R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
1.
Gwyn Price (Islwyn):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cyllid Ewropeaidd yn y
broses o gyfrannu at dwf a swyddi yn Islwyn?
OAQ(4)0627(FIN)
2. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran pwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru?OAQ(4)0636(FIN)
3.
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A
wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi i
arbed? OAQ(4)0621(FIN)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli treth dir y dreth stamp i Lywodraeth Cymru? OAQ(4)0633(FIN)W
5. Elin Jones (Ceredigion):Sut y mae’r Gweinidog yn annog cwmnïau o Gymru i dendro am gontractau caffael Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0630(FIN)W
6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad a wnaeth y Gweinidog o'r goblygiadau i Gymru o'r toriadau o 30 y cant i adrannau trafnidiaeth, llywodraeth leol ac amgylchedd Llywodraeth y DU? OAQ(4)0624(FIN)
7.
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gyllid ychwanegol y mae'r Gweinidog yn ei ddyrannu i'r
portffolio cymunedau a threchu tlodi i ariannu'r trydydd sector?
OAQ(4)0631(FIN)
8.
Sandy Mewies (Delyn):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau a ariennir gan yr UE
yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0629(FIN)
9.
Keith Davies (Llanelli):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Cronfa Strwythurol
Ewropeaidd a gymeradwywyd yn ddiweddar yng ngorllewin Cymru?
OAQ(4)0625(FIN)W
10.
Nick Ramsay (Mynwy):A
wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu trethi
newydd i Gymru? OAQ(4)0628(FIN)
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddiwygio fformiwla Barnett? OAQ(4)0635(FIN)
12.
Lynne Neagle (Torfaen): A
wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael
yn ddiweddar ynghylch y dyraniad cyllidebol i'r portffolio
gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0634(FIN)
13.
Janet Haworth (Gogledd Cymru):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau i'r portffolio cyfoeth
naturiol yn y dyfodol? OAQ(4)0626(FIN)
14.
Christine Chapman (Cwm Cynon):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y defnyddir cronfeydd
strwythurol Ewropeaidd i wella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghwm
Cynon? OAQ(4)0622(FIN)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i ddelio ag unrhyw bwysau yn sgil tywydd garw y gaeaf? OAQ(4)0620(FIN)
Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Aled Roberts (North Wales): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith toriadau i gyllidebau heddlu? OAQ(4)647(PS)W
2. Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad ar ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan gyrff cyhoeddus?
OAQ(4)0645(PS)W
3. Gwenda
Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am werth trefniadau cydweithredol wrth
ddarparu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus?
OAQ(4)0638(PS)
4. Aled Roberts (North Wales): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi eu cymryd i leihau gwariant ar gyflogau uwch swyddogion o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0644(PS)W
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella diogelwch cymunedol yn Sir Benfro? OAQ(4)0633(PS)
6.
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio pa ffactorau y rhoddir ystyriaeth
iddynt gan awdurdodau lleol pan fyddant yn gwneud toriadau i
wasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0634(PS)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Faint o'r 62 o argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus sydd wedi cael eu rhoi ar waith? OAQ(4)0632(PS)
8. Mark
Isherwood (Gogledd Cymru):Pa
ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar dryloywder ac
atebolrwydd o fewn llywodraeth leol?
OAQ(4)0639(PS)
9. Eluned
Parrott (Canol De Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am breifateiddio gwasanaethau
cyhoeddus o fewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru?OAQ(4)0640(PS)
10. Peter Black
(Gorllewin De Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu
Bil Llywodraeth Leol (Cymru) newydd?
OAQ(4)0635(PS)
11.
Lynne Neagle (Torfaen): Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda llywodraeth leol
yng Nghymru ynghylch ariannu llywodraeth leol yn
2016-17?
OAQ(4)0643(PS)
12. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol ar gyfer
2016-17? OAQ(4)0636(PS)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi'u cael gydag awdurdodau lleol o ran pwysau'r gaeaf? OAQ(4)0631(PS)
14. Elin Jones
(Ceredigion): Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU
ynghylch cyflogau ac amodau swyddogion cymorth yr heddlu?
OAQ(4)0642(PS)
15.Mick Antoniw (Pontypridd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cofrestru pleidleiswyr yng Nghymru? OAQ(4)0637(PS)