Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Chwefror 2017
i'w hateb ar 1 Mawrth 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau? OAQ(5)0124(EI)

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan dwristiaeth? OAQ(5)0128(EI)

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch adleoli swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau ledled Cymru? OAQ(5)0136(EI)

4. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd yn mesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? OAQ(5)0131(EI)

 

5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchiant economaidd yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0129(EI)

 

6. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ymwelwyr â Gorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EI)

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf economaidd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(EI)

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0127(EI)

 

9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cysylltiadau rheilffordd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0126(EI)

 

10.  Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth y llywodraeth i amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru?  OAQ(5)0139(EI)W

 

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth i fusnesau bach? OAQ(5)0138(EI)

 

12. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd o ran Cylchffordd Cymru? OAQ(5)0125(EI)

 

13. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried strategaeth clystyrau twf ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol? OAQ(5)0135(EI)

 

14. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl i refeniw o Faes Awyr Caerdydd ad-dalu pris ei brynu? OAQ(5)0130(EI)

 

15. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Beth yw cynigion twf Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiannau sylfaen? OAQ(5)0134(EI)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drin clefydau prin? OAQ(5)0125(HWS)

 

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gasgliadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dod iddynt yn sgil derbyn yr adroddiad ar gyflwr gwasanaethau orthodontig yng Nghymru fel y trafodwyd yn y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2016? OAQ(5)0123(HWS)W

 

3. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau sgrinio am ganser yng Nghymru? OAQ(5)0134(HWS)

 

4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amser aros ar gyfer triniaethau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0117(HWS)

5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0128(HWS)

 

6. Lee Waters (Llanelli): Pam na all pobl wneud apwyntiadau fel mater o drefn i weld eu meddyg drwy Skype neu FaceTime? OAQ(5)0129(HWS)

 

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa driniaethau sydd ar gael i famau a ddaw'n anymataliol o ganlyniad i anaf yn ystod genedigaeth? OAQ(5)0118(HWS)

8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran datblygu agenda iechyd ataliol yng Nghymru? OAQ(5)0130(HWS)

 

9. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog preswylwyr Cwm Cynon i wneud y dewisiadau cywir o ran cael gafael ar ofal iechyd? OAQ(5)0119(HWS)

10. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen ARCH de-orllewin Cymru? OAQ(5)0120(HWS)

 

11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r canllawiau yn ymwneud â chodi tâl ar gleifion o dramor am ofal y GIG nad yw'n ofal brys? OAQ(5)0124(HWS)

 

12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran y gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf? OAQ(5)0126(HWS)

 

13. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru? OAQ(5)0127(HWS)

 

14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau fferyllol cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0131(HWS)

 

15. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y proffesiwn bydwreigiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0132(HWS)