Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Committee for the Scrutiny of the First Minister

 

 

Carwyn Jones AC

Y Prif Weinidog

Llywodraeth Cymru

 

                                                                  

7 Mawrth 2014

 

 

 

 

 

 

 

                                          

 

 

 

Annwyl Brif Weinidog

 

Cydberthynas Llywodraeth Cymru â'r Trydydd Sector a'r Sector Preifat

 

Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 18 Rhagfyr yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am faterion a godwyd gan Aelodau'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd. 

 

Canolbwyntiodd ein sesiwn graffu ar gydberthynas y Llywodraeth â'r Trydydd Sector a'r Sector Preifat. Mae'r Pwyllgor yn diolch i chi ac i'ch swyddogion am ymddangos ger ei fron ac am ymateb i'n cwestiynau, yn enwedig y rhai a gafodd eu cyflwyno trwy’r cyfryngau cymdeithasol gan aelodau o'r cyhoedd. Gobeithio eich bod yn cytuno bod y math hwn o ymgysylltu yn werth chweil ac y dylai barhau.

 

Y Trydydd Sector

 

Mae'r Pwyllgor yn llwyr gefnogi cyfraniad y sector gwirfoddol o ran helpu i ddatblygu a gweithredu ymrwymiadau'r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.  Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo adnoddau'r Llywodraeth o dan bwysau sylweddol. 

 

Yn eich papur i'r Pwyllgor cyn ein cyfarfod, amlinellwyd newid o ran cyfeiriad strategol, gyda mwy o ffocws ar ganlyniadau, yn enwedig canlyniadau sy'n flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

 

"21. Y prif newid mewn cyfeiriad strategol yw ei gwneud yn glir er bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r Trydydd Sector oherwydd y cyfraniad y gall ei wneud i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol tymor hir Cymru, ei phobl a'i chymunedau, mae angen i'r ffocws symud at y canlyniadau y gallai'r sector helpu i'w cyflawni. Dylai Trydydd Sector cryf gyfrannu at les tymor hir o'i ran ei hun, ond dylai hefyd fod yn gallu dangos sut mae'n cyfrannu at y canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu nodi fel blaenoriaethau."

 

Hysbyswyd y Pwyllgor am nifer o fentrau'r Llywodraeth a oedd â'r nod o gyflawni’r newid hwnnw i’r ffocws strategol ac a allai gael effaith sylweddol ar y sector gwirfoddol yn arbennig.  Maent yn cynnwys:

 

 

Nid yw'r Pwyllgor yn gwrthwynebu mewn egwyddor dim un o'r newidiadau hyn yn unigol.  Fodd bynnag, roedd Aelodau'r Pwyllgor yn pryderu am effaith bosibl y newidiadau hyn gyda'i gilydd ar y sector gwirfoddol yn arbennig.

 

Er bod llawer o sefydliadau gwirfoddol yn cyflogi staff proffesiynol, mae'r sector gwirfoddol yn dibynnu'n bennaf ar nifer fawr o bobl frwdfrydig sy'n gweithio fel gwirfoddolwyr di-dâl.  Mae'r ffactorau sy'n ysgogi gwirfoddolwyr yn niferus, ond rydym yn amau nad yr awydd i helpu i weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sy'n eu hysgogi yn bennaf. 

 

Mae’n bwysig bod y sector gwirfoddol yn cael ei annog i weithio mewn diwylliant meithringar a chefnogol sy’n cydnabod partneriaeth wirioneddol a chydamcanion, yn hytrach na bod y sector yn cael ei weld yn ddim ond un arall o asiantaethau cyflenwi’r Llywodraeth.  Mae annibyniaeth y sector gwirfoddol yr un mor bwysig ac mae angen bod yn ofalus i sicrhau na chaiff ei pheryglu gan yr awydd i ddefnyddio'r sector i helpu i weithredu blaenoriaethau'r Llywodraeth.

 

Mae'r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gweithio ar lefel leol iawn. Yn wir, mae materion lleol yn aml ymysg y ffactorau pennaf sy’n ysgogi gwirfoddolwyr. Wrth symud tuag at gyllido a mecanweithiau ymgysylltu 'rhanbarthol', mae risg y caiff gwirfoddolwyr lleol eu gwahanu oddi wrth y strwythurau sydd i fod i helpu i adlewyrchu eu barn a’u blaenoriaethau.  Mae perygl y collir y cysylltiad rhwng blaenoriaethau gwirfoddolwyr ar lawr gwlad a'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt mewn strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol. 

