Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Ionawr 2017
i'w hateb ar 24 Ionawr 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0387(FM)

 

2. David Rees (Aberafan): Yn dilyn yr araith gan Brif Weinidog y DU ddydd Mawrth diwethaf, a wnaiff Prif Weinidog Cymru roi manylion blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i ddiogelu economi Cymru? OAQ(5)0402(FM) TYNNWYD YN OL

 

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Phrif Weinidog y DU ynghylch polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol? OAQ(5)0400(FM)

 

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn GIG Cymru? OAQ(5)0386(FM)

 

5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ynglŷn â gorsaf bŵer Aberddawan yn sgil dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop fis Medi diwethaf? OAQ(5)0403(FM)W

 

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau'r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn? OAQ(5)0399(FM)W

 

7. Rhianon Passmore (Islwyn): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU i wella gwasanaethau rheilffordd presennol de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0397(FM)

 

8. Neil McEvoy (Canol De Cymru):Pa ganran o gyllideb Llywodraeth Cymru a gaiff ei dyrannu i atal twyll? OAQ(5)0385(FM)

 

9. Lynne Neagle (Torfaen):Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod ystyried hawliau plant yn ganolog i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â gadael yr UE? OAQ(5)0398(FM)

 

10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0389(FM)

 

11. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0392(FM)

 

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith dilynol a wnaed yn sgil adroddiad Ockenden i ofal ar ward Tawel Fan? OAQ(5)0390(FM)

 

13. Nathan Gill (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella addysg yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0391(FM)

 

14. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o botensial yr economi las? OAQ(5)396(FM)

 

15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws mesurau arbennig presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0394(FM)