Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(CLA(4)-04-11)
CLA92
Adroddiad drafft gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i gywiro gwall golygu yn Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”).
Mae rheoliad 9(7) o Reoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau dynodedig gyhoeddi eu strategaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 9(7) o Reoliadau 2011 er mwyn osgoi unrhyw oblygiad posibl bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r strategaethau yn cael eu trin yn wahanol.
Materion Technegol: Craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol
Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: Craffu
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol
Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Mae pwynt ynglŷn â rhinweddau yn cael ei nodi o dan Reol Sefydlog 21.3 i dynnu sylw’r Cynulliad at y ffaith bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn unol ag ymateb y Dirprwy Weinidog yn y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2011 i Adroddiad y Pwyllgor dyddiedig 2 Rhagfyr 2011 ynghylch Rheoliadau 2011.
[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Chwefror 2012