R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0407(FM)
2. David Melding (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl pwrpasol i gyn-filwyr y lluoedd arfog? OAQ(5)0408(FM)
3. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud mwy o ymarfer corff? OAQ(5)0420(FM)
4. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):Beth yw goblygiadau cynllun diwydiannol Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(5)0406(FM)
5. Hannah Blythyn (Delyn):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gau banciau yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0413(FM)
6. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i ficrofusnesau yng Nghymru? OAQ(5)0417(FM)
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adolygiad Hendry? OAQ(5)0412(FM)
8. Huw Irranca–Davies (Ogwr):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch Morlyn Llanw Bae Abertawe ers cyhoeddi adroddiad Hendry? OAQ(5)0409(FM)
9. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydnabyddiaeth a roddwyd i'r rhai a wnaeth eu gwasanaeth cenedlaethol fel Bechgyn Bevin yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi hynny? OAQ(5)0418(FM)
10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i reoli costau rhentu yng Nghymru? OAQ(5)0414(FM)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella ffyniant economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0404(FM)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i orfodi isafswm pris ar alcohol? OAQ(5)0416(FM)
13. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gofal iechyd y tu allan i oriau sydd ar gael yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0411(FM)
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddarpariaeth bancio lleol? OAQ(5)0410(FM)
15. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cydweithio rhanbarthol rhwng cynghorau sir er mwyn cryfhau'r Gymraeg? OAQ(5)0405(FM)W