Media(4)-06-12 : Papur 1

 

Description: Ofcom_RGB_75mm
 

 

 

 

 

 


Cyflwyniad Ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar

y Cyfryngau yng Nghymru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ionawr 2012


Cynnwys

 

Adran

 

Tudalen

1                 Cyflwyniad – Y Degawd Digidol 1

2                 Crynodeb Gweithredol 6

3                 Argaeledd a Defnyddio Gwasanaeth Teledu  14

4                 Darparu Cynnwys Clywedol yng Nghymru  19

5                 Y Dirwedd Cyfryngau mewn Cyd-destun – Ein Hadolygiadau o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus  24

6                 Modelau ar gyfer y Gwledydd Datganoledig  26

7                 Patrymau a Datblygiadau Diweddar yn y Farchnad  30

8                 Y Dirwedd Cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd – Cydymffurfio â Dyletswyddau Rheoleiddio Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus  40

9                 Radio yng Nghymru – Cyflwyniad a’n Swyddogaeth Rheoleiddio  56

10              Radio yng Nghymru – Gorsafoedd  60

11              Radio Cymunedol yng Nghymru  66

12              Radio Digidol yng Nghymru  68

 

Adran 1

1              Cyflwyniad – Y Degawd Digidol

1.1        Ofcom yw’r rheoleiddiwr ac awdurdod cystadleuaeth annibynnol i ddiwydiannau cyfathrebu’r Deyrnas Unedig, gyda chyfrifoldeb dros ddarlledu, telegyfathrebu a gwasanaethau post. Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i gyflwyno tystiolaeth i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y rhagolygon ar gyfer y cyfyngau yng Nghymru yn y dyfodol.

 

1.2        Ein prif ddyletswyddau cyfreithiol yng nghyswllt y cyfryngau yw sicrhau:

 

o   bod ystod eang o raglenni radio a theledu o ansawdd uchel yn cael eu darparu, sy’n apelio at ystod o ddiddordebau a chwaethau;

 

o   bod gwasanaethau radio a theledu yn cael eu darparu gan ystod o sefydliadau gwahanol;

 

o   bod pobl sy’n gwylio teledu ac yn gwrando ar y radio yn cael eu hamddiffyn rhag deunyddiau sy’n achosi niwed neu dramgwydd; a

 

o   bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu trin yn annheg mewn rhaglenni teledu a radio, a rhag i’w preifatrwydd gael ei darfu.

 

1.3        Nid ydym yn gyfrifol am reoleiddio:

 

o   cynnwys hysbysebion teledu na radio – mae hwn yn fater i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu;

 

o   cwynion am gywirdeb yn rhaglenni’r BBC – mae’r rhain yn fater i’r BBC ei hun;

 

o   ffi trwydded teledu’r BBC – mae hwn yn fater i Lywodraeth y DU; na

 

o   papurau newydd a chylchgronau – mae’r rhain yn fater i Gomisiwn Cwynion y Wasg.

 

1.4       Yn ddiau, y diwydiant cyfryngau yw un o’r diwydiannau mwyaf arloesol, deinamig a blaengar yn y byd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwylwyr a gwrandawyr yng Nghymru wedi elwa o newidiadau sylweddol yn y ffordd caiff gwasanaethau teledu a radio eu cyflenwi ar ystod o ddyfeisiau rhyng-gyfnewidiol a drwy raglenni ar-lein.

 

1.5       Dros y degawd diwethaf mae marchnad cyfathrebu’r DU wedi gweld cryn newid:

 

o   mae gan y rhan fwyaf o gartrefi nawr gysylltiad â'r rhyngrwyd ac mae cysylltiadau band eang cyflymach bellach ar gael;

 

o   bu twf enfawr mewn defnyddio dyfeisiau symudol ar gyfer data a llais;

 

o   mae’r mwyafrif helaeth o gartrefi wedi mabwysiadu teledu digidol aml-sianel – mae’r treiddiad wedi tyfu o 36% i 93%;

 

o   mae gwasanaethau radio digidol nawr yn cynrychioli dros chwarter yr holl wrando ar radio; ac

 

o   mae ffonau deallus yn galluogi pobl i gael gafael ar y rhyngrwyd ble bynnag y bônt.

 

1.6        Serch hynny, mae’r newidiadau technolegol cyflym a chyson hyn a’r cynnydd yn y dewisiadau sydd ar gael i ddefnyddwyr yn cyflwyno sialensiau newydd i’r darlledwyr sefydledig, drwy ragor o gystadleuaeth am wrandawyr ac am refeniw; a chostau cynyddol yn sgil gorfod buddsoddi mewn llwyfannau newydd a modelau busnes ar-lein.

 

1.7        Mae’r nifer sydd â dyfeisiau newydd, megis setiau teledu sy’n barod am HD, recordwyr fideo digidol (DVRs) a chwaraewyr MP3, yn uwch o lawer ac mae gan ddefnyddwyr nawr ddewis a rheolaeth well o lawer dros sut maent yn cael cynnwys clywedol yn y cartref (ac oddi yno) nag oedd ganddynt ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

 

1.8        Yn ogystal â theledu a ddarlledir, gall nifer o ddefnyddwyr nawr wylio cynnwys fideo a gyflenwir dros y rhyngrwyd i nifer o ddyfeisiau (cyfrifiadur personol/gliniadur, dyfais symudol neu gonsol gemau). Mae’n bosibl cadw a storio cynnwys clywedol hefyd er mwyn ei wylio ryw dro eto, ac mae modd ei rewi mewn amser real. Er bod y profiad cyffredin a rennir o wylio’r teledu yn golygu y bydd y mwyafrif helaeth o wylio teledu yn dal i ddigwydd ar ffurf linol i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn y dyfodol agos, bydd yn rhaid i deledu llinol addasu er mwyn aros yn berthnasol mewn byd ‘ar-alwad’.

 

1.9        Ar ben hynny, mae’r pwysau ar ddarlledwyr masnachol wedi dwysáu ymhellach yn sgil gofynion defnyddwyr am raglenni lleol a cholli refeniw hysbysebion dros y degawd diwethaf. Mewn termau real, mae gwariant blynyddol hysbysebwyr ar sianeli darlledu wedi gostwng, gan ddisgyn o £5.9 biliwn yn 2000 i £4.5 biliwn yn 2010 (gweler ffigur 1.1 isod).

 

Ffigur 1.1: Gwariant hysbysebu darlledu termau real, wedi’i addasu yn ôl RPI: Prisiau 2010

 

 

1.10      Er bod ein hymchwil wedi canfod bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi cynnwys ar deledu a radio sy’n adlewyrchu hunaniaeth leol, mae’n ddrud cyflenwi rhaglenni lleol ac mae realaeth fasnachol rhagor o gystadleuaeth yn golygu nad yw cynhyrchu llawer o raglenni lleol mor fasnachol gynaliadwy ag arferai fod.

 

1.11      Yn 2010, roedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi gwario £2.9 biliwn ar raglenni teledu, gyda £2.5 biliwn o hwnnw’n cael ei wario ar raglenni gwreiddiol a oedd yn cael eu dangos am y tro cyntaf. Mewn termau real, mae hyn ar yr un lefel a gofnodwyd yn 2000 (gweler ffigur 1.2 isod).

 

 

Ffigur 1.2: Gwariant termau real rhwydwaith ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus

 

 

1.12      Mae refeniw radio masnachol hefyd wedi disgyn dros y deng mlynedd diwethaf, gan ddisgyn mewn termau real o £0.7 biliwn yn 2000 i £0.4 biliwn yn 2010. Dros yr un cyfnod, rydym yn amcangyfrif bod gwariant y BBC ar radio wedi aros yn weddol gyson (gweler ffigur 1.3 isod).

 

 

Ffigur 1.3 – Refeniw a gwariant y diwydiant radio

 

 

1.13      I grynhoi, mae’r degawd diwethaf wedi gweld marchnad cyfryngau’r DU yn gweddnewid. Y prif reswm am hyn fu’r cynnydd enfawr mewn cystadleuaeth ym mhob rhan o’r sector cyfathrebu, sydd wedi arwain at ostyngiad mewn prisiau, cynnydd mewn dewis ac arloesedd newydd. Mae gwelliannau mewn technoleg, gan gynnwys dyfodiad ffonau deallus, DVRs a chwaraewyr MP3 hefyd wedi arwain at newidiadau enfawr o ran sut mae defnyddwyr yn ymgysylltu â gwasanaethau cyfathrebu.

 

1.14      Mae’r patrymau cysylltiedig hyn o dwf mewn cystadleuaeth a gwelliannau mewn technoleg yn siŵr o barhau yn y dyfodol, sy’n golygu y bydd gweddnewidiad y sector cyfryngau yn debyg o gyflymu yn hytrach nag arafu. Mae dyfeisiau megis ffonau deallus a chyfrifiaduron tabled yn debyg o ddod yn fwy poblogaidd, ac wrth i fwy a mwy o ddyfeisiau gysylltu â’r rhyngrwyd, bydd gwasanaethau ar-lein yn dod yn fwy amrywiol a bydd modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth ehangach o ddibenion.

 

1.15      Ac ystyried y patrymau dyrys hyn yn y farchnad a’r pwysau sylweddol sy’n wynebu’r cyfryngau yn y DU, ein nod ni yw sicrhau bod y drefn reoleiddio yn glir ac yn gyson er mwyn galluogi darparwyr cynnwys i gynhyrchu refeniw; yn ddigon hyblyg i addasu i gydgyfeirio yn y cwmwl ac i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym; ac yn ddigon cadarn i sicrhau bod buddiannau sy’n fwyfwy heterogenaidd dinasyddion a defnyddwyr yn dal i gael eu diwallu drwy gyflenwi cynnwys gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel gan amrywiaeth o leisiau.

 

Adran 2

2              Crynodeb Gweithredol

2.1        Mae modd crynhoi cynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig hon fel a ganlyn.

 

Adran 3: Argaeledd Gwasanaeth Teledu

 

2.2        Lloeren yw’r llwyfan mwyaf poblogaidd ar gyfer prif setiau teledu yng Nghymru o hyd. Mae gan 51% o gartrefi Cymru deledu lloeren (naill ai drwy dalu neu am ddim).

 

2.3         Mae gan chwe deg y cant o oedolion sydd â theledu gartref yng Nghymru wasanaeth teledu drwy dalu.

 

2.4        Dim ond yn ardaloedd trefol de Cymru, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a rhannau o Fro Morgannwg yn bennaf, mae rhwydwaith teledu cebl Virgin Media ar gael, gan wasanaethu 23% o boblogaeth Cymru o’i gymharu â chyfartaledd y DU sef 45%.

 

2.5        Mae gan chwe unigolyn o bob deg (59%) yng Nghymru set deledu sy’n barod am HD, ac mae oddeutu hanner y rhain hefyd yn dweud bod ganddynt fynediad at sianeli HDTV (drwy gebl, lloeren neu deledu daearol digidol - DTT).

 

 

Adran 4: Darparu Cynnwys Clywedol yng Nghymru

 

2.6        Caiff teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ei ddarparu gan bum darlledwr yn y DU - BBC, ITV 1, Channel 4, Channel 5 ac S4C. Mae tri ohonynt – ITV Wales, BBC Cymru ac S4C – yn darparu rhaglenni sydd wedi’u hanelu’n benodol at wylwyr yng Nghymru.

 

2.7                      Bu gostyngiad o 11 pwynt canran yng nghyfran gyfun prif sianeli’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru dros bum mlynedd. Mae’r gyfran gyfun nawr yn 53% yng Nghymru.

 

2.8                      Yn 2010, roedd cyfran cynulleidfa ITV 1 Wales (manylder safonol) yn 17.5% o’i gymharu â chyfartaledd y DU ar gyfer ITV 1 sef 16.6%.

 

2.9        Yn 2010, roedd cyfran cynulleidfa BBC Wales (manylder safonol) yn 19.3% o’i gymharu â chyfartaledd y DU ar gyfer BBC 1 sef 20.6%.

 

2.10      Roedd y grant a gafodd Awdurdod S4C gan Adran y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2010 yn £101.6 miliwn ac ar ben hynny cafodd oddeutu 10 awr o raglenni’r wythnos am ddim gan y BBC (sydd werth £23 miliwn y flwyddyn).

 

2.11      Yn 2010, yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon ostyngiad o 24.4% yng nghyllid S4C dros 4 blynedd a bwriad i ddisodli fformiwla cyllido statudol presennol S4C sydd wedi’i chysylltu ag RPI. Ar ben hynny, o 2013/14 ymlaen bydd cyllid S4C yn cael ei ddarparu drwy gyfuno cyllid gan y Trysorlys, refeniw masnachol a Ffi’r Drwydded dan bartneriaeth ag Ymddiriedolaeth y BBC.

 

2.12      Ym mis Hydref 2011 daeth Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C i gytundeb ynghylch dyfodol a chyllid S4C tan 2017. Byddai dyraniad S4C yn disgyn o £76.3m yn 2013/14 i £74.5m yn 2016/17 fel rhan o'r berthynas newydd rhwng y ddau ddarlledwr.

 

2.13      Yn ystod 2010, cafodd rhaglenni Cymraeg S4C eu gwylio am gyfartaledd o 19 awr y flwyddyn gan bob unigolyn yng Nghymru.

 

2.14      Roedd cyrhaeddiad wythnosol rhaglenni Cymraeg ar S4C yn 17% yn 2010, sef yr un lefel â’r flwyddyn flaenorol. Roedd cyfan S4C o’r holl wylio yn 1.3% yn 2010.

 

2.15      Gan fod S4C yn ddarlledwr gyhoeddwr, daw'r rhan fwyaf o’i rhaglenni gan amrywiaeth o gynhyrchwyr annibynnol sydd wedi’u lleoli gan fwyaf yng Nghymru.

 

 

Adran 5: Y Dirwedd Cyfryngau mewn Cyd-destun – Ein Hadolygiadau o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

 

2.16      Daeth ein Hadolygiad cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus i’r casgliad bod y galw’n parhau am Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ond na fyddai’r model presennol o sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu gan sianeli a gyllidir yn fasnachol yn goroesi’r newid i fyd hollol aml-sianel heb newid.

 

2.17      Yn yr Adolygiad roeddem wedi ailadrodd y farn mai newyddion rhanbarthol oedd elfen bwysicaf darpariaeth ranbarthol i gynulleidfaoedd yn y gwledydd datganoledig yn ogystal ag yn rhanbarthau Lloegr.

 

2.18      Yng nghyswllt rhaglenni rhanbarthol nad ydynt yn newyddion, daethom i’r casgliad bod anghenion y gwledydd datganoledig yn y DU yn wahanol i anghenion rhanbarthau Lloegr.

 

2.19      Daeth yr Adolygiad i’r casgliad bod gofyn parhaus am raglenni sy'n adlewyrchu hunaniaethau, diwylliannau, hanes a diddordebau gwahanol Cymru.

 

2.20      Serch hynny, roedd cydnabyddiaeth wrth ddynesu at y newid i’r digidol, y byddai gwerth gwarged trwyddedau analog darlledwyr Sianel 3 (ar ôl ystyried dyletswyddau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus) yn lleihau, ac fe wnaethom gynnig lleihau’r gofyniad sylfaenol am raglenni rhanbarthol nad ydynt yn rhaglenni newyddion yn y gwledydd datganoledig, o bedair awr yr wythnos i dair awr, wrth i ranbarth cyntaf y DU newid i’r digidol er mwyn helpu cynaliadwyedd cyffredinol gwasanaethau ITV yn y gwledydd.

 

2.21      Ers cwblhau’r Adolygiad cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn gynnar yn 2005, esblygodd y dirwedd cyfryngau’n gyflym. Roedd nifer y gwylwyr a fabwysiadodd dechnoleg ddigidol wedi tyfu’n sylweddol, ac roedd cyfran gyfun y pum sianel Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus daearol wedi parhau i ddisgyn. O ganlyniad, roeddem wedi cyhoeddi ym mis Mai 2007 y byddem yn dod â’n hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ymlaen.

 

 

Adran 6: Modelau ar gyfer y Gwledydd Datganoledig

 

2.22      Rydym yn cytuno bod y wleidyddiaeth newydd sydd wedi deillio o ddatganoli yn gofyn am gyfryngau bywiog sydd ar gael yn eang er mwyn ei chynnal ac adrodd arni. Dylai cynulleidfaoedd yng Nghymru gael dewis o raglenni newyddion a rhaglenni gwreiddiol nad ydynt yn newyddion o ansawdd uchel sy’n berthnasol i’w bywydau a’r ardal lle maent yn byw, wedi’u darparu gan nifer o leisiau.

 

2.23      Mewn ymateb i’n hymgynghoriad ar yr ail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roedd cydnabyddiaeth gyffredinol bod cynnal lluosogrwydd mewn darpariaeth newyddion yn arbennig o bwysig, ac ystyried y ddarpariaeth newyddion gymharol denau a geir gan gyfryngau print cynhenid Cymru.

 

2.24      Yn ein hail Adolygiad, roeddem wedi dadlau oherwydd y gwerth mae cynulleidfaoedd yn y gwledydd datganoledig yn ei roi ar luosogrwydd darpariaeth, ei bod yn annhebyg y byddai model BBC-yn-unig yn ddigonol.

 

2.25      Mae deddfwrfeydd datganoledig y DU yn gallu cefnogi sefydliadau a modelau newydd i ddarparu ystod ehangach o gynnwys cyhoeddus tu hwnt i newyddion, ond nid ydym o'r farn bod un ateb ar gael a fydd yn diwallu anghenion pob gwlad.

 

2.26      Serch hynny, ceir rhai nodweddion sy’n gyffredin rhyngddynt. Y brif nodwedd gyffredin yw’r ymlyniad at y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan y rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a ffafriaeth at strwythur sydd â thrwydded Sianel 3 ar wahân i bob gwlad. Rydym yn derbyn y ddadl dros greu trwydded ar wahân i Gymru.

 

2.27      Yn 2008, roedd Grŵp Cynghori ar Ddarlledu Llywodraeth Cymru wedi cynnig creu Comisiwn Cyfryngau Cymru. Roedd ein hagwedd at gyllido newyddion y gwledydd yn cyd-fynd yn agos â'r model asiantaeth cyllido hwn gyda ffocws ar ITV Wales fel cyfrwng ar gyfer cyflenwi.

 

2.28      Yn ein hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roeddem wedi cynnig tri model ar gyfer y byd digidol, a byddai pob un ohonynt yn gofyn am newid y fframwaith deddfwriaethol cyfredol yn sylweddol – model esblygiad uwch; model BBC/Channel 4 wedi’i ailddiffinio; model cyllido cystadleuol wedi’i ailddiffinio.

 

2.29      I grynhoi, daethom i’r casgliad mai’r dewisiadau oedd:

 

o   gwneud dim, a chaniatáu i ddarpariaeth ddirywio dros amser, yn erbyn dymuniadau amlwg y gynulleidfa;

 

o   darparu cyllid cyhoeddus newydd i'r rheini sy'n dal trwyddedau Sianel 3 yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;

 

o   cyflwyno cyllid cystadleuol i wasanaethau yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr er mwyn galluogi darparwyr eraill i gyflwyno cynigion, a allai o bosibl olygu creu gwasanaethau traws-gyfryngol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon; a

 

o   cyllido creu sianeli penodol ar gyfer y gwledydd datganoledig, megis yr hyn a gynigwyd gan greu Comisiwn Cyfryngau Cymru.

 

2.30       Dyma oedd ein casgliadau dros dro o’n hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus:

 

o   dylai’r BBC barhau i fod yn gonglfaen cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, a dylid diogelu ei chyllideb graidd ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau;

 

o   dylai cynulleidfaoedd gael dewis o ddarparwyr cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y rhan fwyaf o ardaloedd, na fydd y farchnad ar ei phen ei hun yn darparu.

 

o   dylid cyflenwi cylchoedd gwaith gwasanaeth cyhoeddus ar draws llwyfannau digidol yn y dyfodol, er bod teledu llinol yn dal yn hanfodol;

 

o   mae darparu cynnwys i’r gwledydd datganoledig – yn enwedig newyddion penodol – yn dal yn ofyniad hanfodol ar gyfer unrhyw fodel yn y dyfodol;

 

o   gallai cyllid sefydliadol a chystadleuol ill dau chwarae rhannau cyflenwol pwysig yn y model ar gyfer cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol;

 

o   Dylai Channel 4 gael swyddogaeth gwasanaeth cyhoeddus sylweddol yn yr oes ddigidol, gan adeiladu ar ei gyfraniad ar hyn o bryd. Mae arno angen model economaidd a mecanwaith cyllido i gefnogi hyn; a

 

o   rhwng nawr a 2014, dylai ITV1 a Five gadw swyddogaethau pwysig sy’n canolbwyntio ar raglenni gwreiddiol o’r DU a newyddion, ac (ar gyfer ITV 1) y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr ac (ar gyfer Five) cynnwys i blant.

 

2.31                    Yng Nghymru, fel amod o gadw newyddion y gwledydd ar ITV Wales, roeddem wedi lleihau’r gofyniad sylfaenol ar gyfer nifer y munudau o newyddion o 5 awr 20 munud i 4 awr, ac wedyn lleihau’r gofynion sylfaenol ar gyfer rhaglenni’r gwledydd a rhanbarthau nad ydynt yn newyddion o 3 awr i 1.5 awr.

 

 

Adran 7: Patrymau a Datblygiadau Diweddar yn y Farchnad

 

2.32      Ers ein hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, mae datblygiadau technolegol a thwf y llwyfan teledu daearol digidol wedi cynyddu’r dewisiadau sydd ar gael i wylwyr a’r gystadleuaeth rhwng darparwyr am amser a sylw gwylwyr. Ar ben hynny, mae’n bosibl y gallai dibyniaeth rhwydweithiau masnachol ar refeniw hysbysebion fygwth cynaliadwyedd y trwyddedau gwasanaeth cyhoeddus mewn blynyddoedd i ddod.

 

2.33      Serch hynny, mae’r galw am deledu llinol – gan gynnwys cynnwys gwasanaeth cyhoeddus – wedi aros yn gadarn er gwaethaf cyflymder y newid technolegol a’r twf mewn dewisiadau i wylwyr.

 

2.34      Roedd gwariant ar allbwn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr gan y BBC a Sianel 3 gyda’i gilydd wedi disgyn £93 miliwn neu 26%, o £359 miliwn yn 2006 i £266 miliwn yn 2010.

 

2.35      Cafodd cyfanswm o £25 miliwn ei wario ar gynnwys Saesneg i wylwyr yng Nghymru yn ystod 2010, a oedd 13% yn is na 2009.

 

2.36      Roedd S4C wedi gwario cyfanswm o £79 miliwn ar raglenni a ddangoswyd am y tro cyntaf yn ystod 2010, a oedd 3% yn uwch na 2009 mewn termau nominal.

 

 

Adnewyddu Trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5

 

2.37      Bydd pob un o bymtheg trwydded ranbarthol Sianel 3, trwydded brecwast genedlaethol Sianel 3 a thrwydded Sianel 5 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014.

