Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mai 2017
 i'w hateb ar 17 Mai 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

1.         Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa gymorth economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu er mwyn sicrhau bod gennym fusnesau sy'n ffynnu ar y stryd fawr yng Nghymru? OAQ(5)0167(EI)

 

2.  Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gofnodi ein treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru? OAQ(5)0166(EI)

 

3. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad at atyniadau diwylliannol a threftadaeth yn ardal Caerffili? OAQ(5)0170(EI) TYNNWYD YN ÔL

 

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Trafnidiaeth Cymru ar gyfer lleddfu tagfeydd i'r dwyrain o Gaerdydd? OAQ(5)0159(EI)

 

5. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0164(EI)

 

6. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa effaith y mae amrywiadau diweddar mewn arian treigl wedi'i chael ar allforion o Gymru? OAQ(5)0168(EI)

 

7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0171(EI)W

 

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0165(EI)

 

9. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y gall Cymru wledig hybu ei heconomi? OAQ(5)0172(EI)

 

10.  Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o welliannau posibl i'r gwasanaeth rheilffordd ar linell Maesteg i Gaerdydd? OAQ(5)0163(EI)

 

11. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa bolisi y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i gefnogi busnesau yng nghanol dinasoedd yng Nghymru? OAQ(5)0160(EI)

 

12. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brentisiaethau yng Nghymru? OAQ(5)0169(EI) TYNNWYD YN ÔL

 

13. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran pryd y mae'n disgwyl gwneud penderfyniad ar Gylchffordd Cymru? OAQ(5)0161(EI)

 

14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei bolisïau ar gyfer hybu twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0162(EI)

 

15. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gam nesaf deuoli’r A465 o Dowlais Top i Hirwaun? OAQ(5)0173(EI)

 

 

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig? OAQ(5)0170(HWS)

 

2.  Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu'r gwasanaeth iechyd sydd ei angen ar bobl Cymru yng ngoleuni’r heriau economaidd presennol? OAQ(5)0172(HWS)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaeth sydd wedi bod rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet a Llywodraeth y DU parthed effeithiau llygredd awyr ar iechyd cyhoeddus?  OAQ(5)0165(HWS)W

 

4. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?  OAQ(5)0169(HWS)

 

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yn cael profion diagnostig a thriniaeth o fewn amseroedd targed? OAQ(5)0161(HWS)

 

6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru? OAQ(5)0160(HWS)

 

7. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith a gaiff rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar y strategaeth genedlaethol dros chwaraeon cymunedol? OAQ(5)0167(HWS)

 

8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwella canlyniadau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0168(HWS)

 

9. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer diagnosis o ganser y coluddyn yng Nghymru? OAQ(5)0171(HWS) TYNNWYD YN ÔL

 

10.  Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella maeth yn ysbytai Cymru? OAQ(5)0163(HWS)

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pwysigrwydd ffordd o fyw o ran hybu iechyd da? OAQ(5)0164(HWS)

 

12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0162(HWS)

13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?  OAQ(5)0159(HWS)W

 

14. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros y GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0166(HWS)

 

15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(5)0157(FM)