R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cadwyni cyflenwi Cymru? OAQ(5)0661(FM)
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu targedau ailgylchu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0663(FM)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan dwristiaeth? OAQ(5)0658(FM)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru? OAQ(5)0665(FM)
5. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol datganoli yng Nghymru? OAQ(5)0662(FM)
6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth oncoleg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0668(FM)
7. Lee Waters (Llanelli): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o strategaeth Arloesi Cymru? OAQ(5)0660(FM)
8. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0675(FM)
9. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith canlyniad yr etholiad cyffredinol ar y ffaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0671(FM)
10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru? OAQ(5)0674(FM)
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nyrsys yr UE yn gweithio yng Nghymru? OAQ(5)0670(FM)
12. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y flaenoriaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i iechyd a gofal cymdeithasol? OAQ(5)0667(FM)
13. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ynghylch contractau dim oriau? OAQ(5)0672(FM)
14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid myfyrwyr yng Nghymru? OAQ(5)0659(FM)
15. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i chwaraeon anabledd yng Nghymru? OAQ(5)0673(FM)W