Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Chwefror 2016 i'w hateb ar 10 Chwefror 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch y dyraniad yn y gyllideb i'r portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus? OAQ(4)0655(FIN)

 

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar Orllewin De Cymru? OAQ(4)0658(FIN)

 

3. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd datganiad polisi caffael Cymru? OAQ(4)0659(FIN)W

 

4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Faint o gynnyrch a wnaed yng Nghymru a gafwyd mewn perthynas â phrosiectau adeiladu a seilwaith a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod y pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0657(FIN)

 

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian Ewropeaidd? OAQ(4)0665(FIN)

 

6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch ariannu prosiectau seilwaith? OAQ(4)0669(FIN)

 

7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad ariannol i'r portffolio Cyfoeth Naturiol yng nghyllideb ddrafft 2016-17? OAQ(4)0668(FIN)

 

8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Addysg a Sgiliau? OAQ(4)0662(FIN)

 

9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):  A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd a gynigir gan y pwerau caffael newydd arfaethedig? OAQ(4)0666(FIN)

 

10.  William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amcanion Cymru Decach, Cymru Well – Buddsoddi at y Dyfodol? OAQ(4)0663(FIN)

 

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni cyfalaf yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0664(FIN)

 

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol ar gyfer cymunedau gwledig yn y gyllideb ddrafft? OAQ(4)0654(FIN)

 

13. Aled Roberts (North Wales):Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch ailddosbarthu cyllid o fewn y portfolio hwnnw? OAQ(4)0656(FIN)W

 

14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Llywodraethwr Banc Lloegr ynglŷn â materion ariannol? OAQ(4)0661(FIN)W

 

15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y gyllideb ar y portfolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0670(FIN)W

 

Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog? OAQ(4)0673(PS)

 

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r gefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig yng Nghymru? OAQ(4)0663(PS)

 

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch diwygio fformiwla ariannu llywodraeth leol? OAQ(4)0675(PS)

 

4. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0678(PS)

 

5. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar drais domestig? OAQ(4)0677(PS)W

 

6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith setliad llywodraeth leol 2016-17 ar orllewin Cymru? OAQ(4)0666(PS)W

 

7. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i Fil Undebau Llafur Llywodraeth y DU? OAQ(4)00668(PS)

 

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y gwasanaethau tân yng Nghymru? OAQ(4)0664(PS)

 

9. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)0669(PS)

 

10.  Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith fformiwla llywodraeth leol Cymru ar y gyfran o'r gyllideb ar gyfer 2016-17? OAQ(4)0665(PS)

 

11. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith addysgol Gwasanaeth Tân De Cymru? OAQ(4)0670(PS)

 

12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0672(PS)

 

13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau cymuned? OAQ(4)0667(PS)

 

14. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ymchwil y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran effaith poblogaeth sy'n heneiddio ar y gwasanaethau llywodraeth leol a ddarperir? OAQ(4)0676(PS)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw nifer y menywod yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro y nodwyd eu bod yn dioddef o anffurfio organau cenhedlu benywod ac a gyfeiriwyd i gael triniaeth i'w hailagor? OAQ(4)0674(PS)