 

2.38      Ar 1af Gorffennaf 2011, gofynnodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ni roi cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol am y dewisiadau ar gyfer ail-drwyddedu Sianel 3 a Sianel 5.

 

2.39      Dan y Ddeddf, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu:

 

o   ein cyfarwyddo i fwrw ymlaen â’r broses adnewyddu a all arwain at ddyfarnu trwyddedau deng mlynedd i’r rheini sydd eisoes yn dal trwyddedau o 1 Ionawr 2015 ymlaen;

 

o   rhwystro adnewyddu’r trwyddedau, gan ganiatáu i ni ddyfarnu trwyddedau gwag, sy’n arwain at ddyfarnu trwyddedau deng mlynedd i gyrff newydd o 1 Ionawr 2015 ymlaen; neu

 

o   ymestyn y trwyddedau cyfredol am gyfnod o’i ddewis ef (unrhyw bryd).

 

 

Mesur Lluosogrwydd ar draws y Cyfryngau

 

2.40      Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn i ni ddarparu cyngor i Ymchwiliad Leveson am luosogrwydd y cyfryngau. Byddwn yn gwneud hynny erbyn mis Mehefin 2012.

 

 

Llywodraeth Cymru – Y Diwydiannau Creadigol

 

2.41      Yn dilyn Adolygiad yr Athro Ian Hargreaves o’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithredu ei argymhellion gan gynnwys creu Canolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd; lansio Bwrdd Cynghori Cymru Ddigidol; gweithredu fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflawni Cymru Ddigidol; a chreu Cronfa Diwydiannau Creadigol newydd.

 

Llywodraeth y DU – Teledu Lleol

 

2.42      Ym mis Gorffennaf 2011, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer teledu lleol a oedd yn rhoi cynigion i greu nifer o drwyddedau gwasanaeth teledu lleol. Rydym wedi darparu gwybodaeth am y lleoliadau lle gallai gwasanaethau darlledu lleol drwy deledu daearol digidol fod yn bosibl yn dechnegol.

 

2.43      Roeddem wedi dod o hyd i 6 lleoliad yng Nghymru: Bangor, Caerdydd (gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr/Casnewydd); Caerfyrddin; Hwlffordd; yr Wyddgrug (gan gynnwys Dinbych/Rhuthun); ac Abertawe (gan gynnwys Llanelli)

 

 

Adran 8: Y Dirwedd Cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd – Cydymffurfio â Dyletswyddau Rheoleiddio Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

 

2.44      Mae’n rhaid i ddarlledwyr teledu gydymffurfio â nifer o reoliadau sy’n deillio o ddeddfwriaeth y DU neu ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn disgrifio ystod o ddyletswyddau sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod digon o rai mathau o raglenni’n cael eu cynhyrchu a’u darlledu. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd arnom i gytuno ar gwotâu gyda’r darlledwyr a monitro cydymffurfiad ar gyfer rhai mathau o raglenni.

 

2.45     Mae’r cwotâu canlynol yn berthnasol i’r BBC, ITV 1, Channel 4, Channel 5 ac S4C:

 

o   cynyrchiadau annibynnol – rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud gan gwmnïau sy’n annibynnol ar ddarlledwyr;

 

o   cynyrchiadau gwreiddiol – rhaglenni sy’n cael eu comisiynu gan ddarlledwyr o adnoddau cynhyrchu mewnol neu gynhyrchwyr annibynnol cymwys;

 

o   cynyrchiadau tu allan i Lundain – rhaglenni rhwydwaith sy’n cael eu gwneud yn y DU tu allan i’r M25;

 

o   rhaglenni’r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr ar Sianel 3 a’r BBC – sy’n cael eu gwneud a’u dangos yn y gwledydd a’r rhanbarthau; a

 

o   Newyddion a Materion Cyfoes y DU a Rhyngwladol

 

 

Adran 9: Radio yng Nghymru – Cyflwyniad a’n Swyddogaeth Rheoleiddio

 

2.46      Mae ein hymchwil wedi canfod bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi cynnwys lleol ar radio masnachol sy’n adlewyrchu hunaniaethau lleol. Serch hynny, mae’n ddrud cyflenwi rhaglenni lleol ac mae realaeth fasnachol rhagor o gystadleuaeth yn golygu nad yw cynhyrchu llawer iawn o raglenni lleol bellach mor fasnachol gynaliadwy ag arferai fod.

2.47      Ein swyddogaeth ni yw sicrhau bod y rheoleiddio’n briodol i sialens ganolog sicrhau bod cynnwys radio lleol yn cael ei gyflenwi yng ngoleuni realaeth ariannol, ar yr un pryd â chreu strwythur diwydiant ar gyfer y dyfodol.

 

2.48      O ganlyniad, rydym eisoes wedi cymryd camau gweithredol i leihau’r baich rheoleiddio ar y sector radio masnachol ac rydym wedi ceisio dod â’r trefniadau analog a digidol yn nes at ei gilydd, gan ystyried y dyletswyddau a’r nodau, a bennwyd gan Senedd y DU.

 

 

Adran 10: Radio yng Nghymru – Gorsafoedd

 

2.49      Mae’r BBC yn darparu dau wasanaeth cenedlaethol i Gymru: Radio Cymru (ar FM) yn Gymraeg a Radio Wales (ar AM ac FM) yn Saesneg.  Ar ben hynny, mae gan 18 o orsafoedd radio analog masnachol drwydded i ddarlledu yng Nghymru ac mae 9 gorsaf radio cymunedol drwyddedig yng Nghymru.

 

2.50      Mae gwasanaeth FM Radio Cymru yn cyrraedd 94.8% o’r boblogaeth. Fodd bynnag, gan fod Radio Wales wedi dechrau’n bennaf fel rhwydwaith AM, mae ei gyrhaeddiad FM yn fwy cyfyngedig, gan gyrraedd dim ond 68% o’r boblogaeth.

 

2.51      Ar gyfartaledd o 23.3 awr yr wythnos, mae'r oriau a dreulir yn gwrando ar y radio yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU (cyfartaledd y DU - 22.3 awr).

 

2.52      Mae llawer iawn o wrandawyr BBC Radio Wales yn dibynnu ar wasanaeth AM. Ar hyn o bryd ni all 55-60% o bobl Cymru dderbyn BBC Radio Cymru na BBC Radio Wales ar DAB, ac ni all oddeutu 70% o siaradwyr Cymraeg dderbyn BBC Radio Cymru ar DAB, sy’n cyferbynnu â darpariaeth o 80% ar gyfer gorsafoedd Radio Rhwydwaith y BBC yng Nghymru.

 

2.53      Ac ystyried topograffi Cymru gydag ardaloedd mynyddig sylweddol lle mae’n anodd derbyn FM, heb sôn am DAB, bydd darparu signal AM mewn ceir yn dal i fod yn bwysig yn y dyfodol rhagweladwy.

 

2.54      Roedd cyfran y gwrando ar orsafoedd radio masnachol yng Nghymru ychydig dros chwarter (26%). Roedd hyn yn is na gwledydd eraill y DU gyda’r Alban yn 41%, Gogledd Iwerddon yn 32% a Lloegr yn 31%.

 

2.55      Roedd y refeniw a gynhyrchwyd gan y gorsafoedd masnachol yng Nghymru yn £16.3 miliwn yn ystod 2010. Gan addasu yn ôl maint poblogaeth, roedd gan Gymru’r refeniw isaf y pen o holl wledydd y DU, sef £5.41.

 

 

Adran 11: Radio Cymunedol yng Nghymru

 

2.56      Yng Nghymru, mae naw o wasanaethau trwyddedig ar yr awyr ar hyn o bryd.

 

2.57      Ym mis Ebrill 2011, roeddem wedi cyhoeddi trydedd rownd o drwyddedu radio cymunedol. Serch hynny, ni fydd yn bosibl lansio gwasanaethau newydd mewn sawl ardal yng Nghymru, gan gynnwys Casnewydd ac Abertawe, oherwydd prinder amleddau.

 

 

 

Adran 12: Radio Digidol yng Nghymru

 

2.58      Ar hyn o bryd caiff radio DAB ei gyflenwi ledled Cymru drwy amlblecs BBC y DU ac amlblecs Digital One, sy’n berchen i Arqiva. Mae darpariaeth gyfun y ddau amlblecs yn gwasanaethu oddeutu 68% o boblogaeth Cymru. Ar ben hynny caiff de Cymru ei gwasanaethu gan amlblecs rhanbarthol Aber Afon Hafren sydd hefyd yn gwasanaethu gorllewin Lloegr, a dau amlblecs masnachol lleol sy’n gwasanaethu Caerdydd/Casnewydd ac Abertawe.

 

2.59      Mae gwrandawyr radio digidol sy’n byw yng nghytrefi mwy Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn derbyn hyd at 32 o orsafoedd DAB. Mae’r rhain yn cynnwys 23 o orsafoedd y BBC a gorsafoedd masnachol ar gyfer y DU i gyd, a BBC Radio Cymru / BBC Radio Wales a gwasanaethau lleol ychwanegol sy'n gwasanaethu De Cymru sy'n cael eu cludo ar y ddau amlblecs masnachol lleol.

 

2.60      Serch hynny, caiff gwasanaethau’r BBC ar gyfer Cymru ddim ond eu cludo ar amlblecsau masnachol lleol ac er mwyn ymestyn eu cyrhaeddiad rydym wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs lleol dros y ddwy flynedd diwethaf i wasanaethu’r rhan fwyaf o weddill Cymru. Ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau DAB lleol ar yr awyr yng Ngogledd na Chanolbarth Cymru. Felly mae darpariaeth BBC Radio Cymru a Radio Wales yn dal wedi’i chyfyngu i dde a dwyrain Cymru ar hyn o bryd.

 

2.61      Fodd bynnag, mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cynulleidfa Cymru Ymddiriedolaeth y BBC a’n Pwyllgor Cynghori ar gyfer Cymru, ynghylch darpariaeth Radio Cymru a Radio Wales ar DAB, dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi blaenoriaethu hysbysebu amlblecsau masnachol lleol ar gyfer rhannau eraill o Gymru.

 

2.62      Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU wedi datgan y byddwn yn cael y pŵer i ymestyn ardal darpariaeth amlblecsau lleol i ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu heb orfod dyfarnu trwyddedau newydd.

 

2.63      Ym mis Mawrth 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Gweithredu Radio Digidol. Ar gais Llywodraeth y DU, rydym wedi cadeirio grŵp cynllunio darpariaeth a sbectrwm DAB i ‘bennu lefel bresennol darpariaeth FM a datblygu ystod o ddewisiadau i gynyddu darpariaeth DAB i gyfateb i FM’.

 

 

 

Adran 3

3              Argaeledd a Defnyddio Gwasanaeth Teledu

Defnyddio Teledu Digidol yng Nghymru

 

3.1                      Yn hanesyddol, mae topograffi Cymru wedi golygu sialensiau peirianneg sylweddol i’r nod o sicrhau bod signal teledu yn cael ei dderbyn ym mhob man. Er bod poblogaeth Cymru yn ddim ond 5% o boblogaeth y DU, caiff ei gwasanaethu gan 20% o drosglwyddyddion y DU mewn rhwydwaith gymhleth o 214 o brif drosglwyddyddion ac is drosglwyddyddion.

 

3.2        Ar 31 Mawrth 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i newid yn gyfan gwbl i deledu digidol. Ynghyd â’r deg safle a oedd eisoes yn trosglwyddo teledu daearol digidol (DTT) cafodd y 204 is drosglwyddydd arall eu newid i drosglwyddo digidol. Dywed bron i bob cartref sydd â theledu yng Nghymru nawr (99%) eu bod yn gallu cael gafael ar wasanaeth teledu digidol.

 

Ffigur 3.1 – Defnyddio Teledu Digidol yng Nghymru

 

3.3                      Yn unol ag amcan Llywodraeth y DU y dylai fersiynau digidol o’r hen sianeli analog (BBC Wales, BBC 2, ITV 1, S4C a Five) fod ar gael mor eang ar deledu daearol ag oeddent cyn newid i'r digidol, mae pob trosglwyddydd yng Nghymru yn darlledu tri signal digidol, a elwir yn "amlblecsau", sy'n cludo fersiwn digidol o'r hen sianeli analog. Mae’r signalau hyn yn cynnwys hyd at 37 o sianeli teledu, radio a rhyngweithiol.

 

3.4        Er bod pob trosglwyddydd yn darlledu tri amlblecs, dim ond y trosglwyddyddion mwy (megis Gwenfô, Carmel, Preseli, Bryn Cilfái, Blaenplwyf, Moel-y-Parc, Llanddona a Chefn Digoll) sy’n darlledu tri amlblecs masnachol ychwanegol. Nid oes yn rhaid i’r amlblecsau masnachol hyn gyfateb i ddarpariaeth y signalau gwasanaeth cyhoeddus gan nad ydynt yn cludo unrhyw sianeli gwasanaeth cyhoeddus. Mae darpariaeth chwe amlblecs llawn ar gael i oddeutu 73% o gartrefi Cymru, lle gellir derbyn hyd at 110 o sianeli teledu, radio a rhyngweithiol.

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 3.2 – Argaeledd Sianeli Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (Mehefin 2011) – Cymru

 

 

 

Ffigur 3.3 – Argaeledd Pob Sianel (Mehefin 2011) – Cymru

 

 

Llwyfannau Gwylio

 

3.5                      Lloeren yw’r llwyfan mwyaf poblogaidd ar gyfer prif setiau teledu yng Nghymru o hyd. Mae gan 51% o gartrefi Cymru deledu lloeren (naill ai drwy dalu neu am ddim).

 

3.6         Mae gan chwe deg y cant o oedolion sydd â theledu gartref yng Nghymru wasanaeth teledu drwy dalu.

 

3.7        Dim ond yn ardaloedd trefol de Cymru, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a rhannau o Fro Morgannwg yn bennaf, mae rhwydwaith teledu cebl Virgin Media ar gael, gan wasanaethu 23% o boblogaeth Cymru o’i gymharu â chyfartaledd y DU sef 45%.

 

 

Ffigur 3.4 – Cyfran prif set deledu yng Nghymru, yn ôl llwyfan

 

Mynediad i HDTV

 

3.8        Mae gan chwe unigolyn o bob deg (59%) yng Nghymru set deledu sy’n barod am HD, ac mae oddeutu hanner y rhain hefyd yn dweud bod ganddynt fynediad at sianeli HDTV (drwy gebl, lloeren neu Deledu Daearol Digidol). Mae hyn yn golygu bod gan 30% o oedolion Cymru fynediad at sianeli HDTV, sydd fymryn yn is na chyfartaledd y DU (32%). Y llwyfan a ddefnyddir gan amlaf i gael sianeli HDTV.

 

Ffigur 3.5 – Cyfran y cartrefi yng Nghymru sydd â setiau teledu sy’n barod am HD a HDTV

 

 

 

 

Gwylio Teledu Darlledu

 

3.9        Bu gostyngiad o 11 pwynt canran yng nghyfran gyfun y prif sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru dros bum mlynedd. Mae’r gyfran gyfun nawr yn 53% yng Nghymru.

 

Ffigur 3.6 – Cyfran gyfun sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus

 

Ffynonellau Newyddion Lleol

 

3.10      Yn 2010, dywedodd 54% o oedolion Cymru mai’r teledu oedd eu prif ffynhonnell o newyddion lleol, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd y DU sef 52%. Roedd 15% wedi crybwyll “siarad â phobl”, sy’n uwch o lawer na chyfartaledd y DU sef 8%.

 

Ffigur 3.7 – Ffynonellau Newyddion Lleol ym mhob gwlad: 2010

 


 

Adran 4

4              Darparu Cynnwys Clywedol yng Nghymru

4.1        Caiff teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ei ddarparu gan bum darlledwr yn y DU - BBC, ITV 1, Channel 4, Channel 5 ac S4C. Mae tri ohonynt – ITV Wales, BBC Cymru ac S4C – yn darparu rhaglenni sydd wedi’u hanelu’n benodol at wylwyr yng Nghymru.

 

ITV Wales

 

4.2                      Ar ôl cyflwyno teledu masnachol yng Nghymru ar ddiwedd y 1950au, cafodd ardal drwydded Sianel 3 ddeuol a oedd yn gwasanaethu Cymru a Gorllewin Lloegr ei chreu yn y pen draw. Roedd y drwydded hon yn cael ei dal gan TWW yn wreiddiol a gan HTV o 1967 ymlaen. Yn ystod y 1970au, sefydlodd HTV ddau wasanaeth, HTV Cymru a HTV West, ac ar ôl newid perchnogaeth nifer o weithiau, mae’r drwydded hon nawr yn berchen i ITV Plc.

 

4.3                      Er 1954 mae’r rhwydwaith Sianel 3 sydd â strwythur ffederal – ar sail trwyddedau rhanbarthol ar wahân – wedi gallu cystadlu’n effeithiol â’r BBC o ran rhaglenni newyddion y gwledydd a’r rhanbarthau ac o ran rhaglenni eraill ar gyfer y gwledydd a’r rhanbarthau, gan gynnwys materion cyfoes.

 

4.4                      Yn ystod y 1990au, roedd prynu ac uno cwmnïau wedi newid y strwythur ffederal llawn hwn o 15 cwmni ar wahân yn weithrediad mwy canolog. Mae’r rhwydwaith nawr yn cynnwys ITV plc (11 trwydded sy’n cynnwys trwydded ITV i Gymru a Gorllewin Lloegr) a’r tri chwmni arall nad ydynt yn perthyn i ITV plc (mae dwy drwydded yn cael eu dal gan STV, ac un yr un gan UTV a Channel).

 

4.5                      Bydd y system ffederal hon yn gynaliadwy dim ond os yw manteision y statws darlledu gwasanaeth cyhoeddus i ITV plc yn fwy o lawer na’r dyletswyddau a roddir arno. Yn ystod ein dau Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roeddem wedi rhagweld y byddai newid i’r digidol a’r twf aml-sianel yn lleihau manteision trwyddedau Sianel 3 i’r fath raddau y gallai ITV fodd â chymhellion masnachol dros ildio ei statws Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus.  Rydym yn ystyried hyn mewn rhagor o fanylder yn adran 4 y cyflwyniad hwn.

 

4.6        Yn 2010, roedd cyfran cynulleidfa ITV Wales (manylder safonol) yn 17.5% o’i gymharu â chyfartaledd y DU ar gyfer ITV 1 sef 16.6%. Yn ystod yr oriau brig roedd cyfran cynulleidfa ITV 1 Wales yn 23.7%, o’i gymharu â chyfartaledd y DU ar gyfer ITV1 yn ystod yr oriau brig sef 21.7%.

 

BBC Cymru

 

4.7                      Cafodd y BBC ei sefydlu gan Siarter Brenhinol yn 1927, gyda mandad i ddarparu gwybodaeth, addysg ac adloniant i’w chynulleidfa. Cafodd Rhanbarth Cymru’r BBC ei amledd ei hun ar gyfer darlledu teledu yn 1964 a chafodd ei ailenwi yn BBC Cymru. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu ar deledu am y tro cyntaf yn 1953, a chafodd rhaglenni teledu Cymraeg eu darparu bob dydd o 1957 tan fis Tachwedd 1982 pan symudodd rhaglenni Cymraeg y BBC i S4C.

 

4.8                      Mae BBC Cymru yn darparu rhaglenni teledu Saesneg i wylwyr yng Nghymru ar BBC 1 Wales a BBC 2 Wales.

 

4.9        Yn 2010, roedd cyfran cynulleidfa BBC Cymru (manylder safonol) yn 19.3% o’i gymharu â chyfartaledd y DU ar gyfer BBC 1 sef 20.6%. Yn ystod yr oriau brig roedd cyfran cynulleidfa BBC Cymru yn 22%, o’i gymharu â chyfartaledd y DU ar gyfer BBC 1 yn ystod yr oriau brig sef 22.9%.

 

 

S4C

 

4.10      Cafodd S4C ei sefydlu dan Ddeddf Darlledu 1980 ynghyd â’i rheoleiddiwr, Awdurdod Sianel Pedwar Cymru. Dechreuodd S4C ddarlledu ym mis Tachwedd 1982. Cyn hynny roedd rhaglenni teledu Cymraeg wedi cael eu darlledu yn ystod yr oriau brig ar BBC 1 Wales a HTV Wales. Roedd creu S4C yn diwallu’r galw gan siaradwyr Cymraeg am wasanaeth teledu gwell. Roedd hyn hefyd yn tynnu rhaglenni Cymraeg oddi ar BBC Wales a HTV Wales yn ystod yr oriau brig, rhywbeth a arferai wylltio'r rheini nad oeddent yn siarad Cymraeg.

 

4.11      Roedd Deddf Darlledu 1980 hefyd yn rhoi’r hawl i S4C gael mynediad i raglenni Channel 4, am ddim, y byddai modd eu darlledu o boptu'r rhaglenni Cymraeg a fyddai’n cael eu darlledu yn ystod yr oriau brig. Serch hynny, pan ddaeth y gwasanaeth analog i ben ar ôl gorffen newid i’r digidol yng Nghymru ar 30ain Mawrth 2010, daeth S4C yn sianel gwbl Gymraeg, gan ddarlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos, ar draws ystod o lwyfannau, gan gynnwys ar-lein.

 

4.12      Roedd y grant a gafodd Awdurdod S4C gan Adran y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2010 yn £101.6 miliwn ac ar ben hynny cafodd oddeutu 10 awr o raglenni’r wythnos am ddim gan y BBC (sydd werth £23 miliwn y flwyddyn). Disgwylir y bydd yn disgyn oddeutu £20 miliwn erbyn 2013. Dan ddarpariaethau yn Neddf Darlledu 1980, roedd yn rhaid i’r BBC ddarparu rhaglenni Cymraeg am ddim er mwyn diwallu “gofynion rhesymol” Awdurdod Cymru. Cafodd hyn ei addasu yn Neddf Darlledu 1990 i “ddim llai na deg awr o raglenni bob wythnos”.

 

4.13      Mae’r ddarpariaeth hon wedyn wedi bod yn destun tensiynau cynhenid ac yn ystod Cam 3 ein Hadolygiad Cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roeddem wedi mynegi’r farn y dylai S4C ddatblygu perthynas newydd wedi’i gyrru gan dair egwyddor graidd sef tryloywder, ymrwymiad ariannol a rheolaeth olygyddol.

 

4.14      Yn dilyn hynny, yn ystod hydref 2006, daeth S4C a’r BBC i gytundeb a gafodd ei ddisgrifio fel “Partneriaeth Strategol”, a oedd yn mynd i’r afael â’r materion hyn. Roedd y cytundeb hwn yn cynnwys ymrwymiad cyllido gan y BBC ar gyfer ei chyflenwad statudol i S4C ac roedd yn cynnwys darpariaeth i Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C gytuno ar ymrwymiadau rhaglen a dyletswyddau craidd yn unol â dibenion cyhoeddus y BBC a dyletswyddau Siarter.

