R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? (OAQ51171)W
2. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i dwristiaeth treftadaeth yng ngogledd Cymru? (OAQ51173)
3. Leanne Wood (Rhondda): Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau llwyddiant strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd? (OAQ51168)
4. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i dyfu busnesau canolig yng Nghymru? (OAQ51153)
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sector gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru? (OAQ51139)
6. Jeremy Miles (Castell-nedd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu argaeledd tai yng Nghymru? (OAQ51172)
7. David Rees (Aberafan): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau twf economaidd yn Aberafan? (OAQ51167)
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer trydydd croesiad ar draws y Fenai? (OAQ51176)W
9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau mewn ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru? (OAQ51175)W
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol ledled Cymru? (OAQ51170)
11. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r achosion diweddar o gorlenwi ar wasanaethau rheilffyrdd y cymoedd? (OAQ51141)
12. Julie Morgan (Gorllewin Abertawe): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd? (OAQ51174)
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei phrosesau ymgynghori? (OAQ51166)
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ariannu ar gyfer gwasanaethau awdurdod lleol yn Sir Fynwy? (OAQ51147)
15. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru? (OAQ51156)