Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2017
i'w hateb ar 1 Chwefror 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1.       Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli fforestydd yng Nghymru? OAQ(5)0088(ERA) TYNNWYD YN ÔL

 

2. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith gadael yr UE ar y diwydiant pysgota yng Nghymru? OAQ(5)0097(ERA)

 

3. Huw Irranca–Davies (Ogwr):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cartrefi Clyd? OAQ(5)0102(ERA)

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid ledled Cymru? OAQ(5)0087(ERA)

 

5. David Melding (Canol De Cymru): Pa bolisïau sydd ar waith i gynyddu bioamrywiaeth mewn amgylcheddau morol? OAQ(5)0090(ERA)

 

6. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Pryd y bydd mynediad at ddyfroedd mewndirol Cymru yn ôl ar agenda Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0094(ERA)

 

7. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hawliau pori ar dir comin? OAQ(5)0099(ERA)

 

8. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygiad fferm wynt Mynydd y Gwair? OAQ(5)0096(ERA)

 

9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol? OAQ(5)0095(ERA)

 

10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd mannau gwyrdd a pharciau yng Nghymru? OAQ(5)0086(ERA)

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal â Chyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan ers 1 Ionawr 2017? OAQ(5)0089(ERA)W

 

12. Rhianon Passmore (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon? OAQ(5)0100(ERA)

 

13. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu cefn gwlad Cymru rhag effeithiau gor-ddatblygu? OAQ(5)0098(ERA)

 

14. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fandaliaeth amgylcheddol? OAQ(5)0085(ERA)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoli coetiroedd yng Nghymru? OAQ(5)0093(ERA)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu cynlluniau o dan y rhaglen 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0104(CC)W

 

2. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Faint ymlaen llaw y byddai'n rhesymol disgwyl i ddarparwr gofal plant a gefnogir gan Lywodraeth Cymru hysbysu rhieni sy'n gweithio o ddyddiad dechrau eu plant? OAQ(5)0107(CC)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â pharthau plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0100(CC)W

 

4. Vikki Howells (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleoedd ar gyfer chwarae hygyrch ledled Cymru? OAQ(5)0096(CC)

 

5. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â thrais domestig yn ystod pencampwriaeth rygbi y Chwe Gwlad a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill? OAQ(5)0102(CC)

 

6. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo sefydliadau gwirfoddol sy'n helpu i gefnogi'r gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0099(CC)

 

7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cryfhau cymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0098(CC)

 

8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rymuso cymunedau lleol? OAQ(5)0095(CC)

 

9. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i brif-ffrydio cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus? OAQ(5)0106(CC)

 

10. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid yng Nghaerdydd? OAQ(5)0101(CC) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

 

11. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith undebau credyd yn y canolbarth? OAQ(5)0105(CC)

 

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymchwiliad i afreoleidd-dra ariannu yn NSA Afan? OAQ(5)0097(CC)

 

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau gofal plant yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0094(CC)

14. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth awdurdodau lleol i'r trydydd sector? OAQ(5)0103(CC)