 

4.15      Yn 2010, yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon ostyngiad o 24.4% yng nghyllid S4C dros 4 blynedd a bwriad i ddisodli fformiwla cyllido statudol presennol S4C sydd wedi’i chysylltu ag RPI. Ar ben hynny, o 2013/14 ymlaen bydd cyllid S4C yn cael ei ddarparu drwy gyfuno cyllid gan y Trysorlys, refeniw masnachol a Ffi’r Drwydded dan bartneriaeth ag Ymddiriedolaeth y BBC.

 

4.16      Ym mis Hydref 2011 daeth Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C i gytundeb ynghylch dyfodol a chyllid S4C tan 2017. Byddai dyraniad S4C yn disgyn o £76.3m yn 2013/14 i £74.5m yn 2016/17 fel rhan o'r berthynas newydd rhwng y ddau ddarlledwr. Nid yw’r cyllid yn cynnwys y 10 awr statudol o raglenni bob wythnos y mae’r BBC yn eu darparu ar hyn o bryd i S4C am ddim, sy’n cynnwys prif raglenni megis yr opera sebon, Pobol y Cwm, a’r gwasanaeth newyddion, Newyddion.

 

4.17      Yn 2010, cafodd rhaglenni Cymraeg S4C eu gwylio ar gyfartaledd am 19 awr yr wythnos gan yr holl unigolion yng Nghymru; mae hyn yn ostyngiad ar yr oriau cyfartalog a gafodd eu gwylio yn 2006 (20.4 awr), ac mae’n is na’r oriau cyfartalog a gafodd eu gwylio yn 2009 (21.1 awr).

 

4.18      Roedd cyrhaeddiad wythnosol rhaglenni Cymraeg ar S4C yn 17% yn 2010, sy’n gyfartal â’r flwyddyn flaenorol, ond roedd y cyrhaeddiad wythnosol ar sail miloedd wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall gyda 467,000 o unigolion yn gwylio’r sianel.

 

 

Ffigur 4.1 – Gwylio Rhaglenni Cymraeg ar S4C, 2006 – 2010

 

 

 

4.19                    Yn ystod 2010, roedd cyfran S4C o’r holl wylio yn 1.3% ac roedd ei chyfran o wylio yn ystod yr oriau brig yn 1.9%.

 

 

Ffigur 4.2 – Cyfran o wylio yng Nghymru, yr holl wylwyr, yr holl oriau a’r oriau brig, 2006 - 2010

 

 

4.20      Wrth edrych ar y gyfran a oedd yn gwylio genres gwahanol ar S4C, Drama (gan gynnwys operâu sebon, cyfresi a dramâu unigol) (21%), Chwaraeon (23%) a Materion Cyfoes (13%) oedd y genres a gafodd eu gwylio fwyaf.

 

 

Ffigur 4.3 - Cyfran gwylio fesul genre ar S4C, 2010

 

Ffynhonnell: S4C/BARB/Infosys (BARB). Rhanbarth S4C, Pob Unigolyn.

 

 

Cynhyrchwyr Annibynnol

 

4.21      Roedd creu S4C ar ddechrau’r 1980au yn gofyn am gyflenwad sylweddol o raglenni Cymraeg a oedd yn mynd tu hwnt i’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu gan y BBC a HTV (ITV). Tyfodd y sector cynhyrchu annibynnol yn sylweddol yng Nghymru i ddiwallu’r galw hwn yn ystod yr 80au a’r 90au.

 

4.22      Gan fod S4C yn ddarlledwr gyhoeddwr, daw'r rhan fwyaf o’i rhaglenni gan amrywiaeth o gynhyrchwyr annibynnol sydd wedi’u lleoli gan fwyaf yng Nghymru. Ar ben hynny, roedd y gofyniad am raglenni Saesneg yng Nghymru, yn BBC Cymru a HTV (ITV wedyn) hefyd wedi tyfu’n sylweddol, gan esgor ar gyfleoedd newydd i gynhyrchwyr annibynnol yn Saesneg.

 

4.23      Tinopolis yw un o gynhyrchwyr cyfryngau mwyaf y DU. Mae’r cwmni yn Llanelli a’i is-gwmnïau yn gyfrifol am dros 1600 awr o raglenni drama, ffeithiol, chwaraeon a phlant bob blwyddyn i dros 200 o ddarlledwyr ym mhedwar ban byd.

 

4.24      Mae Boomerang a’i is-gwmnïau yn darparu rhaglenni adloniant, ffeithiol, chwaraeon, cerddoriaeth, drama a phlant ar gyfer teledu, radio a’r we. Mae Boomerang wedi cynhyrchu ar gyfer allbwn S4C i blant ac mae’n cynhyrchu darllediadau allanol byw ar sawl llwyfan ar gyfer rhai o brif ddigwyddiadau Cymru gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd. Mae Boomerang hefyd yn cynhyrchu oddeutu 200 awr o raglenni radio bob blwyddyn, gan gyflenwi BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

 

4.25      Mae Green Bay yn gwmni cynhyrchu cyfryngau yng Nghaerdydd sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n cynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel ar draws ystod eang o genres, gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffeithiol arbenigol, y celfyddydau, nodwedd ac adloniant ffeithiol. Mae Green Bay yn cynhyrchu rhaglenni i’r BBC, S4C, Channel 4, National Geographic, yr History Channel a darlledwyr mawr eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.

 

4.26      Cwmni Da yw un o’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol uchaf ei barch yng Nghymru. Mae allbwn cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni’n cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, ffordd o fyw, digwyddiadau a chwaraeon. Mae Cwmni Da yn gynhyrchydd mawr i S4C ac mae hefyd yn gwneud rhaglenni i BBC Cymru ac ITV Wales.

 

4.27      Mae Rondo Media yn gwmni cynhyrchu annibynnol sydd â swyddfeydd parhaol yng Nghaerdydd, Caernarfon a Phorthaethwy. Ffurfiwyd y cwmni yn 2008 wrth i ddau o gwmnïau annibynnol mwyaf profiadol Cymru – Ffilmiau’r Nant ac Opus TF – ddod at ei gilydd er mwyn creu cwmni darlledu aml-genre. Mae Rondo Media yn creu cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon, drama a nodwedd ar gyfer y teledu a chynnwys rhyngweithiol aml-lwyfan.

 

4.28      Mae Telesgop yn gwmni cynhyrchu amlgyfrwng sy’n cynhyrchu cynnwys ar gyfer teledu, radio, DVDs, y Rhyngrwyd a Chyrsiau Hyfforddi/Digwyddiadau. Mae gan y cwmni arbenigedd mewn cynhyrchu rhaglenni gwyddoniaeth, ecoleg, materion gwledig a rhaglenni cyfoes a rhaglenni dogfen i ddarlledwyr gan gynnwys y BBC, S4C, Animal Planet a’r Discovery Channel.

 

4.29      Mae Avanti Media yn cynhyrchu ystod o raglenni dogfen, cerddoriaeth, plant ac adloniant. Mae’n gynhyrchwr mawr i S4C.

 

4.30      Dinamo Productions yn Nhrefforest sydd wedi creu Rastamouse sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n cynhyrchu Animeiddiadau Digidol 2D a 3D ac Effeithiau Gweledol o ansawdd uchel ar gyfer y teledu (gan gynnwys BBC CBeebies ac S4C), ffilm a'r we.


 

Adran 5

5              Y Dirwedd Cyfryngau mewn Cyd-destun – Ein Hadolygiadau o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

Ein Hadolygiad Cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

 

5.1                      Mae Adran 264 y Ddeddf Cyfathrebiadau’n mynnu ein bod yn cynnal adolygiad pob pum mlynedd i’r graddau y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni’r dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig gyda golwg ar gynnal a chryfhau ansawdd darpariaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU. Roeddem wedi cwblhau ein hadolygiad cyntaf ar 8 Chwefror 2005, ac yn dilyn hynny cafwyd datganiad am raglenni ar gyfer y gwledydd a’r rhanbarthau, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005.

 

5.2                      Daeth ein Hadolygiad cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus i’r casgliad bod y galw’n parhau am Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ond na fyddai’r model presennol o sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu gan sianeli a gyllidir yn fasnachol yn goroesi’r newid i fyd hollol aml-sianel heb newid.

 

5.3                      Roeddem wedi datgan mai newyddion rhanbarthol oedd elfen bwysicaf darpariaeth ranbarthol i gynulleidfaoedd yn y Gwledydd yn ogystal ag yn rhanbarthau Lloegr. Daethom i’r casgliad hefyd bod cystadleuaeth wrth ddarparu rhaglenni darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn bwysig er mwyn cynnal ansawdd uchel; ac na fyddai BBC ynysig fel unig neu brif ddarparwr darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gwasanaethu buddiannau gwylwyr sy’n gwerthfawrogi lluosogrwydd darpariaeth.

 

5.4                      Yng nghyswllt rhaglenni rhanbarthol nad ydynt yn newyddion, daethom i’r casgliad bod anghenion y gwledydd datganoledig yn y DU yn wahanol i anghenion rhanbarthau Lloegr, am dri rheswm:

 

o   Yr angen i ddarlledu yn y DU adlewyrchu realaeth sefydliadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol datganoledig.

 

o   Y berthynas agosach, yn gyffredinol, rhwng rhanbarthau teledu a gwir hunaniaethau diwylliannol yn y Gwledydd nag yn rhanbarthau Lloegr; a

 

o   Canfyddiadau ein hymchwil cynulleidfa ar y mater hwn a oedd, ar y cyfan, yn awgrymu bod gwylwyr yn y gwledydd datganoledig yn dangos mwy o ddiddordeb mewn darpariaeth benodol ar gyfer eu Gwlad nag oedd gwylwyr yn Lloegr yn ei ddangos ar gyfer eu rhanbarthau perthnasol nhw.

 

5.5                      Daeth yr Adolygiad i’r casgliad bod gofyn parhaus am raglenni sy'n adlewyrchu hunaniaethau, diwylliannau, hanes a diddordebau gwahanol Cymru. Nodwyd nad oedd yn debyg y byddai’r gofyniad hwn yn cael ei ddiwallu gan raglenni ar gyfer y DU i gyd yn unig, na gan leihau'r gofynion sylfaenol ar ITV1 yn y Gwledydd yn unol â’n penderfyniadau ar gyfer rhanbarthau Lloegr.

 

5.6                      Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth y byddai newid i’r digidol yn golygu bod gorwerth trwyddedau analog darlledwyr Sianel 3 (ar ôl ystyried dyletswyddau darlledu gwasanaeth cyhoeddus) yn lleihau. Yn y pen draw, byddai’r gorwerth yn cyrraedd dim, ac ar yr adeg honno byddai’n amhosibl cynnal yr un lefel o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

5.7        Ers cwblhau’r Adolygiad cyntaf o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn gynnar yn 2005, esblygodd y dirwedd cyfryngau’n gyflym. Roedd nifer y gwylwyr a fabwysiadodd dechnoleg ddigidol wedi tyfu’n sylweddol, ac roedd cyfran gyfun y pum sianel gwasanaeth cyhoeddus daearol wedi parhau i ddisgyn, yn enwedig o ran rhaglenni plant; ac roedd gwariant ar hysbysebion teledu wedi disgyn. Ym mis Mai 2007 fe wnaethom gyhoeddi y byddem yn dod â’n hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ymlaen.

 

Ein Hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

 

5.8                      Roedd yr ymchwil cynhwysfawr a wnaed yn ein hail adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, a gafodd ei gwblhau yn 2009, yn dangos y pwysigrwydd mae cynulleidfaoedd yn ei roi ar argaeledd parhaus cynnwys gwreiddiol o’r DU o ansawdd uchel sy’n diwallu dibenion gwasanaeth cyhoeddus, gan ystod o ddarparwyr.

 

5.9                      Serch hynny, roeddem yn cydnabod y newidiadau sylweddol a welwyd yn yr amgylchedd darlledu yn sgil twf teledu aml-sianel a’r pwysau cynyddol a roddodd hyn ar y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Yn benodol, roeddem yn cydnabod bod mwy o densiwn rhwng y cymhelliannau ar y cyrff masnachol hynny a oedd yn dal trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus i gynnal modelau busnes proffidiol wrth barhau i fuddsoddi mewn ystod eang o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus.

 

5.10      Roeddem wedi canfod bod cynulleidfaoedd yn y gwledydd, rhanbarthau ac ardaloedd lleol y DU yn teimlo mai darparu newyddion a gwybodaeth am lle’r oeddent yn byw oedd y pwysicaf un o'r holl feysydd cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ond nad oedd y model cyfredol yn gallu cyflawni’r lefel a ddymunir o luosogrwydd mewn rhaglenni ar gyfer y gwledydd yn y dyfodol. Ac ystyried hyn, ac yng ngoleuni’r gefnogaeth gan y rhan fwyaf o ymatebwyr at swyddogaeth barhaus i rwydweithiau masnachol yn y fframwaith gwasanaeth cyhoeddus, roeddem yn eiriol agwedd newydd a fyddai’n golygu bod Sianel 3 a Sianel 5 yn cadw ymrwymiadau gwasanaeth cyhoeddus rhesymol ond pwysig.

 

5.11      Roedd ein hymchwil wedi dangos bod mwy na 90% o bobl yn y gwledydd datganoledig yn credu bod “teledu yn ffynhonnell bwysig o newyddion am eu gwlad” a bod 88% yn credu ei bod “yn bwysig bod y prif sianeli teledu yn darparu newyddion i’r gwledydd a’r rhanbarthau”. Pan ofynnwyd i bobl yn benodol a oedd hi’n bwysig i ITV 1 yn ogystal â’r BBC ddarparu rhaglenni newyddion i’r gwledydd a’r rhanbarthau, roedd lefelau uchel o gytundeb ymysg cynulleidfaoedd yn y gwledydd datganoledig.

 

5.12      Ar ben hynny, roedd ymchwil ystyriol a wnaed ar gyfer ein hail adolygiad wedi canfod bod pobl yn y gwledydd datganoledig yn ffafrio model darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy’n cadw swyddogaeth glir i’r rheini sy’n dal trwydded Sianel 3. Roedd gwarantu parhad ITV Wales ar ei ffurf bresennol yn bwysig iawn i’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yng Nghymru. Roedd gan Sianel 3 werth symbolaidd yn y gwledydd datganoledig ac fe’i gwelir fel sianel sy’n cynrychioli hunaniaeth genedlaethol mewn ffyrdd nad yw sianeli teledu eraill yn gwneud.

 


 

Adran 6

6              Modelau ar gyfer y Gwledydd Datganoledig

6.1                      Yn ein hail adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roeddem wedi dadansoddi nifer o fodelau cyfryngau ar gyfer y gwledydd yn erbyn cefndir o ddatganoli ac agendâu gwleidyddol, gwasanaethau cyhoeddus a diwylliannol gwahanol y gwledydd.

 

6.2                      Rydym yn cytuno bod y wleidyddiaeth newydd sydd wedi deillio o ddatganoli yn gofyn am gyfryngau bywiog sydd ar gael yn eang er mwyn ei chynnal ac adrodd arni. Dylai cynulleidfaoedd yng Nghymru gael dewis o raglenni newyddion a rhaglenni gwreiddiol nad ydynt yn newyddion o ansawdd uchel sy’n berthnasol i’w bywydau a’r ardal lle maent yn byw, wedi’u darparu gan nifer o leisiau.

 

6.3                      Mewn ymateb i’n hymgynghoriad ar yr ail adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roedd cydnabyddiaeth gyffredinol bod cynnal lluosogrwydd mewn darpariaeth newyddion yn arbennig o bwysig, ac ystyried y ddarpariaeth newyddion gymharol denau a geir gan gyfryngau print cynhenid Cymru.

 

6.4                      Rydym wedi cydnabod bod mwy o swyddogaeth i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y gwledydd a bod angen cynnal dewis o ddarparwyr i ddinasyddion a'u sefydliadau democrataidd newydd.

 

6.5        Yn ein hail adolygiad, roeddem wedi dadlau oherwydd y gwerth mae cynulleidfaoedd yn y gwledydd yn ei roi ar luosogrwydd darpariaeth, ei bod yn annhebyg y byddai model BBC-yn-unig yn ddigonol. Mae’r ddadl hon yn arbennig o berthnasol yng Nghymru, gyda threfniadau gwleidyddol ar wahân ym meysydd datganoledig polisi cyhoeddus a’i hamgylchiadau diwylliannol gwahanol.

 

6.6        Roedd ymchwil cynulleidfa yn awgrymu tri o ofynion penodol ar gyfer y gwledydd:-

 

o   Cynnwys digonol yn y gwledydd datganoledig, er mwyn rhoi sylw i’w hanghenion gwleidyddol a diwylliannol gwahanol (gan gynnwys digon o luosogrwydd); ac yn yr un modd ar lefelau rhanbarthol a lleol.

 

o   Portreadu ardaloedd a chymunedau gwahanol o’r DU mewn rhaglenni a ddarlledir ar draws y DU.

 

o   Lefel briodol o allbwn mewn ieithoedd cynhenid.

 

6.7        Ar hyn o bryd mae Cymru yn rhannu trwydded sy’n croesi’r ffin â Gorllewin Lloegr. Mae nifer yn teimlo y byddai un drwydded i Gymru yn dod â mwy o atebolrwydd ac y byddai’n golygu bod modd i drefniadau’r drwydded adlewyrchu anghenion penodol Cymru yn well a bod yn sylfaen i ddyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus ITV i Gymru. Rydym yn derbyn y ddadl dros greu trwydded ar wahân i Gymru.

 

6.8                      Tu hwnt i newyddion, y prif bryder i bobl yng Nghymru oedd pwysigrwydd sicrhau bod rhaglenni Saesneg nad ydynt yn newyddion i Gymru sy’n adlewyrchu bywyd a diwylliant Cymru yn cael eu diogelu a’u cyflenwi gan ystod o ddarparwyr i gydbwyso’r gwasanaeth a ddarperir gan y BBC.

 

6.9                      Yn 2008, roedd Grŵp Cynghori ar Ddarlledu Llywodraeth Cymru yn cynnig creu Comisiwn Cyfryngau Cymru a fyddai’n gwahodd tendrau cystadleuol am nifer bach o gontractau sylweddol tymor canolig a fyddai’n para rhwng tair a phedair blynedd. Byddai sbectrwm yn cael ei ddyrannu a fyddai’n rhoi’r dewis i greu sianel deledu Saesneg i Gymru. Amcangyfrifwyd y byddai'n costio oddeutu £50 miliwn o gyllid bob blwyddyn. Roedd Is-bwyllgor Darlledu y Cynulliad Cenedlaethol hefyd wedi argymell yn y gorffennol y dylid sefydlu cronfa cynnwys gwasanaeth cyhoeddus i Gymru.

 

6.10      Roedd ein hagwedd at gyllido newyddion y gwledydd yn cyd-fynd yn agos â'r model asiantaeth cyllido hwn gyda ffocws ar ITV Wales fel cyfrwng ar gyfer cyflenwi.

 

6.11      Er bod y BBC yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr, mae ar randdeiliaid a chynulleidfaoedd eisiau dewisiadau ar wahân iddi, ac nid ydynt yn cytuno sut mae cyflawni hyn. Roedd bron i neb yn ffafrio bod y BBC yn dod yn unig ddarparwr cynnwys gwasanaeth cyhoeddus. Ceir cefnogaeth a dadleuon cryf gan gynulleidfaoedd ar gyfer darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus wahanol i ategu'r BBC.

 

6.12      Serch hynny, mae’r model i ddarparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus tu hwnt i’r BBC nawr yn wynebu ei sialens fwyaf – sut mae harneisio’r cyfleoedd sydd wedi cael eu creu gan gyfryngau digidol ar yr un pryd ag ymateb i bwysau cynyddol ar gyllid a chysoni anghenion gwahanol cynulleidfaoedd gwahanol.

 

6.13      Mae gwylwyr yn gallu cael gafael ar ystod ehangach o gynnwys nag erioed o’r blaen, ar deledu digidol ac ar-lein. Mae darlledwyr aml-sianel nawr yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynnwys gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig mewn chwaraeon, adloniant, rhaglenni o’r archif a rhaglenni sy’n cael eu prynu ac, mewn un achos, newyddion. Serch hynny, ychydig iawn o raglenni gwreiddiol yn y genres sydd dan y pwysau mwyaf ar sianeli gwasanaeth cyhoeddus masnachol maent yn eu darparu – materion cyfoes, rhaglenni i’r gwledydd a’r rhanbarthau, drama DU heriol, comedi’r DU wedi’i sgriptio, a drama’r DU a rhaglenni ffeithiol i blant. Mae hyn yn annhebyg o newid wrth i ddarpariaeth ar y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol ddisgyn; oherwydd nad yw’r rhan fwyaf o aml-sianeli yn cyrraedd y cynulleidfaoedd angenrheidiol er mwyn cyfiawnhau buddsoddiadau mawr a mentrus yn y meysydd hyn a byddant yn wynebu mwy o bwysau economaidd.

 

6.14      Yng nghyswllt cyfryngau digidol, mae’r potensial yn bodoli ar gyfer darpariaeth fasnachol newydd o gynnwys sy’n diwallu dibenion gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig ar-lein. Serch hynny, roedd ein hasesiad yn dangos bod modelau busnes ar-lein yn dal yn ansicr iawn, yn enwedig ar gyfer cynnwys sydd eisoes dan bwysau ar deledu masnachol. Ar ben hynny, mae’n annhebyg iawn y bydd gan gynnwys o fath yr un cyrhaeddiad ac effaith â theledu am gryn amser.

 

6.15      Yn ein hail adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, roeddem yn cynnig tri model ar gyfer y byd digidol, byddai pob un ohonynt yn galw am gryn newid i’r fframwaith deddfwriaethol presennol.

 

Model Esblygu gwell

 

6.16      Yn y model hwn, byddai’r prif ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol yn cadw dyletswyddau. Gallai ITV1 ddod yn rhwydwaith o drwyddedau sy’n seiliedig ar y gwledydd gyda dyletswyddau ar gyfer rhaglenni gwreiddiol o’r DU a newyddion y DU, rhyngwladol, ac ar gyfer y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Mae’n debyg y byddai angen cyllid cyfnewid ar gyfer hyn. Byddai gan Channel 4 gylch gwaith estynedig i arloesi a darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus gwahanol ar draws llwyfannau, gyda chyllid ychwanegol. Byddai swyddogaeth Channel Five yn canolbwyntio ar raglenni gwreiddiol o’r DU, yn enwedig rhaglenni i blant a newyddion o'r DU.

 

Model BBC/Channel 4 wedi’i ailddiffinio

 

6.17      Yn y model hwn, y BBC a Channel 4 fyddai'n derbyn y mwyaf o gyllid cyhoeddus ac asedau rheoleiddio. Byddai trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant neu byddai’r hawliau sbectrwm ac asedau rheoleiddio eraill yn cael eu trosglwyddo’n uniongyrchol i Channel 4 a’r BBC i wella eu cynigion gwasanaeth cyhoeddus. Gellid cyflwyno cystadleuaeth am gyllid newydd ar gyfer newyddion gwledydd a rhanbarthau ac o bosibl newyddion lleol. Ni fyddai gan y rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 fanteision na ddyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus parhaus, ond gallent gystadlu am gyllid i ddarparu newyddion gwledydd a rhanbarthau, ochr yn ochr ag eraill. Byddai Five hefyd yn colli statws gwasanaeth cyhoeddus ond gallai gynnig yn yr un modd.

