R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cymunedau a threchu tlodi? OAQ(4)0640(FIN)
2. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth bennu'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0650(FIN)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0641(FIN)
4. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog nodi manylion prosiectau cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a gymeradwywyd yn ddiweddar yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0649(FIN)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa waith monitro y mae adran y Gweinidog yn ei wneud ar y cronfeydd ariannol wrth gefn sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yn ystod blwyddyn ariannol? OAQ(4)0642(FIN)
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddyrannu i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth i wella'r A55? OAQ(4)0653(FIN)W
7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid yr UE yng Nghymru? OAQ(4)0652(FIN)
8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid i'r portffolio cymunedau a threchu tlodi yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0648(FIN)
9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa flaenoriaethau y rhoddodd y Gweinidog ystyriaeth iddynt wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0637(FIN)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllidebol i'r portffolio cyfoeth naturiol flwyddyn nesaf? OAQ(4)0646(FIN)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant cyfalaf a ariennir gan Lywodraeth Cymru? OAQ(4)0638(FIN)
12. Elin Jones (Ceredigion):Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth? OAQ(4)0643(FIN)W
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o gasglu trethi datganoledig Cymru? OAQ(4)0639(FIN)
14. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion prosiectau cronfeydd strwythurol Ewropeaidd a gymeradwywyd yn ddiweddar yn ne-orllewin Cymru? OAQ(4)0645(FIN)
15. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid teg i Gymru gan Lywodraeth y DU? OAQ(4)0644(FIN)
Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0658(PS)
2. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0657(PS)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ymrwymiadau cyhoeddus y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i egluro cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(4)0651(PS)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ad-drefnu cynghorau yng Nghymru? OAQ(4)0648(PS)R
5. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015, sy'n ymwneud â thrais domestig, ar ddarpariaethau Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015? OAQ(4)0652(PS)
6. Alun Ffred Jones AC (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol i ddelio ag effaith y llifogydd diweddar? OAQ(4)0662(PS)W
7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cronfeydd ariannol wrth gefn awdurdodau lleol yn cael eu defnyddio? OAQ(4)0660(PS)
8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru? OAQ(4)0655(PS)
9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith ad-drefnu llywodraeth leol ar gynghorau tref a chymuned? OAQ(4)0659(PS)
10. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i warchod cyllid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(4)0654(PS)
11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft? OAQ(4)0661(PS)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ardal Castell-nedd Port Talbot? OAQ(4)0653(PS)
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am setliad llywodraeth leol Cymru ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0649(PS)R
14. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu'r gwasanaeth heddlu yng Nghymru? OAQ(4)0650(PS)R
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cynghorau cymuned yng Nghymru? OAQ(4)0656(PS)