Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Ionawr 2017
i'w hateb ar 18 Ionawr 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau cyfreithiol posibl i Lywodraeth Cymru pe cynhelir adolygiad barnwrol o Adran 127 o gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd? OAQ(5)0018(CG)

 

2. Hefin David (Caerffili): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch gorfodi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0016(CG)

3. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am baratoadau cyfreithiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Cymru? OAQ(5)0019(CG)

 

4. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ynghylch effaith cau llysoedd yng Nghymru yn ddiweddar? OAQ(5)0017(CG)

 

5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar achos y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0021(CG)W

 

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion y gyfraith ar Fil Cymru? OAQ(5)0020(FM)W