R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at leoliadau profiad gwaith ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru? OAQ(5)0647(FM)
2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu rhwydwaith teithio llesol yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0653(FM)
3. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sicrhau bod Cymru yn dod yn genedl o ddim galw diwahoddiad? OAQ(5)0655(FM)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd twristiaeth glan y môr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0644(FM)
5. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o bleidleisio gorfodol? OAQ(5)0643(FM)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnydd Llywodraeth Cymru o psyllids i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0641(FM)
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl i'r ifanc? OAQ(5)0656(FM)W
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0640(FM)
9. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0652(FM)
10. Michelle Brown (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Etholiad Cyffredinol y DU yr wythnos ddiwethaf ar bolisi addysg Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0657(FM)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermio? OAQ(5)0648(FM)
12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wariant ar drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0645(FM)
13. Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygiad o'r strategaeth Arloesi Cymru? OAQ(5)0651(FM)
14. Hannah Blythyn (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch tanau domestig yng Nghymru? OAQ(5)0650(FM)
15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0642(FM)W