R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg? OAQ(5)0161(FM)
2. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer codi nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymru? OAQ(5)0156(FM)
3. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol o ran cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â hybu iechyd a llesiant gydol oes? OAQ(5)0160(FM)
4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog nodi cam nesaf cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0158(FM)
5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dilyn y penderfyniad i godi ei statws i 'ymyrraeth wedi'i thargedu'? OAQ(5)0169(FM)
6. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu'r GIG i baratoi at y gaeaf sydd o'n blaenau? OAQ(5)0162(FM)
7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal yn y gymuned? OAQ(5)0166(FM) TYNNWYD YN OL
8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brinder meddygon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0164(FM)W
9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0155(FM)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw'r goblygiadau i economi Cymru o ganlyniad i ddatganiad Japan ar y posibilrwydd o golli masnach di-dariff â'r DU yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0163(FM)
11. Jeremy Miles (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyflog byw yng Nghymru? OAQ(5)0168(FM)
12. David Melding (Canol De Cymru): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r tai newydd sydd angen eu hadeiladu i ddiwallu'r galw ym marchnad dai Cymru? OAQ(5)0159(FM)
13. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailstrwythuro gwasanaethau iechyd lleol yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0157(FM)W
14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0167(FM)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro? OAQ(5)0154(FM)