Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2015 i'w hateb ar 25 Tachwedd 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa fesurau y mae'r Gweinidog yn eu cyflwyno i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0641(EST)

 

2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith rhanbarth dinas bae Abertawe? OAQ(4)0652(EST)

 

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses a'r amserlenni ar gyfer dyfarnu masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau? OAQ(4)0646(EST)

 

4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi gorllewin Cymru? OAQ(4)0644(EST)

 

5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Llywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd ei pholisi ar ardaloedd menter? OAQ(4)0637(EST)

 

6. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol asiantaethau cefnffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)0650(EST)W

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at weithredu'r cynllun gweithredu ar dwristiaeth cred? OAQ(4)0638(EST)

 

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella economi gorllewin Cymru? OAQ(4)0639(EST)

 

9. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0651(EST)

 

10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y seilwaith ffyrdd yng ngorllewin Nghymru? OAQ(4)0645(EST)

 

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei hystyriaeth o'r sectorau busnes a gwmpesir gan gwmnïau Wales Fast Growth 50 ar gyfer 2015? OAQ(4)0642(EST)

 

12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0648(EST)W

 

13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau twristiaeth? OAQ(4)0649(EST)W

 

14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar weithio gyda chwmnïau angori yng Nghymru? OAQ(4)0653(EST)

 

15. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pa gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at wella gwasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0647(EST)

 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol ynglŷn ag effaith taliadau llys newydd ar fynediad i gyfiawnder? OAQ(4)0088(CG)W

 

2. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch y goblygiadau Bil drafft Cymru ar gyfer deddfwriaeth gydraddoldeb ddatganoledig? OAQ(4)0086(CG)

 

3. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol ynglŷn â chynigion i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998? OAQ(4)0087(CG)

 

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda swyddogion eraill y gyfraith am y Bil drafft Cymru? OAQ(4)0085(CG)W