 

Model cyllido cystadleuol wedi’i ailddiffinio

 

6.18      Yn y model hwn byddai’r BBC yn aros yn gonglfaen darpariaeth, ond byddai cyllid ychwanegol yn cael ei agor i gronfa ehangach o ddarparwyr. Gallai Channel 4 gadw ei statws Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ynghyd â’i hasedau rheoleiddio presennol, ond byddai’n rhaid iddi ymgeisio am unrhyw arian ychwanegol ochr yn ochr â darparwyr eraill. Gallai’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 ar hyn o bryd hefyd gynnig am gyllid, ochr yn ochr ag eraill, os byddent yn dymuno parhau i gyfrannu.

 

Crynodeb

 

6.19     Os yw costau darpariaeth i’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 yn fwy na manteision statws Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, mae'n debyg y bydd angen cyllid cyfnewid ar gyfer gwasanaethau’r gwledydd a’r rhanbarthau, yn enwedig newyddion. Yn ein hail adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, daethom i’r casgliad mai’r dewisiadau oedd:

 

o   Gwneud dim, a chaniatáu i ddarpariaeth ddirywio dros amser, yn erbyn dymuniadau amlwg y gynulleidfa;

 

o   Darparu cyllid cyhoeddus newydd i'r rheini sy'n dal trwyddedau Sianel 3 yn y gwledydd a’r rhanbarthau;

 

o   Cyflwyno cyllid cystadleuol i wasanaethau yn y gwledydd a’r rhanbarthau er mwyn galluogi darparwyr eraill i gyflwyno cynigion, a allai o bosibl olygu creu gwasanaethau traws-gyfryngol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon;

 

o   Cyllido creu sianeli penodol ar gyfer y gwledydd datganoledig, megis yr hyn a gynigwyd gan greu Comisiwn Cyfryngau Cymru.

 

6.20      Dyma oedd ein casgliadau dros dro o’n Hail Adolygiad:

 

o   dylai’r BBC barhau i fod yn gonglfaen cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, a dylid diogelu ei chyllideb graidd ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau;

 

o   dylai cynulleidfaoedd gael dewis o ddarparwyr cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y rhan fwyaf o ardaloedd, na fydd y farchnad ar ei phen ei hun yn darparu.

 

o   dylid cyflenwi cylchoedd gwaith gwasanaeth cyhoeddus ar draws llwyfannau digidol yn y dyfodol, er bod teledu llinol yn dal yn hanfodol;

 

o   mae darparu cynnwys i’r gwledydd datganoledig – yn enwedig newyddion penodol – yn dal yn ofyniad hanfodol ar gyfer unrhyw fodel yn y dyfodol;

 

o   gallai cyllid sefydliadol a chystadleuol ill dau chwarae rhannau cyflenwol pwysig yn y model ar gyfer cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol;

 

o   dylai Channel 4 gael swyddogaeth gwasanaeth cyhoeddus sylweddol yn yr oes ddigidol, gan adeiladu ar ei chyfraniad ar hyn o bryd. Mae arni angen model economaidd a mecanwaith cyllido i gefnogi hyn;

 

o   rhwng nawr a 2014, dylai ITV1 a Five gadw swyddogaethau pwysig sy’n canolbwyntio ar raglenni gwreiddiol o’r DU a newyddion, ac (ar gyfer ITV1) y gwledydd a’r rhanbarthau ac (ar gyfer Five) cynnwys i blant.

 

6.21     Hefyd, adeg ein Hail Adolygiad, roedd ITV plc yn cynnig cyfres o feysydd lle’r oedd arno eisiau gweld gostyngiad y dyletswyddau ar ITV1. Roeddem wedi ystyried y rhain yn ofalus a cheisio cysoni dyletswyddau â gwerth parhaus trwyddedau ITV1 cyn gorffen newid i’r digidol.

 

6.22     O ystyried y rhain gyda’i gilydd, roedd y cynigion hyn yn ceisio sicrhau bod blaenoriaethau cynulleidfaoedd yn cael eu gwasanaethu sef rhaglenni o’r DU, newyddion y DU a’r gwledydd a'r rhanbarthau. Er mwyn gwneud hynny, roeddem wedi cynnig gostyngiad sylweddol yng nghostau dyletswyddau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus mewn meysydd eraill, sy’n cyd-fynd â deddfwriaeth bresennol.

 

6.23     Yng Nghymru, fel amod o gadw newyddion y gwledydd ar ITV Wales, roeddem wedi lleihau’r gofyniad sylfaenol ar gyfer nifer y munudau o newyddion o 5 awr 20 munud i 4 awr, ac wedyn lleihau’r gofynion sylfaenol ar gyfer rhaglenni’r gwledydd a rhanbarthau nad ydynt yn newyddion o 3 awr i 1.5 awr.

 

6.24      Roeddem hefyd yn cynnig:

 

o   lleihau cwotâu ITV1 ar gyfer cynyrchiadau tu allan i Lundain o 50% i 35%, yng nghyd-destun ymrwymiadau newydd i gynyrchiadau o’r fath gan y BBC a Channel 4;

 

o   cynnal cwotâu ITV1 ar gyfer cynyrchiadau gwreiddiol o’r DU, cynyrchiadau annibynnol a newyddion cenedlaethol a rhyngwladol.

 

o   cynyddu cwota tu allan i Lundain Channel 4 o 30% i 35% o 2010 ymlaen, a chyflwyno cwota newydd ar gyfer cynyrchiadau Channel 4 o’r gwledydd datganoledig, sef 3%, a ddaeth i rym ar ddechrau 2010.

 

Adran 7

7              Patrymau a Datblygiadau Diweddar yn y Farchnad

7.1                      Ers ein hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, bu nifer o ddatblygiadau a allai effeithio ar allu’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol yn benodol (ITV a Channel 5) i gyflawni ymrwymiadau gwasanaeth cyhoeddus ystyrlon yng Nghymru dros gyfnod y drwydded nesaf. Ymysg pethau eraill:

 

o   newidiadau strwythurol gan gynnwys darnio cynulleidfaoedd teledu a thwf mewn gwylio ar-alwad/ar-lein.

 

o   y tebygolrwydd cynyddol y bydd IPTV yn cystadlu â gwasanaethau darlledu;

 

o   ffocws polisi darlledu’r llywodraeth ar greu sector cyfryngau cryf sydd â’r potensial i chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o gyflenwi dibenion gwasanaeth cyhoeddus;

 

o   rhagolwg archwiliad manwl o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Bil Cyfathrebiadau nesaf;

 

7.2                      Serch hynny, mae gan y DU ecoleg darlledu gymysg a chryf ar sail amrywiaeth o fodelau gwasanaeth a strwythurau perchnogaeth gwahanol. Ac ystyried y sector i gyd mae wedi cyflawni nifer o ganlyniadau cadarnhaol:

 

o   Lluosogrwydd ar draws nifer o genres gwasanaeth cyhoeddus allweddol, gan gynnwys darparu newyddion ar lefel DU, Cenedlaethol a rhanbarthol;

 

o   Lefelau buddsoddiad uchel mewn amrywiaeth o gynnwys sy'n apelio i gynulleidfaoedd;

 

o   Arloesi mewn technoleg a dosbarthu sydd wedi gwella’r dewis i gwsmeriaid; a

 

o   Creu eiddo deallusol sy’n parhau i greu gwerth i economi’r DU o farchnadoedd rhyngwladol.

 

7.3                      Er gwaethaf y darlun gweddol gadarnhaol hwn, mae esblygiad parhaus yn y farchnad am gynnwys clywedol wedi creu sialensiau i’r model darlledu gwasanaeth cyhoeddus traddodiadol y mae’n rhaid i’r rhwydweithiau ymateb iddynt.

 

7.4                      Cyn lansio teledu aml-sianel, roedd y dewisiadau gwylio a oedd ar gael i ddefnyddwyr yn y DU yn cael eu rheoli gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Serch hynny, roedd lansio cebl analog ac wedyn digidol a gwasanaethau lloeren, ynghyd â datblygiadau technolegol pellach a thwf y llwyfan teledu daearol digidol wedi cynyddu’r dewisiadau sydd ar gael i wylwyr a’r gystadleuaeth rhwng darparwyr am amser a sylw gwylwyr. Heddiw, mae 60% o gartrefi yng Nghymru yn talu am wasanaethau teledu ychwanegol. Mae recordwyr fideo digidol sy’n galluogi gwylwyr i recordio a storio rhaglenni teledu ar gael yn 46% o gartrefi’r DU, ac mae 22% yn y DU wedi gwylio rhaglenni sydd wedi cael eu darparu “ar-alwad” gan eu darparwr gwasanaeth teledu.

 

7.5        Er bod y twf sefydlog mewn teledu drwy dalu wedi dangos na fu llawer o effaith arno yn sgil amodau macroeconomaidd, mae refeniw o hysbysebion teledu wedi dioddef yn sgil natur gylchol cyllidebau hysbysebu sector preifat a chyhoeddus.Ar yr un pryd, mae cyfran y rhyngrwyd o gyfanswm hysbysebion y DU ar fin goddiweddyd teledu eleni.

 

7.6                      Er bod y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel grŵp wedi dal i gyllido'r rhan fwyaf o gynnwys o’r DU, wrth i’r farchnad teledu digidol barhau i aeddfedu ceir arwyddion o fwy o fuddsoddiad mewn cynnwys gwreiddiol gan weithredwyr cebl a lloeren.

 

7.7                      Mae darlledwyr sy’n dibynnu ar refeniw hysbysebion wedi mynd ati fwyfwy i chwilio am gyfleoedd i arallgyfeirio eu ffrydiau refeniw. Mae newidiadau mewn technoleg a dulliau dosbarthu wedi arwain at ystod o fodelau newydd sy’n galluogi darlledwyr i gynhyrchu incwm, gan gynnwys gwasanaethau fideo ar-alwad, nawdd a thelesiopa. Serch hynny, mae’r rhain yn dal yn fach wrth gymharu â'r prif ffynonellau o refeniw'r diwydiant.

 

7.8                      Mae’n bosibl y gallai dibyniaeth rhwydweithiau masnachol ar refeniw hysbysebion fygwth cynaliadwyedd y trwyddedau gwasanaeth cyhoeddus mewn blynyddoedd i ddod. Mae’r patrymau hyn yn y farchnad yn awgrymu y bydd galw parhaus i’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus addasu i newidiadau o ran defnyddio cynnwys a thechnoleg, yn enwedig wrth i ddarlledwyr ddatblygu strategaethau i wneud iawn am y gostyngiad mewn refeniw hysbysebion.

 

7.9        Wedi dweud hynny, mae’r galw am deledu llinol – gan gynnwys cynnwys gwasanaeth cyhoeddus – wedi aros yn gadarn er gwaethaf cyflymder y newid technolegol a’r twf mewn dewisiadau i wylwyr. Er gwaethaf mwy o ddewis o ran y mathau o ffyrdd sydd ar gael i ddosbarthu cynnwys i ddefnyddwyr, mae gwylio teledu llinol wedi’i amserlennu ar setiau teledu wedi aros yn gadarn: mae darllediadau teledu byw yn dal i gyfrif am dros 80% o’r cynnwys clywedol mae gwylwyr yn y DU yn ei wylio. Ar ben hynny, nid oes arwydd bod yr archwaeth i wylio teledu yn dirywio. Yng Nghymru, mae gwylio’r teledu y pen ar ei uchaf o blith holl wledydd y DU (cyfartaledd o 4.5 awr y diwrnod yn 2010).

 

Ffigur 7.1 – Oriau Gwylio Teledu a Radio Bob Dydd

 

 

7.10      Y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n dal i ddarparu’r gwasanaethau teledu mwyaf poblogaidd, gan gyfrif am 2.5 awr (neu 63%) o’r gwylio dyddiol cyfartalog. Mae’r gwasanaethau dal i fyny ar-lein sy’n cael eu rhedeg gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y BBC iPlayer ac ITV Player, yn cyfrif am y rhan fwyaf o wylio ar-lein. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel grŵp hefyd yn parhau i gyllido’r rhan fwyaf o gynnwys o’r DU – oddeutu 90% o gyfanswm y buddsoddiad mewn rhaglenni gwreiddiol o’r DU – er bod eu lefelau gwariant absoliwt wedi disgyn. Mae buddsoddiad mewn rhaglenni gwreiddiol sy’n cael eu dangos am y tro cyntaf ar y prif sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft, wedi disgyn o’r pwynt uchaf sef £2.7 biliwn yn 2004, i £2.3 biliwn o ganlyniad i refeniw hysbysebion is a setliadau ffi’r drwydded anoddach.

 

7.11      Roedd gwariant ar allbwn y gwledydd a’r rhanbarthau gan y BBC a Sianel 3 gyda’i gilydd wedi disgyn £93 miliwn neu 26% o £359 miliwn yn 2006 i £266 miliwn yn 2010. Roedd gwariant Sianel 3 wedi disgyn 43% i £85 miliwn; ar gyfer y BBC roedd wedi disgyn £30 miliwn neu 14% dros yr un cyfnod i £181 miliwn.

 

7.12      Cafodd cyfanswm o £25 miliwn ei wario ar gynnwys Saesneg i wylwyr yng Nghymru, sydd 13% yn is na 2009. Mae hyn yn cynrychioli’r gostyngiad mwyaf o un flwyddyn i’r llall ar draws y pedair gwlad a dros bum mlynedd, roedd gwariant cyffredinol wedi disgyn 33%, o’i gymharu â gostyngiad o 31% ar draws y DU.

 

Ffigur 7.2 – Gwariant ar allbwn gwreiddiol o’r gwledydd a’r rhanbarthau gan y BBC, ITV1/STV/UTV

 

 

 

 

7.13      O’i gymharu â 2009, roedd gwariant Cymru ar newyddion wedi gweld y cynnydd mwyaf ar draws y gwledydd, sef 22%. I’r gwrthwyneb, roedd gwariant o un flwyddyn i’r llall ar raglenni heb fod yn newyddion/heb fod yn faterion cyfoes yng Nghymru wedi disgyn 32%.

 

7.14      Mae gwariant y pen o’r boblogaeth yng Nghymru wedi disgyn 13%; o £9.46 yn 2009 i £8.27 yn 2010, y gostyngiad mwyaf o’r pedair gwlad. Yng Nghymru, roedd gwariant y pen ar raglenni nad ydynt yn newyddion yn cynrychioli 48% o gyfanswm y gwariant yn 2010, roedd newyddion yn cyfrif am 40% arall ac roedd materion cyfoes yn cynrychioli’r 12% arall.

 


 

Ffigur 7.3 – Gwariant y pen gan y BBC ac ITV1 mewn allbwn gwledydd a rhanbarthol

 

 

Oriau allbwn cynnwys i wylwyr

7.15      Roedd y BBC ac ITV1/STV/UTV wedi cynhyrchu cyfanswm o 11,046 awr o raglenni ar gyfer Cymru, rhanbarthau Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2010, a oedd 6% yn uwch na’r 10,439 awr yn 2009. Roedd nifer yr oriau a gynhyrchwyd yn benodol i wylwyr yng Nghymru yn 2010 wedi disgyn 3% o 1,036 awr yn 2009, o’i gymharu â gostyngiad o 24% er 2005. Roedd oriau’r allbwn materion cyfoes gan ITV1 Wales a’r BBC wedi codi o un flwyddyn i’r llall 8% a 10% y naill a’r llall.

 

Ffigur 7.4 – Oriau allbwn rhanbarthol yn ôl genre a darlledwr: 2010

Buddsoddiad ac oriau allbwn Cymraeg

7.16      Roedd S4C wedi gwario cyfanswm o £79 miliwn ar raglenni a ddangoswyd am y tro cyntaf yn 2010, a oedd 3% yn uwch na 2009 mewn termau nominal. Roedd pob categori genre ac eithrio drama a rhaglenni plant wedi gweld cynnydd mewn gwariant o un flwyddyn i’r llall. Yn yr un modd, ac eithrio drama, roedd pob categori hefyd wedi gweld cynnydd blynyddol yn nifer yr oriau darlledu a ddangoswyd am y tro cyntaf, gyda chyfanswm y rhaglenni a ddangoswyd am y tro cyntaf yn codi bron i chwarter (24%) rhwng 2009 a 2010 i 1,786 awr.

Ffigur 7.5 – Gwariant ar raglenni Cymraeg a ddangosir am y tro cyntaf gan S4C

7.17      Roedd cyfanswm nifer yr oriau a ddarlledwyd gan S4C yn 2010 wedi codi 9% o un flwyddyn i’r llall, gan wneud cyfanswm o 6,219 awr. Roedd ailddarllediadau wedi cynrychioli’r rhan fwyaf o allbwn y sianel yn 2010 er bod oriau ailddarlledu wedi disgyn 4% er 2009. Roedd nifer y rhaglenni wedi’u prynu a oedd yn cael eu dangos am y tro cyntaf chwe gwaith yn fwy (o fan cychwyn bach) gan ddod â chyfanswm 2010 i 351 awr, y cynnydd cymharol mwyaf ar draws y categorïau.

Ffigur 7.6 – Math o allbwn Cymraeg ar S4C, yn ôl oriau


Adnewyddu Trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5

 

7.18      Bydd pob un o bymtheg trwydded ranbarthol Sianel 3, trwydded brecwast genedlaethol Sianel 3 a thrwydded Sianel 5 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014.

 

7.19      Er bod y Ddeddf yn caniatáu i’r rheini sy’n dal trwyddedau wneud cais i adnewyddu eu trwyddedau am gyfnod newydd o ddeng mlynedd, cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau am adnewyddu, rhaid i ni gyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n asesu gallu’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 ar hyn o bryd i:

 

“cyfrannu, yng nghyfnod y drwydded nesaf, at gyflawni dibenion darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig am gost i’r rheini sy’n dal y drwydded sy’n fasnachol gynaliadwy.”

 

7.20     Ar 1af Gorffennaf 2011, gofynnodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ni ddarparu’r canlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol:

 

o   cyngor am y dewisiadau ar gyfer ail-drwyddedu Sianel 3 a Sianel 5; ac

 

o   asesiad o fanteision a goblygiadau pob un o’r dewisiadau hyn.

 

7.21     Ar 2il Medi 2011, roeddem wedi cyhoeddi adroddiad interim. Byddwn yn cyflwyno ein hadroddiad statudol i Lywodraeth y DU cyn diwedd mis Mehefin 2010.

 

7.22      Dan y Ddeddf, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu:

 

o   Ein cyfarwyddo i fwrw ymlaen â’r broses adnewyddu a all arwain at ddyfarnu trwyddedau deng mlynedd i’r rheini sydd eisoes yn dal y trwyddedau o 1 Ionawr 2015 ymlaen;

 

o   Rhwystro adnewyddu’r trwyddedau, gan ganiatáu i ni ddyfarnu trwyddedau gwag, sy’n arwain at ddyfarnu trwyddedau deng mlynedd i gyrff newydd o 1 Ionawr 2015 ymlaen; neu

 

o   Ymestyn y trwyddedau cyfredol am gyfnod o’i ddewis ef (unrhyw bryd).

 

7.23     Yn y bôn bydd y dewisiadau sydd ar gael i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch adnewyddu trwyddedau’n cynnig dewis rhwng sefydlogrwydd ac amharu ar ffurfiau presennol darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

7.24     Nid yw’n glir eto a fydd y setliad rheoleiddio presennol gyda’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol yn gynaliadwy drwy gydol cyfnod y drwydded nesaf. Yn benodol, nid yw’n sicr a fyddai’r mecanweithiau gorfodi rheoleiddio sydd ar waith ar hyn o bryd yn ddigon i atal y rheini sy’n dal y trwyddedau rhag ceisio cyflenwi llai o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol mewn ymateb i amodau anffafriol yn y farchnad.

 

Mesur Lluosogrwydd ar draws y Cyfryngau

 

7.25      Efallai y bydd ar y Pwyllgor eisiau nodi bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi gofyn i ni ddarparu cyngor ar luosogrwydd y cyfryngau[1]. Bydd y cyngor yn cael ei roi i’r Ysgrifennydd Gwladol ac Ymchwiliad Leveson erbyn mis Mehefin 2012.

 

7.26      Dyma’r cwestiynau a ofynnwyd i ni:

 

o   Beth yw’r dewisiadau ar gyfer mesur lluosogrwydd y cyfryngau ar draws llwyfannau? Beth yw’r dull gweithredu gorau rydych yn ei argymell?

 

o   A yw’n ymarferol neu’n ddoeth gosod terfynau absoliwt ar gyfran marchnad newyddion?

 

o   Beth allai sbarduno adolygiad o luosogrwydd os nad oes achos o uno, sut gellid monitro hyn a gan bwy?

 

o   A allai neu a ddylai fframwaith ar gyfer mesur lefelau lluosogrwydd gynnwys gwefannau ac, os felly, pa rai?

 

o   A ddylai hyn gynnwys y BBC neu sut?

 

7.27     Er mwyn rhoi rhywfaint o gefndir, cafodd rheoleiddio lluosogrwydd ei roi ar waith oherwydd bod “lluosogrwydd yn bwysig ar gyfer cymdeithas ddemocrataidd wybodus ac iach"[2]. Yr egwyddor sylfaenol yw y byddai’n beryglus i unrhyw unigolyn reoli gormod o’r cyfryngau oherwydd ei allu i ddylanwadu ar safbwyntiau a gosod yr agenda wleidyddol.

 

7.28     Ar hyn o bryd, mae modd sbarduno asesiad o luosogrwydd drwy ymyriad “budd y cyhoedd” wrth i gwmnïau cyfryngau uno. Ar ben hynny:

 

7.29     Mae rheolau ar berchnogaeth traws-gyfryngol genedlaethol ar waith i reoli traws berchnogaeth trwydded Sianel 3 ac un papur newydd cenedlaethol neu ragor gyda chyfran marchnad gyfun o dros 20%; ceir cyfyngiadau ar ddal trwyddedau darlledu i atal neu gyfyngu rheolaeth ar deledu a radio gan berchnogion penodol y gallai eu dylanwad achosi pryder; a cheir hefyd reolau sy’n mynnu bod darparwr newyddion Sianel 3 yn annibynnol ar y BBC, nad yw dan reolaeth cyrff gwleidyddol na chrefyddol a’i fod wedi’i gyllido’n addas.

 

7.30     Mae rheolau eraill sy’n effeithio ar luosogrwydd yn y cyfryngau yn y DU yn cynnwys darpariaethau yn y Cod Darlledu sy’n ymwneud â bod yn gywir ac yn ddiduedd. Mae’r rhain yn gweithredu ochr yn ochr â rheolau perchnogaeth cyfryngau drwy sicrhau ei bod yn rhaid adrodd ar newyddion teledu a radio yn gywir ac yn ddiduedd. Ar ben hynny, mae’r fframwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gweithredu i sicrhau bod lefelau penodol o gynnwys yn cael eu darparu, gan gynnwys newyddion, gan y BBC a darparwyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus eraill.

