R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y seddau lle na chynhelir etholiad yn etholiadau llywodraeth leol Cymru? OAQ(5)0126(FLG)
2. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethu i gefnogi busnesau'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ(5)0115(FLG)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru? OAQ(5)0119(FLG)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwasanaethau ddarperir gan Gyngor Ynys Môn? OAQ(5)0116(FLG)W
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gyfraniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0120(FLG)
6. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarlledu cyfarfodydd cynghorau ar-lein yng Nghymru? OAQ(5)0123(FLG)
7. David Melding (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ag awdurdodau lleol i sicrhau defnydd arloesol o gyllid i ddiogelu gwasanaethau ieuenctid lleol? OAQ(5)0124(FLG)
8. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ardrethi busnes mewn perthynas â phrosiectau ynni cymunedol? OAQ(5)0117(FLG)W
9. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fabwysiadu'r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru? OAQ(5)0127(FLG)
10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella trylowder mewn awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0121(FLG)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol? OAQ(5)0125(FLG)
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyfranogiad democrataidd mewn llywodraeth leol? OAQ(5)0122(FLG)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o berfformiad Cyngor Caerdydd o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus dros y pum mlynedd diwethaf, o'i gymharu â'r pum mlynedd cyn hynny? OAQ(5)0118(FLG)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau pellach y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal ar y fframwaith cyllidol? OAQ(5)0128(FLG)W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Comisiwn y Cynulliad roi dyddiad penodol ar gyfer symud o Senedd.tv i YouTube? OAQ(5)0005(AC)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am waith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo mynediad a dealltwriaeth y cyhoedd o waith y Cynulliad? OAQ(5)0007(AC)W
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Beth y mae Comisiwn y Cynulliad yn ei wneud i sicrhau bod y Cynulliad yn lle mwy cyfeillgar i blant? OAQ(5)0006(AC)