R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Neil McEvoy (Canol De Cymru):Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r canfyddiadau yng Nghyllideb Werdd flynyddol ddiweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid? OAQ(5)0090(FLG)
2. Hefin David (Caerffili):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd o fudd i'r cymoedd i'r gogledd? OAQ(5)0097(FLG)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0089(FLG)
4. Jeremy Miles (Castell-nedd):Pa wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am gyfanswm y gwariant cyhoeddus a gafodd ei wario mewn unrhyw ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru? OAQ(5)0100(FLG)
5. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0099(FLG)
6. Lee Waters (Llanelli):Pa gynlluniau sydd i ddefnyddio data mawr i newid y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(5)0088(FLG)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y pŵer cymhwysedd cyffredinol arfaethedig ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0086(FLG)
8. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflog teg i staff llywodraeth leol? OAQ(5)0093(FLG)
9. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn atebol i bobl leol? OAQ(5)0085(FLG)
10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, o fewn cyd-destun gadael yr UE? OAQ(5)0091(FLG)
11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leoliad Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0096(FLG)W
12. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y prosesau sydd gan awdurdodau lleol yng Nghymru i ymdrin â chwynion? OAQ(5)0092(FLG)
13. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud i sicrhau bod ei lasbrint diweddaraf ar gyfer newid i lywodraethu lleol yn addas i'r diben? OAQ(5)0084(FLG)
14. David Melding (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fabwysiadu technolegau digidol newydd i helpu dinasyddion i gymryd rhan? OAQ(5)0087(FLG)
15. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i gomisiynu astudiaeth o dir heb ei restru fel rhan o asesiad Llywodraeth Cymru o'r cwmpas ar gyfer trethiant gwerth tir? OAQ(5)0095(FLG)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Hannah Blythyn (Delyn): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch achos 24 Amwythig? OAQ(5)0023(CG)
2. Rhianon Passmore (Islwyn):Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch cymhwyso cyfreithiau'r UE yng Nghymru ar ôl gadael yr UE? OAQ(5)0025(CG)
3. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch statws cyfreithiol dinasyddion yr UE yng Nghymru? OAQ(5)0024(CG)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch gorfodi cyfreithiau morol? OAQ(5)0022(CG)
5. David Rees (Aberafan):Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran rhaglen Llywodraeth Cymru i godeiddio'r gyfraith? OAQ(5)0028(CG)
6. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro statws cyfreithiol Confensiwn Sewel fel y mae'n gymwys i Gymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0027(CG)
7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud o ran penodi barnwr o Gymru i'r Goruchaf Lys? OAQ(5)0026(CG)