R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol? OAQ(5)0054(FM)R
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(5)0043(FM)
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth oedd y prif fanteision i Gymru yn ystod y Pedwerydd Cynulliad o fod yn aelod o'r UE? OAQ(5)0055(FM)
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu busnes yng Nghymru? OAQ(5)0051(FM)
5. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0040(FM)W
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG? OAQ(5)0045(FM)
7. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau i gynghorau lleol i weithredu'n gyfrannol wrth arfer eu pwerau rheoleiddio? OAQ(5)0056(FM)
8. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chynllun y Llywodraeth i gynyddu’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru? OAQ(5)0046(FM)W
9. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu cymorth gofal plant ar gyfer rhieni yng Nghymru sy'n gweithio? OAQ(5)0050(FM)
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OAQ(5)0048(FM)
11. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gofal sylfaenol yng Nghymru? OAQ(5)0049(FM)W
12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth yw rhagolygon anghenion tai Cymru dros y pum mlynedd nesaf? OAQ(5)0038(FM)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwydiant yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0053(FM)
14. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog egluro gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro De Cymru, gyda chyfeiriad penodol at etholaeth Ogwr? OAQ(5)0042(FM)
15. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Islwyn? OAQ(4)0057(FM)