 

O'r herwydd, nid ydym yn argyhoeddedig bod gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer y bartneriaeth strategol â'r sector gwirfoddol mor glir ag y dylai fod.

 

Argymhelliad 1:

 

Rydym am i chi esbonio ymhellach weledigaeth y Llywodraeth ar gyfer partneriaeth strategol â'r Trydydd Sector ac, yn benodol, sut y byddwch yn dal y ddysgl yn wastad rhwng yr elfennau croes o gydnabod gwerth gwaith gwirfoddol a sicrhau, ar un pryd, fod y sector yn parhau’n annibynnol ar Lywodraeth yn lle troi’n gangen arall ohoni. 

 

Y Sector Preifat:

 

Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed eich cefnogaeth i barhad Cyngor Adnewyddu'r Economi a'i aelodaeth bresennol.  Er i'r Cyngor gael ei ystyried yn ddefnyddiol, mae'n amlwg i ni fod y sector preifat yng Nghymru yn gwerthfawrogi mynediad uniongyrchol rheolaidd at Weinidogion Cymru yn fawr.  Rydym yn gobeithio y bydd hynny'n parhau.

 

Rydym hefyd wedi trafod â chi rôl y gwahanol Fyrddau Ymgynghorol a'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gan wahanol Weinidogion.  Gwnaethoch amlinellu rôl a graddfa'r rhain yn y cyfarfod, yn enwedig y gwahaniaeth rhwng y grwpiau hynny sy'n cynghori Gweinidogion a'r rhai sydd â thasgau penodol i'w cyflawni.  Mae'r Pwyllgor yn derbyn mai cyfrifoldeb y Gweinidogion yw gweithredu polisi ac ar eu gwaith hwy y dylid craffu.  

 

Cytunasoch yn y cyfarfod i roi nodyn i ni ar amserlen adrodd rhai o'r grwpiau gorchwyl a gorffen, ac mae eich llythyr dyddiedig 18 Rhagfyr yn dweud yr un peth. O ystyried nifer y Grwpiau a amlinellwyd gennych (ac eraill y cyfeiriodd yr Aelodau atynt) mae'r Pwyllgor yn credu y byddai'n fan cychwyn defnyddiol pe gallech roi i ni ddatganiad yn nodi pryd y disgwylir i bob grŵp adrodd i'r Gweinidogion. 

 

Mae nifer y grwpiau hyn, fodd bynnag, yn codi cwestiynau am sut y mae Llywodraeth Cymru at ei gilydd yn cynnal troslolwg strategol o ran eu gwaith. Mae hefyd yn anodd i'r Cynulliad wybod beth a fyddai’r ffordd orau o graffu ar y polisïau y mae’r grwpiau hyn yn rhoi cyngor yn eu cylch gan nad oes trosolwg ar gael o'u gwaith.  Am y rheswm hwn, mae'r Pwyllgor o'r farn y byddai'n ddefnyddiol pe bai datganiad blynyddol yn cael ei roi i'r Cynulliad yn nodi'r ffeithiau allweddol am sawl grŵp sydd wedi cael ei sefydlu, gyda braslun o bwrpas y grwpiau a phryd y disgwylir iddynt adrodd.

 

Argymhelliad 2:

 

Byddai'n dda gennym pe baech yn cytuno i osod gerbron y Cynulliad ddatganiad blynyddol am nifer, rôl, trefniadau adrodd ac aelodaeth holl Fyrddau Cynghori a Grwpiau Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru sydd o dan arweiniad y sector preifat.  Byddai hefyd yn dda gennym pe bai'r adroddiad yn amlinellu sut y mae pob un o'r byrddau neu grwpiau wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar weithgareddau adrannau Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn flaenorol ac yn nodi unrhyw newidiadau arfaethedig o ran dull ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Gwnaethom drafod â chi rôl Asesiadau Effaith Rheoleiddiol (yr 'Asesiadau') i sicrhau bod effaith y newidiadau polisi a deddfwriaeth ar y sector preifat yn cael ei hasesu'n briodol.  Trafodasom hefyd a yw'r Asesiadau yn rhoi digon o sylw i effaith gronnus newidiadau polisi a deddfwriaeth.  Rydym yn derbyn bod yr Asesiadau yn cael eu cynnal yn unol â'r rheolau a bennwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi ac y byddai'n rhaid wrth resymau da pe bai gan Gymru yn unig ddull gwahanol o ran yr Asesiadau.  Fodd bynnag, rydym yn dal yn bryderus nad yw'n ymddangos bod mecanwaith clir ar gyfer asesu effeithiau cronnol polisi a deddfwriaeth ar y sector preifat.

