WNO – trosolwg

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn bodoli i ddod â phŵer, drama ac emosiwn amrwd opera i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau wedi eu nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig.

Fel cwmni cenedlaethol gyda statws rhyngwladol, rydym yn eistedd wrth galon creu cerddoriaeth yng Nghymru a chwaraewn rôl werthfawr yn y cymunedau a wasanaethwn yn Lloegr. Gweithiwn gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a darparwn y man cychwyn i yrfaoedd rhyngwladol. Mae teithio yn hanfodol i ni ac ymdrechwn i gyflwyno gwaith o’r safon uchaf ar draws ein rhaglen artistig, gan gynnig adloniant ac ysbrydoliaeth i gynulleidfaoedd yn ein hoperâu a chyngherddau. Darparwn brofiadau trawsnewidiol trwy ein gwaith ieuenctid, cymuned a digidol. Gan adeiladau ar ein hanes dros 70 mlynedd a’n gwreiddiau yng nghymunedau De Cymru, ein nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera yn ffurf gwerthfawr, perthnasol a chyffredinol o gelfyddyd. 

 

WNO - Cyllidebau

Trosiant WNO ym mlwyddyn ariannol 2015/16 oedd £17.7 miliwn. Ar hyn o bryd, rydym yn cyrraedd cyfartaledd o 46% o drosiant cyllid nad yw’n gyhoeddus. O’r canran hon, daw tua 35% o incwm a enillir, gan gynnwys y swyddfa docynnau ac incwm masnachol ac 11% o incwm codi arian (nawdd a rhoddion  haelionus). 

Derbyniwn gyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Cymru (2016/7 £4.4m) ac Arts Council England (2016/17 £6.123m): mae’r olaf yn galluogi ni deithio’n helaeth yn Lloegr). 

 

WNO – Incwm a enillir

 

1.       Y Swyddfa Docynnau

Daw mwyafrif ein hincwm a enillir o’n Swyddfa Docynnau. Llynedd (2015/6) cawsom £2.3 miliwn o’r ffynhonnell hon ac yn 2016/17 rhagwelir y bydd yn £2.2 miliwn. Mae’r ganran incwm yma’n sylweddol is na chwmnïau opera Llundain, ond yn debyg i Opera North yn Leeds. Mae angen i ni dyfu’r swm yma dros y bum mlynedd nesaf ac yn ein cynllun busnes, anelwn at godi yn ôl at ragor na £3 miliwn o’r ffynhonnell hon erbyn 2021/22, ffigwr a gyrhaeddwyd gennym ddiwethaf yn 2009/10. Anelwn at gyflawni hyn drwy gyfuniad o gyfaint uwch a chodi prisiau yn raddol ond yn gynaledig, mewn cydweithrediad â’r lleoliadau yr ydym yn teithio iddynt, wrth sicrhau hefyd y ceir dewis da o docynnau ar brisiau fforddiadwy.  

2.       WNO - Incwm Masnachol

Yn 2015/6, enillasom £229k mewn incwm masnachol. Daeth o sawl ffynhonnell, ond yn bennaf, mae’n cynnwys ffioedd cyngherddau “masnachol” ffioedd cyd-gynyrchiadau, a llogi setiau o dai opera Ewrop. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae ein Cyfarwyddwr Artistig, David Pountney, wedi codi ymhell dros £1 miliwn mewn ffioedd cyd-gynyrchiadau a llogi setiau yn sgil ei gysylltiadau â thai opera rhyngwladol. Mae llwyfannu cyd-gynyrchiadau â thai opera eraill yn golygu y rhennir costau adeiladu’r setiau a chreu’r gwisgoedd gydag un neu ddau o sefydliad arall.

3.       Gwasanaethau Theatrig Caerdydd (CTS)

Gweithdy adeiladu golygfeydd a setiau yw CTS - is-gwmni masnachol i WNO sy’n cyflogi 35 o bobl. Nid yn unig y mae CTS yn adeiladau setiau i WNO, ond hefyd ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau ym myd y celfyddydau a theatrau masnachol. Ar restr eu cleientiaid mae llawer o gwmnïau theatr, opera, sioeau cerdd, dawns, y celfyddydau perfformio, atyniadau ymwelwyr ac arddangosfeydd mwyaf blaenllaw'r DU. Trosiant y cwmni oedd £2 miliwn yn 2015/2016 a’r cyfraniad a wnaed yn ôl i WNO oedd £200k yn gyfan gwbl (roedd cyfanswm yr elw yn £34k). Yr her i CTS yw i adeiladau ei fusnes a sicrhau y cynyddir maint ei elw. 

 

 

WNO – Incwm Haelionus/Nawdd

Mae incwm codi arian yn cyfrif am 11% o gyfanswm incwm y WNO. Rhennir incwm codi arian yn:

Roddion unigol – 45%

Rhoddion gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau - 45%

Nawdd corfforaethol - 10%

Codir tua 44% o incwm codi o arian yng Nghymru a 56% yn Lloegr.

Ar yr olwg gyntaf, gall ymddangos yn syndod y codir llai o’n hincwm codi arian yng Nghymru. Ond cwmni teithio yw WNO, felly mae’n debygol o ddenu cefnogaeth y tu hwnt i Gymru. Hefyd, fel y bydd cyflwyniadau eraill yn ddiamau’n amlygu, mae’r incwm codi arian posibl yn sylweddol is yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r DU, yn fwyaf nodedig Llundain. Felly, rydym wrthi’n chwilio am incwm y tu hwnt i Gymru.

O ran rhoddion unigol, mae gennym sylfaen o incwm rheolaidd yn dod gan ein Cyfeillion (grwpiau wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a’r ardaloedd yr ydym yn teithio iddynt) y mae aelodau’n talu ar gyfartaledd, tua £40 y flwyddyn. Hefyd, daw incwm gan ein Cynllun Partneriaid, pan fo unigolion yn rhoi swm uwch, o £200 i £3000 y flwyddyn. Yn ychwanegol i’r cynlluniau hyn, rydym yn creu “syndicetiau” ar gyfer cynyrchiadau a chomisiynau newydd yn arbennig, sy’n dod i ymwneud cryn dipyn â chynhyrchiad, o ganlyniad i roi rhodd sylweddol.

Wrth gwrs, yr her yw canfod yr unigolion hyn. Ffigwr a ddaeth i’n sylw’n ddiweddar oedd taw ond 4,000 o bobl sydd dros y trothwy treth 45% yng Nghymru a llai na 10% o drethdalwyr Cymru sy’n gymwys ar gyfer y trothwy 40% . Rydym yn ffodus ein bod yn derbyn grantiau o lawer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau gwahanol. Ond mae’r tir hwn yn dod yn gynyddol gystadleuol oherwydd, yn ystod y saith mlynedd a aeth heibio, anogwyd pob sefydliad celfyddydol ledled y DU i godi mwy o’i gyllid ei hun. Fel arfer, Ymddiriedolaethau a Sefydliadau y galwn arnynt yn gyntaf. Mae yna duedd i Ymddiriedolaethau a Sefydliadau fod eisiau cefnogi prosiectau a gweithiau newydd, felly daw chwilio am nawdd ar gyfer gwaith rheolaidd, cynaledig yn fwy anodd.

 

O lawer, ariannu corfforaethol a nawdd yw canran leiaf ein hincwm codi arian. Mae’n amgylchedd hynod o anodd a dengys ystadegau fod cyllid corfforaethol i’r celfyddydau wedi gostwng ers 2008. 

 

Y posibiliadau o ran cynyddu cyllid nad yw’n gyhoeddus

O ran sut gall WNO, ac yn wir sefydliadau eraill, gynyddu eu cyllid nad yw’n gyhoeddus yn yr hinsawdd bresennol, mae sawl pwynt ac awgrymiadau y byddem yn gofyn i’r Pwyllgor i’w hystyried:

1)       Mae WNO yn synhwyro diffyg cyfrifoldeb corfforaethol cyffredinol i gefnogi diwylliant a’r celfyddydau yng Nghymru ymhlith y busnesau hynny y mae’n cyfarfod â nhw, sy’n wahanol iawn i rai o ardaloedd y DU. Mae’n ymddangos y ceir dealltwriaeth a chred yng ngwerth y celfyddydau, ond ni welir hyn fel buddsoddiad. A fyddai’n bosibl hyrwyddo gwerth cyfunol a chreu ymdeimlad o falchder dinesig wrth gefnogi’r celfyddydau, oherwydd eu bod yn bwysig i les economaidd a diwylliannol Cymru? Arweinia’r diffyg hwn at feithrin agwedd drafodiadol tuag at nawdd sy’n ei gwneud hi’n anodd codi arian y tu hwnt i gostau sicrhau’r buddion gwirioneddol i’r busnes. A oes modd i Lywodraeth Cymru arwain ar ymgyrch negeseua a phroffil cyhoeddus i hyrwyddo cyfrifoldeb a gwerth rhoi cefnogaeth gorfforaethol i’r celfyddydau ar draws ei holl weithgareddau, er mwyn gweddnewid cefnogaeth fusnes i’r celfyddydau. Gallai hyn gyrraedd ei benllanw mewn digwyddiad blynyddol neu drefn wobrwyo sy’n cydnabod cefnogaeth fusnes i’r celfyddydau, ar lefel Lywodraethol. A ellir annog hyn gyda rhaglen ariannu cyfatebol? Mae Celfyddydau a Busnes Cymru’n cynnal rhaglenni arian cyfatebol sy’n gwobrwyo buddsoddiad busnes mewn sawl maes gwaith penodol - mae hyn yn werthfawr ond golyga hefyd y gall sefydliadau celfyddydol gael eu temtio i greu gwaith er mwyn bod yn gymwys i gael y cyllid yn hytrach na datgloi cyllid ar gyfer gwaith pwysig sy’n bodoli eisoes. Gallai system fwy cyffredinol o arian cyfatebol i wobrwyo unrhyw nawdd busnes newydd, nawdd busnes yn yr hirdymor, menter gorfforaethol â chyfrifoldeb cymdeithasol ac yn y blaen, annog mwy o gwmnïau i gefnogi gweithgaredd sy’n bodoli eisoes.  

2)       Ar gyfer cefnogaeth unigol, mwy na thebyg bod yna ofyniad yn yr hirdymor i ddangos pa mor bwysig yw’r celfyddydau/diwylliant fel achos elusennol y gellid ei gyflwyno mewn ysgolion a thu hwnt.

3)       Mae rhwystrau parhaus rheolau TAW a Rhodd Cymorth CThEM sydd yn aneglur ac yn gwrth ddweud yn achosi problemau i sefydliadau celfyddydol sy’n ceisio cynyddu rhoddion unigol, ledled y DU.

4)       Gallai negeseua traws-lywodraethol cyffredinol (efallai mewn partneriaeth â’r cyfryngau a phartneriaethau eraill) am bwysigrwydd a gwerth y celfyddydau i’n heconomi, ein lles, ein creadigrwydd a’n haddysg, gael ei chyflwyno yn fwy cyson a chyhoeddus. 

5)       O ran incwm a enillir, gallai ein his-gwmni rydym yn llwyr berchen arno, Gwasanaethau Theatrig Caerdydd fod yn ffynhonnell bwysig o refeniw uwch. Ar hyn o bryd, mae CTS yn ei chael hi’n anodd sicrhau gwaith gan y stiwdios mawr, ee Pinewood yn Ne Cymru a gafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ymddengys i ni nad ydynt yn defnyddio gweithwyr lleol ond yn hytrach llawer o lafurlu hunangyflogedig. A allai Llywodraeth Cymru fynnu neu ysgogi busnesau o Gymru i ddefnyddio cyflenwyr lleol? Gallai ein galluogi i dyfu’r busnes, cyflogi mwy o bobl ac o bosibl, gynyddu ein defnydd presennol o brentisiaethau.

Leonora Thomson

Rheolwr Gyfarwyddwr

Opera Cenedlaethol Cymru