R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o fanteision lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf OAQ(5)0144(EI)
2. Leanne Wood (Rhondda): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella economi hen feysydd glo de Cymru? OAQ(5)0153(EI)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? OAQ(5)0143(EI)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0154(EI)
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0145(EI)
6. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar Gylchffordd Cymru? OAQ(5)0155(EI)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio ceir awtonomaidd yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0146(EI)
8. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu economaidd yng Ngorllewin Casnewydd? OAQ(5)0149(EI)
9. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth i chwaraeon elitaidd yng Nghymru? OAQ(5)0147(EI) TYNNWYD YN ÔL
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Metro? OAQ(5)0158(EI)
11. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gwblhau ffordd liniaru dwyrain y bae? OAQ(5)0151(EI)
12. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision economaidd datblygu cyfleusterau chwaraeon dan do yng Nghymru? OAQ(5)0156(EI)
13. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl y diwydiannau creadigol o ran datblygu economi Cymru? OAQ(5)0150(EI)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu rhanbarth Merswy Dyfrdwy? OAQ(5)0157(EI)W
15. David Melding (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth i fenywod ifanc mewn meysydd galwedigaethol nad ydynt ar agor iddynt yn aml oherwydd arferion recriwtio gwael? OAQ(5)0148(EI)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
1. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad i'r gwasanaeth iechyd yn y Rhondda? OAQ(5)0148(HWS)
2. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw sicrwydd o gynyddu'r gyfran o wariant cyllideb y GIG ar ofal sylfaenol yng Nghymru? OAQ(5)0143(HWS)
3. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal orthopaedig yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0140(HWS)
4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol? OAQ(5)0141(HWS)
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa wasanaethau cefnogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau iechyd hirdymor anwadal? OAQ(5)0137(HWS)
6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu? OAQ(5)0145(HWS)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo ffyrdd iach o fyw? OAQ(5)0138(HWS)
8. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gostau parcio ceir mewn ysbytai yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0150(HWS)
9. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad cleifion Cymru at dreialon clinigol yng Nghymru? OAQ(5)0152(HWS)
10. Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ar blant yng Nghymru? OAQ(5)0151(HWS)
11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros orthopaedig yng ngogledd-orllewin Cymru? OAQ(5)0146(HWS)W
12. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal paediatrig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0139(HWS)
13. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am unrhyw drafodaethau sydd ar y gweill gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar gontractau meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0149(HWS)
14. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith ar wasanaethau yng Nghymru yn sgil contractau tâl ar wahân i'r rhai yn Lloegr ar gyfer meddygon ymgynghorol? OAQ(5)0144(HWS)
15. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd o ran 'Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru' sydd gan Chwaraeon Cymru? OAQ(5)0147(HWS)