 

7.31     Byddwn yn ystyried y cyd-destun rheoleiddio hwn wrth ddarparu ein hatebion i gwestiynau’r Ysgrifennydd Gwladol.

 

 

Llywodraeth Cymru – Y Diwydiannau Creadigol

 

7.32      Ym mis Gorffennaf 2009, roedd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am adolygiad annibynnol o weithgareddau Llywodraeth Cymru ym maes y diwydiannau creadigol.

 

7.33      Gofynnodd y Dirprwy Brif Weinidog bryd hynny, Ieuan Wyn Jones AC, i’r Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd gynnal yr adolygiad hwn o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

 

7.34     Roedd prif argymhellion Adolygiad yr Athro Hargreaves “Calon Cymru Ddigidol” yn cynnwys:

 

o   Dylai Cronfa Diwydiannau Creadigol gael ei sefydlu a ddylai fod ar gael i holl ddiwydiannau’r cyfryngau digidol: ffilm; teledu; cerddoriaeth; a'r cyfryngau rhyngweithiol.

 

o   Sefydlu Bwrdd Cymru Ddigidol, a reolir gan Gyfarwyddwr Cymru Ddigidol a’i gadeirio gan unigolyn sydd â’r profiad addas o’r tu allan i’r Llywodraeth, er mwyn darparu’r fframwaith trosfwaol.

 

o   Creu Canolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd, a arweinir gan Bennaeth Diwydiannau Creadigol ac a gefnogir gan Fwrdd Diwydiannau Creadigol, a gaiff ei gadeirio hefyd gan unigolyn allanol sy’n arbenigol yn y sector ac y bydd nifer fach o aelodau allanol ychwanegol yn ymuno ag ef.

 

o   Dylai fod yn ofynnol i S4C, y BBC a Channel 4 gynnal archwiliad blynyddol o’u heffaith economaidd ar Gymru ac asesiad o faterion economaidd sy’n edrych o leiaf flwyddyn i’r dyfodol.

 

o   Dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus arall yn y DU, gan gynnwys Channel 4, yn diffinio ac yn cyflawni’n llawn eu cyfrifoldebau i Gymru.

 

Gweithredu – Adnewyddu'r Economi: Cyfeiriad Newydd a Chyflawni Cymru Ddigidol

 

7.35      Ym mis Gorffennaf 2010, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth economaidd – Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd – a oedd yn ymgorffori nifer o argymhellion yr Athro Hargreaves.

 

7.36      Ym mis Medi 2010, roedd Llywodraeth Cymru wedi creu Canolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd a phenodi Pennaeth Diwydiannau Creadigol.

 

7.37      Ym mis Hydref 2010, roedd Llywodraeth Cymru wedi mapio 13 is-sector y diwydiannau creadigol a sefydlu’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol dan gadeiryddiaeth Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis.

 

7.38      Ym mis Tachwedd 2010, cafodd Bwrdd Cynghori Cymru Ddigidol ei lansio dan gadeiryddiaeth Simon Gibson OBE i gynghori Gweinidogion ar agweddau allweddol yr agenda ddigidol – gan gynnwys seilwaith, sgiliau, cystadleurwydd, cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus a chynhwysiant digidol.

 

7.39      Ym mis Rhagfyr 2010, cafodd fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflawni Cymru Ddigidol ei gyhoeddi i arwain “datblygu fframwaith strategol trosfwaol ar gyfer y sector diwydiannau creadigol.”

 

7.40      Ym mis Ebrill 2011, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Diwydiannau Creadigol newydd i gefnogi sylfaen ehangach o fusnesau creadigol.

 

 

Llywodraeth y DU – Teledu Lleol

 

7.41      Mae Llywodraeth y DU wedi egluro bod sefydlu Teledu Lleol yn y DU yn flaenoriaeth polisi ac yn 2010, sefydlodd ymchwiliad Shott i archwilio pa amodau allai fod yn angenrheidiol er mwyn gwneud Teledu Lleol yn fasnachol hyfyw.

 

7.42      Yn dilyn trafodaethau manwl gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nicholas Shott a'i dîm, roeddem wedi gosod y dewisiadau technegol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau teledu lleol ar draws y DU ym mis Medi 2010.

 

7.43      Ym mis Gorffennaf 2011, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer teledu lleol a oedd yn rhoi cynigion i greu nifer o drwyddedau gwasanaeth teledu lleol gyda chefnogaeth darparwr amlblecs unigol. Mae’r ddogfen yn egluro’n fanwl natur y fframwaith arfaethedig, y darpariaethau deddfwriaethol mae Llywodraeth y DU yn cynnig eu gweithredu a sut bydd y broses drwyddedu yn cael ei datblygu ar ôl cyhoeddi ystod o leoliadau teledu lleol posibl.

 

7.44      Rydym wedi darparu gwybodaeth am y lleoliadau lle gallai gwasanaethau darlledu lleol fod yn bosibl yn dechnegol ynghyd â nifer y cartrefi rydym yn rhagweld a allai dderbyn y gwasanaethau hynny, a mapiau sy’n dangos darpariaeth ddangosol.

 

7.45      Mae’n bwysig nodi nad ydym eto wedi cael y pwerau angenrheidiol i gynnal proses trwyddedu teledu lleol. Roedd dogfen fframwaith Llywodraeth y DU yn awgrymu y byddai deddfwriaeth o’r fath yn cael ei gosod maes o law, ond tan hynny, dim ond darparu cyngor technegol ydym ni.

 

7.46      Roeddem wedi dod o hyd i 6 lleoliad yng Nghymru:-

 

·         Bangor

·         Caerdydd (gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr/Casnewydd)

·         Caerfyrddin

·         Hwlffordd

·         Yr Wyddgrug (gan gynnwys Dinbych/Rhuthun)

·         Abertawe (gan gynnwys Llanelli)

 

7.47       Nid yw hon yn rhestr o leoliadau lle bydd trwyddedau teledu lleol yn sicr yn cael eu hysbysebu, nid yw chwaith yn gofyn am fynegi diddordeb na chyflwyno ceisiadau ar gyfer gwasanaethau teledu lleol. Dim ond asesiad technegol yw hyn o lle gallai gwasanaethau fod yn bosibl. Petai deddfwriaeth yn cael ei gosod sy’n rhoi’r pŵer i ni gynnal proses trwyddedu teledu lleol, byddem yn disgwyl ymgynghori ynghylch ein dull gweithredu cyn gwahodd ceisiadau am unrhyw wasanaethau o’r fath.


 

Adran 8

8              Y Dirwedd Cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd – Cydymffurfio â Dyletswyddau Rheoleiddio Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus

Ein Swyddogaeth Rheoleiddio

 

8.1                      Rhaid i ni sicrhau bod allbwn darlledwyr teledu o ansawdd uchel a bod ystod eang o raglenni yn cael eu darparu, sydd o ddiddordeb i wahanol fathau o gynulleidfaoedd. Mae’n rhaid i ddarlledwyr teledu gydymffurfio â nifer o reoliadau sy’n deillio o ddeddfwriaeth y DU neu Ewropeaidd a, (ac eithrio’r BBC a gwasanaethau cyhoeddus S4C) rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â thelerau eu trwyddedau i ddarlledu, yr ydym yn eu cyhoeddi.

 

8.2                      Mae lefel yr ymyriadau rheoleiddio mae’n rhaid i ni eu defnyddio yn dibynnu ar gategori’r darlledwr. Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus megis gwasanaethau Sianel 3 (ITV), Channel 4 a Channel Five gylchoedd gwaith sydd wedi’u pennu yn y Ddeddf Cyfathrebiadau a byddwn yn trwyddedu ac yn rheoleiddio’r gwasanaethau hyn ynghyd â gwasanaethau teledu masnachol eraill nad ydynt yn darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy’n darlledu o ac i’r Deyrnas Unedig.

 

8.3                      Fel sianeli gwasanaeth cyhoeddus, ac yn gyfnewid am fanteision penodol, mae’r rheini sy’n dal trwyddedau masnachol Sianel 3 a Sianel 5 yn destun nifer o amodau trwydded nad ydynt yn cael eu gosod ar ddarlledwyr masnachol eraill. Mae’r dyletswyddau ychwanegol hyn yn cael eu dylunio i sicrhau, yn gyfnewid am eu statws arbennig, bod y rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 yn cyfrannu at ddibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

8.4                      Ymysg pethau eraill, mae dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus a bennir yn y Ddeddf wedi cael eu dylunio i sicrhau bod rhaglenni o ansawdd uchel yn cael eu cyflenwi sy’n diwallu anghenion a buddiannau cynulleidfaoedd gwahanol, yn darparu newyddion cynhwysfawr ac awdurdodol ac yn adlewyrchu bywydau a phryderon cymunedau gwahanol yn y DU. Yn gyfnewid am gyflawni’r dyletswyddau sydd wedi’u dylunio i sicrhau’r nodau hyn, mae’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 yn cael ystod o fanteision gan gynnwys amlygrwydd ar restri electronig o raglenni a chapasiti wedi’i gadw ar amlblecsau sy’n eu galluogi i ddarlledu i dros 98.5% o boblogaeth y DU.

 

8.5                      Rydym yn rhannu’r gwaith o reoleiddio’r BBC ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r gwaith o reoleiddio S4C ag Awdurdod S4C. Mae Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C yn gosod targedau ar gyfer eu gwasanaethau ond rhaid iddynt ymgynghori a chytuno â ni ar ymrwymiadau penodol megis cwotâu ar gyfer newyddion a materion cyfoes.

 

8.6        Mae’r Ddeddf Cyfathrebiadau’n disgrifio ystod o ddyletswyddau sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod digon o rai mathau o raglenni’n cael eu cynhyrchu a’u darlledu. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd arnom i gytuno ar gwotâu gyda’r darlledwyr a monitro cydymffurfiad ar gyfer rhai mathau o raglenni.

 

Cwotâu Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Ddeddf Cyfathrebiadau

 

8.7                      Mae’r Ddeddf yn rhoi ystod o ddyletswyddau sy’n berthnasol i sianeli gwasanaeth cyhoeddus, ac rydym yn pennu cwotâu priodol i ddiwallu’r rhain. Wrth bennu’r cwotâu, rydym yn ystyried cylch gwaith unigol pob sianel a meini prawf perthnasol eraill.

 

8.8        Dyma grynodeb o’r cwotâu sy’n berthnasol i sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r rhain yn berthnasol i’r BBC, ITV1, Channel 4, Channel 5 ac S4C:

 

o   Cynyrchiadau annibynnol – rhaglenni sydd wedi cael eu gwneud gan gwmnïau sy’n annibynnol ar ddarlledwyr.

 

o   Cynyrchiadau gwreiddiol – rhaglenni sy’n cael eu comisiynu gan ddarlledwyr o adnoddau cynhyrchu mewnol neu gynhyrchwyr annibynnol cymwys.

 

o   Cynyrchiadau tu allan i Lundain – rhaglenni rhwydwaith sy’n cael eu gwneud yn y DU tu allan i’r M25.

 

o   Rhaglenni’r gwledydd a’r rhanbarthau ar Sianel 3 a’r BBC – sy’n cael eu gwneud a’u dangos yn y gwledydd a rhanbarthau Lloegr.

 

o   Newyddion a Materion Cyfoes y DU a Rhyngwladol

 

Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol (Cyfarwyddeb AVMS)

 

8.9        Mae’r holl ddarlledwyr teledu rydym yn eu trwyddedu yn y DU, gan gynnwys gweithredwyr aml-sianel, hefyd yn rhwym wrth ddyletswyddau’r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clywedol (AVMS). Roedd y Gyfarwyddeb AVMS wedi disodli’r Gyfarwyddeb Teledu Heb Ffiniau (TVWF) ar 10 Rhagfyr 2007 a chafodd ei throsi i ddeddfwriaeth y DU ym mis Rhagfyr 2009. Mae hyn yn golygu ar bob sianel, rhaid i'r rhan fwyaf o raglenni fod yn Ewropeaidd (gan gynnwys o’r DU) a rhaid i o leiaf 10% gael eu gwneud gan gwmnïau annibynnol. O blith y rhain, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf fod wedi cael eu gwneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi adroddiad ar gydymffurfiaeth holl Aelod-wladwriaethau’r UE bob dwy flynedd.

 

 

Ffigur 8.1 – Perfformiad yn erbyn gofynion rhaglenni Ewropeaidd, 2010

 

 


Ffigur 8.2 – Perfformiad S4C yn erbyn gofynion rhaglenni Ewropeaidd, 2010

 

 

 

Gwasanaethau Mynediad Teledu

 

8.10      Mae cwotâu sy’n gosod y lefelau sylfaenol ar gyfer is-deitlo, arwyddo a disgrifiadau sain i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau hefyd yn berthnasol i'r holl sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus a phob gwasanaeth teledu arall sy'n cael cyfran gyfartalog dros 12 mis o 0.05% neu fwy (yn amodol ar basio trothwy fforddiadwyedd a pheidio ag wynebu anawsterau technegol nad oes modd eu datrys).

 

 

1.    Cynyrchiadau Annibynnol Cymwys

 

8.11      Mae Adran 277 o’r Ddeddf yn mynnu ein bod yn gosod dyletswyddau ar y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig i sicrhau na chaiff dim llai na 25% o gyfanswm y rhaglenni cymwys eu dyrannu i ddarlledu ystod ac amrywiaeth o gynyrchiadau annibynnol. Ar ben hynny, mae’n rhaid iddynt lunio, cynnal a chydymffurfio â Chodau Ymarfer sy’n llywodraethu’r telerau a ddefnyddir i gomisiynu rhaglenni gan gynhyrchwyr annibynnol.

 

8.12      Mae cyfyngiad y cwota rhaglenni ‘cymwys’ yn bwysig oherwydd mae lefel absoliwt y ddyletswydd yn disgyn wrth ddangos mwy o raglenni wedi’u prynu nad ydynt yn gymwys. Mae Channel 5, yn yr un modd â Channel 4, yn ddarlledwr gyhoeddwr gan fwyaf, gydag uned cynhyrchu mewnol fach.

 

8.13      I’r gwrthwyneb, yn draddodiadol mae’r rheini sy’n dal trwydded Sianel 3 wedi cyfrannu at gyfran fawr o amserlen y rhwydwaith. Mae llwyddiant cyson rhaglenni a gomisiynodd Sianel 3 gan y sector annibynnol dros y blynyddoedd diwethaf wedi gweld cyfran y rhaglenni cymwys yn tyfu, bron i’r un lefel â’r BBC. Serch hynny, efallai y bydd nod strategol ITV plc, sef datblygu ei fusnes cynhyrchu a dosbarthu rhyngwladol, yn rhoi mwy o straen ar y ddyletswydd hon a’r amod yn y cod ymarfer.

 

8.14      Yn ystod 2010, roedd 86% o’r rhaglenni a gomisiynwyd ar Channel 4 ac 81% ar Five wedi cael eu gwneud gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol, ac roedd y ffigur hwn yn 99% i S4C. Yn ystod 2010, roedd y BBC wedi cyrraedd 36% ar draws ei holl sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus gyda 33% ar BBC 1 a 41% ar BBC 2. Roedd ITV 1 wedi cyrraedd 39%.

 

 

Ffigur 8.3 – Oriau cymwys wedi’u comisiynu gan gynhyrchwyr annibynnol

 

 

 

Ffigur 8.4 – Perfformiad S4C yn erbyn cwotâu cynyrchiadau gwreiddiol ac annibynnol

 

 

2.    Cynyrchiadau Gwreiddiol

 

8.15      Mae Adran 278 o’r Ddeddf yn mynnu ei bod yn rhaid i ni roi dyletswyddau ar y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol i ddangos bod cyfran addas o raglenni yn cael eu comisiynu ganddynt neu ar eu cyfer “gyda golwg ar ddangos y rhaglen ar y teledu am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig”.

 

8.16      Nod y cwota yw hyrwyddo buddsoddiad yn economi greadigol y DU a thrwy hynny hybu (ond nid gorchymyn) cynhyrchu mathau penodol o gynnwys sydd wedi cael eu gweld yn draddodiadol fel ‘gwasanaeth cyhoeddus’, megis drama’r DU, comedi a rhaglenni ffeithiol arbenigol gan gynnwys rhaglenni am y celfyddydau a rhaglenni dogfen. Bwriad y cwotâu hefyd yw sicrhau bod y sianeli yn cyflenwi rhaglenni ar draws yr amserlen sydd wedi’u dylunio i apelio at ystod eang o ddiddordebau.

 

8.17      Bydd gwylwyr yn cydnabod bod y rhaglenni hyn yn elfen bwysig o ddibenion a nodweddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

8.18      Mae’r cwotâu yn cael eu pennu ar lefelau gwahanol ar gyfer pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ac maent wedi’u dylunio i sicrhau bod y rhan fwyaf o amser darlledu ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys rhaglenni o ffynonellau cynhyrchu yn y DU gan fwyaf yn hytrach na'u bod yn cael eu prynu o rywle arall. Mae’r rhain yn ddau gwota, un sy’n berthnasol ar draws y diwrnod darlledu i gyd ac un sy’n berthnasol i oriau brig.  Mae’r rhan fwyaf o raglenni gan sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn gynyrchiadau gwreiddiol (mae’r diffiniad yn cynnwys ailddarllediadau) ac roedd yr holl sianeli wedi cyrraedd eu cwota yn 2010.

 

8.19      Yn ystod 2010, roedd oriau’r rhaglenni gwreiddiol a ddarlledwyd am y tro cyntaf gan y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn 618 awr yr wythnos, a oedd wedi disgyn o 627 awr yn 2009. Ymysg y pum prif sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus, roedd ychydig dan hanner (47%) o’r 42,618 o’r cyfanswm oriau yn rhaglenni gwreiddiol a ddarlledwyd am y tro cyntaf.

 

 

Ffigur 8.5 – Perfformiad darlledwyr yn erbyn cwotâu cynyrchiadau gwreiddiol, drwy’r amser

 

Ffigur 8.6 – Perfformiad darlledwyr yn erbyn cwotâu cynyrchiadau gwreiddiol, oriau brig

 

 

Ffigur 8.7 – Perfformiad S4C yn erbyn cwotâu cynyrchiadau gwreiddiol ac annibynnol

 

 

Ailddarllediadau

 

8.20      Mae’r diffiniad o raglenni gwreiddiol yn cynnwys ail ddangos rhaglenni sydd wedi cael eu comisiynu. Er enghraifft, er bod Channel 5 wedi cyrraedd neu ragori’n gyson ar ei gwotâu cynyrchiadau gwreiddiol – a gafodd ei ostwng yn 2009 i 50% yn gyffredinol, gyda 40% yn ystod oriau brig – mae wedi gwneud hynny fwyfwy ag ailddarllediadau. Roedd y rhain yn cyfrif am 59% o'r rhaglenni ar amserlen Channel 5 yn ystod 2010, o'i gymharu â 42% yn 2005. Wrth gymharu, roedd ailddarllediadau'n cyfrif am chwarter cyfanswm amserlen Sianel 3, er bod Channel 4 hefyd ychydig dros 50%.

 

8.21      Nid oes dim cwotâu i gyfyngu ar lefel yr ailddarllediadau ar unrhyw sianel teledu yn y DU (er bod y cwota o raglenni sy’n cael eu dangos gan ITV yn y gwledydd a’r rhanbarthau yn gorfod cynnwys rhaglenni gwreiddiol a ddangosir am y tro cyntaf ac nid ailddarllediadau). Serch hynny, mae gwylwyr wedi mynegi pryderon ynghylch graddfa’r ailddarllediadau ar deledu. Yn ôl canlyniadau gan ein Traciwr Cyfryngau (arolwg blynyddol o ganfyddiadau ac agweddau gwylwyr at deledu) “mwy o ailddarllediadau” oedd y prif reswm a roddwyd gan y bobl hynny a oedd yn meddwl bod safonau rhaglenni wedi gwaethygu.

 

8.22      Yn ystod 2010, roedd cyfran yr ailddarllediadau yn 8.4% ar BBC 1 ac yn 28.3% ar BBC 2. Roedd lefel ailddarllediadau S4C yn 2010 yn 54.2%.

 

8.23      Roedd ailddarllediadau yn cynrychioli'r rhan fwyaf o raglenni Cymraeg yn ystod 2010. Mae lefel yr ailddarlledu yn adlewyrchu polisi S4C o sicrhau bod mwy nag un cyfle i wylio rhaglenni Cymraeg yn ystod oriau brig, gan gynyddu'r buddsoddiad a wneir yn y rhaglenni hyn.

 

3.    Cynyrchiadau Tu Allan i Lundain a Rhaglenni sy’n cael eu gwneud i Wylwyr yng Nghymru

 

8.24     Dan adran 286 y Ddeddf, rhaid i ni osod amodau trwydded i sicrhau bod cyfran addas o raglenni sy’n cael eu gwneud yn y DU ar gyfer eu gwylio ar sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus, o ran swmp a gwariant, yn cael eu cynhyrchu tu allan i ardal yr M25. Mae’r dyletswyddau hyn nawr yn cael eu galw yn gwotâu tu allan i Lundain.

 

8.25     Er mwyn cymhwyso yn erbyn y cwota, rhaid i raglenni gydymffurfio â dau o’r tri maen prawf sydd yn ein Diffiniad o Gynhyrchiad Rhanbarthol, a ddaeth yn safon i’r diwydiant yn 2006:

 

o   cael canolfan sylweddol yn y wlad neu'r ardal ranbarthol berthnasol;

o   cyflawni lefel sylfaenol o wariant yn y wlad neu’r rhanbarth; a

o   gwario lefel sylfaenol ar dalent cynhyrchu yn y wlad neu’r rhanbarth.

 

Rhaglenni Rhwydwaith

 

8.26      Roedd gwariant ar raglenni rhwydwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar draws y pum prif sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus a sianeli digidol y BBC wedi cynyddu 2% mewn termau real yn 2010 i £2.9 biliwn.

 

8.27      Caiff cyfran y gwariant ar gynyrchiadau rhwydwaith yn y DU gan y pedwar darlledwr gwasanaeth cyhoeddus gyda’i gilydd ei dangos yn y siart isod. Yn gyffredinol, mae cynhyrchu - boed hynny’n cael ei fesur yn ôl gwariant neu swmp - yn dal i fod wedi’i ganolbwyntio yn Llundain a rhanbarthau Lloegr, gyda llawer llai o arian yn cael ei wario ar gynyrchiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Serch hynny, mae cyfran y gwariant ar raglenni a gynhyrchir yn Llundain yn disgyn yn raddol - o 63.3% yn 2006 i 61.8% yn 2010.

 

8.28      Roedd 15% arall o wariant ar raglenni gwreiddiol wedi’i neilltuo i gynyrchiadau yng Ngogledd Lloegr a 12.6% yn Ne Lloegr.

