Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Ionawr 2016 i'w hateb ar 19 Ionawr 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)Pa fesurau arbennig y maeLlywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr sy'n aros am daliadau o dan gynllun y taliad sylfaenol? OAQ(4)2657(FM)W

 

2. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)2661(FM)

 

3. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru? OAQ(4)2665(FM)W

4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 ar brosiectau ymchwil prifysgolion? OAQ(4)2659(FM)

5. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw'n gyfansoddiadol bod Llywodraeth y DU yn gosod y Bil Undebau Llafur ar Gymru heb gydsyniad y Cynulliad hwn? OAQ(4)2656(FM)

 

6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision economaidd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd i Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)2667(FM)

7. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli'r lwfans gweini i Gymru? OAQ(4)2663(FM)

8. David Rees (Aberafan): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros weddill tymor y Cynulliad hwn i ddatblygu economi Gorllewin De Cymru? OAQ(4)2662(FM)

9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru? OAQ(4)2652(FM)

10.  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y dulliau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i asesu ei pherfformiad yn erbyn y camau gweithredu a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu? OAQ(4)2658(FM)

 

11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fancio mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)2664(FM)W

 

12. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd o fewn ardal Taf Elái i drechu tlodi? OAQ(4)2653(FM)

 

13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a nodir yn y cynllun cyflawni interim ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar gyfer 2015-16, a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd? OAQ(4)2651(FM)

 

14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau mewn perthynas â bargen dinas r Caerdydd? OAQ(4)2655(FM)

 

15. Gwenda Thomas (Castell-nedd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o berygl llyncdyllau? OAQ(4)2650(FM)