Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Gorffennaf 2017 i'w hateb ar 19 Gorffennaf 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

1. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth yn Islwyn er mwyn cynorthwyo adfywio economaidd? OAQ(5)0199(EI)

 

2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datblygu economaidd yng ngorllewin Cymru yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0201(EI)

 

3. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0203(EI)

4. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0195(EI)

 

5. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i newid statws Cymru fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig? OAQ(2)0212(EI)

 

6. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ffyniant yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0207(EI)

 

7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig? OAQ(5)0205(EI)W

 

8. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Pa seilwaith sy'n cael ei roi ar waith i ddenu busnes i ogledd Torfaen? OAQ(5)0204(EI)

 

9. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cefnogaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0208(EI)

 

10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi yn Nhorfaen ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad? OAQ(5)0206(EI)

11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer parc busnes modurol newydd yng Nglyn Ebwy? OAQ(5)0194(EI)

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses o flaenoriaethu 12 gorsaf rheilffordd newydd? OAQ(5)0210(EI)

 

13. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o fewn Dinas a Sir Abertawe a'r ardaloedd cymudo cyfagos? OAQ(5)0193(EI)

14. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am greu tîm criced rhyngwladol i Gymru? OAQ(5)0196(EI)

 

15. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ(5)0200(EI)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio am driniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0201(HWS)W

 

2. Leanne Wood (Rhondda): Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gadw staff presennol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(5)0196(HWS)

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr anafiadau a gaiff eu trin mewn ysbytai yng Nghymru sydd wedi'u hachosi gan frathiadau cŵn? OAQ(5)0210(HWS)

 

4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru yn 2017? OAQ(5)0197(HWS)

 

5. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran ymchwil ac arloesedd clinigol yn y GIG yng Nghymru? OAQ(5)0199(HWS)

 

6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth bresennol o feddygfeydd yng Nghymru? OAQ(5)0202(HWS)

 

7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safon meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0209(HWS)W

 

8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lesiant gweithlu GIG Cymru? OAQ(5)0198(HWS)W

 

9. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella gwasanaethau iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?  OAQ(5)0208(HWS)

 

10.  Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau meddygon teulu? OAQ(5)0203(HWS)

 

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio radiwm 223 yn GIG Cymru? OAQ(5)0205(HWS)

 

12. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cyfraniad y mae digwyddiadau diwrnod chwaraeon yn ei wneud i'r agenda iechyd a lles yng Nghymru? OAQ(5)0194(HWS)

 

13. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil ynghylch mesothelioma yng Nghymru? OAQ(5)0204(HWS)

 

14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa effaith y mae'r cyflwyno'r contract meddyg iau newydd yn Lloegr wedi'i chael ar hyfforddeion histopatholeg yng Nghymru? OAQ(5)0195(HWS)

15. Sian Gwenllian (Arfon):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ(5)0207(HWS)W