 

8.29      Yng Nghymru, roedd cynyrchiadau gwreiddiol a ddangosir am y tro cyntaf yn cyfrif am 2.6% o wariant, a oedd wedi codi o 2.2% o gyfanswm y gwariant yn 2009. Yn yr Alban, roedd y ffigur wedi codi o 3.6% i 4.6%. Yng Ngogledd Iwerddon, roedd y ffigur wedi disgyn o 0.6% o gyfanswm y gwariant i 0.4%.

 

 

Ffigur 8.8. – Gwariant ar gynyrchiadau tu allan i Lundain

 

8.30      O’r rhaglenni gwreiddiol a ddangosir am y tro cyntaf a gafodd eu gwneud yn y DU yn 2010, cafodd 60.8% eu cynhyrchu o fewn yr M25, a oedd wedi disgyn o 62.7% yn 2009 a 66% yn 2006. Cafodd 11.6% arall ei gynhyrchu yng Ngogledd Lloegr, 12.9% yn Ne Lloegr a 8.3% yng Nghanolbarth a Dwyrain Lloegr.

 

8.31      Roedd y BBC/ITV wedi cynhyrchu cyfanswm o 11,046 awr o raglenni ar gyfer Cymru, rhanbarthau Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2010, a oedd 6% yn uwch na’r 10,439 awr yn 2009. Roedd nifer yr oriau a gynhyrchwyd yn benodol i wylwyr yng Nghymru yn 2010 wedi disgyn 3% o 1,036 awr yn 2009, gostyngiad o 24% er 2005. Roedd oriau’r allbwn materion cyfoes gan ITV 1 a’r BBC wedi codi o un flwyddyn i’r llall 8% a 10% y naill a’r llall.

 

8.32      Roedd cynhyrchwyr yng Nghymru wedi cyflenwi 1.4% o’r holl oriau o raglenni gwreiddiol a ddangoswyd am y tro cyntaf yn ystod 2010 (a oedd wedi disgyn o 1.7% yn 2009 ond roedd yn uwch na ffigur 2006 sef 0.9%). Roedd y ffigurau cymharol ar gyfer yr Alban yn 4.6%, a oedd wedi codi o 3.3% ddeuddeg mis yn gynharach (ac wedi codi o 1.6% yn 2006). Yng Ngogledd Iwerddon, roedd oriau darllediadau gwreiddiol a ddangoswyd am y tro cyntaf wedi codi o 0.2% i 0.5% yn 2010.

 

Ffigur 8.9. – Swmp cynyrchiadau tu allan i Lundain

 

BBC

 

8.33      Mae cwotâu tu allan i Lundain y BBC yn 30% ar gyfer gwerth ac yn 25% ar gyfer swmp ac maent yn berthnasol ar gyfer ei holl sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Roedd y BBC wedi rhagori ar y cwotâu hyn yn 2010, gan gyrraedd 38% ar gyfer gwerth a 39% ar gyfer swmp. Bydd y BBC yn cynhyrchu ac yn comisiynu rhagor o raglenni o’r tu allan i Lundain, gan ymrwymo i gyflawni 50% erbyn 2016 ac, o fewn y ffigur hwn, cyflawni 17% o’r gwledydd datganoledig. Mae disgwyl i BBC Cymru fod yn un o fuddiolwyr allweddol penderfyniad y BBC i ddyblu cynyrchiadau rhwydwaith gan BBC Cymru a chodi lefel y cynyrchiadau tu allan i Lundain erbyn 2016.

 

8.34      Mae BBC Cymru yn cyflenwi rhaglenni rhwydwaith i BBC 1, 2, 3 a 4. Yn ystod 2010, cafodd 47 o gynyrchiadau rhwydwaith eu cynhyrchu gan BBC Cymru gan gynnwys Coast, Doctor Who, Merlin, Sherlock a’r Indian Doctor.

 

8.35      Mae BBC Cymru newydd agor ei Phentref Drama ym Mae Caerdydd a fydd yn gartref i gynyrchiadau drama rhwydwaith yn y dyfodol gan gynnwys Casualty, sy’n symud o Fryste, a chynyrchiadau rhwydwaith mawr eraill megis Doctor Who, The Sarah Jane Adventures, Pobol y Cwm, Sherlock ac Upstairs, Downstairs. Bydd y Ganolfan Ddrama yn disodli dau safle cynhyrchu drama sydd eisoes gan BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd ac yn Nglan-bad ger Pontypridd.

 

8.36      Mae BBC Cymru hefyd yn cyflenwi o leiaf 10 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg i S4C am ddim (sy'n cael eu talu drwy ffi'r drwydded) a oedd yn golygu 711 awr yn 2010 ac yn costio oddeutu £23 miliwn. Roedd y rhaglenni a gyflenwyd yn cynnwys gwasanaeth newyddion y sianel, Newyddion, a phrif opera sebon dyddiol y sianel, Pobol y Cwm. Yn ogystal â’r cyflenwad statudol, mae S4C hefyd yn comisiynu rhaglenni gan y BBC ar delerau masnachol a rhoddodd daliadau gwerth £3.1 miliwn i’r BBC am yr ailddarllediad omnibws wythnosol a 30 pennod haf o Pobol y Cwm nad oeddent yn cael eu darparu fel rhan o'r oriau statudol. Yn ystod 2010, roedd y BBC wedi cyflenwi 258 o oriau ychwanegol i S4C.

 

ITV

 

8.37      Roedd y cwotâu ar gyfer y rheini sy’n dal trwydded Sianel 3 wedi cynyddu yn 2005 o 33% mewn swmp a 40% mewn gwariant i 50% mewn swmp a gwariant. Roedd hyn yn ymateb i bryder nad oedd modd i allbwn ar y sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol y DU yn iawn pan (ar y pryd) roedd llai na 40% o'r rhaglenni yn cael eu cynhyrchu tu allan i Lundain.

 

8.38      Serch hynny, daeth yn glir wedyn bod diwallu’r cwota diwygiedig wedi rhoi cost sylweddol ar rwydwaith Sianel 3 ac yn 2009 cafodd y cwota ei ostwng i 35% ar gyfer gwariant a swmp. Ar ben hynny, daethom i’r casgliad nad oedd y gofyniad, a oedd wedi cael ei ddiwallu gan raglenni a oedd wedi bod yn rhedeg am gyfnod hir gan gynnwys rhaglenni cwis a rhaglenni eraill mewn stiwdio, wedi cyflawni’r amrywiaeth ychwanegol ar y sgrin y bwriadwyd yn rhannol iddo ei gyflawni.

 

8.39      Fel rhan o’n hail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, a gan gydnabod yr angen i alinio gofynion darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar Sianel 3 â’r gwerth is i ITV yn sgil dal y trwyddedau, cafodd lefel cwota tu allan i Lundain ITV ei leihau o 50% ar gyfer gwerth a swmp i 35% o 2009 ymlaen. Roedd y lefelau a gyflawnwyd yn 2010 yn 39% o ran gwerth a 44% o ran swmp.

 

8.40      Serch hynny, mae gwylwyr yn dal i bryderu bod rhaglenni ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn methu portreadu eu gwlad neu eu rhanbarth yn dda i weddill y DU. Yn 2010, er bod 62% yn credu ei bod yn bwysig bod gwasanaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni’r nod hwn, dim ond un rhan o dair oedd yn credu eu bod yn gwneud hynny.

 

8.41      Roedd ITV Wales wedi cael rhywfaint o lwyddiant o ran cyflenwi rhaglenni i rwydwaith ITV dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ymarferol, mae rhwydwaith ITV wedi gallu diwallu ei gwota “tu allan i Lundain” drwy brynu rhaglenni’n bennaf o ganolfannau cynhyrchu yn rhanbarthau Lloegr. Serch hynny, mae ITV Wales yn cyflenwi oddeutu awr yr wythnos o raglenni Cymraeg i S4C ar delerau masnachol gan gynnwys y rhaglen materion cyfoes sydd wedi bod yn rhedeg am gyfnod hir, Y Byd ar Bedwar, a’r gyfres materion cyfoes i bobl ifanc, Hacio, a’r gyfres sy’n canolbwyntio ar fywyd gwledig yng Nghymru, Cefn Gwlad.

 

Channel 4

 

8.42      Yn 2010, roedd Channel 4 wedi cyflawni 39% o ran gwerth a 45% o ran swmp, a oedd yn uwch o lawer na’r cwota newydd sef 35% a ddaeth i rym ddechrau 2010 (a oedd wedi cael ei godi o 30%). Ochr yn ochr â’r newid i’r cwota yn 2010, rhaid i 3% o raglenni gael eu cynhyrchu tu allan i Loegr a disgwylir i’r ffigur hwn gynyddu yn y dyfodol. Yn ystod 2010, roedd Channel 4 wedi comisiynu 9 o gynyrchiadau rhwydwaith o Gymru gan gynnwys y rhaglen ar chwaraeon eithafol a gynhyrchwyd gan Boomerang – Freesports on 4.

 

Channel 5

 

8.43      Mae gan Channel 5 ymrwymiad cwota is, dim ond 10%, ond roedd wedi rhagori ar hyn yn 2010, gan gyrraedd 26% o ran gwerth a 12% o ran swmp. Mae’r ffigurau hyn yn is na’r blynyddoedd blaenorol ac maent yn seiliedig ar ffigurau gwariant is na’r darlledwyr eraill.

 

 

 

Ffigur 8.10 – Perfformiad yn erbyn y cwotâu cynyrchiadau tu allan i Lundain

 

 

4.    Rhaglenni’r Gwledydd a’r Rhanbarthau nad ydynt ar y Rhwydwaith

 

8.44      Caiff rhaglenni’r gwledydd a’r rhanbarthau eu diffinio fel rhaglenni nad ydynt ar y rhwydwaith sy’n cael eu cynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd lleol. Cânt eu darlledu ar Sianel 3 a BBC One a BBC Two.

 

8.45      Mae’r Ddeddf yn mynnu ein bod yn pennu amodau i sicrhau bod y rheini sy’n dal trwyddedau ITV yn darparu ystod addas o raglenni o ansawdd uchel sydd o ddiddordeb penodol i bobl sy’n byw yn yr ardal a wasanaethir gan y gwasanaeth, gan gynnwys rhaglenni newyddion rhanbarthol. Caiff cwotâu’r BBC ar gyfer y gwledydd a rhanbarthau Lloegr eu pennu gan Ymddiriedolaeth y BBC ac maent yn berthnasol ar draws yr holl raglenni rhanbarthol sy’n cael eu cynhyrchu yn y DU drwyddi draw, yn hytrach na’n unigol ar gyfer pob gwlad a rhanbarth.

 

ITV

 

8.46      Yn dilyn ein hail adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, cytunwyd ar leihau allbwn ITV Plc er mwyn dod â chost dyletswyddau darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y trwyddedau yn nes at y manteision i ITV o barhau i ddal y trwyddedau. Daeth y newidiadau i’r cwotâu i rym o 2009 ymlaen. Y flaenoriaeth oedd cynyddu casglu newyddion lleol, o fewn yr adnoddau a oedd ar gael, a darparu gwasanaeth sy’n berthnasol i’w gwylwyr, gan roi blaenoriaeth i newyddion rhanbarthol oriau brig, gyda gostyngiadau yn ystod y dydd. Er nad oedd newid i’r cwota oriau brig, cafodd y cwota wythnosol safonol ar gyfer newyddion rhanbarthol ei dorri.

 

8.47      Yn y gwledydd datganoledig, cafodd y cwotâu ar gyfer rhaglenni nad ydynt ar gyfer y rhwydwaith eu gosod ar lefelau uwch na’r rheini yn rhanbarthau ITV yn Lloegr. Cawsant eu safoni ar 5 awr 30 munud yr wythnos yng Nghymru a’r Alban a 6 awr yng Ngogledd Iwerddon. O fewn y ffigur cyffredinol hwn, ceir cwota o bedair awr am newyddion ac 1 awr 30 munud ar gyfer rhaglenni heb fod yn rhaglenni newyddion (dwy awr yng Ngogledd Iwerddon). Roedd ITV wedi cyflawni cyfanswm o 323 awr o raglenni a gynhyrchwyd yn benodol i wylwyr yng Nghymru yn 2010.

 

8.48      Yn yr ail adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, roeddem yn cydnabod swyddogaeth uwch cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn y gwledydd datganoledig yn ogystal â’r angen i gynnal dewis er mwyn galluogi dinasyddion i ymgysylltu’n llawn â sefydliadau democrataidd newydd. Serch hynny, roeddem hefyd yn glir er bod rhaglenni cenedlaethol a rhanbarthol wedi bod yn brif ran o gyfraniad Sianel 3 at ddibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus, nid oedd modd osgoi’r ffaith bod y dyletswyddau hyn yn cynrychioli un gost fwyaf statws gwasanaeth cyhoeddus.

 

8.49      Yn unol â hynny, ac ystyried pwysigrwydd cynyddol sefydliadau datganoledig, rydym o’r farn bod sicrhau ateb ymarferol i luosogrwydd newyddion yn y Gwledydd yn cynrychioli ystyriaeth allweddol ychwanegol wrth bennu gallu’r rheini sy’n dal trwyddedau ar hyn o bryd i gyfrannu at ddibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

BBC

 

8.50      Cafodd cwota’r BBC ar gyfer rhaglenni rhanbarthol ei leihau yn 2009 o 6580 awr y flwyddyn i 6270 a chafodd y cwota ar gyfer rhaglenni rhanbarthol yn ystod oriau brig (heb gynnwys y newyddion ar BBC One) ei leihau o 1030 awr i 655 awr. Yn unol â gostwng y cwotâu, roedd lefel y rhaglenni rhanbarthol yn ystod oriau brig wedi disgyn o 1,060 awr yn 2008 i 746 awr yn 2010 ac roedd cyfanswm rhaglenni rhanbarthol wedi codi o 6895 awr yn 2009 i 7077 awr yn 2010. Roedd y BBC wedi cyflawni 679 awr o raglenni a gynhyrchwyd yn benodol i wylwyr yng Nghymru yn 2010.

 

8.51      Cyflawnwyd llawer mwy na’r cwotâu y cytunwyd arnynt ar gyfer rhaglenni newyddion a rhaglenni nad ydynt yn newyddion BBC One Wales. Roedd BBC One Wales wedi cyflawni 372 awr o raglenni newyddion a materion cyfoes (targed – 250 awr) a 106 awr o raglenni nad ydynt yn rhaglenni newyddion (targed – 60). Roedd BBC Two Wales hefyd wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer rhaglenni nad ydynt yn newyddion drwy gyflawni 241 awr o’i gymharu â tharged o 190 awr.

 

S4C

 

8.52      Roedd S4C wedi gwario cyfanswm o £79 miliwn ar raglenni a ddangoswyd am y tro cyntaf yn 2010, a oedd 3% yn uwch na 2009 mewn termau nominal. Roedd pob genre ac eithrio Drama a rhaglenni Plant wedi gweld cynnydd mewn gwariant o un flwyddyn i’r llall.

 

8.53      Roedd cyfanswm oriau’r rhaglenni Cymraeg ar S4C wedi cynyddu 38% dros gyfnod o bedair blynedd i 6219 awr yn 2010, a oedd 9% yn uwch o un flwyddyn i’r llall. Mae modd egluro’r patrwm hwn yn rhannol oherwydd gorffen newid i’r digidol ym mis Mawrth 2010 ac ar ôl hynny nid oedd gan S4C raglenni Saesneg Channel 4 mwyach.

 

8.54      Roedd oriau darllediadau gwreiddiol a ddangoswyd am y tro cyntaf a gomisiynwyd gan S4C (heb gynnwys allbwn statudol y BBC) wedi codi 24% i gyrraedd 1786 awr yn 2010. O’r cyfanswm hwn, roedd 36% yn rhaglenni Ffeithiol Cyffredinol (635 awr) ac roedd allbwn i blant yn cynrychioli 22% arall (384 awr). Ar ben hyn, roedd y BBC wedi cyflenwi 711 awr arall fel rhan o’i hymrwymiad statudol i’r sianel.

 

8.55      Roedd ailddarllediadau wedi cynrychioli’r rhan fwyaf o allbwn y sianel yn 2010 er bod nifer y rhaglenni wedi’u prynu a oedd yn cael eu dangos am y tro cyntaf chwe gwaith yn fwy o fan cychwyn bach gan ddod â chyfanswm 2010 i 351 awr, y cynnydd cymharol mwyaf ar draws y categorïau.

 

Newyddion y Gwledydd/Rhanbarthau

 

8.56      Yn 2010, dywedodd 54% o oedolion Cymru, 62% yn yr Alban a 57% yng Ngogledd Iwerddon mai’r teledu oedd eu prif ffynhonnell o newyddion lleol, sydd yn uwch na chyfartaledd y DU sef 52%. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd rhaglenni newyddion teledu yn y gwledydd datganoledig.

 

8.57      Mae ein hymchwil hefyd wedi dangos bod lluosogrwydd wrth ddarparu rhaglenni newyddion ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn arbennig o bwysig i wylwyr, gyda 79% yn dweud bod hyn yn bwysig. Serch hynny, yn wahanol i ddarpariaeth newyddion cenedlaethol, ceir cryn wahaniaeth rhwng pwysigrwydd canfyddedig rhaglenni o’r fath a boddhad gwylwyr: dim ond 52% o wylwyr sy’n meddwl bod rhaglenni newyddion ar gyfer y gwledydd a rhanbarthau Lloegr yn cael eu cyflenwi’n dda gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus drwyddi draw.

 

8.58      Mae ein hymchwil wedi dangos bod y cryfder barn ar y mater hwn yn amrywio ar draws y DU. Rhwng 2007 a 2010 roedd barn ymysg gwylwyr rheolaidd Sianel 3 ynghylch cyflenwi newyddion y gwledydd a’r rhanbarthau wedi dod yn llai cadarnhaol ym mhob gwlad ddatganoledig, ac roedd wedi aros ar yr un lefel yn Lloegr. Roedd boddhad gyda newyddion gwledydd ar Sianel 3 wedi disgyn o 66% i 57% yn yr Alban, o 64% i 52% yng Nghymru ac o 77% i 69% yng Ngogledd Iwerddon dros y cyfnod hwn, adeg torri cwotâu rhaglenni rhanbarthol.

 

8.59      Yn yr un modd, er bod lefelau gwylio’n amrywio’n sylweddol ledled y DU, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y math hwn o raglenni’n arbennig o bwysig yn y gwledydd datganoledig. Roedd gwylio rhaglenni newyddion yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon yn gyson uwch na chyfartaledd y DU o 28 awr y flwyddyn.

 

8.60      Ar draws y DU yn ystod 2010, ar gyfartaledd roedd unigolyn yn gwylio cyfanswm o 88 awr o newyddion gwledydd/rhanbarthau DU. Roedd yr amser a oedd yn cael ei dreulio’n gwylio yn amrywio yn ôl y wlad ddatganoledig a’r rhanbarth yn Lloegr.

 

8.61      Gwylio newyddion gwledydd/rhanbarthau yng Nghymru (29 awr) oedd yr isaf o blith y gwledydd datganoledig, ond roedd yn uwch na chyfartaledd y DU (28 awr). Roedd cyfran y gynulleidfa ar gyfer ITV Wales Tonight a BBC Wales Today yn 15% a 36% y naill a’r llall yn 2006 o’i gymharu â 17% a 28% yn 2010.

 

5.    Newyddion a Materion Cyfoes y DU a Rhyngwladol

 

8.62      Y cwota newyddion yw un o’r rhai prin sy’n berthnasol i genre rhaglenni penodol ac mae’n cydnabod pwysigrwydd lluosogrwydd ffynonellau newyddion a’r ffaith nad yw bob tro’n bosibl i hyn gael ei ddarparu gan y farchnad heb ymyriadau.

 

8.63      Mae’r Ddeddf yn mynnu ein bod yn pennu amodau trwydded i sicrhau bod rhaglenni newyddion a materion cyfoes o ansawdd uchel yn cael eu darparu, gan fynd i'r afael â materion cenedlaethol a rhyngwladol. Cytunir ar gwotâu ar lefelau gwahanol ar gyfer swmp rhaglenni newyddion y DU a rhyngwladol a fydd yn cael eu darlledu ar hyd y diwrnod ac yn ystod yr oriau brig.

 

8.64      Mae ein hymchwil wedi canfod yn gyson mai rhaglenni newyddion yw’r rhaglenni a werthfawrogir fwyaf o’r holl genres gwasanaeth cyhoeddus. Dywedodd dros 80% o wylwyr a holwyd yn ein harolwg traciwr darlledu gwasanaeth cyhoeddus diweddaraf ei bod yn bwysig bod modd “ymddiried” mewn rhaglenni o’r fath ac y byddent “yn fy helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn y byd heddiw” a rhoi sylw i straeon newyddion mawr yn dda.

 

8.65      Mae gwylwyr hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd lluosogrwydd mewn genres newyddion a materion cyfoes. Roedd ymchwil a gynhaliwyd yn ystod ein hadolygiad o ddarlledu gwasanaeth diwethaf wedi dangos bod 86% o’r rheini a holwyd yn credu bod lluosogrwydd darpariaeth newyddion ymysg y prif sianeli teledu yn bwysig, gyda 77% yn rhoi gwerth tebyg i raglenni materion cyfoes.

 

8.66      Ac ystyried y swyddogaeth ganolog sy’n cael ei chwarae gan newyddion wrth gyflawni dibenion gwasanaeth cyhoeddus, daethom i’r casgliad yn yr adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus y dylai’r rheini sy’n dal trwyddedau Sianel 3 a Sianel 5 gadw dyletswyddau i ddarparu cynnwys newyddion ar ôl 2014. Serch hynny, mae’r baich a roddir gan ddyletswyddau sy’n parhau yn y maes hwn yn ansicr. Yng ngoleuni’r pwysigrwydd a roddir gan wylwyr ar raglenni newyddion a disgwyliad y bydd darlledwyr sefydledig yn eu darparu, mae'n sicr yn bosibl bod darparu newyddion yn rhoi gwerth nad oes modd ei fesur i rwydweithiau darlledu gwasanaeth cyhoeddus wrth feithrin hyder ac enw da brand. Serch hynny, mae’n glir bod y dyletswyddau presennol yn rhoi cefnogaeth rheoleiddio gref am luosogrwydd mewn darpariaeth newyddion.

 

8.67      BBC One sydd â’r targedau uchaf ar gyfer newyddion. Ar draws y diwrnod darlledu 24 awr lawn, roedd BBC One wedi cyflawni 4,999 awr yn 2010, yn erbyn ei chwota o 3,920.

 

 

Ffigur 8.11 – Perfformiad yn erbyn cwotâu newyddion cenedlaethol a rhyngwladol, drwy’r dydd

8.68      Caiff cwota gwahanol ei osod ar gyfer yr oriau brig. Roedd pob darlledwr wedi rhagori ar y lefelau sylfaenol a ddisgwyliwyd.

