Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Chwefror 2017
i’w hateb ar 28 Chwefror 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i’r Prif Weinidog

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pholisïau amaeth a chefn gwlad yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0468(FM)W

 

2. Lee Waters (Llanelli): Beth sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r gyfres Library of Wales mewn ysgolion? OAQ(5)0474(FM)

 

3. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau sy’n cychwyn? OAQ(5)0479(FM)

 

4. Lynne Neagle (Torfaen):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar Dorfaen? OAQ(5)0464(FM) TYNNWYD YN ÔL

 

5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol Cymru? OAQ(5)0469(FM)

 

6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu trigolion cartrefi mewn parciau sy’n wynebu talu ffi comisiwn o 10 y cant ar werthu eu cartref? OAQ(5)0471(FM)

 

7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau teithio rhatach? OAQ(5)0463(FM)

 

8. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl o gymunedau difreintiedig i gael cyflogaeth a chodi allan o dlodi? OAQ(5)0466(FM)

 

9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am orchmynion amddiffyn anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru? OAQ(5)0470(FM)

 

10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0477(FM)

 

11. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau’r stryd fawr yn Islwyn? OAQ(5)0476(FM)

 

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydraddoldeb mewn darpariaeth gwasanaethau llywodraeth leol? OAQ(5)0478(FM)

 

13. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru parthed gofal canolraddol ar gyfer pobl hŷn yn ardal Casnewydd? OAQ(5)0475(FM)

 

14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau’r marwolaethau sy’n ymwneud ag yfed yng Nghymru? OAQ(5)0473(FM)

 

15. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0472(FM)