R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)2718(FM)
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfforddi doctoriaid a nyrsys ym Mhrifysgol Abertawe? OAQ(4)2719(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer cymunedau arfordirol yng Nghymru? OAQ(4)2720(FM)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau strategol y cynllun datblygu gwledig? OAQ(4)2729(FM)W
5. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn uwchraddio adeiladau ysgolion? OAQ(4)2725(FM)
6. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad diweddar yr OECD ar yr adolygiad o ansawdd gofal iechyd yn y DU? OAQ(4)2731(FM)
7. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg Brycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)2726(FM)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2727(FM)
9. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oedi wrth drosglwyddo gofal? OAQ(4)2732(FM)W
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd mewn perthynas â gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)2730(FM)
11. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyfraith bresennol ar ddympio gwastraff yn anghyfreithlon? OAQ(4)2722(FM)
12. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at ofal sylfaenol ar gyfer grwpiau sy'n agored i niwed? OAQ(4)2724(FM)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol ar draws Canol De Cymru? OAQ(4)2728(FM)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sydd angen gofal cymdeithasol yng Nghymru?OAQ(4)2723(FM)
15. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â methiannau byrddau iechyd lleol yng Nghymru? OAQ(4)2721(FM)