R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0139(FM)
2. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng ffoaduriaid presennol? OAQ(5)0146(FM)
3. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arweiniad Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch caffael gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0140(FM)
4. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgell yng Nghymru? OAQ(5)0141FM
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bws o Aberystwyth i Gaerdydd? OAQ(5)0149(FM)W
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau TB buchol yng Nghymru? OAQ(5)0151(FM)
7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli trethi? OAQ(5)0150(FM)
8. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y mesurau a ddefnyddir i leihau achosion o ordewdra mewn plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0152(FM)
9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa brosesau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn mewn perthynas â diwydrwydd dyladwy ar gyfer grantiau neu fenthyciadau meddal gan y llywodraeth? OAQ(5)0143(FM)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio llwybrau beicio a rennir yng Nghymru? OAQ(5)0142(FM)
11. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau technoleg yng Nghymru? OAQ(5)0147(FM)
12. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OAQ(5)0144(FM)
13. Hannah Blythyn (Delyn):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gydnabod llwyddiannau athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru? OAQ(5)153(FM)
14. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau llygredd aer yng Nghymru? OAQ(5)0148(FM)
15. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drydaneiddio rheilffyrdd yn ne Cymru? OAQ(5)0145(FM)