Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Medi 2015 i'w hateb ar 7 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â llifogydd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0347(NR)

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer taliadau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(4)0360(NR)

3. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i atal llifogydd yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion? OAQ(4)0352(NR)W

4. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n gweithredu yn y sector bwyd a diod? OAQ(4)0363(NR)

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith i amddiffyn yr arfordir ar draeth y gogledd, Llandudno? OAQ(4)0355(NR)

6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rywogaethau a warchodir yng Nghymru? OAQ(4)0348(NR)

7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau ynni hydro-gymunedol yng Nghymru? OAQ(4)0364(NR)W

8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o iechyd y sector moch yng Nghymru? OAQ(4)0361(NR)

9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith newidiadau i'r tariff cyflenwi trydan ar fusnesau ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)0353(NR)

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae'n disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda chyrff trydydd parti? OAQ(4)0362(NR)

11. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diffiniad o dir cyffredin? OAQ(4)0349(NR)

12. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am labelu cig o Gymru? OAQ(4)0356(NR)W

13. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar bŵer solar yng Nghymru? OAQ(4)0354(NR)

14. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael parthed y ffyrdd o wneud gwybodaeth am brofion TB ar ffermydd yn gyhoeddus? OAQ(4)0351(NR)W

15. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli gweithfeydd ailgylchu gwastraff organig yng Nghymru? OAQ(4)0357(NR)

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a wnaed mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar lesddeiliaid yn Nhorfaen? OAQ(4)0377(CTP)

2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru? OAQ(4)0369(CTP)

3. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i nodi diwrnod rhyngwladol yr undebau credyd? OAQ(4)0372(CTP)

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector wirfoddol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0371(CTP)

5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddiogelu asedau cymunedol ledled Cymru? OAQ(4)0368(CTP)

6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r gwaith o adfywio trefi yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0370(CTP)

7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0375(CTP)

8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba mor ddigonol yw'r cyflenwad tai cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0373(CTP)

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ledled Cymru? OAQ(4)0378(CTP)

10. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fudiadau gwirfoddol mewn ardaloedd a oedd yn arfer bod yn rhan o'r cynllun Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0374(CTP)W

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0376(CTP)W

12. Alun Ffred Jones AC (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)0379(CTP)W