cyffredinol y DU yn ei chael ar drechu tlodi? OAQ(4)0316(CTP)
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio canol trefi? OAQ(4)0313(CTP)
3. Alun Ffred Jones (Arfon):A oes gan y Gweinidog dargedau CAMPUS ar gyfer mynd i'r afael â thlodi? OAQ(4)0315(CTP)
4. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol? OAQ(4)0322(CTP)
5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ddechrau gwirfoddoli? OAQ(4)0324(CTP)
6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru? OAQ(4)0317(CTP)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau swyddfeydd post yng nghanolbarth Cymru?OAQ(4)0321(CTP)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith y trydydd sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0326(CTP)W
9. Gwyn Price (Islwyn):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi cartrefi incwm isel sy'n ei chael hi'n anodd cwrdd â'r gost gynyddol o fyw? OAQ(4)0328(CTP)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r trafodaethau a gynhaliwyd gyda chydweithwyr cabinet ar gyfrifoldebau traws-bortffolio i fynd i'r afael â thlodi? OAQ(4)0325(CTP)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gefnogaeth sydd ar gael i'r ardaloedd hynny a gollodd eu statws Cymunedau yn Gyntaf ar ôl yr adolygiad diwethaf? OAQ(4)0329(CTP)W
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0323(CTP)
13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru? OAQ(4)0327(CTP)
14. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect Cyngor Da, Byw’n Well? OAQ(4)0330(CTP)
15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gyfarfodydd y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chwmnïau, datblygwyr ac adeiladwyr ynglŷn â'u cyfraniad at ddarparu unedau rhentu preifat? OAQ(4)0319(CTP)W