Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Mehefin, 2017
i'w hateb ar 27 Mehefin 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â throseddau gwledig? OAQ(5)0692(FM)

 

2. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr isadeiledd chwaraeon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0693(FM)W

 

3. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n byw gyda dementia? OAQ(5)0684(FM)

 

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynglŷn â lleihau'r broblem gynyddol o gamblo eithafol? OAQ(5)0688(FM)W

 

5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion sy'n colli eu clyw? OAQ(5)0676(FM)

 

6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0690(FM)

 

7. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghwm Cynon sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac sydd wedi ymddeol, a'u teuluoedd? OAQ(5)0682(FM)

 

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella bywydau pobl yng Nghymru sy'n byw gydag anableddau? OAQ(5)0680(FM)

 

9. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardrethi busnes yn y sector ynni cymunedol? OAQ(5)0686(FM)W

 

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0678(FM)

 

11. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Beth yw'r amseroedd aros presennol ar gyfer pobl ifanc sydd am gael gafael ar driniaeth iechyd meddwl? OAQ(5)0677(FM)

 

12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(5)0679(FM)

 

13. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio i'r GIG yng Nghymru? OAQ(5)0683(FM)

 

14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gyfran o drigolion Sir Fynwy a fydd yn gallu derbyn band eang cyflym iawn erbyn diwedd y contract presennol gyda BT Openreach? OAQ(5)0687(FM)

 

15. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0691(FM)