R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ‘Gwasanaethau sy'n Addas i’r Dyfodol’? (OAQ51025)
2. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal diwedd oes yn ne-ddwyrain Cymru? (OAQ51053)
3. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dogfen bolisi ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’ Llywodraeth Cymru? (OAQ51052)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â llafur dan orfod yng Nghymru? (OAQ51050)
5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r tirlithriad diweddar yn ardal Pant-teg, Ystalyfera? (OAQ51011)
6. Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb cam cynnar lawn o rwydwaith metro i Fae Abertawe? (OAQ51049)
7. Rhianon Passmore (Islwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru? (OAQ51039)
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51002)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am roi llais i gleifion yn y GIG? (OAQ51055)
10. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseriad penderfyniad Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio i werthu ei thir ac asedau eiddo? (OAQ51047)
11. David Melding (Canol De Cymru): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer denu buddsoddiad i Aberdâr? (OAQ51022)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â sepsis yng Nghymru? (OAQ51054)
13. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymfudo ar ôl Brexit? (OAQ51038)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl prifysgolion yn y broses o ddatblygu economi Cymru? (OAQ51013)
15. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Beth yw asesiad y Prif Weinidog o waith byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51005)