Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Hydref 2015 i'w hateb ar 14 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog gynlluniau i ddyrannu cyllid ychwanegol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(4)0619(FIN)W

2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau penderfyniad Llywodraeth y DU i gyhoeddi ei hadolygiad o wariant ar ddiwedd mis Tachwedd? OAQ(4)0615(FIN)

3. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall Llywodraeth Cymru i gael yr effaith orau posibl o bolisi caffael? OAQ(4)0611(FIN)

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad seilwaith mawr yng ngorllewin Nghymru? OAQ(4)0606(FIN)

5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn dyrannu i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi gwasanaethau camddefnyddio sylweddau? OAQ(4)0616(FIN)

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau ynghylch bargen ddinesig posibl yng Nghymru? OAQ(4)0614(FIN)

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon mewn perthynas â rhaglenni Ewropeaidd? OAQ(4)0610(FIN)W

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid a ddyrannwyd i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0608(FIN)

9. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y grŵp gorchwyl a sefydlwyd i fwrw ymlaen â chynnig caffael diweddar Cyngres Undebau Llafur Cymru? OAQ(4)0617(FIN)

10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at weithredu llawr Barnett? OAQ(4)0613(FIN)

11. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y gyllideb ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0612(FIN)

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal ynghylch adolygiad cynhwysfawr o wariant arfaethedig Llywodraeth y DU? OAQ(4)0618(FIN)

13. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad Llywodraeth Cymru at fenthyciadau i ariannu gwariant cyfalaf? OAQ(4)0607(FIN)

14. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae toriadau Llywodraeth y DU wedi effeithio ar gyllideb Cymru? OAQ(4)0609(FIN)

15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0605(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli cyfrifoldebau i awdurdodau lleol? OAQ(4)0627(PS)

2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddyfodol cyllid llywodraeth leol? OAQ(4)0626(PS)

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru am ddiogelwch cymunedol? OAQ(4)0622(PS)W

4. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith newidiadau i gontractau cymorth cyfreithiol troseddol ar wasanaethau yng Nghymru wledig? OAQ(4)0623(PS)W

5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A yw'r Gweinidog wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y gwasanaeth tân er mwyn trafod nifer cynyddol yr achosion o danau bwriadol yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0621(PS)

6. David Rees (Aberafan):Pa effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gyhoeddi ei hadolygiad o wariant mor hwyr yn ei chael ar lywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0629(PS)

7. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0620(PS)

8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa effaith fydd Bil undebau llafur Llywodraeth y DU yn ei chael ar weithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0619(PS)

9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllidebol y portffolio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0617(PS)

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0613(PS)

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau atebolrwydd llawn mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0604(PS)

12. Janet Haworth (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0625(PS)

13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau lleol mewn perthynas â choffáu'r aberth a wnaed gan filwyr ar gofebion? OAQ(4)0618(PS)

14. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffactorau sy'n effeithio ar allu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau sylfaenol? OAQ(4)0630(PS)

15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(4)0615(PS)