Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Medi 2016
 i'w hateb ar 4 Hydref 2016

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0171(FM)

 

2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn ei gweld ar gyfer cynghorau o ran adeiladu tai cymdeithasol? OAQ(5)0187(FM)

 

3. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru):A yw'r Prif Weinidog yn disgwyl i'r holl daliadau PAC presennol a wneir yng Nghymru gael eu hychwanegu'n barhaol ac yn ddiamod at grant bloc Trysorlys EM i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0175(FM)

 

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0180(FM)

 

5. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfle i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol? OAQ(5)0183(FM)

 

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau mynychter cam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(5)0186(FM)

 

7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fframwaith cymhwysedd digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0176(FM)

 

8. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn ei gweld ar gyfer nyrsys epilepsi arbenigol o ran darparu gofal a chymorth i'r rhai sy'n byw gydag epilepsi? OAQ(5)0181(FM)

 

9. Rhianon Passmore (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru? OAQ(5)0185(FM)

 

 

10. David Melding (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfranogiad pleidleiswyr, yn arbennig pobl ifanc? OAQ(5)0184(FM)

 

11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru? OAQ(5)0172(FM)

 

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am newid statws cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol? OAQ(5)0179(FM)W/R

 

13. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol ar effaith economaidd modelau amrywiol gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ(5)0182(FM)

 

14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Nyth? OAQ(5)0178(FM)

 

15. Leanne Wood (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd adfywio'r cymoedd? OAQ(5)0177(FM)