 

Argymhelliad 3:

 

Byddai'n dda gennym pe baech yn rhoi datganiad inni yn nodi sut, o dan broses gyfredol yr Asesiadau, y mae Llywodraeth Cymru yn asesu effaith gronnus y newidiadau polisi a deddfwriaeth Gymreig newydd ar y sector preifat.

 

Yn olaf, rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth yn eich llythyr dyddiedig 18 Rhagfyr am werthuso Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru y dywedwch y caiff ei werthuso'n annibynnol yn nhrydedd flwyddyn ei chontract.  Byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi pryd y bydd hynny'n debygol o ddigwydd a nodi'r prif feini prawf ar gyfer gwerthuso.  Byddai hefyd yn dda gennym gael copi o'r gwerthusiad ar ôl iddo gael ei gwblhau.

 

Edrychwn ymlaen at eich atebion i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn. Bydd ein llythyr a'ch ateb yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

Prosiectau Seilwaith Mawr yng Ngogledd Cymru

 

Rydym hefyd wedi trafod eich llythyr dyddiedig 8 Hydref yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor yn sgîl ein cyfarfod yn Wrecsam yn gynharach eleni lle y trafodasom brosiectau seilwaith mawr yng Ngogledd Cymru.

 

Mae'r Pwyllgor wedi trafod eich ymateb a byddem yn ddiolchgar am sylwadau pellach gennych mewn perthynas â'r pwyntiau canlynol:

 

Argymhelliad 1

 

Yn fy llythyr dyddiedig 20 Awst, gofynnwyd am esboniad o sut y mae'r gwahanol gynlluniau a rhaglenni yn cyd-fynd â'i gilydd, yn enwedig rôl Cynllun Gofodol Cymru, a gafodd ei ddiweddaru ddiwethaf bum mlynedd yn ôl, cyn y Rhaglen Lywodraethu a chyflwyno mentrau fel Cynlluniau'r Sectorau/Ardaloedd Menter. Soniais hefyd am y 'Llif Cyflawni' y cyfeiriasoch ato yn eich tystiolaeth.

 

Un enghraifft o hyn yw'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.  Cafodd ei ail-flaenoriaethu yn 2011 ac mae'n seiliedig ar Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a baratowyd gan y llywodraeth glymblaid flaenorol, a wnaeth gysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de yn fwy o flaenoriaeth nag y mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

 

Nid oes esboniad o'r 'Llif Cyflawni' ac nid yw wedi'i gynnwys yn y diagram yn Atodiad 1 i'ch llythyr. 

 

Argymhelliad 2

 

Ymddengys fod eich ymateb yn camddeall y pwynt a wnaed yn llythyr y Pwyllgor. Roedd y drafodaeth yn y cyfarfod y cyfeirir ati yn y llythyr am y sector preifat yn cynnwys cymunedau lleol mewn penderfyniadau a sicrhau buddion ariannol a buddion eraill i'r cymunedau hyn, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt gan brosiectau seilwaith ynni. Roedd y Pwyllgor yn gofyn am yr hyn a alwyd gennych yn 'feddwl yn ehangach' ar y mater hwn a rôl Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae'r ymateb yn canolbwyntio yn bennaf ar drefniadau caffael Llywodraeth Cymru yn hytrach nag ar y safbwynt ehangach hwn - nid oes cyfeiriad o gwbl at y sector ynni na'r Datganiad am Fudd i'r Gymuned a fabwysiadwyd yn ddiweddar.

 

Argymhelliad 6

 

Nid yw eich ymateb yn glir ynghylch yr amserlen ar gyfer rhoi unrhyw welliannau ar waith.

 

Argymhelliad 7

 

Gofynnodd y Pwyllgor am nodyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwelliannau ffordd a rheilffordd eraill yn y gogledd - yn benodol, roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb yn y cysylltiadau rhwng Aberystwyth a'r cylch a gogledd Cymru. Er bod y datganiadau yr ydych yn sôn amdanynt yn cyfeirio at y gogledd, gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau penodol yng ngogledd Cymru, a byddai o gymorth pe gallech roi ymateb mwy manwl ac eglur.

 

Byddwn yn ddiolchgar o gael eich ymateb ar y pwyntiau uchod maes o law.

 

Yn gywir

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog