Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Medi 2017 i’w hateb ar 4 Hydref 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

 

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysg feddygol yng ngogledd Cymru? (OAQ51097W)

 

2. David Melding (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd cynyddu cyfranogiad rhieni yn ei chael ar lefelau cyrhaeddiad mewn ysgolion? (OAQ51127)

 

3. Leanne Wood (Rhondda):A yw Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r egwyddor o addysg am ddim i bawb? (OAQ51130) TYNNWYD YN ÔL

 

4. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les disgyblion mewn addysg? (OAQ51106W)

 

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth? (OAQ51118W)

 

6. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni targed Llywodraeth Cymru o un filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy'r system addysg? (OAQ51112)

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i ddisgyblion sy'n wynebu neu'n profi digartrefedd? (OAQ51093)

 

8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau beichiau diangen ar athrawon? (OAQ51109)

 

9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr ysgolion sy'n addysgu sgiliau achub bywyd? (OAQ51092)

 

10. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynyddu'r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? (OAQ51090)

 

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer yr ymgeiswyr TGAU ym mlwyddyn 10 a blwyddyn 11? (OAQ51088)

 

12. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y clybiau hwyl a chinio gwyliau ysgol a gynhaliwyd yr haf hwn? (OAQ51104)

 

13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygu addysg filfeddygaeth? (OAQ51124)

 

14. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gwerth y mae prifysgolion yn Lloegr yn ei roi ar fagloriaeth Cymru? (OAQ51094)

 

15. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mesur llwyddiant cynllun gweithredu 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl'? (OAQ51117)

 

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl â phroblemau sy'n effeithio ar y bledren a'r coluddyn yng Nghymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51099)

 

2. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel awdurdod iechyd arbennig? (OAQ51095)

 

3. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau GIG i bobl fyddar yng Nghanol De Cymru? (OAQ51128) TYNNWYD YN ÔL

 

4. Lee Waters (Llanelli):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i adolygu strwythurau llywodraethu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru? (OAQ51096)

 

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pa wasanaethau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer mamau sy'n dioddef anafiadau i sffincter yr anws wrth roi genedigaeth? (OAQ51126)

 

6. Jeremy Miles (Castell-nedd):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg gynorthwyol ddatblygol mewn gofal cymdeithasol? (OAQ51105)

 

7. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg o niwed i blant a phobl ifanc drwy chwarae chwaraeon cyswllt fel rygbi? (OAQ51113)

 

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth yw blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru? (OAQ51089)

 

9. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau iechyd rhywiol? (OAQ51107W)

 

10. Hannah Blythyn (Delyn):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? (OAQ51129)

 

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith taclo a sgrymio mewn rygbi ar iechyd? (OAQ51123W)

 

12. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu strwythurau llywodraethu yn y GIG? (OAQ51102)

 

13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun strategol pum mlynedd Gofal Cymdeithasol Cymru? (OAQ51110)

 

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion canser yng Nghymru yn y 12 mis nesaf? (OAQ51098)

 

15. David Rees (Aberafan):Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau unrhyw ymgynghoriad ar y newidiadau i ffiniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf? (OAQ51120)