 

Ffigur 8.12 – Perfformiad yn erbyn cwotâu newyddion cenedlaethol a rhyngwladol, oriau brig

 

Ffigur 8.13 – Perfformiad S4C yn erbyn cwotâu newyddion a materion cyfoes cenedlaethol a rhyngwladol

 

 

 

 


 

Adran 9

9              Radio yng Nghymru – Cyflwyniad a’n Swyddogaeth Rheoleiddio

9.1      Yng Nghymru, yn yr un modd â gweddill y Deyrnas Unedig, mae radio wedi dod yn rhan hanfodol o wybodaeth ac adloniant torfol i’r cyhoedd. Er nad yw’r farchnad radio yn hanesyddol wedi datblygu cymaint yng Nghymru ag mewn rhannau eraill o’r DU, mae wedi canfod lle naturiol i ddefnyddwyr ochr yn ochr â gwasanaeth teledu ac mae gan radio swyddogaeth hollbwysig o ran cyflawni amrywiaeth o ddibenion cyhoeddus – swyddogaeth a rennir rhwng y BBC, radio masnachol a’r sector radio cymunedol.

9.2      Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwrandawyr wedi elwa o newidiadau sylweddol i’r ffordd caiff gwasanaethau radio eu cyflenwi – o radio analog traddodiadol; i radio digidol drwy DAB; teledu digidol; a’r rhyngrwyd. Mae mwy a mwy yn gwrando ar lwyfannau digidol ac, er bod topograffi Cymru yn debyg o olygu y bydd AM, yn enwedig mewn ceir, yn dal i fod yn  bwysig, disgwylir y bydd llwyfannau digidol yn cyfrif am y rhan fwyaf o wrando ar radio yn y dyfodol.

9.3      I’r darlledwyr radio masnachol sefydledig, mae’r newidiadau technolegol cyflym a chyson hyn a’r cynnydd yn y dewisiadau sydd ar gael i ddefnyddwyr yn cyflwyno sialensiau newydd drwy ragor o gystadleuaeth am wrandawyr ac am refeniw; a chostau cynyddol yn sgil gorfod buddsoddi mewn llwyfannau newydd. Ar ben hynny, mae’r pwysau ar ddarlledwyr masnachol wedi dwysáu ymhellach yn sgil gofynion defnyddwyr am raglenni lleol ac effaith y dirywiad economaidd diweddar.

9.4      Mae ein hymchwil wedi canfod bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi cynnwys lleol ar radio masnachol: cynnwys swyddogaethol craidd (newyddion lleol, traffig a theithio a thywydd) a chynnwys lleol arall (megis chwaraeon lleol neu faterion cymunedol) sy’n adlewyrchu hunaniaethau lleol.

9.5      Serch hynny, mae’n ddrud cyflenwi rhaglenni lleol ac mae realaeth fasnachol rhagor o gystadleuaeth yn golygu nad yw cynhyrchu llawer iawn o raglenni lleol bellach mor fasnachol gynaliadwy ag arferai fod.

9.6      Yng ngoleuni’r sialensiau sylweddol sy’n wynebu’r sector radio masnachol yng Nghymru, ein nod ni yw sicrhau bod y drefn rheoleiddio bresennol yn ddigon hyblyg i addasu i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym a sicrhau bod buddiannau dinasyddion a defnyddwyr yn dal i gael eu diwallu.

Ein Dyletswyddau – Radio

 

9.7       Mae diwydiant radio masnachol iach a chynaliadwy yn angenrheidiol er mwyn cyflawni amcanion polisi cyhoeddus sy’n ein helpu i ddiwallu ein dyletswyddau statudol.

9.8        Ein swyddogaeth yw sicrhau nad yw’r beichiau rheoleiddio yn drymach na’r gofyn, neu’n waeth, yn wrthgynhyrchiol, gan fygwth hyfywedd gorsafoedd. Y sialens ganolog i reoleiddio yw sicrhau bod cynnwys radio lleol yn cael ei gyflenwi yng ngoleuni realaeth ariannol, ar yr un pryd â chreu strwythur diwydiant ar gyfer y dyfodol.

 

9.9       O ganlyniad, rydym eisoes wedi cymryd camau rhagweithiol i leihau’r baich rheoleiddio ar y sector radio masnachol ac rydym wedi ceisio dod â’r trefniadau analog a digidol yn nes at ei gilydd, gan ystyried y nodau, a bennwyd gan y Senedd.

9.10     Mae gennym nifer o ddyletswyddau a bennir mewn deddfwriaeth, mewn perthynas â rheoleiddio radio. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

 

o   Hybu buddiannau dinasyddion a defnyddwyr;

o   Sicrhau bod ystod eang o raglenni radio o ansawdd uchel yn cael eu darparu, gan apelio at ystod o ddiddordebau a chwaethau;

o   Sicrhau bod gwasanaethau radio’n cael eu darparu gan ystod o sefydliadau gwahanol;

o   Ar gyfer pob gorsaf leol, sicrhau lefel briodol o ddeunyddiau lleol gyda chyfran addas o’r deunyddiau hynny yn cael eu gwneud yn lleol – gan gyflawni’r angen am newyddion lleol i sicrhau dadl wybodus.

o   Sicrhau bod pobl sy’n gwrando ar y radio yn cael eu hamddiffyn rhag deunyddiau sy’n achosi niwed neu dramgwydd;

o   Sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu trin yn annheg mewn rhaglenni radio, a rhag i’w preifatrwydd gael ei darfu;

9.11     Yn yr un modd ag mewn rhannau eraill o'r DU, gall gwrandawyr yng Nghymru gael gafael ar wasanaethau radio drwy amrywiaeth o lwyfannau a thechnolegau gan gynnwys radio analog traddodiadol, radio digidol DAB, teledu digidol a’r rhyngrwyd.

 

9.12     Mae pawb bron yn berchen ar radio analog, ac mae’r nifer sy’n gwrando ar lwyfannau digidol megis DAB, teledu digidol a’r rhyngrwyd yn tyfu. Mae nifer cymharol fach o bobl yn gwrando ar y radio ar eu ffôn symudol neu drwy bodlediadau ar chwaraewyr MP3.

 

9.13     Mae’r BBC yn darparu dau wasanaeth cenedlaethol i Gymru: Radio Cymru yn Gymraeg a Radio Wales yn Saesneg.  Ar ben hynny, mae gan 18 o orsafoedd radio analog masnachol drwydded i ddarlledu yng Nghymru ac mae 9 gorsaf radio cymunedol drwyddedig yng Nghymru.

 

Gwrando ar Radio

 

9.14      Treulir mwy o oriau yn gwrando ar y radio yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU. Yn ystod Chwarter cyntaf 2011, roedd gwasanaethau radio wedi cyrraedd 92.9% o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru bob wythnos, a oedd 2.4 pwynt canran yn uwch na 90.5% yn ystod Chwarter cyntaf 2010.

 

9.15      Roedd yr oriau cyfartalog fesul gwrandäwr ar ei uchaf yng Nghymru hefyd, sef 23.3 awr yr wythnos, o'i gymharu â chyfartaledd y DU sef 22.3 awr.

 

Lefelau Gwrando Radio yn 2011

 

Ffigur 9.1 – Oriau gwrando wythnosol cyfartalog a chanran cyrhaeddiad y boblogaeth

 

 

Ffynhonnell: RAJAR Ch1 2011

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Adran 10

10           Radio yng Nghymru – Gorsafoedd

BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru

 

10.1      Mae’r BBC yn darparu dau wasanaeth cenedlaethol i Gymru, Radio Wales (ar AM ac FM) yn Saesneg a Radio Cymru (ar FM) yn Gymraeg.

 

10.2      Mae gwasanaeth FM Radio Cymru yn cyrraedd 94.8% o’r boblogaeth. Fodd bynnag, gan fod Radio Wales wedi dechrau’n bennaf fel rhwydwaith AM, mae ei gyrhaeddiad FM yn fwy cyfyngedig, gan gyrraedd dim ond 68% o’r boblogaeth.

 

10.3      A dweud y gwir mae ein Pwyllgor Cynghori ar gyfer Cymru a Chyngor Cynulleidfa Cymru y BBC wedi mynegi eu pryderon ynghylch posibilrwydd newid i radio digidol ar sail cyfateb DAB i ddarpariaeth FM. Mae darpariaeth DAB leol yn is o lawer na gwasanaethau amlblecs y DU ac, wrth eu hystyried gyda’i gilydd, ar hyn o bryd mae darpariaeth DAB yn is o lawer na darpariaeth FM ledled Cymru (gweler Adran 12).

 

10.4      Er enghraifft, mae llawer iawn o wrandawyr BBC Radio Wales yng nghymoedd de Cymru yn dibynnu ar wasanaeth AM. Ar hyn o bryd ni all 55-60% o bobl Cymru dderbyn BBC Radio Cymru na BBC Radio Wales ar DAB, ac ni all oddeutu 70% o siaradwyr Cymraeg dderbyn BBC Radio Cymru ar DAB, sy’n cyferbynnu â darpariaeth o 80% ar gyfer gorsafoedd Radio Rhwydwaith y BBC yng Nghymru.

 

10.5      Felly, ac ystyried topograffi Cymru gydag ardaloedd mynyddig sylweddol lle mae’n anodd derbyn FM, heb sôn am DAB, bydd darparu signal AM mewn ceir mae’n debyg yn dal i fod yn bwysig yn y dyfodol rhagweladwy.

 

 

Gorsaf                                         Poblogaeth                    Cyrhaeddiad                  Cyrhaeddiad

                                                                                             (000oedd)                       Canran

BBC Radio Wales                        2,524,000                        479,000                                        19%

                          

BBC Radio Cymru                      2,524,000                        138,000                                        5%

 

 

10.6      Roedd rhaglenni newyddion ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales wedi cyfrannu’n sylweddol at y cyrhaeddiad hwn gyda Post Cyntaf yn gwasanaethu cynulleidfa o 40,000 a Good Morning Wales yn gwasanaethu 80,000.

 

Ffigur 10.1 – Cyrhaeddiad Wythnosol ar gyfer Gwasanaethau Cenedlaethol/Lleol y BBC

 

 

Radio Masnachol yng Nghymru

 

10.7      Ar hyn o bryd caiff Cymru ei gwasanaethu gan y gorsafoedd radio masnachol rhanbarthol a lleol canlynol:

 

 

Ffigur 10.2 – Cymru: Gorsafoedd Radio Masnachol[3]

 

Gorsaf

Ardal

Grŵp

Poblogaeth [4]

(000oedd)

Cyrhaeddiad

(000oedd) %

Real Radio

 

Real Radio

 

Real Radio

 

Kiss West [5]

Cymru

 

De Cymru

 

Gogledd Cymru

 

De Cymru/De Orllewin Lloegr

GMG

 

GMG

 

GMG

 

Bauer

2,524

 

1,837

 

688

 

2,393

495   20%

 

447   24%

 

48     7%

 

471   20%

 

Capital FM

 

 

De Cymru

 

Global

 

997

 

261   26%

Gold

De Cymru

Global

997

46     5%

Gold

 

Heart

 

Gogledd Orllewin Lloegr a Chymru

 

Gogledd Orllewin Lloegr a Chymru

Global

 

Global

997

 

997

23     2%

 

209   21%

The Wave

 

Abertawe

UTV

458

151   33%

Swansea Sound

Abertawe

UTV

458

65     14%  

Swansea Bay Radio

Abertawe

T&C

458

43     9%

Bridge FM

 

Pen-y-bont ar Ogwr

T&C

123

41     33%

Radio Pembrokeshire

Sir Benfro

T&C

96

41     43%

Radio Sir Gâr [6]

Sir Gaerfyrddin

T&C

127

40     31%

Nation Radio

 

De Cymru

T&C

1,421

136    10%

Radio Ceredigion

Ceredigion

T&C

82

10     13%

 

 

Radio Masnachol: Gwrando

 

10.8      Roedd cyfran y gwrando ar orsafoedd radio masnachol yng Nghymru ychydig dros chwarter (26%). Roedd hyn yn is na gwledydd eraill y DU gyda’r Alban yn 41%, Gogledd Iwerddon yn 32% a Lloegr yn 31%.

 

 

Ffigur 10.3 – Cyfran Cynulleidfa ar gyfer y BBC a Gorsafoedd Masnachol

 

Ffynhonnell: RAJAR, Pob oedolyn (15+), y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter Cyntaf 2011

 

 

Refeniw Radio Masnachol a Chyllid Radio BBC

 

10.9      Roedd y refeniw a gynhyrchwyd gan y gorsafoedd masnachol yng Nghymru yn £16.3 miliwn yn 2010. Gan addasu yn ôl maint poblogaeth, Cymru oedd â’r refeniw isaf y pen o blith gwledydd y DU, sef £5.41, er gwaethaf cynnydd o £0.20 (4%) er 2009. I’r gwrthwyneb, roedd gwariant radio’r BBC ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn £33.1 miliwn yn 2010/11. Roedd gwariant y pen yr ail uchaf o blith gwledydd y DU sef £10.95, cynnydd o 2% o’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn oherwydd poblogaeth lai Cymru a gwariant ychwanegol rhedeg dau wasanaeth. Mae’n cymharu â gwariant cyfartalog y DU y pen sy’n £3.87.

 

Ffigur 10.4 – Gwariant a Refeniw Radio Lleol/Gwledydd 2010/11

 

Ffynhonnell: Darlledwyr, 2010



Grwpiau Radio - Cymru

 

Bauer Media

 

10.10    Mae Bauer Media yn berchen ar Kiss West, gorsaf cerddoriaeth ddawns arbenigol sy’n gwasanaethu De Cymru a Gorllewin Lloegr.

 

10.11    Mae Bauer Media yn adran o’r Bauer Publishing Group, sef grŵp cyhoeddi mwyaf Ewrop dan berchnogaeth breifat. Mae’r Bauer Publishing Group yn ymerodraeth cyfryngau byd eang sy’n cynnig dros 300 o gylchgronau mewn 15 o wledydd ynghyd â gorsafoedd radio, teledu ac ar-lein.

 

10.12    Ymunodd Bauer Media â’r Bauer Publishing Group ym mis Ionawr 2008 ar ôl prynu busnesau ar-lein a digidol, teledu, radio a chylchgronau defnyddwyr ac arbenigol Emap plc. Gyda’i gilydd, mae’r Bauer Publishing Group yn cyflogi oddeutu 6,400 o bobl.

 

Global (GCap Media Plc gynt)

 

10.12    Global yw darlledwr radio masnachol mwyaf y DU a chafodd ei greu drwy uno GWR Group a Capital Radio.

 

10.13    Yng Nghymru, mae Global yn berchen ar Capital FM a Gold (Caerdydd/Casnewydd) yn Ne Cymru a Heart North Wales Coast, Heart Wrexham & Chester a Heart Cymru yng Ngogledd Cymru. Mae’r grŵp hefyd yn berchen ar amlblecs DAB Now Digital, sy’n gwasanaethu Caerdydd/Casnewydd. 

 

Guardian Media Group (GMG)

 

10.14    Yng Nghymru, mae’r grŵp hwn yn berchen ar Real Radio. Cafodd yr orsaf ei lansio ym mis Hydref 2000, i wasanaethu De Cymru yn unig ond ym mis Rhagfyr 2008, dyfarnwyd trwydded FM i GMG i lansio Real Radio yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Yn dilyn cais i newid y fformat y cytunwyd arno, mae’r gwasanaeth a oedd ar gael yn Ne Cymru bellach wedi cael ei ymestyn ar draws yr ardal newydd. Dechreuodd yr orsaf ddarlledu ar ei hamleddau Gogledd a Chanolbarth Cymru am 8am ddydd Mawrth 4 Ionawr 2011.

 

10.15    Mae gan GMG hefyd gyfran yn amlblecs DAB MXR sy’n gwasanaethu De Cymru a Gorllewin Lloegr.

 

UTV Radio

 

10.16    Mae UTV Radio yn is-gwmni i UTV Plc sy’n gweithredu trwydded Sianel 3 ar gyfer Gogledd Iwerddon ac ystod o wasanaethau radio ar draws y DU.

 

10.17    Yng Nghymru, mae’n berchen ar Swansea Sound a The Wave. Mae ganddo hefyd gyfran yn amlblecs DAB Abertawe. 

 

10.18    Ar ôl prynu’r Wireless Group yn 2005, mae UTV hefyd yn berchen ar talkSPORT sef gorsaf AM sydd ar gael ledled y DU. 

 

Town & Country Broadcasting

 

10.19    Mae unig grŵp radio cynhenid Cymru wedi dod yn un o’r gweithredwyr radio masnachol mwyaf yng Nghymru. Mae’n rhedeg saith gwasanaeth.

 

10.20    Mae’n berchen ar Radio Ceredigion, Radio Pembrokeshire, Scarlet FM (Llanelli), Radio Sir Gâr, Swansea Bay Radio, Bridge FM (Pen-y-bont ar Ogwr) a Nation Radio (sy’n gwasanaethu De Cymru).

 

10.21    Roedd y grŵp wedi prynu XFM South Wales gan GCap/Global ym mis Mai 2008 ac ailfrandiodd y gwasanaeth wedyn fel Nation Radio.

 

10.22    Ym mis Gorffennaf 2011, roeddem wedi gwrthod cais Radio Ceredigion i newid fformat Radio Ceredigion yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Gofynnodd yr orsaf i ni ddileu’r gofyniad presennol y dylai darllediadau dwyieithog yr orsaf gyfateb i tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg, a gofynnodd hefyd am ostwng y gofyniad am gerddoriaeth Cymraeg (yn ystod y dydd) o 20% i 10% o gerddoriaeth.

 

10.23   Y Cymeriad Gwasanaeth presennol (fel y nodir yn y Fformat sydd wedi’i gyhoeddi gan Radio Ceredigion) yw:

 

o   GORSAF DDWYIEITHOG (TUA HANNER CYMRAEG A HANNER SAESNEG) LEOL SY’N CANOLBWYNTIO AR Y GYMUNED AR GYFER ARFORDIR GORLLEWIN CYMRU. DYLAI O LEIAF 20% O’R GERDDORIAETH A DDARLLEDIR YN YSTOD Y DYDD FOD YN GERDDORIAETH GYMRAEG, A DYLID DARLLEDU O LEIAF AWR O RAGLENNI CYMUNEDOL YN YR IAITH GYMRAEG BOB DIWRNOD YN YSTOD YR WYTHNOS.

 

10.24    Y Cymeriad Gwasanaeth Newydd a gynigiwyd gan Radio Ceredigion Cyf oedd:

 

o   GORSAF DDWYIEITHOG LEOL SY’N CANOLBWYNTIO AR Y GYMUNED AR GYFER ARFORDIR GORLLEWIN CYMRU. DYLAI O LEIAF 10% O’R GERDDORIAETH A DDARLLEDIR YN YSTOD Y DYDD FOD YN GERDDORIAETH GYMRAEG, A DYLID DARLLEDU O LEIAF AWR O RAGLENNI CYMUNEDOL YN YR IAITH GYMRAEG BOB DIWRNOD YN YSTOD YR WYTHNOS.

 

10.25    Roeddem wedi penderfynu y byddai’r cais yn debygol o arwain at newid sylweddol i gymeriad gwasanaeth Radio Ceredigion petai’n cael ei ganiatáu, o ystyried y lleihad yn y deunydd Cymraeg y byddai gofyn i’r orsaf ei ddarlledu. Felly, ymgynghorwyd â’r cyhoedd ynghylch y newidiadau arfaethedig, yn unol â’r gofynion statudol.

10.26    Cawsom 123 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a oedd ar agor am bedair wythnos tan 03 Mehefin 2011. Roedd y mwyafrif helaeth (116) o’r ymatebion yn erbyn cymeradwyo’r Cais i Newid y Fformat.

10.27    Roedd y drwydded radio masnachol lleol ar gyfer Ceredigion, sy’n cael ei dal gan Radio Ceredigion Cyf, i fod i gael ei ‘rhag-hysbysebu’ ym mis Medi 2011. Serch hynny, dywedodd Radio Ceredigion Cyf wrthym nad oedd yn fodlon ymrwymo i fformat cyfredol yr orsaf sy’n ofynnol er mwyn gallu bwrw ymlaen â’r ‘weithdrefn cais arbennig’ (a elwir yn broses ail-drwyddedu ‘trac cyflym’). Felly, cafodd trwydded Ceredigion ei hail hysbysebu’n llawn ar 4ydd Hydref 2011.

 

Radio Hafren

 

10.28    Mae Radio Hafren (Radio Maldwyn – The Magic 756 gynt) yn orsaf radio masnachol leol sy’n gwasanaethu Canolbarth Cymru a siroedd ffin Lloegr, ac mae wedi’i leoli yn y Drenewydd, Powys.

 

Sunshine FM

 

10.29     Murfin Media Ltd. sy’n berchen ar Sunshine FM sy’n gwasanaethu Swydd Henffordd a Sir Fynwy.


 

Adran 11

11           Radio Cymunedol yng Nghymru

11.1      Fel rheol bydd gorsafoedd radio cymunedol yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fach gyda radiws darpariaeth o hyd at 5km a chânt eu rhedeg ar sail ddi-elw. Gallant ddarparu arlwy ar gyfer cymunedau cyfan neu ar gyfer meysydd diddordeb gwahanol - megis grŵp ethnig penodol, grŵp oed neu grŵp diddordeb. Mae gorsafoedd radio cymunedol yn adlewyrchu cymysgedd amrywiol o ddiwylliannau a diddordebau.

 

11.2      Yng Nghymru, mae naw o wasanaethau trwyddedig ar yr awyr ar hyn o bryd. Ym mis Mawrth, Point FM, sy’n gwasanaethu’r Rhyl yng Ngogledd Cymru, oedd yr orsaf radio cymunedol ddiweddaraf i gael ei lansio.

 

11.3      Roedd Cronfa Radio Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi cytuno y dylai’r saith ymgeisydd i gyd gael rhywfaint o gyllid. Ni chafwyd ceisiadau gan Radio Cardiff na Radio Tircoed.

 

 

Ffigur 11.1. – Gorsafoedd Radio Cymunedol yng Nghymru

 

Gorsaf Gymunedol       Lleoliad                          Dyddiad Ar-yr-awyr      Grant a                                                                                                                                     Ddyfarnwyd

 

XS (Afan FM gynt)         Port Talbot                      20/04/2007                      £10,000

 

BRfm                              Brynmawr                       18/10/2007                      £16,500

 

Bro Radio                        Y Barri                             31/03/2009                      £15,899

 

Calon FM                        Wrecsam                        01/03/2008                      £16,500

 

GTFM Pontypridd           Pontypridd                      01/01/2006                      £16,500

 

Point FM                         Y Rhyl                             24/03/2010                      £10,000

 

Radio Cardiff                  Caerdydd                        08/10/2007                     

 

Radio Tircoed                 Tircoed Forest                01/12/2008                     

 

Tudno FM                       Llandudno                       12/07/2008                      £15,222

            

 

11.4      Rydym hefyd yn rhedeg Cronfa Radio Cymunedol. Bydd Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cwrdd i ystyried y rownd ddiwethaf o geisiadau ar 30 Ionawr 2012.

