R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda'r argyfwng Meddygon Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0137(FM)
2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwydiant dur Cymru ar hyn o bryd? OAQ(5)0126(FM)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Metro De Cymru? OAQ(5)0128(FM)
4. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A yw'r Prif Weinidog yn arddel ei safbwynt o 2012 ei bod yn briodol i gyngor Caerdydd gael cynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai newydd o fewn ffiniau'r ddinas, gyda nifer fawr o'r rhain ar gaeau gwyrdd? OAQ(5)0138(FM)
5. Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran recriwtio rhagor o Feddygon Teulu? OAQ(5)0120(FM)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth trafnidiaeth yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(FM)
7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0130(FM)W
8. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae GIG Cymru yn cynnal yr egwyddor o fod am ddim wrth dderbyn gofal? OAQ(5)0134(FM)
9. David Melding (Canol De Cymru): Sut y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar strategaeth sgiliau Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0132(FM)
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau technoleg yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0121(FM)
11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa amcangyfrif y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefelau ffyniant yng Nghymru? OAQ(5)0135(FM)
12. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg? OAQ(5)0129(FM)
13. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran darparu gwerth ychwanegol yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru? OAQ(5)0136(FM)
14. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag amodau gwaith gweithwyr mudol yn y cyfleusterau glanhau ceir? OAQ(5)0127(FM)
15. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r trafodaethau a gafodd yn America mewn perthynas â hyrwyddo a chefnogi cynhyrchu dur yng Nghymru? OAQ(5)0125(FM)