R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Leanne Wood (Rhondda):Pa waith sydd ar y gweill gan y Gweinidog i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0049(EI)
2. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0052(EI)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd a seilwaith yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0045(EI)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau ffyniant economaidd yng Nghymru? OAQ(5)0043(EI)
5. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei sectorau blaenoriaeth ar gyfer datblygu economaidd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0050(EI)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru? OAQ(5)0039(EI)
7. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael â chynrychiolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru? OAQ(5)0046(EI)
8. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru):Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r trefniadau tollau ar Bont Hafren ddychwelyd i'r sector cyhoeddus? OAQ(5)0040(EI)
9. Hefin David (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i gefnogi'r sector treftadaeth yng Nghymru? OAQ(5)0048(EI)
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0038(EI)
11.
Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno wi - fi cyhoeddus yng
nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0051(EI)
12. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru? OAQ(5)0044(EI)W
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu banc datblygu i Gymru OAQ(5)0047(EI)
14. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch Pride Cymru 2017? OAQ(5)0041(EI)
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i droi’r A477 dros Bont Cleddau yn gefnffordd? OAQ(5)0042(EI)W
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau dulliau atal salwch yng Nghymru? OAQ(5)0040(HWS)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau iechyd ledled Sir Benfro? OAQ(5)0038(HWS)
3. Leanne Wood (Rhondda):Pa waith y mae'r Gweinidog yn ei wneud i ddenu meddygon i Gymru? OAQ(5)0050(HWS)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu telefeddygaeth? OAQ(5)0041(HWS)W
5. Lynne Neagle (Torfaen):Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon uchel yn Nhorfaen? OAQ(5)0049(HWS)
6. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl y mae tiwmorau niwroendocrin yn effeithio arnynt? OAQ(5)0043(HWS)
7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi ffitrwydd corfforol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0047(HWS)
8. Huw Irranca–Davies (Ogwr):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anghenion gofal sylfaenol poblogaethau Llanharan a Phencoed? OAQ(5)0051(HWS)
9. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0042(HWS)
10. Lee Waters (Llanelli):Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? OAQ(5)0053(HWS)
11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru o ddefnyddio unedau mân anafiadau i gwrdd a’r galw am ofal sydd heb ei drefnu? OAQ(5)0052(HWS)W
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau dilynol? OAQ(5)0039(HWS)
13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn mynd i'r afael â chaethiwed i gyffuriau ac alcohol yng Nghymru? OAQ(5)0037(HWS)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i wella gofal newyddenedigol yng Nghymru? OAQ(5)0046(HWS)
15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau mewn ysbytai cymunedol? OAQ(5)0045(HWS)W