11.5      Ym mis Gorffennaf 2009, Radio Cardiff a Radio Tircoed oedd y gorsafoedd radio Cymunedol diweddaraf yng Nghymru i gael cyllid gan ein Cronfa Radio Cymunedol i dalu ei rheolwyr stiwdio/gorsaf a darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr:-

Radio Cardiff

 

Rheolwr Gorsaf

 

£16,000

Radio Tircoed

 

Rheolwr Stiwdio
Hyfforddiant Gwirfoddolwyr

 

£14,000
£1,000

 

11.6      Ym mis Ebrill 2011, roeddem wedi cyhoeddi trydedd rownd o drwyddedu radio cymunedol. Serch hynny, ni fydd yn bosibl lansio gwasanaethau newydd mewn sawl ardal yng Nghymru, gan gynnwys Casnewydd ac Abertawe, oherwydd prinder amleddau.

 

11.7      Cafwyd chwe chais gan ddarpar orsafoedd radio cymunedol yng Nghymru

 

o   Community Radio Wales FM (Llanelwy a Dinbych, Gogledd Cymru)

o   Glan Clwyd AM (Abergele a Llanelwy, Gogledd Cymru)

o   Harlech FM (Harlech, Gwynedd)

o   MonFM (Ynys Môn)

o   Radio Beca (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a gogledd Sir Benfro)

o   Radio FAM (Prestatyn, Gogledd Cymru)

 

 


 

Adran 12

12           Radio Digidol yng Nghymru

12.1      Mae Radio Digidol eisoes yn cael ei ddarlledu ar deledu digidol: Teledu Daearol Digidol (DTT), Lloeren Ddigidol a Chebl Digidol. Mae’n bosibl hefyd gwrando ar radio digidol ar-lein naill ai drwy gyfrifiadur neu drwy ddyfeisiau symudol megis Radios Rhyngrwyd.

 

12.2      Serch hynny, Darlledu Sain Digidol (DAB) yw’r prif lwyfan symudol ar gyfer radio digidol, sef y llwyfan y mae’r diwydiant radio yn credu a fydd yn disodli radio analog yn y DU.

 

12.3      Yn wahanol i radio AM ac FM confensiynol, sy’n darparu un gwasanaeth radio fesul amledd, caiff DAB ei gyflenwi drwy amlblecs sy’n defnyddio un amledd i ddarparu nifer o wasanaethau radio digidol. 

 

12.4      Ar hyn o bryd caiff radio DAB ei gyflenwi ledled Cymru drwy amlblecs BBC y DU ac amlblecs Digital One, sy’n berchen i Arqiva. Mae darpariaeth gyfun y ddau amlblecs yn gwasanaethu oddeutu 68% o boblogaeth Cymru.

 

12.5      Ar ben hynny caiff de Cymru ei gwasanaethu gan un amlblecs rhanbarthol, sydd hefyd yn gwasanaethu gorllewin Lloegr, a dau amlblecs masnachol lleol sy’n gwasanaethu Caerdydd/Casnewydd ac Abertawe.

 

Perchnogaeth

 

12.6      Ledled Cymru, mae 27% o oedolion yn dweud eu bod yn berchen ar o leiaf un set radio DAB, o’i gymharu â chyfartaledd y DU sef 37%. Mae cyfran y bobl sy'n berchen ar set DAB yng Nghymru yn ddeg pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU, sydd o bosibl yn gysylltiedig ag argaeledd DAB yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU.

 

Ffigur 12.1 – Perchnogaeth setiau radio digidol DAB

 

Ffynhonnell: Ymchwil Ofcom Ch1 2011

 

Argaeledd DAB

 

12.7      Ar hyn o bryd caiff radio DAB ei ddarparu ar ddau amlblecs ar draws y DU, ynghyd â rhwydwaith o amlblecsau rhanbarthol masnachol a dau amlblecs masnachol lleol.

 

12.8      Caiff Cymru ei gwasanaethu, ynghyd â gweddill y DU, gan amlblecs y BBC (DU), ac amlblecs Digital One (sy'n gwasanaethu Prydain Fawr, ond nid Gogledd Iwerddon).  Caiff rhannau o Dde Cymru hefyd eu gwasanaethu gan amlblecs rhanbarthol sy’n gwasanaethu ‘Aber Afon Hafren’ a weithredir gan MXR ac ar hyn o bryd mae dau amlblecs masnachol lleol ar yr awyr, yn gwasanaethu Caerdydd/Casnewydd ac Abertawe.

 

12.9      Am resymau technegol, nid yw’n bosibl amrywio cynnwys y gwasanaeth ar amlblecsau’r DU i gludo gwasanaethau’n benodol i Gymru. Felly, nid yw amlblecs DU y BBC yn cludo Radio Cymru na Radio Wales. Caiff y gwasanaethau hyn eu trin felly fel ‘gwasanaethau lleol’.

 

12.10    Yn y DU, rhaid i amlblecsau masnachol lleol hefyd gludo gwasanaethau radio lleol y BBC. Cafodd y model hwn ei ddatblygu i gynnig radio lleol y BBC ac mae hyn wedi gweithio’n gymharol dda yn Lloegr, er nad yw’r amlblecsau lleol presennol bob tro’n cyfateb yn union ag ardaloedd darpariaeth radio lleol y BBC. Serch hynny, nid yw’r dull hwn yn briodol ar gyfer y gwledydd, lle nad yw’r BBC wedi datblygu model radio lleol, ond yn hytrach mae wedi creu gwasanaethau cenedlaethol.

 

12.11    Yng Nghymru, dan y trefniadau rhaid-cludo, caiff BBC Radio Cymru a Radio Wales eu cludo ar y ddau amlblecs masnachol lleol presennol sy’n gwasanaethu Caerdydd/Casnewydd ac Abertawe gan ddarparu’r gwasanaethau hyn i oddeutu 45% o gartrefi.

 

Amlblecs y BBC (DU)

 

12.12    Mae darpariaeth amlblecs DAB BBC y DU yng Nghymru, sy’n cael ei darlledu o wyth safle, wedi parhau i wella ac mae bellach yn cyrraedd 68% o gartrefi. Mae’r BBC yn bwriadu cyflwyno safleoedd trosglwyddyddion ychwanegol i ddod â’r ddarpariaeth i fyny i 76% o gartrefi Cymru.

 

12.13    Mae amlblecs y BBC yn cludo holl wasanaethau radio DU-gyfan y BBC – Radio 1, 2, 3, 4, 5 Live, 6, BBC Asian Network, 1Xtra, 4Xtra a 5 Live Sports Extra.  Felly mae sawl rhan o ogledd a gorllewin Cymru sy’n derbyn gwasanaethau DU-gyfan y BBC ar DAB, ond ar hyn o bryd ni allant dderbyn Radio Cymru na Radio Wales.

 

12.14    Mae gwrandawyr radio digidol sy’n byw yng nghytrefi mwy Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn derbyn hyd at 32 o orsafoedd DAB. Mae’r rhain yn cynnwys 23 o orsafoedd y BBC a gorsafoedd masnachol ar gyfer y DU i gyd, a BBC Radio Cymru / BBC Radio Wales a gwasanaethau lleol ychwanegol sy'n gwasanaethu De Cymru sy'n cael eu cludo ar y ddau amlblecs masnachol lleol.

 

12.15    Serch hynny, caiff gwasanaethau’r BBC ar gyfer Cymru ddim ond eu cludo ar amlblecsau masnachol lleol ac er mwyn ymestyn eu cyrhaeddiad rydym wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs lleol dros y ddwy flynedd diwethaf i wasanaethu’r rhan fwyaf o weddill Cymru. Ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau DAB lleol ar yr awyr yng Ngogledd na Chanolbarth Cymru. Felly mae darpariaeth BBC Radio Cymru a Radio Wales yn dal wedi’i chyfyngu i dde a dwyrain Cymru ar hyn o bryd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 12.2 – Darparu Gwasanaethau Cenedlaethol y BBC – Cymru

 

 

Ffigur 12.3 – Darpariaeth – Gwasanaethau Cenedlaethol Masnachol

 

 

Amlblecs Digital One

 

12.16    Mae amlblecs Digital One (sy’n berchen i Arqiva), yn gwasanaethu oddeutu 67% o gartrefi ac ar hyn o bryd caiff ei ddarlledu o naw safle yng Nghymru. Mae’r map darpariaeth isod yn dangos darpariaeth DAB yng Nghymru.

 

12.17    Mae Digital One yn cludo ystod o wasanaethau gan gynnwys Classic FM, talkSPORT, Absolute Radio a Planet Rock. Ar hyn o bryd mae rhywfaint o le gwag ar yr amlblecs hwn, sydd hefyd yn cludo nifer o wasanaethau prawf a hyd yn oed sianel yn benodol i gân yr adar.

 

Ffigur 12.4 – Map Darpariaeth Digital One (Cymru)

 

 

Amlblecs Caerdydd/Casnewydd

 

12.18    Mae amlblecs Caerdydd a Chasnewydd, sy’n cael ei weithredu gan Now Digital (sy’n berchen i Global) yn darparu gwasanaethau i oddeutu 49.39% o’r cartrefi yn ei ardal olygyddol ac mae’n darlledu ystod o orsafoedd gan gynnwys saith gwasanaeth DAB masnachol lleol gan gynnwys Capital FM, Gold (Caerdydd a Chasnewydd) ynghyd â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. 

 

12.19    Roedd yr orsaf ar-lein, Voice Radio, a oedd ar gael ar amlblecs DAB De Ddwyrain Cymru tan fis Gorffennaf 2011, wedi rhoi’r gorau i ddarlledu oherwydd diffyg cyllid. Roedd yr orsaf – a gefnogwyd gan sefydliadau gan gynnwys Heddlu Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – wedi cau ar 31ain Gorffennaf 2011.

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 12.5 – Amlblecs Caerdydd/Casnewydd

 

 

 

12.20    Efallai y bydd darpariaeth yr amlblecs hwn yn gwella yn y dyfodol gan fod Llywodraeth y DU wedi datgan y byddwn yn cael y pŵer i ymestyn ardal darpariaeth amlblecsau lleol i ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu heb orfod dyfarnu trwyddedau newydd.  Byddai hyn yn golygu bod modd ymestyn amlblecs Caerdydd i gynnwys cymoedd de Cymru, ardal nad yw wedi’i thrwyddedu ar hyn o bryd, er mwyn iddynt gael eu gwasanaethu gan amlblecs DAB lleol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Amlblecs Abertawe

 

12.21   Caiff amlblecs Abertawe ei weithredu gan UTV–Bauer Digitial ac mae’n cludo gorsafoedd lleol gan gynnwys The Wave a Swansea Sound ynghyd â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Mae’n darparu gwasanaethau i 73.79% o'r cartrefi yn yr ardal olygyddol.

 

Ffigur 12.6 – Amlblecs Abertawe

 

Description: \\Cardiff-02\Homedrives$\alex.williams\My Documents\My Pictures\DAB Abertawe.jpg

 

Aber Afon Hafren

 

12.22    Caiff De Cymru hefyd ei gwasanaethu gan amlblecs DAB masnachol rhanbarthol Aber Afon Hafren (sydd hefyd yn darlledu i Orllewin Lloegr). Mae’r amlblecs hwn, a weithredir gan MXR, yn cludo’r gwasanaethau canlynol: Kiss Radio, Heart, Capital FM, Real Radio, Mountain FM, LBC, Bay Radio a Nation Radio. Nid oes dyletswydd arno i gludo gwasanaethau’r BBC.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 12.7 – Amlblecs Aber Afon Hafren

 

 

Gogledd Cymru

 

12.23    Ym mis Chwefror 2007 roeddem wedi hysbysebu amlblecs DAB masnachol lleol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer, gan gynnwys Wrecsam a Chaer, ac ym mis Medi 2007 roeddem wedi cyhoeddi ei fod wedi cael ei ddyfarnu i MuxCo Northeast Wales and West Cheshire Limited. Mae’r rhanddeiliaid allweddol yn y cynnig hwn yn cynnwys Town and Country Radio ac UTV.

 

12.24    Rydym yn amcangyfrif y gallai’r drwydded hon ddarparu ardal sydd â phoblogaeth oedolion oddeutu 647,000 (y mae 231,000 ohonynt yng Ngogledd Ddwyrain Cymru). Roedd yr amlblecs hwn i fod i ddechrau darlledu ddiwedd haf 2008 ond oherwydd yr ansicrwydd masnachol ynghylch datblygu’r llwyfan DAB, dywedodd y grŵp wrthym ei fod wedi gohirio ei gynlluniau cyflwyno.

 

12.25    Ar 24 Awst 2008, roeddem wedi cyhoeddi dyfarnu trwydded amlblecs DAB i weddill Gogledd Cymru i’r unig ymgeisydd sef MuxCo North Wales. Mae’r amlblecs yn gwasanaethu’r ardal nad yw eisoes yn cael ei gwasanaethu gan amlblecs gogledd ddwyrain Cymru a gorllewin Swydd Gaer, gan gynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a’r rhan fwyaf o Sir Ddinbych (ac amcangyfrifir y byddai’n cyrraedd hyd at 311,146 o oedolion yn yr ardal drwyddedig). Bydd gan yr amlblecs hwn hefyd gapasiti sydd wedi’i gadw ar gyfer BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

 

12.26    Serch hynny, mae amseru cyflwyno’r gwasanaeth yn amodol ar Weriniaeth Iwerddon yn rhyddhau amleddau VHF Band 3, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer teledu analog ar hyn o bryd, ond sy’n cael eu defnyddio yn y DU ar gyfer radio DAB. Efallai y bydd darparu gwasanaeth Gogledd Cymru yn cael ei atal yn sylweddol tan fis Mehefin 2015 dan delerau cytundebau sbectrwm rhyngwladol, er efallai y caiff y cyfyngiad hwn ei godi yn gynharach oherwydd bod disgwyl i Weriniaeth Iwerddon newid i’r digidol yn ystod 2012.

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 12.8 – Darpariaeth DAB – Gogledd Cymru

 

Description: \\Cardiff-02\Homedrives$\alex.williams\My Documents\My Pictures\North Wales DAB Current.jpg

 

 

Ffigur 12.9 – Darpariaeth DAB a Gynllunnir – Gogledd Cymru

 

Description: \\Cardiff-02\Homedrives$\alex.williams\My Documents\My Pictures\DAB North Modified.jpg

 

Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

12.27    Ym mis Tachwedd 2007, roeddem wedi hysbysebu trwydded amlblecs radio DAB lleol i wasanaethu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn wreiddiol y bwriad oedd y byddai’r amlblecs hwn yn gwasanaethu Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin (gan gyrraedd poblogaeth oedolion o hyd at 234,000), ond cafodd ei ymestyn i wasanaethu Ceredigion a Phowys (a fyddai o bosibl yn golygu cyrraedd hyd at 400,000 o wrandawyr) er mwyn gallu darparu Radio Cymru a Radio Wales ar draws cymaint o Gymru â phosibl.

 

12.28    Erbyn y dyddiad cau sef 20 Chwefror 2008, roeddem wedi derbyn un cais, gan MuxCo Wales Ltd. Mae 70% o’r cwmni hwn yn berchen i Town and Country Broadcasting. Mae’r cwmni yn cynnig darparu Radio Pembrokshire, Radio Sir Gâr, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ar yr amlblecs hwn, a gyda darpariaeth ‘awyr agored’ a allai gyrraedd 55.8% o oedolion yr ardal drwyddedig (gan gyrraedd oddeutu 220,000 o wrandawyr).

 

 

 

Ffigur 12.10 – Darpariaeth DAB a Gynllunnir – Gorllewin Cymru

Description: http://www.muxco.com/images/transmission-midandwestwales.jpg

 

Ymestyn Darpariaeth

 

12.29    Mae technoleg DAB yn dal yn ddrutach o lawer nag analog ac mewn termau gweithredu busnes, mae’n ffafrio modelau economaidd sy’n seiliedig ar drosglwyddo i ardaloedd poblog.

 

12.30    Fodd bynnag, mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cynulleidfa Cymru Ymddiriedolaeth y BBC a’n Pwyllgor Cynghori ar gyfer Cymru, ynghylch darpariaeth Radio Cymru a Radio Wales ar DAB, dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi blaenoriaethu hysbysebu amlblecsau masnachol lleol ar gyfer rhannau eraill o Gymru.

 

12.31    Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU wedi datgan y byddwn yn cael y pŵer i ymestyn ardal darpariaeth amlblecsau lleol i ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu heb orfod dyfarnu trwyddedau newydd.

 

12.32    Er enghraifft, byddai hyn yn golygu bod modd ymestyn amlblecs Caerdydd i gynnwys Cymoedd De Cymru, ardal nad yw wedi’i thrwyddedu ar hyn o bryd.

 

Cynllun Gweithredu Radio Digidol

 

12.33    Ym mis Mawrth 2011, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Radio Digidol (DRAP), diben hwn yw ‘darparu gwybodaeth er mwyn i Lywodraeth y DU allu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â newid i radio digidol’. Gofynnwyd i ni gadeirio grŵp cynllunio darpariaeth a sbectrwm DAB i ‘bennu lefel bresennol darpariaeth FM a datblygu ystod o ddewisiadau i gynyddu darpariaeth DAB i gyfateb i FM’.

 

12.34   Ym mis Mehefin 2011, roeddem wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy’n rhoi'r dull gweithredu rydym yn ei gynnig ar gyfer y dasg honno. Yn benodol:

 

o    Diffinio’r ardaloedd lle byddwn yn ceisio dyblygu’r ddarpariaeth olygyddol a geir ar wasanaethau radio FM ar hyn o bryd ar DAB, (rydym yn galw’r rhain yn ‘ardaloedd golygyddol’);

 

o    Y tybiaethau technegol sylfaenol a ddefnyddir i ragweld lefelau derbyniol o ddarpariaeth FM a DAB ar gyfer derbyn radio ar ddyfeisiau symudol dan do a derbyn radio mewn cerbydau;

 

o    Graddfa’r ddarpariaeth FM bresennol ym mhob ardal olygyddol, ar gyfer setiau radio symudol dan do a setiau radio mewn cerbydau ar brif ffyrdd; ac

 

o    Astudiaeth sy’n ymchwilio i ymarferoldeb sefyllfaoedd gwahanol i newid i radio digidol gan ddangos, o safbwynt rhwydwaith darlledu, sut mae modd cyflawni lefelau cynyddol o ddarpariaeth drwy ddefnyddio mwy o drosglwyddyddion.

 

Y dull gweithredu rydym yn ei gynnig i gynyddu darpariaeth DAB

 

12.35    Ar gyfer amlblecs cenedlaethol y DU y BBC, mae’r BBC wedi cynnal ei gwaith cynllunio ei hun, ar sail yr un meini prawf ag ydym yn eu defnyddio ar gyfer darpariaeth leol. Mae’r gwaith cynllunio hyn wedi golygu tri cham hyd yn hyn: darpariaeth bresennol, darpariaeth erbyn diwedd 2011, a 97% o’r boblogaeth fel sy’n ofynnol gan y setliad cyfredol ar gyfer ffi'r drwydded. Efallai y bydd angen rhagor o drosglwyddyddion er mwyn cyfateb yn llawn i’r ddarpariaeth FM a geir ar hyn  bryd, cyfnewidiol dan do ac mewn cerbydau. Mae disgwyl i wasanaethau gwledydd y BBC gael eu cludo ar yr holl amlblecsau lleol ym mhob gwlad, a fydd gyda’i gilydd yn gwasanaethu’r holl wlad berthnasol.

 

12.36    Mae gweithredwr yr amlblecs masnachol cenedlaethol, Digital One, wedi darparu cynllun i gyfateb i ddarpariaeth Classic FM.

 

12.37                  Ar gyfer yr amlblecsau lleol, rydym wedi cynllunio ar gyfer cynyddu darpariaeth DAB ym mhob ardal olygyddol mewn pedwar cam ar gyfer darpariaeth dan do a darpariaeth ar ffyrdd:

o    Darpariaeth bresennol;

o    Addasu trosglwyddyddion presennol i wella darpariaeth (Sefyllfa 1);

o    Ychwanegu trosglwyddyddion mewn trefn ostyngol o ran budd, i bwynt sy’n weddol debyg i ddarpariaeth FM sydd eisoes yn bodoli (Sefyllfa 2); a

o    Parhau i bwynt lle mae trosglwyddyddion ychwanegol yn ychwanegu symiau bach iawn o ddarpariaeth ac yn dod o bosibl yn aneconomaidd i’w hadeiladu (Sefyllfa 3).

 

12.38                  Oherwydd y ffordd mae derbyniad FM yn pylu’n raddol o’i gymharu â DAB, mae’r safon rydym wedi’i osod ar gyfer darpariaeth DAB yn uwch o lawer nag ar gyfer FM cyfredol. Er enghraifft, y maen prawf rydym wedi’i ddefnyddio ar gyfer darpariaeth ffordd i FM yw y dywedir bod unrhyw sgwâr 100m yn cael ei wasanaethu os oes signal ar gael yn 50% o’r lleoliadau yn y sgwâr hwnnw am 95% o’r amser. Ar gyfer DAB rydym wedi defnyddio 99% o’r lleoliadau am 99% o’r amser.

 

12.39    Mae ein cynlluniau’n awgrymu bod modd adeiladu darpariaeth dan do DAB i gyfateb i ddarpariaeth FM dda, hyd yn oed drwy ddefnyddio ein tybiaethau cynllunio DAB gofalus iawn. Ar gyfer ffyrdd, mae ein mesur llym o ddarpariaeth DAB da yn dangos darpariaeth is na FM da, ond ceir arwyddion nad yw llwyddo i dderbyn DAB mewn cerbydau yn galw am ddarpariaeth sydd wedi’i chynllunio ar gyfer canran mor uchel o leoliadau. Mae ein hamcangyfrifon yn awgrymu y byddai llacio'r tybiaethau hyd yn oed ychydig (i 95% o leoliadau am 99% o'r amser) yn cynyddu darpariaeth hyd at ddeg pwynt canran. Mae hyn, ynghyd â newidiadau posibl eraill megis newidiadau pellach i amleddau, yn ein gwneud yn ffyddiog y bydd modd adeiladu darpariaeth DAB ar ffyrdd i gyfateb i ddarpariaeth FM.



[1] http://www.culture.gov.uk/news/news_stories/8431.aspx

[2] Arglwydd McIntosh o Haringey (Is-ysgrifennydd Seneddol, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) 2 Gorffennaf 2003, Hansard

[3] Mae pob gorsaf yn FM ac eithrio Gold a Swansea Sound sy’n orsafoedd AM.

[4] Oedolion (15+) Ffynhonnell: RAJAR Medi 2011.

[5] Mae ardal drwydded Kiss West yn gwasanaethu De Cymru a Gorllewin Lloegr.

[6] Mae trwydded Radio Sir Gâr yn cynnwys Scarlet FM sy’n gwasanaethu Llanelli.