Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Tachwedd 2016 i'w hateb ar 9 Tachwedd 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

1. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol masnachfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau? OAQ(5)0069(EI)

 

2. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi werdd yng Nghymru? OAQ(5)0070(EI)

 

3. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am y bwriad i ailagor y llinell reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin? OAQ(5)0064(EI)

 

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth? OAQ(5)0057(EI)

 

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am broses Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgeisio am grantiau busnes? OAQ(5)0067(EI)

 

6. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaeth trên rheolaidd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd? OAQ(5)0071(EI)

 

7. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliant tebygol mewn amseroedd teithio rhwng Casnewydd a chyrchfannau eraill rhwng de Cymru a Llundain ar ôl trydaneiddio? OAQ(5)0061(EI)

 

8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru? OAQ(5)0072(EI)W

 

9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am welliannau ffordd i gyffordd A470/A493 Tywyn yn Nolgellau? OAQ(5)0066(EI)

 

10.  Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ynghylch prosiect Yr Egin yn Sir Gaerfyrddin? OAQ(5)0074(EI)

 

11. Rhianon Passmore (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella'r gwasanaethau rheilffordd i deithwyr? OAQ(5)0073(EI)

 

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cymhwyso'r ardoll prentisiaethau yng Nghymru? OAQ(5)0063(EI)

 

13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ffyniant yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0060(EI)

 

14. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym Mharc Busnes Bryn Cegin ger Bangor? OAQ(5)0062(EI)W

 

15. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau? OAQ(5)0056(EI)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros awdioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(5)0055(HWS)

 

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau pediatrig yn Sir Benfro? OAQ(5)0056(HWS)

 

3. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Ystrad Fawr?  OAQ(5)0069(HWS)

 

4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyfran yr adnoddau a ddarperir i ofal sylfaenol a gofal eilaidd? OAQ(5)0061(HWS)

 

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru? OAQ(5)0067(HWS)

 

6. Vikki Howells (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru i ostwng y cyfraddau gordewdra ymhlith plant? OAQ(5)0063(HWS)

 

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gefnogi pobl â chlefyd seliag i'w helpu i gynnal ffyrdd iach o fyw? OAQ(5)0075(HWS)

 

8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau sydd ar gael yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0059(HWS)

 

9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y datblygiadau arfaethedig ar safle Ysbyty Treforys? OAQ(5)0062(HWS)

 

10.  Leanne Wood (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr adolygiad o'r ceisiadau cyllido cleifion unigol? OAQ(5)0071(HWS)

 

11. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru? OAQ(5)0066(HWS)

 

12. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad cleifion i'r ganolfan gofal arbenigol a chritigol arfaethedig? OAQ(5)0070(HWS)

 

13. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella iechyd a llesiant i bawb yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0064(HWS)

 

14. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd plant yng Nghymru? OAQ(5)0072(HWS)

 

15. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan? OAQ(5)0057(HWS)